Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

13Arfer swyddogaethau'r Comisiynydd gan staffLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caiff y Comisiynydd ddirprwyo unrhyw un neu ragor neu'r oll o swyddogaethau'r Comisiynydd i aelod o staff y Comisiynydd.

(2)Mae swyddogaethau'r Comisiynydd yn arferadwy gan y Dirprwy Gomisiynydd—

(a)os yw swydd y Comisiynydd yn wag, neu

(b)os yw'n ymddangos i Brif Weinidog Cymru nad yw'r Comisiynydd am unrhyw reswm yn gallu arfer swyddogaethau'r Comisiynydd.

(3)Os oes un o swyddogaethau'r Comisiynydd yn arferadwy gan aelod o staff y Comisiynydd yn unol ag is-adran (1) neu (2) caiff yr aelod staff, wrth arfer y swyddogaeth, ddelio ag unrhyw eiddo neu hawliau sydd wedi eu breinio yn y Comisiynydd fel pe byddent wedi eu breinio yn yr aelod staff.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 13 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 13 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(f)