Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Yn ddilys o 07/07/2015

(cyflwynwyd gan adran 71)

ATODLEN 10LL+CYMCHWILIAD Y COMISIYNYDD I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU ETC

This Atodlen has no associated Nodiadau Esboniadol

RHAN 1LL+CCYFFREDINOL

CyflwyniadLL+C

1Mae'r Atodlen hon yn gymwys i ymchwiliadau o dan adran 71.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 10 para. 1 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

Cylch gorchwylLL+C

2(1)Cyn cynnal ymchwiliad, rhaid i'r Comisiynydd baratoi cylch gorchwyl yr ymchwiliad.

(2)Rhaid i'r cylch gorchwyl bennu—

(a)y person yr ymchwilir iddo (“D”),

(b)y methiant a amheuir i gydymffurfio â gofyniad perthnasol.

(3)Cyn setlo'r cylch gorchwyl, rhaid i'r Comisiynydd—

(a) rhoi hysbysiad am y cylch gorchwyl arfaethedig—

(i)i D, a

(ii)i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant,

(b)rhoi cyfle i bob person y rhoddir hysbysiad iddo ynghylch y cylch gorchwyl arfaethedig i wneud sylwadau ynghylch y cylch gorchwyl arfaethedig, ac

(c)ystyried unrhyw sylwadau a wneir.

(4)Ar ôl setlo'r cylch gorchwyl (ac yntau wedi cydymffurfio ag is-baragraff (3)), rhaid i'r Comisiynydd—

(a)cyhoeddi cylch gorchwyl yr ymchwiliad mewn modd sy'n debygol, yn nhyb y Comisiynydd, o ddwyn yr ymchwiliad i sylw personau y mae a wnelo'r ymchwiliad â hwy neu bersonau sy'n debygol o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant ynddo, a

(b)hysbysu'r canlynol am y cylch gorchwyl—

(i)D, a

(ii)unrhyw berson arall a chanddo fuddiant.

(5)Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw newid yn y cylch gorchwyl fel y byddai'r paragraff yn gymwys pe byddai'r newid yn y cylch gorchwyl yn gyfystyr â pharatoi'r cylch gorchwyl hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 10 para. 2 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol gweler a. 156(2)

SylwadauLL+C

3(1)Rhaid i'r Comisiynydd wneud trefniadau ar gyfer rhoi cyfle i bersonau i wneud sylwadau mewn perthynas ag ymchwiliadau.

(2)Rhaid i'r trefniadau roi cyfle i'r personau canlynol i wneud sylwadau yn ystod ymchwiliad—

(a)D, a

(b)unrhyw berson arall a chanddo fuddiant.

(3)Caiff trefniadau o dan y paragraff hwn gynnwys, ymhlith pethau eraill, drefniadau ar gyfer sylwadau llafar.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 10 para. 3 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

4(1)Rhaid i'r Comisiynydd ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymchwiliad—

(a)gan D, neu

(b)gan gynghorydd cyfreithiol sy'n gweithredu ar ran D.

(2)Rhaid i'r Comisiynydd ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymchwiliad gan unrhyw berson arall onid yw'n briodol, yn nhyb y Comisiynydd, i wrthod gwneud hynny.

(3)Os yw'r Comisiynydd yn gwrthod ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymchwiliad, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig am y canlynol i'r person a wnaeth y sylwadau—

(a)y penderfyniad i wrthod ystyried y sylwadau, a

(b)y rhesymau dros y penderfyniad.

(4)Yn y paragraff hwn ystyr “cynghorydd cyfreithiol” yw—

(a)person sydd, at ddibenion Deddf y Gwasanaethau Cyfreithiol 2007, yn berson awdurdodedig, neu'n gyfreithiwr Ewropeaidd sy'n berson esempt yn rhinwedd paragraff 7 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, mewn perthynas â gweithgaredd sy'n golygu arfer hawl i ymddangos mewn achos neu ymladd achos (o fewn ystyr y Ddeddf honno), neu

(b)adfocad neu gyfreithiwr yn yr Alban.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 10 para. 4 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

RHAN 2LL+CGWYBODAETH, DOGFENNAU A THYSTIOLAETH LAFAR

Hysbysiadau tystiolaethLL+C

5(1)Yn ystod ymchwiliad, caiff y Comisiynydd roi hysbysiad tystiolaeth i berson (A).

