xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5GORFODI SAFONAU

PENNOD 5APELAU GAN YR ACHWYNYDD

Apelau yn erbyn dyfarniad nad yw D wedi methu â chydymffurfio â safon

99Hawl P i apelio

(1)Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)os yw person (P) yn gwneud cwyn o dan adran 93,

(b)os yw'r Comisiynydd yn cynnal ymchwiliad o dan adran 71 yn dilyn y gŵyn, ac

(c)os yw'r Comisiynydd yn dyfarnu nad yw D wedi methu â chydymffurfio â safon.

(2)Caiff P apelio i'r Tribiwnlys ar y sail bod D wedi methu â chydymffurfio â'r safon.

(3)Rhaid i apêl o dan yr adran hon gael ei gwneud cyn diwedd y cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau.

(4)Ond caiff y Tribiwnlys, pan wneir cais ysgrifenedig gan P, ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw os yw'r Tribiwnlys wedi ei fodloni bod rheswm da—

(a)dros y methiant i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a

(b)os oes unrhyw oedi wedi bod cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol, dros yr oedi hwnnw.

(5)Caniateir i gais o dan is-adran (4) gael ei wneud cyn diwedd neu ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau.

(6)Rhaid i'r Tribiwnlys hysbysu P a'r Comisiynydd o'i benderfyniad ar apêl o dan yr adran hon.

(7)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys (sy'n cael gwneud, ymysg pethau eraill, ddarpariaeth ynghylch y modd y ceir dwyn apelau o dan yr adran hon).

(8)Yn y Bennod hon ystyr “cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau” yw'r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'r Comisiynydd yn rhoi'r hysbysiad penderfynu i P mewn perthynas â'r ymchwiliad.