xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6TROSOLWG A CHRAFFU

PENNOD 2PWYLLGORAU ARCHWILIO

81Awdurdodau lleol i benodi pwyllgorau archwilio

(1)Rhaid i awdurdod lleol benodi pwyllgor (“pwyllgor archwilio”)—

(a)i arolygu materion ariannol yr awdurdod a chraffu arnynt,

(b)i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion mewn perthynas â materion ariannol yr awdurdod.

(c)i adolygu ac asesu trefniadau'r awdurdod ar gyfer rheoli risgiau, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol,

(d)i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion i'r awdurdod ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hynny,

(e)i arolygu trefniadau archwilio mewnol ac allanol yr awdurdod, ac

(f)i adolygu'r datganiadau ariannol a lunnir gan yr awdurdod.

(2)Caiff awdurdod lleol roi i'w bwyllgor archwilio unrhyw swyddogaethau eraill y mae'r awdurdod o'r farn eu bod yn addas i'w harfer gan y cyfryw bwyllgor.

(3)Y pwyllgor archwilio sydd i benderfynu sut mae i arfer ei swyddogaethau.

82Aelodaeth

(1)Mae awdurdod lleol i benodi aelodau ei bwyllgor archwilio.

(2)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau—

(a)bod dwy ran o dair o leiaf o aelodau ei bwyllgor archwilio'n aelodau o'r awdurdod;

(b)bod un aelod o leiaf o'i bwyllgor archwilio'n aelod lleyg;

(c)nad oes mwy nag un o aelodau ei bwyllgor archwilio'n aelod o weithrediaeth yr awdurdod;

(d)nad yw aelod hŷn ei weithrediaeth yn aelod o'i bwyllgor archwilio.

(3)Nid yw is-adran (2)(c) yn ei gwneud yn ofynnol i aelodaeth pwyllgor archwilio awdurdod lleol gynnwys aelod o weithrediaeth yr awdurdod.

(4)Nid yw penodi person yn aelod o bwyllgor archwilio yn cael effaith os bydd aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2) yn syth ar ôl penodi (p'un ai yn rhinwedd y penodi ai peidio).

(5)Mewn achos pan fo un person neu ragor, ar adeg neilltuol, i'w wneud neu i'w gwneud yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor archwilio, neu i beidio â bod yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor archwilio, mae'r holl newidiadau hynny yn yr aelodaeth i'w hystyried wrth benderfynu a yw aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2).

(6)Mae gweithred gan bwyllgor archwilio'n annilys os yw aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2).

83Trafodion etc

(1)Mae pwyllgor archwilio i benodi'r person sydd i gadeirio'r pwyllgor (a gaiff fod yn aelod o'r awdurdod neu'n aelod lleyg ond rhaid iddo beidio â bod yn aelod o grŵp gweithrediaeth).

(2)Os nad oes unrhyw grwpiau gwrthblaid, caiff y person sydd i gadeirio'r pwyllgor archwilio fod yn aelod o grŵp gweithrediaeth ond rhaid iddo beidio â bod yn aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol.

(3)Caiff holl aelodau pwyllgor archwilio bleidleisio ar unrhyw gwestiwn y mae'n dod i ran y pwyllgor i'w benderfynu.

(4)Caiff pwyllgor archwilio awdurdod lleol—

(a)ei gwneud yn ofynnol i aelodau a swyddogion yr awdurdod ddod ger ei fron i ateb cwestiynau, a

(b)gwahodd personau eraill i fynychu cyfarfodydd y pwyllgor.

(5)Mae dyletswydd ar unrhyw aelod o awdurdod lleol neu swyddog i awdurdod lleol i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan is-adran (4)(a).

(6)Nid yw is-adran (5) yn ei gwneud yn orfodol i berson ateb unrhyw gwestiwn y byddai gan y person hawl i wrthod ei ateb mewn achosion llys, neu at ddibenion achosion llys, yng Nghymru a Lloegr.

(7)Mae pwyllgor archwilio i'w drin fel pe bai'n bwyllgor i brif gyngor at ddibenion Rhan 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (cael mynd i gyfarfodydd a chael gweld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol).

(8)At ddibennion is-adrannau (1) a (2), mae i'r ymadroddion “grŵp gweithrediaeth” a “grŵp gwrthblaid” yr un ystyr ag yn adran 75.

84Cynnal cyfarfodydd: pa mor aml

(1)Rhaid i bwyllgor archwilio gyfarfod unwaith ym mhob blwyddyn galendr.

(2)Rhaid i bwyllgor archwilio awdurdod lleol gyfarfod hefyd—

(a)os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu y dylai'r pwyllgor gyfarfod, neu

(b)os yw traean o leiaf o aelodau o'r pwyllgor yn hawlio cyfarfod drwy gyfrwng un neu ragor o hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r person sy'n cadeirio'r pwyllgor.

(3)Mae dyletswydd ar y person sy'n cadeirio pwyllgor archwilio i sicrhau bod cyfarfodydd y pwyllgor yn cael eu cynnal fel y mae is-adrannau (1) a (2) yn ei gwneud yn ofynnol.

(4)Nid yw'r adran hon yn atal pwyllgor archwilio rhag cyfarfod ac eithrio fel y mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol.

85Canllawiau

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau lleol—

(a)ynghylch swyddogaethau pwyllgorau archwilio ac arfer y swyddogaethau hynny, neu

(b)ynghylch aelodaeth o bwyllgorau archwilio.

(2)Rhaid i awdurdod lleol a'i bwyllgor archwilio roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (1).

86Terfynu aelodaeth pan fo person yn peidio â bod yn aelod o awdurdod

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i berson (P)—

(a)a benodir yn aelod o bwyllgor archwilio awdurdod lleol, a

(b)sy'n aelod o'r awdurdod ar adeg y penodiad hwnnw.

(2)Os yw P yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod, mae P hefyd yn peidio â bod yn aelod o'r pwyllgor archwilio.

(3)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os bydd P—

(a)yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod oherwydd iddo ymddeol, a

(b)yn cael ei ailethol yn aelod o'r awdurdod heb fod yn hwyrach na diwrnod ei ymddeoliad.

(4)Mae is-adran (3) yn ddarostyngedig i reolau sefydlog yr awdurdod neu rai'r pwyllgor archwilio.

87Dehongli etc

(1)Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Bennod hon ac yn Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (neu mewn offeryn a wneir o dan y Rhan honno o'r Ddeddf honno) yr un ystyr yn y Bennod hon â'r ystyr sydd i'r ymadroddion cyfatebol Saesneg yn y Rhan honno o'r Ddeddf honno (neu sydd i'r ymadroddion Cymraeg neu i'r ymadroddion cyfatebol Saesneg yn yr offeryn hwnnw).

(2)Yn y Bennod hon—

(3)Wrth gymhwyso'r Bennod hon i awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen—

(a)cyfeiriad at fwrdd yr awdurdod yw cyfeiriad at weithrediaeth yr awdurdod, a

(b)cyfeiriad at gadeirydd bwrdd yr awdurdod yw cyfeiriad at aelod hŷn yr awdurdod.