xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Yn ddilys o 07/01/2014
Yn ddilys o 30/04/2015
(1)Mae'r Tribiwnlys i gael sêl swyddogol.
(2)Mae pob dogfen yr honnir ei bod yn dwyn sêl swyddogol y Tribiwnlys i'w derbyn yn dystiolaeth yng Nghymru a Lloegr heb brawf pellach.
(3)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os dangosir nad yw'r ddogfen yn dwyn sêl swyddogol y Tribiwnlys.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 129 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
Yn ddilys o 30/04/2015
(1)Blwyddyn ariannol gyntaf y Tribiwnlys yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod cychwyn ac sy'n dod i ben—
(a)y 31 Mawrth canlynol (os 1 Ebrill yw'r diwrnod cychwyn), neu
(b)yr ail 31 Mawrth canlynol (os nad 1 Ebrill yw'r diwrnod cychwyn).
(2)Yn ddarostyngedig i hynny, blwyddyn ariannol y Tribiwnlys yw'r cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth.
(3)Yn yr adran hon ystyr “diwrnod cychwyn” yw'r diwrnod y daw adran 120 i rym.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 130 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw swydd y Llywydd yn wag.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru benodi un neu ragor o aelodau'r Tribiwnlys sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith i arfer unrhyw un neu ragor neu'r oll o swyddogaethau'r Llywydd.
(3)Os na fydd, neu i'r graddau na fydd, swyddogaethau'r Llywydd yn arferadwy gan aelod sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith yn unol ag is-adran (2), caiff Gweinidogion Cymru arfer y swyddogaethau.
(4)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru gymryd rhan yn y gwaith o ddyfarnu unrhyw achosion gerbron y Tribiwnlys.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 131 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)