xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(cyflwynwyd gan adran 71)
1Mae'r Atodlen hon yn gymwys i ymchwiliadau o dan adran 71.
2(1)Cyn cynnal ymchwiliad, rhaid i'r Comisiynydd baratoi cylch gorchwyl yr ymchwiliad.
(2)Rhaid i'r cylch gorchwyl bennu—
(a)y person yr ymchwilir iddo (“D”),
(b)y methiant a amheuir i gydymffurfio â gofyniad perthnasol.
(3)Cyn setlo'r cylch gorchwyl, rhaid i'r Comisiynydd—
(a) rhoi hysbysiad am y cylch gorchwyl arfaethedig—
(i)i D, a
(ii)i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant,
(b)rhoi cyfle i bob person y rhoddir hysbysiad iddo ynghylch y cylch gorchwyl arfaethedig i wneud sylwadau ynghylch y cylch gorchwyl arfaethedig, ac
(c)ystyried unrhyw sylwadau a wneir.
(4)Ar ôl setlo'r cylch gorchwyl (ac yntau wedi cydymffurfio ag is-baragraff (3)), rhaid i'r Comisiynydd—
(a)cyhoeddi cylch gorchwyl yr ymchwiliad mewn modd sy'n debygol, yn nhyb y Comisiynydd, o ddwyn yr ymchwiliad i sylw personau y mae a wnelo'r ymchwiliad â hwy neu bersonau sy'n debygol o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant ynddo, a
(b)hysbysu'r canlynol am y cylch gorchwyl—
(i)D, a
(ii)unrhyw berson arall a chanddo fuddiant.
(5)Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw newid yn y cylch gorchwyl fel y byddai'r paragraff yn gymwys pe byddai'r newid yn y cylch gorchwyl yn gyfystyr â pharatoi'r cylch gorchwyl hwnnw.
3(1)Rhaid i'r Comisiynydd wneud trefniadau ar gyfer rhoi cyfle i bersonau i wneud sylwadau mewn perthynas ag ymchwiliadau.
(2)Rhaid i'r trefniadau roi cyfle i'r personau canlynol i wneud sylwadau yn ystod ymchwiliad—
(a)D, a
(b)unrhyw berson arall a chanddo fuddiant.
(3)Caiff trefniadau o dan y paragraff hwn gynnwys, ymhlith pethau eraill, drefniadau ar gyfer sylwadau llafar.
4(1)Rhaid i'r Comisiynydd ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymchwiliad—
(a)gan D, neu
(b)gan gynghorydd cyfreithiol sy'n gweithredu ar ran D.
(2)Rhaid i'r Comisiynydd ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymchwiliad gan unrhyw berson arall onid yw'n briodol, yn nhyb y Comisiynydd, i wrthod gwneud hynny.
(3)Os yw'r Comisiynydd yn gwrthod ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymchwiliad, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig am y canlynol i'r person a wnaeth y sylwadau—
(a)y penderfyniad i wrthod ystyried y sylwadau, a
(b)y rhesymau dros y penderfyniad.
(4)Yn y paragraff hwn ystyr “cynghorydd cyfreithiol” yw—
(a)person sydd, at ddibenion Deddf y Gwasanaethau Cyfreithiol 2007, yn berson awdurdodedig, neu'n gyfreithiwr Ewropeaidd sy'n berson esempt yn rhinwedd paragraff 7 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, mewn perthynas â gweithgaredd sy'n golygu arfer hawl i ymddangos mewn achos neu ymladd achos (o fewn ystyr y Ddeddf honno), neu
(b)adfocad neu gyfreithiwr yn yr Alban.
5(1)Yn ystod ymchwiliad, caiff y Comisiynydd roi hysbysiad tystiolaeth i berson (A).
(2)Yn y Mesur hwn, ystyr “hysbysiad tystiolaeth” yw hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i A wneud un neu ragor o'r canlynol—
(a)darparu gwybodaeth sydd ym meddiant A;
(b)cyflwyno dogfennau sydd ym meddiant A;
(c)rhoi tystiolaeth lafar.
(3)Caiff hysbysiad o dan y paragraff hwn gynnwys darpariaeth ynghylch—
(a)y ffurf ar wybodaeth, ar ddogfennau neu ar dystiolaeth;
(b)amseru unrhyw beth sydd i'w wneud yn unol â'r hysbysiad.
(4)Ni chaniateir i hysbysiad o dan y paragraff hwn ei gwneud yn ofynnol i A wneud unrhyw beth na allai A gael ei orfodi i'w wneud mewn achos gerbron yr Uchel Lys.
(5)Rhaid i hysbysiad o dan y paragraff hwn hysbysu A—
(a)beth fydd y canlyniadau os na fydd A yn cydymffurfio â'r hysbysiad; a
(b)am yr hawl i apelio o dan baragraff 9.
6(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys os bydd person (B), yn ystod ymchwiliad—
(a)yn darparu gwybodaeth,
(b)yn cyflwyno dogfennau, neu
(c)yn rhoi tystiolaeth lafar.
(2)Caiff y Comisiynydd, os gwêl yn dda, dalu i B—
(a)symiau mewn cysylltiad â threuliau a dynnwyd yn briodol gan B, a
(b)lwfansau yn iawndal am i B golli amser.
(3)Mae unrhyw daliad i B i'w wneud—
(a)yn unol â graddfeydd y caniateir eu pennu gan y Comisiynydd, a
(b)yn ddarostyngedig i amodau y caniateir eu pennu gan y Comisiynydd.
