Chwilio Deddfwriaeth

Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Legislation Crest

Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010

2010 mccc 2

MESUR gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer ac mewn cysylltiad â gosod ffioedd ac adennill ffioedd am ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl.

[17 Mawrth 2010]

Mae'r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 19 Ionawr 2010 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor ar 17 Mawrth 2010, yn deddfu'r darpariaethau a ganlyn:—

1Pŵer cyffredinol i godi ffioedd am wasanaethau gofal

(1)Caiff awdurdod lleol yng Nghymru sy'n darparu, neu'n gwneud trefniadau ar gyfer darparu, gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano osod ffi resymol am y gwasanaeth (ond nid oes raid iddo wneud hynny).

(2)Ffi resymol yw'r swm hwnnw y mae'r awdurdod o dan sylw yn penderfynu ei fod yn rhesymol.

(3)Ond mae is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i'r canlynol—

(a)adran 2 (uchafswm y ffioedd);

(b)adran 3 (personau a gwasanaethau y mae'n rhaid peidio â gosod ffioedd ynglŷn â hwy);

(c)adran 8(1) (effaith penderfyniadau sy'n ymwneud â gallu i dalu); a

(d)unrhyw reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 16 o Ddeddf Gofal Cymunedol (Rhyddhau Gohiriedig etc) 2003 (p. 5) (darparu gwasanaethau yng Nghymru yn ddi-dâl).

(4)Mae gan awdurdod lleol y pŵer i adennill ffi a osodir o dan yr adran hon.

(5)Heb ragfarnu is-adran (4) yn gyffredinol, caniateir adennill ffi a osodir o dan yr adran hon yn ddiannod fel dyled sifil.

2Uchafswm y ffioedd

(1)Wrth benderfynu ffi resymol at ddibenion adran 1(2) am wasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano, rhaid i awdurdod lleol weithredu yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (2).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth mewn rheoliadau ar gyfer neu mewn cysylltiad â rheoli penderfyniadau a chyfyngu arnynt y caiff awdurdod lleol eu gwneud o dan adran 1(2).

(3)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn y rheoliadau yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) darpariaeth—

(a)sy'n pennu swm y mae'n rhaid ei ystyried fel mwyafswm rhesymol y ffi am wasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano, neu gyfuniad o wasanaethau y caniateir codi ffioedd amdanynt;

(b)sy'n nodi fformiwla ar gyfer penderfynu'r swm y mae'n rhaid ei ystyried fel mwyafswm rhesymol y ffi am wasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano, neu gyfuniad o wasanaethau y caniateir codi ffioedd amdanynt;

(c)sy'n ei gwneud yn ofynnol, mewn achos o wasanaeth penodedig y caniateir codi ffioedd amdano, neu gyfuniad o wasanaethau y caniateir codi ffioedd amdanynt, i awdurdod lleol bennu ffi drwy gyfeirio at gyfnod penodedig o amser;

(d)o ran ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (c), sy'n pennu'r swm y mae'n rhaid ei ystyried fel mwyafswm rhesymol y ffi;

(e)o ran ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (c), sy'n nodi fformiwla ar gyfer penderfynu'r swm y mae'n rhaid ei ystyried fel mwyafswm rhesymol y ffi.

3Personau a gwasanaethau na chaniateir gosod ffioedd ynglŷn â hwy

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth sy'n pennu categorïau o berson, gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano neu gyfuniadau o wasanaethau y caniateir codi ffioedd amdanynt (neu gategorïau o berson o ran gwasanaeth neu gyfuniadau o wasanaethau penodol) y mae'n rhaid peidio â gosod ffi ynglŷn ag ef neu hwy o dan adran 1.

