xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 7TRIBIWNLYS Y GYMRAEG

Y Tribiwnlys

120Tribiwnlys y Gymraeg

(1)Bydd yna Dribiwnlys y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel y “Tribiwnlys”).

(2)Yr aelodau canlynol fydd aelodau'r Tribiwnlys—

(a)Llywydd Tribiwnlys y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel y “Llywydd”);

(b)aelodau wedi ymgymhwyso yn y gyfraith; ac

(c)aelodau lleyg.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru benodi aelodau'r Tribiwnlys.

(4)Mae Atodlen 11 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch y Tribiwnlys.

121Cyfansoddiad ar gyfer achosion gerbron y Tribiwnlys

(1)Rhaid i'r Llywydd ddewis yr aelodau o'r Tribiwnlys sydd i ymdrin ag achosion penodol gerbron y Tribiwnlys.

(2)Rhaid i'r Llywydd ddewis tri aelod o'r Tribiwnlys i ymdrin â'r achosion.

(3)Rhaid i'r Llywydd sicrhau bod—

(a)o leiaf un o'r tri aelod yn aelod cyfreithiol, a

(b)o leiaf un o'r tri aelod yn aelod lleyg.

(4)Os dim ond un o'r tri aelod sy'n aelod cyfreithiol, yr aelod cyfreithiol hwnnw sydd i gadeirio'r achos.

(5)Os oes mwy nag un o'r tri aelod yn aelodau cyfreithiol, mae'r Llywydd i ddewis yr aelod cyfreithiol sydd i gadeirio'r achos.

(6)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys.

(7)Yn yr adran hon ystyr “aelod cyfreithiol” yw—

(a)y Llywydd, neu

(b)aelod o'r Tribiwnlys sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith.

122Gwrandawiadau cyhoeddus

(1)Mae achosion gerbron y Tribiwnlys i'w cynnal yn gyhoeddus.

(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys.

Ymarferiad a threfniadaeth etc

123Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg

(1)Rhaid i'r Llywydd wneud rheolau sy'n llywodraethu'r ymarferiad a'r drefniadaeth sydd i'w dilyn yn y Tribiwnlys.

(2)Mae'r rheolau i'w galw'n “Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg” (ond cyfeirir atynt yn y Mesur hwn fel “Rheolau'r Tribiwnlys”).

(3)Rhaid i Reolau'r Tribiwnlys gynnwys y canlynol—

(a)darpariaeth ynghylch dewis o dan adran 121(2) y tri aelod o'r Tribiwnlys i ymdrin ag achosion;

(b)darpariaeth ynghylch dewis o dan adran 121(5) yr aelod cyfreithiol i gadeirio achosion;

(c)darpariaeth ynghylch gwrthdrawiadau buddiant sy'n codi—

(i)mewn perthynas â chyfranogiad aelodau o'r Tribiwnlys yn y gwaith o ddyfarnu achos, neu

(ii)mewn perthynas ag arfer swyddogaethau'r Llywydd o dan adran 121.

(4)Caiff Rheolau'r Tribiwnlys, ymysg pethau eraill, gynnwys darpariaeth ynghylch y materion a ganlyn—

(a)arfer gan y Llywydd, neu gan yr aelod sy'n cadeirio unrhyw achosion, unrhyw swyddogaethau sy'n ymwneud â materion sy'n rhagarweiniol i'r achos neu'n gysylltiedig â'r achos;

(b)cynnal achosion yn absenoldeb unrhyw aelod ac eithrio'r aelod sy'n eu cadeirio;

(c)dadlennu neu archwilio dogfennau, a'r hawl i fanylion pellach y gallai llys sirol ei rhoi;

(d)dyfarnu achosion heb wrandawiad mewn amgylchiadau a ragnodir yn Rheolau'r Tribiwnlys;

(e)achosion gwacsaw neu flinderus;

(f)caniatáu costau (gan gynnwys costau cosbedigol, ond heb eu cyfyngu i hynny) neu dreuliau;

(g)asesu'r costau neu'r treuliau hynny neu eu setlo fel arall (ac, yn benodol, ar gyfer galluogi asesu'r costau hynny yn y llys sirol);

(h)cyhoeddi adroddiadau ynghylch penderfyniadau'r Tribiwnlys;

(i)pwerau'r Tribiwnlys i adolygu ei benderfyniadau, neu i ddirymu neu amrywio ei orchmynion, yn yr amgylchiadau a gaiff eu pennu'n unol â Rheolau'r Tribiwnlys;

(j)y dyddiad y bernir bod hysbysiad wedi ei roi gan y Tribiwnlys.

