Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

ArchwilioLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

19(1)Rhaid i'r Comisiynydd gyflwyno'r cyfrifon a luniwyd ar gyfer blwyddyn ariannol i Archwilydd Cyffredinol Cymru heb fod yn hwyrach na 31 Awst yn y flwyddyn ariannol ganlynol.

(2)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)archwilio ac ardystio pob set o gyfrifon a gyflwynir o dan y paragraff hwn, ac adrodd arnynt, a

(b)heb fod yn hwyrach na phedwar mis ar ôl i'r cyfrifon gael eu cyflwyno, osod copi ohonynt gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y cawsant eu hardystio ganddo, ynghyd â'i adroddiad arnynt.

(3)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru, ymysg pethau eraill, wrth archwilio'r cyfrifon a gyflwynir o dan y paragraff hwn, ei fodloni ei hun fod y gwariant y mae'r cyfrifon yn ymwneud ag ef wedi cael ei dynnu'n gyfreithiol ac yn unol â'r awdurdod sy'n ei lywodraethu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 19 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)