(2)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn y rheoliadau yn cynnwys darpariaeth (ond nid yw'n gyfyngedig i hynny)—

(a)sy'n pennu categorïau o berson drwy gyfeirio at hawl y person hwnnw neu berson arall i gael neu dderbyn taliadau penodedig, cyfleusterau, gwasanaethau neu fuddiannau mewn da;

(b)sy'n pennu categorïau o berson drwy gyfeirio at eu hoedran neu eu hanghenion;

(c)sy'n pennu categorïau o wasanaeth neu gyfuniadau o wasanaethau drwy gyfeirio at y cyfnod o amser pan ddarperir ef neu hwy.

(3)Yn unol â hynny, nid yw adrannau 4 i 12 yn gymwys i—

(a)gwasanaethau neu gyfuniadau o wasanaethau a bennir mewn rheoliadau o dan is-adran (1), neu

(b)gwasanaethau a dderbynnir gan bersonau a bennir felly.

4Gwahoddiad i ofyn am asesiad modd

(1)Rhaid i awdurdod lleol wahodd person i ofyn am asesiad o'i fodd o dan adran 5(1)—

(a)os yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny, pan fydd yr awdurdod yn cynnig gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano i'r person;

(b)os na fu'n rhesymol ymarferol i roi gwahoddiad fel y'i crybwyllwyd ym mharagraff (a), cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r cynnig gael ei wneud;

(c)os na roddwyd gwahoddiad o dan baragraff (a) neu (b) cyn darparu bod gwasanaeth yn dechrau, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl hynny; neu

(d)o ran person y darperir iddo wasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano, yn yr achosion y caniateir eu pennu mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)Pan fo'n ofynnol i roi gwahoddiad i berson o dan is-adran (1), rhaid i'r awdurdod lleol beidio â—

(a)gosod, na

(b)mewn achos pan fo rheoliadau o dan is-adran (1)(d) yn gosod dyletswydd mewn achos pan fo ffi eisoes wedi ei gosod, newid,

ffi am y gwasanaeth dan sylw o dan adran 1(1) oni bai bod y gofynion a osodir yn is-adran (3) wedi eu bodloni.

(3)Dyma'r gofynion—

(a)bod y gwahoddiad wedi ei roi; a

(b)pan fo'r person yn ymateb i'r gwahoddiad yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru ac erbyn yr amser a bennwyd yn y rheoliadau hynny, bod yr awdurdod wedi cydymffurfio â'i rwymedigaethau o dan adrannau 5 a 7.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu—

(a)ar gyfer ffurf a chynnwys gwahoddiadau o dan is-adran (1); a

(b)ar gyfer y dull o roi'r gwahoddiadau hynny.

5Dyletswydd i gynnal asesiad modd

(1)Pan fo pob un o'r amodau yn adran 6 wedi eu bodloni, rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad o fodd ariannol person sy'n gofyn am yr asesiad hwnnw.

(2)Ond nid yw awdurdod lleol o dan unrhyw ddyletswydd i gynnal asesiad modd o dan is-adran (1)—

(a)mewn achosion a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru; na

(b)os rhyddheir yr awdurdod o'r ddyletswydd honno o dan is-adran (5).

(3)Rhaid cynnal asesiad modd o dan is-adran (1) yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan is-adran (3) yn cynnwys darpariaeth (ond nid yw'n gyfyngedig i hynny) sy'n cymhwyso unrhyw gyfundrefn profi modd statudol arall fel y mae iddi effaith o dro i dro, yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau a bennir yn y rheoliadau.

(5)Oni bai bod rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn darparu i'r gwrthwyneb, nid oes ar awdurdod lleol ddyletswydd i gynnal asesiad modd o dan is-adran (1) os—

(a)oes effaith i benderfyniad a wneir gan yr awdurdod o dan adran 7(1) neu 9(1);

(b)yw'r person sy'n destun y penderfyniad yn gofyn am i'r awdurdod gynnal asesiad modd o dan is-adran (1);

(c)yw'r cais yn ymwneud â gwasanaeth y mae'r penderfyniad yn ymwneud ag ef; a

(d)yw'r awdurdod yn barnu yn rhesymol na fu unrhyw newid sylweddol mewn amgylchiadau ers gwneud y penderfyniad.