7O ran hysbysiad o dan baragraff 5—
(a)ni chaniateir i'r hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth y gwaherddir i'r person ei datgelu yn rhinwedd deddfiad, a
(b)ni chaniateir i'r hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i berson wneud unrhyw beth na allai'r person hwnnw gael ei orfodi i'w wneud mewn achos gerbron yr Uchel Lys.
8(1)Rhaid i A ddiystyru hysbysiad a roddir o dan baragraff 5, a rhaid iddo hysbysu'r Comisiynydd fod A yn ei ddiystyru, i'r graddau y mae A o'r farn y byddai'n ofynnol i A—
(a)datgelu gwybodaeth sensitif o fewn ystyr paragraff 4 o Atodlen 3 i Ddeddf y Gwasanaethau Cudd-wybodaeth 1994 (Y Pwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch),
(b)datgelu gwybodaeth a allai arwain at wybod pwy yw cyflogai neu asiant gwasanaeth cudd-wybodaeth (ac eithrio un y mae eisoes yn hysbys i'r Comisiynydd pwy ydyw),
(c)datgelu gwybodaeth a allai ddarparu manylion prosesau a ddefnyddir i recriwtio, dewis neu hyfforddi cyflogeion neu asiantau gwasanaeth cudd-wybodaeth,
(d)datgelu gwybodaeth a allai ddarparu manylion gwybodaeth sy'n dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (c) neu na ellir yn ymarferol eu gwahanu oddi wrth yr wybodaeth honno, neu
(e)datgelu gwybodaeth sy'n ymwneud â gwasanaeth cudd-wybodaeth ac a fyddai'n niweidiol i fuddiannau diogelwch gwladol.
(2)Yn is-baragraff (1) ystyr “gwasanaeth cudd-wybodaeth” yw—
(a)y Gwasanaeth Diogelwch,
(b)y Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Cyfrinachol, ac
(c)Pencadlys Cyfathrebu'r Llywodraeth.
(3)Os bydd A yn hysbysu'r Comisiynydd o dan is-baragraff (1) uchod—
(a)nid yw paragraffau 9 a 10 yn gymwys mewn perthynas â'r rhan honno o'r hysbysiad o dan baragraff 5 y mae'r hysbysiad o dan is-baragraff (1) uchod yn ymwneud â hi,
(b)caiff y Comisiynydd wneud cais i'r tribiwnlys a sefydlwyd gan adran 65 o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person gymryd y camau y gellir eu pennu yn y gorchymyn i gydymffurfio â'r hysbysiad,
(c)bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf honno yn gymwys mewn perthynas ag achosion o dan y paragraff hwn fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag achosion o dan y Ddeddf honno (gydag unrhyw addasiadau angenrheidiol)—
(i)adran 67(7), (8) a (10) i (12) (dyfarniad),
(ii)adran 68 (gweithdrefn), a
(iii)adran 69 (rheolau), a
(d)rhaid i'r tribiwnlys a sefydlwyd gan adran 65 o'r Ddeddf honno ddyfarnu achosion o dan y paragraff hwn drwy ystyried barn A yn unol â'r egwyddorion a gâi eu cymhwyso gan lys ar gais am adolygiad barnwrol ar roi'r hysbysiad.
(4)Os daw gwybodaeth neu ddogfennau i law'r Comisiynydd oddi wrth wasanaeth cudd-wybodaeth neu'n ymwneud â gwasanaeth cudd-wybodaeth mewn ymateb i hysbysiad o dan baragraff 5, rhaid i'r Comisiynydd storio a defnyddio'r wybodaeth neu'r dogfennau'n unol ag unrhyw drefniadau a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
9Caiff A wneud cais i'r Tribiwnlys i ddileu'r hysbysiad o dan baragraff 5 ar y sail bod gofyniad a osodir gan yr hysbysiad—
(a)yn ddiangen o ystyried pwrpas yr ymchwiliad, neu
(b)yn afresymol neu'n anghymesur mewn modd arall.
10Caiff A wneud cais i'r Tribiwnlys i ddileu'r hysbysiad o dan baragraff 5 ar y sail bod y gofyniad a osodir gan yr hysbysiad yn annymunol am resymau diogelwch gwladol, ac eithrio am y rheswm y byddai'n gofyn am ddatgelu gwybodaeth o'r math y mae paragraff 8(1) yn gymwys iddo.
11(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r Comisiynydd o'r farn bod A—
(a)wedi methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â hysbysiad o dan baragraff 5, neu
(b)yn debygol o fethu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â hysbysiad o dan baragraff 5.
(2)Caiff y Comisiynydd wneud cais i lys sirol am orchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i A gymryd y camau y gellir eu pennu yn y gorchymyn i gydymffurfio â'r hysbysiad.
12(1)Caiff y Comisiynydd, neu unrhyw berson a awdurdodir gan y Comisiynydd, fynd i mewn i fangre a'i harchwilio os bydd mynd i mewn ac archwilio'n angenrheidiol at ddibenion ymchwiliad yn nhyb y Comisiynydd neu'r person awdurdodedig.
(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4).
(3)Nid yw'r paragraff hwn yn awdurdodi mynd i mewn—
(a)i annedd, neu
(b)i fangre nad yw o dan reolaeth y person yr ymchwilir iddo.
(4)Nid yw'r paragraff hwn yn awdurdodi mynd i mewn i fangre ar adeg benodol os yw'n afresymol mynd i mewn ar yr adeg honno.