xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adran 4)

ATODLEN 1LL+CANGHYMWYSO RHAG BOD YN AELOD O'R BWRDD

1LL+CMae'r personau canlynol wedi'u hanghymwyso rhag bod yn aelodau o'r Bwrdd—

(a)aelod o'r Cynulliad,

(b)y Cwnsler Cyffredinol (os nad yw'n aelod o'r Cynulliad),

(c)ymgeisydd i'w ethol yn aelod o'r Cynulliad,

(d)person y gallai fod angen i'w enw, pe bai sedd aelod Cynulliad rhanbarthol yn dod yn wag, gael ei hysbysu i'r Llywydd o dan adran 11 o'r Ddeddf (seddi gwag mewn rhanbarthau etholiadol),

(e)aelod o Senedd Ewrop, Tŷ'r Cyffredin, F1... Senedd yr Alban neu Gynulliad Gogledd Iwerddon,

(f)aelod o staff y Cynulliad,

(g)aelod o staff Llywodraeth Cynulliad Cymru,

(h)person a gyflogir gan aelod o'r Cynulliad neu gan grŵp o aelodau'r Cynulliad er mwyn helpu'r aelod hwnnw neu'r aelodau o'r grŵp hwnnw i gyflawni swyddogaethau aelod o'r Cynulliad,

(i)Archwilydd Cyffredinol Cymru,

(j)Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru,

(k)aelod o Bwyllgor Rheolaeth Gorfforaethol Comisiwn y Cynulliad,

(l)person sy'n dal apwyntiad fel Ymgynghorydd Annibynnol i Gomisiwn y Cynulliad,

F2(m). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(n)person sy'n dal apwyntiad fel Cyfarwyddwr Anweithredol Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

2LL+CAt ddibenion paragraff 1(c) daw person yn ymgeisydd i'w ethol yn aelod o'r Cynulliad—

(a)ar y diwrnod y datgenir bod y person hwnnw'n ymgeisydd (boed gan y person o dan sylw neu gan eraill ), neu

(b)ar y diwrnod yr enwebir y person hwnnw'n ymgeisydd mewn etholiad i'r Cynulliad,

p'un bynnag fydd gyntaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

3LL+CWrth benderfynu, at ddibenion paragraff 1(d), a allai fod angen i enw person gael ei hysbysu i'r Llywydd o dan adran 11 o'r Ddeddf, mae gofynion paragraffau (b) a (c) o is adran (3) o'r adran honno i'w hanwybyddu.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)