6Amodau sy'n arwain at y ddyletswydd i gynnal asesiad modd

(1)Mae'r adran hon yn cynnwys yr amodau y cyfeirir atynt yn adran 5(1) (dyletswydd i gynnal asesiad modd).

(2)Amod 1 yw bod—

(a)gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano yn cael ei gynnig i berson; neu

(b)gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano yn cael ei ddarparu i berson.

(3)Amod 2 yw bod y person hwnnw yn gofyn am i'r awdurdod a wnaeth y cynnig, neu sy'n gyfrifol am ddarparu'r gwasanaeth, gynnal asesiad modd o dan adran 5.

(4)Amod 3 yw bod y person yn rhoi i'r awdurdod unrhyw wybodaeth neu ddogfennau sydd ym meddiant y person, neu o dan reolaeth y person, sy'n rhesymol ofynnol gan yr awdurdod er mwyn cynnal asesiad modd o dan yr adran honno.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau pwy a gaiff wneud y cais a grybwyllir yn is-adran (3), neu roi'r wybodaeth neu'r dogfennau a grybwyllir yn is-adran (4), ar ran person y cynigir gwasanaeth iddo neu y darperir gwasanaeth iddo.

7Penderfyniadau sy'n ymwneud â gallu i dalu

(1)Pan fo awdurdod lleol wedi asesu modd person o dan adran 5(1), rhaid i'r awdurdod, yng ngoleuni'r asesiad hwnnw—

(a)penderfynu a yw'n rhesymol ymarferol i'r person dalu'r ffi safonol am y gwasanaeth a gynigiwyd i'r person neu a ddarperir iddo; a

(b)os yw'r awdurdod yn penderfynu nad yw'n rhesymol ymarferol i'r person dalu'r ffi safonol, penderfynu'r swm (os oes un) y mae'n rhesymol ymarferol i'r person ei dalu am y gwasanaeth hwnnw.

(2)Rhaid i awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1) yn unol â darpariaeth mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan is-adran (2) yn cynnwys darpariaeth (ond nid yw'n gyfyngedig i hynny) sy'n—

(a)pennu achosion pan na fo'n rhesymol ymarferol i bersonau ac iddynt fodd penodedig, neu ac iddynt fodd sy'n dod o fewn ystod benodedig, dalu am wasanaeth penodol, neu gyfuniad o wasanaethau penodol;

(b)pennu'r uchafswm sy'n rhesymol ymarferol i bersonau ac iddynt fodd penodedig, neu ac iddynt fodd sy'n dod o fewn ystod benodedig, dalu am wasanaeth penodol, neu gyfuniad o wasanaethau penodol;

(c)pennu symiau y mae'n rhaid i'r awdurdod lleol eu diystyru wrth asesu modd person;

(d)pennu symiau islaw iddynt y mae'n rhaid peidio â gostwng incwm nac asedau person (ar ôl talu'r ffi sydd i'w gosod).

(4)Yn is-adran (1) ac adran 10 ystyr “ffi safonol” yw'r swm y byddai'n ofynnol i berson ei dalu am wasanaeth pe na bai effaith i benderfyniad o dan y Mesur hwn a oedd yn ymwneud â gallu person i dalu.

8Effaith penderfyniadau sy'n ymwneud â'r gallu i dalu

(1)Wrth osod ffioedd o dan adran 1(1), rhaid i awdurdod lleol roi effaith i unrhyw benderfyniad a wneir o dan adran 7(1) neu 9(1).

(2)Yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau a wneir o dan is-adran (3), mae penderfyniad i gael effaith o'r dyddiad sy'n rhesymol ym marn yr awdurdod lleol dan sylw (a gall y dyddiad hwnnw fod yn ddyddiad cyn y dyddiad pan wnaed y penderfyniad).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau o ba ddyddiad y mae penderfyniad i gael effaith (gan gynnwys darparu bod penderfyniad i gael effaith o ddyddiad cyn y dyddiad pan y'i gwnaed).

