Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Methiant i gydymffurfio: opsiynau'r Comisiynydd

77Methiant i gydymffurfio â gofyniad perthnasol

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol.

(2)Caiff y Comisiynydd—

(a)beidio â gweithredu ymhellach,

(b)gweithredu o dan is-adran (3), neu

(c)gweithredu o dan is-adran (4).

(3)Caiff y Comisiynydd wneud un neu ragor o'r pethau a ganlyn—

(a)ei gwneud yn ofynnol i D baratoi cynllun gweithredu at y diben o atal methiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol rhag parhau neu gael ei ailadrodd;

(b)ei gwneud yn ofynnol i D gymryd camau at y diben o atal methiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol rhag parhau neu gael ei ailadrodd;

(c)rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol;

(d)ei gwneud yn ofynnol i D roi cyhoeddusrwydd i'r methiant i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol;

(e)gosod cosb sifil ar D.

(4)Caiff y Comisiynydd wneud un neu ragor o'r pethau a ganlyn—

(a)rhoi argymhellion i D neu i unrhyw berson arall;

(b)rhoi cyngor i D neu i unrhyw berson arall;

(c)ceisio ymrwymo mewn cytundeb setlo gyda D (gweler Pennod 2), ond dim ond os dyletswydd i gydymffurfio â safon yw'r gofyniad perthnasol.

(5)Os yw'r Comisiynydd yn ceisio ymrwymo mewn cytundeb setlo gyda D—

(a)nid oes gorfodaeth ar D i ymrwymo yn y cytundeb hwnnw;

(b)os yw D yn gwrthod ymrwymo mewn cytundeb setlo, caiff y Comisiynydd arfer ei bwerau o dan yr adran hon mewn modd gwahanol, ond nid oes angen iddo wneud hynny.

(6)Os yw'r Comisiynydd yn gweithredu o dan is-adran (3), nid yw is-adrannau (2) a (3) yn atal y Comisiynydd rhag gwneud hefyd y naill neu'r llall neu'r naill a'r llall o'r canlynol—

(a)rhoi argymhellion i D neu i unrhyw berson arall;

(b)rhoi cyngor i D neu i unrhyw berson arall.

(7)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.