(5)Mae'r pŵer i wneud Rheolau'r Tribiwnlys yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol, a

(b)i roi swyddogaethau i'r Llywydd neu i Weinidogion Cymru (yn ogystal ag i unrhyw berson arall), gan gynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud ag arfer disgresiwn.

(6)Rhaid i'r Llywydd gyflwyno Rheolau'r Tribiwnlys i Weinidogion Cymru.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu neu wrthod Rheolau'r Tribiwnlys a gyflwynir iddynt.

(8)O ran rheolau a ganiateir gan Weinidogion Cymru—

(a)deuant i rym ar y diwrnod y bydd Gweinidogion Cymru'n ei gyfarwyddo, a

(b)maent i'w cynnwys mewn offeryn statudol y mae Deddf Offerynnau Statudol 1946 yn gymwys iddo fel pe bai'r offeryn yn cynnwys rheolau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(9)Mae offeryn statudol sy'n cynnwys rheolau a wneir gan y Llywydd yn ddarostyngedig i'w ddiddymu'n unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

124Cyfarwyddiadau ymarfer

(1)Caiff y Llywydd roi cyfarwyddiadau ynghylch ymarferiad a threfniadaeth y Tribiwnlys.

(2)Ond ni chaiff y Llywydd roi cyfarwyddiadau ymarfer onid ydynt wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

(3)Nid yw is-adran (2) yn gymwys i gyfarwyddiadau ymarfer i'r graddau y mae'r cyfarwyddiadau hynny'n ymwneud â—

(a)cymhwyso neu ddehongli'r gyfraith, neu

(b)gwneud penderfyniadau gan aelodau o'r Tribiwnlys.

(4)Mae'r pŵer o dan yr adran hon i roi cyfarwyddiadau ymarfer yn cynnwys—

(a)pŵer i amrywio neu ddirymu cyfarwyddiadau ymarfer a roddir wrth arfer y pŵer, a

(b)pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

125Canllawiau, cyngor a gwybodaeth

(1)Caiff y Llywydd roi canllawiau i aelodau eraill o'r Tribiwnlys mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau fel aelodau o'r Tribiwnlys.

(2)Rhaid i aelod o'r Tribiwnlys roi sylw i'r canllawiau hynny wrth arfer y swyddogaethau hynny.

(3)Caiff y Llywydd roi cyngor a gwybodaeth mewn cysylltiad â'r Tribiwnlys a'i swyddogaethau (gan gynnwys ymarferiad a threfniadaeth y Tribiwnlys, ond heb ei gyfyngu iddynt).

(4)Caiff y Llywydd roi'r cyngor hwnnw—

(a)i bersonau penodol, neu

(b)yn fwy cyffredinol.

126Pwerau atodol

(1)Mewn perthynas â'r materion a grybwyllir yn is-adran (2), mae gan y Tribiwnlys yr un pwerau, hawliau, breintiau ac awdurdod â'r Uchel Lys.

(2)Dyma'r materion—

(a)presenoldeb tystion a'u holi,

(b)cyflwyno ac archwilio dogfennau, ac

(c)pob mater arall sy'n gysylltiedig â swyddogaethau'r Tribiwnlys.

(3)Nid yw is-adran (1)—

(a)yn cyfyngu ar unrhyw bŵer i wneud Rheoliadau'r Tribiwnlys, neu

(b)wedi ei chyfyngu gan unrhyw beth yn Rheoliadau'r Tribiwnlys, ac eithrio cyfyngiad penodol.

(4)Caiff y Tribiwnlys gyfarwyddo bod parti neu dyst i'w holi ar lw neu gadarnhad.

(5)Caiff y Tribiwnlys weinyddu unrhyw lw, neu gymryd unrhyw gadarnhad, sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw.