(2)Yn y Mesur hwn, ystyr “hysbysiad tystiolaeth” yw hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i A wneud un neu ragor o'r canlynol—

(a)darparu gwybodaeth sydd ym meddiant A;

(b)cyflwyno dogfennau sydd ym meddiant A;

(c)rhoi tystiolaeth lafar.

(3)Caiff hysbysiad o dan y paragraff hwn gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)y ffurf ar wybodaeth, ar ddogfennau neu ar dystiolaeth;

(b)amseru unrhyw beth sydd i'w wneud yn unol â'r hysbysiad.

(4)Ni chaniateir i hysbysiad o dan y paragraff hwn ei gwneud yn ofynnol i A wneud unrhyw beth na allai A gael ei orfodi i'w wneud mewn achos gerbron yr Uchel Lys.

(5)Rhaid i hysbysiad o dan y paragraff hwn hysbysu A—

(a)beth fydd y canlyniadau os na fydd A yn cydymffurfio â'r hysbysiad; a

(b)am yr hawl i apelio o dan baragraff 9.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 10 para. 5 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

6(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys os bydd person (B), yn ystod ymchwiliad—

(a)yn darparu gwybodaeth,

(b)yn cyflwyno dogfennau, neu

(c)yn rhoi tystiolaeth lafar.

(2)Caiff y Comisiynydd, os gwêl yn dda, dalu i B—

(a)symiau mewn cysylltiad â threuliau a dynnwyd yn briodol gan B, a

(b)lwfansau yn iawndal am i B golli amser.

(3)Mae unrhyw daliad i B i'w wneud—

(a)yn unol â graddfeydd y caniateir eu pennu gan y Comisiynydd, a

(b)yn ddarostyngedig i amodau y caniateir eu pennu gan y Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 10 para. 6 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

Cyfrinachedd etcLL+C

7O ran hysbysiad o dan baragraff 5—

(a)ni chaniateir i'r hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth y gwaherddir i'r person ei datgelu yn rhinwedd deddfiad, a

(b)ni chaniateir i'r hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i berson wneud unrhyw beth na allai'r person hwnnw gael ei orfodi i'w wneud mewn achos gerbron yr Uchel Lys.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 10 para. 7 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

8(1)Rhaid i A ddiystyru hysbysiad a roddir o dan baragraff 5, a rhaid iddo hysbysu'r Comisiynydd fod A yn ei ddiystyru, i'r graddau y mae A o'r farn y byddai'n ofynnol i A—

(a)datgelu gwybodaeth sensitif o fewn ystyr paragraff 4 o Atodlen 3 i Ddeddf y Gwasanaethau Cudd-wybodaeth 1994 (Y Pwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch),

(b)datgelu gwybodaeth a allai arwain at wybod pwy yw cyflogai neu asiant gwasanaeth cudd-wybodaeth (ac eithrio un y mae eisoes yn hysbys i'r Comisiynydd pwy ydyw),

(c)datgelu gwybodaeth a allai ddarparu manylion prosesau a ddefnyddir i recriwtio, dewis neu hyfforddi cyflogeion neu asiantau gwasanaeth cudd-wybodaeth,

(d)datgelu gwybodaeth a allai ddarparu manylion gwybodaeth sy'n dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (c) neu na ellir yn ymarferol eu gwahanu oddi wrth yr wybodaeth honno, neu

(e)datgelu gwybodaeth sy'n ymwneud â gwasanaeth cudd-wybodaeth ac a fyddai'n niweidiol i fuddiannau diogelwch gwladol.