(4)Pan fo penderfyniad yn disodli penderfyniad sydd eisoes yn bod, bydd y penderfyniad sydd eisoes yn bod yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd y penderfyniad newydd yn effeithiol.

(5)At ddibenion is-adran (4), mae penderfyniad yn disodli penderfyniad sydd eisoes yn bod os yw'n ymwneud â'r un person a'r un gwasanaeth y caniateir codi ffi amdano â'r penderfyniad hwnnw.

9Awdurdod yn disodli penderfyniadau sy'n ymwneud â gallu i dalu

(1)Os yw awdurdod lleol yn barnu'n rhesymol bod un neu ragor o'r amodau yn is-adran (4) wedi eu bodloni, caiff yr awdurdod yn unol â'r adran hon ddisodli penderfyniad a roddwyd o dan adran 7(1), neu o dan yr adran hon, â phenderfyniad newydd.

(2)Mewn achos pan fo rheoliadau o dan adran 4(1)(d) yn gosod dyletswydd ynglŷn â'r gwasanaeth y mae'r penderfyniad yn ymwneud ag ef, mae pŵer yr awdurdod o dan is-adran (1) yn ddarostyngedig i adran 4(2).

(3)Ni chaiff penderfyniad o dan is-adran (1) fod yn wahanol i'r penderfyniad y mae yn ei ddisodli ond i'r graddau y mae'r awdurdod yn barnu eu bod yn briodol yng ngoleuni'r amod neu amodau yn is-adran (4) sydd wedi eu bodloni ym marn yr awdurdod.

(4)Dyma'r amodau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)—

(a)bu newid yn incwm neu gyfalaf y person sy'n destun y penderfyniad;

(b)bu newid yng nghost darparu'r gwasanaeth y mae'r penderfyniad yn ymwneud ag ef (gan gynnwys newid o ganlyniad i newid yn y lefel neu i'r graddau y darperir y gwasanaeth iddi neu iddynt);

(c)bu i'r awdurdod newid ei bolisi ynghylch arfer ei bŵer i godi ffi o dan adran 1;

(d)bu newid arall mewn amgylchiadau sy'n dod o fewn disgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

(e)gwnaed camgymeriad pan wnaed y penderfyniad.

10Darparu gwybodaeth am ffioedd

(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau i ddwyn gwybodaeth am y materion y cyfeirir atynt yn is-adran (2) i sylw personau—

(a)sy'n derbyn gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano; neu

(b)a all fod yn derbyn gwasanaeth o'r fath.

(2)Dyma'r materion—

(a)y gwasanaethau y gosodir ffioedd ynglŷn â hwy a'r gwasanaethau na osodir ffioedd ynglŷn â hwy;

(b)y ffioedd safonol a osodir ar gyfer gwahanol fathau o wasanaeth (am ystyr “ffi safonol”, gweler adran 7(4)); ac

(c)gweithrediad adrannau 4 i 9.

(3)Rhaid i'r trefniadau—

(a)darparu ar gyfer rhoi gwybodaeth mewn ystod o fformatau hygyrch (gan gynnwys yn ysgrifenedig) ynghylch y materion y cyfeirir atynt yn is-adran (2) mewn ymateb i gais a wnaed gan berson y cyfeirir ato yn is-adran (1); a

(b)cael eu llunio fel bod unrhyw wybodaeth yn cael ei rhoi'n ddi-dâl.