Staff ac adnoddau eraill

127Staff, adeiladau ac adnoddau eraill y Tribiwnlys

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod gan y Tribiwnlys y canlynol—

(a)staff,

(b)adeiladau, ac

(c)adnoddau ariannol ac adnoddau eraill,

sy'n briodol i'r Tribiwnlys er mwyn iddo arfer ei swyddogaethau.

(2)Gweinidogion Cymru sydd i benderfynu pa staff, adeiladau, adnoddau ariannol ac adnoddau eraill sy'n briodol at y diben hwnnw.

(3)Caniateir i Weinidogion Cymru fodloni'r ddyletswydd o dan is-adran (1)—

(a)drwy ddarparu staff, adeiladau neu adnoddau eraill, neu

(b)drwy wneud trefniadau gydag unrhyw berson arall ar gyfer darparu staff, adeiladau neu adnoddau eraill.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i staff y Tribiwnlys.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i staff y Tribiwnlys.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru dalu—

(a)pensiynau i bersonau sydd wedi bod yn aelodau o staff y Tribiwnlys, neu mewn perthynas â hwy, a

(b)symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau sydd wedi bod yn aelodau o staff y Tribiwnlys, neu mewn cysylltiad â hwy.

128Cynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig

(1)Caiff y Llywydd benodi cynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig i ddarparu cymorth i'r Tribiwnlys (boed mewn perthynas ag achosion penodol gerbron y Tribiwnlys neu fel arall).

(2)Caiff y Llywydd dalu tâl cydnabyddiaeth i gynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig.

(3)Caiff y Llywydd dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i gynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig.

(4)Ond rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo swm unrhyw dâl cydnabyddiaeth, lwfansau neu arian rhodd sy'n daladwy i gynghorydd sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig cyn i'r Llywydd dalu'r tâl cydnabyddiaeth, lwfansau neu'r arian rhodd, neu gytuno i'w talu.

Materion gweinyddol

129Y sêl

(1)Mae'r Tribiwnlys i gael sêl swyddogol.

(2)Mae pob dogfen yr honnir ei bod yn dwyn sêl swyddogol y Tribiwnlys i'w derbyn yn dystiolaeth yng Nghymru a Lloegr heb brawf pellach.

(3)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os dangosir nad yw'r ddogfen yn dwyn sêl swyddogol y Tribiwnlys.

130Y flwyddyn ariannol

(1)Blwyddyn ariannol gyntaf y Tribiwnlys yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod cychwyn ac sy'n dod i ben—

(a)y 31 Mawrth canlynol (os 1 Ebrill yw'r diwrnod cychwyn), neu

(b)yr ail 31 Mawrth canlynol (os nad 1 Ebrill yw'r diwrnod cychwyn).

(2)Yn ddarostyngedig i hynny, blwyddyn ariannol y Tribiwnlys yw'r cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth.

(3)Yn yr adran hon ystyr “diwrnod cychwyn” yw'r diwrnod y daw adran 120 i rym.

131Swydd y Llywydd yn wag

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw swydd y Llywydd yn wag.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru benodi un neu ragor o aelodau'r Tribiwnlys sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith i arfer unrhyw un neu ragor neu'r oll o swyddogaethau'r Llywydd.

(3)Os na fydd, neu i'r graddau na fydd, swyddogaethau'r Llywydd yn arferadwy gan aelod sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith yn unol ag is-adran (2), caiff Gweinidogion Cymru arfer y swyddogaethau.

(4)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru gymryd rhan yn y gwaith o ddyfarnu unrhyw achosion gerbron y Tribiwnlys.

Adroddiadau, adolygiadau a pherfformiad

132Adroddiad blynyddol y Llywydd

(1)Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i'r Llywydd—

(a)llunio adroddiad ar y modd y mae'r Tribiwnlys wedi arfer ei swyddogaethau yn y flwyddyn ariannol honno, a

(b)gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)Rhaid i'r Llywydd gydymffurfio ag unrhyw ofynion sydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch ffurf yr adroddiad ac ynghylch ei osod.

133Hyfforddiant etc ar gyfer aelodau'r Tribiwnlys

(1)Rhaid i'r Llywydd gynnal trefniadau priodol ar gyfer hyfforddiant, arweiniad a lles aelodau'r Tribiwnlys.

(2)Y Llywydd sydd i benderfynu pa drefniadau sy'n briodol at y diben hwnnw.