(2)Yn is-baragraff (1) ystyr “gwasanaeth cudd-wybodaeth” yw—

(a)y Gwasanaeth Diogelwch,

(b)y Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Cyfrinachol, ac

(c)Pencadlys Cyfathrebu'r Llywodraeth.

(3)Os bydd A yn hysbysu'r Comisiynydd o dan is-baragraff (1) uchod—

(a)nid yw paragraffau 9 a 10 yn gymwys mewn perthynas â'r rhan honno o'r hysbysiad o dan baragraff 5 y mae'r hysbysiad o dan is-baragraff (1) uchod yn ymwneud â hi,

(b)caiff y Comisiynydd wneud cais i'r tribiwnlys a sefydlwyd gan adran 65 o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person gymryd y camau y gellir eu pennu yn y gorchymyn i gydymffurfio â'r hysbysiad,

(c)bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf honno yn gymwys mewn perthynas ag achosion o dan y paragraff hwn fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag achosion o dan y Ddeddf honno (gydag unrhyw addasiadau angenrheidiol)—

(i)adran 67(7), (8) a (10) i (12) (dyfarniad),

(ii)adran 68 (gweithdrefn), a

(iii)adran 69 (rheolau), a

(d)rhaid i'r tribiwnlys a sefydlwyd gan adran 65 o'r Ddeddf honno ddyfarnu achosion o dan y paragraff hwn drwy ystyried barn A yn unol â'r egwyddorion a gâi eu cymhwyso gan lys ar gais am adolygiad barnwrol ar roi'r hysbysiad.

(4)Os daw gwybodaeth neu ddogfennau i law'r Comisiynydd oddi wrth wasanaeth cudd-wybodaeth neu'n ymwneud â gwasanaeth cudd-wybodaeth mewn ymateb i hysbysiad o dan baragraff 5, rhaid i'r Comisiynydd storio a defnyddio'r wybodaeth neu'r dogfennau'n unol ag unrhyw drefniadau a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 10 para. 8 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

ApelauLL+C

9Caiff A wneud cais i'r Tribiwnlys i ddileu'r hysbysiad o dan baragraff 5 ar y sail bod gofyniad a osodir gan yr hysbysiad—

(a)yn ddiangen o ystyried pwrpas yr ymchwiliad, neu

(b)yn afresymol neu'n anghymesur mewn modd arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 10 para. 9 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

10Caiff A wneud cais i'r Tribiwnlys i ddileu'r hysbysiad o dan baragraff 5 ar y sail bod y gofyniad a osodir gan yr hysbysiad yn annymunol am resymau diogelwch gwladol, ac eithrio am y rheswm y byddai'n gofyn am ddatgelu gwybodaeth o'r math y mae paragraff 8(1) yn gymwys iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 10 para. 10 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

GorfodiLL+C

11(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r Comisiynydd o'r farn bod A—

(a)wedi methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â hysbysiad o dan baragraff 5, neu

(b)yn debygol o fethu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â hysbysiad o dan baragraff 5.

(2)Caiff y Comisiynydd wneud cais i lys sirol am orchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i A gymryd y camau y gellir eu pennu yn y gorchymyn i gydymffurfio â'r hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 10 para. 11 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

RHAN 3LL+CPŴER I FYND I MEWN AC I ARCHWILIO

Pŵer i fynd i mewn ac i archwilioLL+C

12(1)Caiff y Comisiynydd, neu unrhyw berson a awdurdodir gan y Comisiynydd, fynd i mewn i fangre a'i harchwilio os bydd mynd i mewn ac archwilio'n angenrheidiol at ddibenion ymchwiliad yn nhyb y Comisiynydd neu'r person awdurdodedig.

(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4).

(3)Nid yw'r paragraff hwn yn awdurdodi mynd i mewn—

(a)i annedd, neu

(b)i fangre nad yw o dan reolaeth y person yr ymchwilir iddo.

(4)Nid yw'r paragraff hwn yn awdurdodi mynd i mewn i fangre ar adeg benodol os yw'n afresymol mynd i mewn ar yr adeg honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 10 para. 12 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)