(4)Os yw awdurdod lleol wedi gosod (neu newid) ffi o dan adran 1(1), rhaid iddo roi i'r person y gosodir y ffi arno ddatganiad ysgrifenedig, ac mewn unrhyw fformat hygyrch arall y mae'r person yn rhesymol yn gofyn amdano, sy'n gwneud yr hyn a ganlyn—

(a)disgrifio'r gwasanaeth, neu'r cyfuniad o wasanaethau, y mae'r ffi'n ymwneud ag ef neu hwy;

(b)nodi'r ffi safonol am y gwasanaeth, neu'r cyfuniad o wasanaethau, o dan sylw (am ystyr “ffi safonol”, gweler adran 7(4));

(c)os nad y ffi safonol yw'r ffi a osodir yn achos y person hwnnw, yn nodi'r ffi a osodir;

(d)esbonio sut y cyfrifwyd y ffi (gan gynnwys manylion o unrhyw asesiad modd o dan adran 5(1) a sut yr oedd hyn yn effeithio ar y cyfrifo);

(e)disgrifio hawliau'r person i herio'r ffi neu gwyno am y ffi neu eglurder mynegiant y datganiad;

(f)cynnwys unrhyw fater arall y mae rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'w cynnwys yn y datganiad.

(5)Rhaid darparu datganiad o dan yr adran hon—

(a)yn ddi-dâl; a

(b)o fewn un diwrnod ar hugain o'r dyddiad y penderfynwyd gosod (neu newid) y ffi.

11Adolygu penderfyniadau ar godi ffioedd

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer adolygu penderfyniadau a gymerwyd gan awdurdodau lleol o dan y Mesur hwn ac mewn cysylltiad â hwy.

(2)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan is-adran (1) yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) darpariaeth—

(a)sy'n rhoi hawl i unigolyn y mae'n rhaid rhoi datganiad iddo o dan adran 10(4) i ofyn am adolygiad ac sy'n rhoi rhwymedigaeth ar yr awdurdod lleol a roddodd, neu a ddylasai roi, y datganiad i gynnal adolygiad a gweithredu ei ganfyddiadau;

(b)sy'n ymwneud â'r penderfyniadau y mae gan yr unigolyn yr hawl i ofyn am adolygiad ynglŷn â hwy;

(c)sy'n ymwneud â'r camau y mae'n rhaid eu cymryd er mwyn i berson allu arfer yr hawl i ofyn am adolygiad ac erbyn pryd y mae'r camau hynny i'w cymryd;

(d)sy'n ymwneud â phwy a gaiff ofyn am adolygiad ar ran person arall;

(e)sy'n ymwneud â'r weithdrefn sydd i'w dilyn a'r camau sydd i'w cymryd mewn cysylltiad â'r adolygiad, ac yn dilyn yr adolygiad;

(f)sy'n ymwneud â'r math o swyddog neu grwpiau o swyddogion o'r awdurdod lleol sydd i benderfynu ar yr adolygiad;

(g)sydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth benodedig a chymorth penodedig i berson sydd wedi arfer yr hawl i ofyn am adolygiad.

12Taliadau uniongyrchol

(1)Mae'r adran hon yn gymwys pan fo rheoliadau o dan adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 yn darparu ar gyfer gwneud taliadau uniongyrchol gan awdurdod lleol yng Nghymru o ran sicrhau gwasanaethau y caniateir codi ffioedd amdanynt.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth, drwy reoliadau, mewn perthynas â'r taliadau hynny, sy'n cyfateb i'r ddarpariaeth a wneir gan, neu y caniateir ei gwneud o dan, adrannau 1 i 11 o'r Mesur hwn.

(3)At ddibenion is-adran (2), mae darpariaeth yn cyfateb i'r ddarpariaeth a wneir gan neu o dan adrannau 1 i 11 os yw'n gwneud darpariaeth, mewn perthynas ag ad-daliadau neu gyfraniadau, sydd ym marn Gweinidogion Cymru ag effaith gyfatebol i'r ddarpariaeth a wneir gan neu o dan yr adrannau hynny mewn perthynas â ffioedd am wasanaethau a osodir o dan adran 1(1).

