xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 11LL+CTRIBIWNLYS Y GYMRAEG

RHAN 2LL+CPENODI

Aelodau lleygLL+C

5(1)Dim ond os yw person yn bodloni unrhyw amodau sy'n gymwys i'r penodiad a bennir mewn rheoliadau penodi y caiff Gweinidogion Cymru benodi person yn aelod lleyg.

(2)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person yn aelod lleyg—

(a)os yw'r person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail cyflogaeth neu anaddasrwydd,

(b)os yw'r person wedi ei anghymhwyso rhag ei benodi'n aelod lleyg ar sail oedran, penodiad blaenorol neu ddiswyddiad blaenorol, neu

(c)os gellid penodi'r person yn aelod o'r Tribiwnlys sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 11 para. 5 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2Atod. 11 para. 5 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(k)