xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5GORFODI SAFONAU

PENNOD 6ADOLYGIAD GAN YR ACHWYNYDD

Adolygu methiant y Comisiynydd i ymchwilio i gŵyn

103Hawl P i gael adolygiad

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw P yn gwneud cwyn i'r Comisiynydd o dan adran 93 ynglŷn ag ymddygiad D (“yr ymddygiad honedig”), p'un a yw'r gŵyn honno yn gŵyn ddilys o dan yr adran honno ai peidio.

(2)Caiff P, gyda chaniatâd y Tribiwnlys, wneud cais i'r Tribiwnlys i adolygu penderfyniad y Comisiynydd mewn unrhyw un neu ragor o'r achosion sydd wedi eu nodi yn yr adran hon.

(3)Rhaid i'r Tribiwnlys, yn ddarostyngedig i adran 104, ymdrin â chais am adolygiad o'r fath fel pe bai'n gais i'r Uchel Lys am adolygiad barnwrol.

(4)Rhaid i'r Tribiwnlys roi caniatâd i wneud cais pan fo'r Tribiwnlys o'r farn—

(a)bod disgwyliad rhesymol y byddai'r cais yn llwyddo, neu

(b)bod rhyw reswm cryf arall pam y dylai'r cais gael ei glywed.

(5)Yr achos cyntaf y cyfeirir ato yn is-adran (2) yw—

(a)pan fo'r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio yn gymwys, a

(b)pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu peidio â chynnal ymchwiliad.

(6)Yr ail achos yw—

(a)pan fo adran 93(7) yn gymwys o ran cwyn, a

(b)pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu peidio ag ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio.

(7)Y trydydd achos yw pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu nad yw'r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio yn gymwys.

(8)Y pedwerydd achos yw—

(a)pan nad yw'r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio yn gymwys, a

(b)pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu peidio ag ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio o dan adran 93(8) neu, ar ôl ystyried ai i gynnal ymchwiliad o dan yr adran honno, yn penderfynu peidio â chynnal yr ymchwiliad.

(9)Y pumed achos yw—

(a)pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu cynnal ymchwiliad, a

(b)pan fo'r Comisiynydd wedyn yn penderfynu terfynu'r ymchwiliad.

(10)Rhaid i gais o dan is-adran (2) gael ei wneud cyn diwedd y cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau.

(11)Ond caiff y Tribiwnlys, pan wneir cais ysgrifenedig gan P, ganiatáu i gais o dan is-adran (2) gael ei wneud ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw os yw'r Tribiwnlys wedi ei fodloni bod rheswm da—

(a)dros y methiant i wneud cais cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a

(b)os oes unrhyw oedi wedi bod cyn gwneud cais am ganiatâd i wneud cais ar ôl yr amser priodol, dros yr oedi hwnnw.

(12)Caniateir i gais o dan is-adran (11) gael ei wneud cyn diwedd neu ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau.

(13)Rhaid i'r Tribiwnlys hysbysu P a'r Comisiynydd o'i benderfyniad ar gais o dan is-adran (2).

(14)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys (sy'n cael gwneud, ymysg pethau eraill, ddarpariaeth ynghylch y modd y ceir gwneud ceisiadau o dan yr adran hon).

(15)Yn y Bennod hon ystyr “cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau” yw'r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y bu i'r Comisiynydd hysbysu P o'i benderfyniad o dan adran 94.

104Pwerau'r Tribiwnlys ar adolygiad

(1)Pan wneir cais o dan adran 103, caiff y Tribiwnlys—

(a)cadarnhau dyfarniad y Comisiynydd, neu

(b)diddymu dyfarniad y Comisiynydd.

(2)Os yw'r Tribiwnlys yn diddymu dyfarniad y Comisiynydd, rhaid i'r Tribiwnlys anfon yr achos yn ôl at y Comisiynydd gyda chyfarwyddyd ar gyfer ei ailystyried.

105Apelau o'r Tribiwnlys

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Tribiwnlys wedi penderfynu cais o dan adran 103(2).

(2)Caiff y Comisiynydd neu P, gyda chaniatâd y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, apelio i'r Uchel Lys ar bwynt cyfreithiol sy'n deillio o'r penderfyniad.

(3)Os yw'r Uchel Lys yn dyfarnu bod y Tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad ar bwynt cyfreithiol—

(a)caiff yr Uchel Lys osod penderfyniad y Tribiwnlys o'r naill du, a

(b)os bydd yr Uchel Lys yn gosod y penderfyniad o'r naill du, rhaid iddo naill ai—

(i)anfon yr achos yn ôl i'r Tribiwnlys gyda chyfarwyddyd ar gyfer ei ailystyried, neu

(ii)ail-wneud y penderfyniad.

(4)Mae'r cyfarwyddiadau y caniateir i'r Uchel Lys eu rhoi o dan is-adran (3)(b)(i) yn cynnwys y naill neu'r llall neu'r naill a'r llall o'r canlynol, ond nid ydynt wedi eu cyfyngu iddynt—

(a)cyfarwyddyd na all y personau sydd i ailystyried yr achos fod yr un rhai â'r personau a wnaeth y penderfyniad sydd wedi ei roi o'r naill du,

(b)cyfarwyddiadau gweithredu mewn cysylltiad ag ailystyried yr achos.

(5)Wrth ail-wneud y penderfyniad yn unol ag is-adran (3)(b)(ii), caniateir i'r Uchel Lys—

(a)gwneud unrhyw benderfyniad y gallai'r Tribiwnlys ei wneud pe bai'r Tribiwnlys yn gwneud y penderfyniad, a

(b)gwneud y canfyddiadau ffeithiol sy'n briodol yn nhyb yr Uchel Lys.

(6)Rhaid i gais am ganiatâd i apelio gael ei wneud i'r Tribiwnlys neu i'r Uchel Lys o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbysodd y Tribiwnlys y person sy'n gwneud y cais o dan yr adran hon o'i benderfyniad ar y cais o dan adran 103.

(7)Ond caiff y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, ar gais ysgrifenedig gan y Comisiynydd neu P, ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw os yw'r Tribiwnlys neu'r Uchel Lys wedi ei fodloni bod rheswm da—

(a)dros y methiant i wneud cais am ganiatâd i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a

(b)os oes unrhyw oedi wedi bod cyn gwneud y cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol, dros yr oedi hwnnw.

(8)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys.