xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5GORFODI SAFONAU

PENNOD 6ADOLYGIAD GAN YR ACHWYNYDD

Adolygu methiant y Comisiynydd i ymchwilio i gŵyn

103Hawl P i gael adolygiad

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw P yn gwneud cwyn i'r Comisiynydd o dan adran 93 ynglŷn ag ymddygiad D (“yr ymddygiad honedig”), p'un a yw'r gŵyn honno yn gŵyn ddilys o dan yr adran honno ai peidio.

(2)Caiff P, gyda chaniatâd y Tribiwnlys, wneud cais i'r Tribiwnlys i adolygu penderfyniad y Comisiynydd mewn unrhyw un neu ragor o'r achosion sydd wedi eu nodi yn yr adran hon.

(3)Rhaid i'r Tribiwnlys, yn ddarostyngedig i adran 104, ymdrin â chais am adolygiad o'r fath fel pe bai'n gais i'r Uchel Lys am adolygiad barnwrol.

(4)Rhaid i'r Tribiwnlys roi caniatâd i wneud cais pan fo'r Tribiwnlys o'r farn—

(a)bod disgwyliad rhesymol y byddai'r cais yn llwyddo, neu

(b)bod rhyw reswm cryf arall pam y dylai'r cais gael ei glywed.

(5)Yr achos cyntaf y cyfeirir ato yn is-adran (2) yw—

(a)pan fo'r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio yn gymwys, a

(b)pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu peidio â chynnal ymchwiliad.

(6)Yr ail achos yw—

(a)pan fo adran 93(7) yn gymwys o ran cwyn, a

(b)pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu peidio ag ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio.

(7)Y trydydd achos yw pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu nad yw'r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio yn gymwys.

(8)Y pedwerydd achos yw—

(a)pan nad yw'r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio yn gymwys, a

(b)pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu peidio ag ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio o dan adran 93(8) neu, ar ôl ystyried ai i gynnal ymchwiliad o dan yr adran honno, yn penderfynu peidio â chynnal yr ymchwiliad.

(9)Y pumed achos yw—

(a)pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu cynnal ymchwiliad, a

(b)pan fo'r Comisiynydd wedyn yn penderfynu terfynu'r ymchwiliad.

(10)Rhaid i gais o dan is-adran (2) gael ei wneud cyn diwedd y cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau.

(11)Ond caiff y Tribiwnlys, pan wneir cais ysgrifenedig gan P, ganiatáu i gais o dan is-adran (2) gael ei wneud ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw os yw'r Tribiwnlys wedi ei fodloni bod rheswm da—

(a)dros y methiant i wneud cais cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a

(b)os oes unrhyw oedi wedi bod cyn gwneud cais am ganiatâd i wneud cais ar ôl yr amser priodol, dros yr oedi hwnnw.

(12)Caniateir i gais o dan is-adran (11) gael ei wneud cyn diwedd neu ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau.

(13)Rhaid i'r Tribiwnlys hysbysu P a'r Comisiynydd o'i benderfyniad ar gais o dan is-adran (2).

(14)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys (sy'n cael gwneud, ymysg pethau eraill, ddarpariaeth ynghylch y modd y ceir gwneud ceisiadau o dan yr adran hon).

(15)Yn y Bennod hon ystyr “cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau” yw'r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y bu i'r Comisiynydd hysbysu P o'i benderfyniad o dan adran 94.