xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CRHYDDID I DDEFNYDDIO'R GYMRAEG

117Cwblhau ymchwiliadauLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)os yw'r Comisiynydd yn penderfynu ymchwilio i'r ymyrraeth honedig, a

(b)os nad yw'r Comisiynydd yn terfynu'r ymchwiliad.

(2)Rhaid i'r Comisiynydd ddyfarnu a yw D wedi ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â'r cyfathrebiad Cymraeg ai peidio.

(3)Os yw'r Comisiynydd yn dyfarnu bod D wedi ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â'r cyfathrebiad Cymraeg, rhaid i'r Comisiynydd hefyd roi ei farn ar yr ymyrraeth (gan gynnwys ei farn ynghylch a ellid cyfiawnhau'r ymyrraeth, ond heb fod yn gyfyngedig i'w farn ar hynny).

(4)Cyn bod y Comisiynydd yn gwneud dyfarniad o dan is-adran (2) neu'n rhoi ei farn o dan is-adran (3), rhaid iddo—

(a)hysbysu D o'r dyfarniad y mae'r Comisiynydd yn bwriadu ei wneud ac o'r farn y mae'r Comisiynydd yn bwriadu ei rhoi, a

(b)cyn belled ag y bo'n ymarferol, rhoi cyfle i D ymateb i'r dyfarniad ac i'r farn sydd yn yr arfaeth.

(5)Rhaid i'r Comisiynydd hysbysu P a D—

(a)o'r dyfarniad ar y cais a wnaed gan P, a

(b)o'i farn ar yr ymyrraeth, os dyfarniad bod D wedi ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â'r cyfathrebiad Cymraeg yw'r dyfarniad.

(6)Rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio ag is-adran (5) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud y dyfarniad.

(7)Caiff y Comisiynydd roi i P, D, neu i unrhyw berson arall gyngor ynghylch—

(a)yr ymyrraeth honedig, neu

(b)unrhyw fater sy'n ymwneud â'r ymyrraeth honedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 117 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 117 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(k)