(4)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan yr adran hon yn cynnwys (ond nid yw'n gyfyngedig i)—

(a)darpariaeth sy'n caniatáu i awdurdod lleol benderfynu unrhyw swm sydd yn ei farn ef yn rhesymol fel ad-daliad neu gyfraniad;

(b)darpariaeth sy'n rheoli neu'n cyfyngu ar y penderfyniadau y caiff awdurdod lleol eu gwneud ar y symiau hynny;

(c)darpariaeth sy'n pennu categorïau o berson, gwasanaethau y caniateir codi ffioedd amdanynt neu gyfuniadau o wasanaethau y caniateir codi ffioedd amdanynt (neu gategorïau o berson mewn cysylltiad â gwasanaeth penodol neu gyfuniad o wasanaethau penodol) mewn cysylltiad â hwy y mae'n rhaid i'r ad-daliad neu'r cyfraniad fod yn ddim;

(d)darpariaeth bod rhaid i awdurdod lleol sy'n gwneud neu'n cynnig gwneud taliadau uniongyrchol i berson, o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau, wahodd y person i ofyn am asesiad o fodd ariannol y person;

(e)darpariaeth, pan fo'n ofynnol rhoi'r cyfryw wahoddiad i berson, bod rhaid i'r awdurdod lleol beidio â phenderfynu na (mewn achos pan fo rheoliadau o dan yr adran honno yn gosod dyletswydd mewn achos pan fo taliadau uniongyrchol eisoes yn cael eu gwneud) newid yr ad-daliad neu'r cyfraniad oni bai bod gofynion a bennir yn y rheoliadau wedi eu bodloni;

(f)darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, mewn amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau, gynnal asesiad o fodd ariannol person sy'n gofyn am y cyfryw asesiad (gan gynnwys darpariaeth sy'n ymwneud â phwy a gaiff wneud y cyfryw gais ar ran person arall);

(g)darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sydd wedi cynnal y cyfryw asesiad modd—

(i)benderfynu a yw'n rhesymol ymarferol, yn achos y person hwnnw, i'r ad-daliad neu'r cyfraniad fod yr un â'r swm a fyddai'r swm yn absenoldeb penderfyniad a oedd yn ymwneud â gallu'r person i dalu, a

(ii)os yw'r awdurdod yn penderfynu nad yw'n rhesymol ymarferol i'r ad-daliad na'r cyfraniad fod yr un â'r swm hwnnw, benderfynu pa swm (os oes un) sy'n rhesymol ymarferol i'r ad-daliad neu'r cyfraniad fod;

(h)darpariaeth sy'n ymwneud â'r dull y mae'n rhaid i awdurdod lleol gyflawni dyletswydd a osodir o dan baragraff (g), gan gynnwys darpariaeth sy'n rheoli neu'n cyfyngu ar y penderfyniadau sydd i'w gwneud gan yr awdurdod;

(i)darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, wrth wneud penderfyniad sy'n ymwneud ag ad-daliad neu gyfraniad, roi effaith i unrhyw benderfyniad sy'n ymwneud â gallu i dalu a wnaed fel y'i crybwyllir ym mharagraff (g) neu (k);

(j)darparu o ba ddyddiad y mae penderfyniad sy'n ymwneud ag ad-daliad neu gyfraniad i gael effaith (gan gynnwys darparu i benderfyniad gael effaith o ddyddiad cyn y dyddiad pan y'i gwnaed);

(k)darpariaeth sy'n caniatáu i awdurdod lleol, o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau, ddisodli penderfyniad sy'n ymwneud â gallu i dalu â phenderfyniad newydd;

(l)darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i ddwyn i sylw personau sy'n derbyn neu a gaiff dderbyn taliadau uniongyrchol wybodaeth am—

(i)y gwasanaethau mewn cysylltiad â hwy y caniateir gwneud taliadau uniongyrchol yn ddarostyngedig i ad-daliad neu gyfraniad,

(ii)swm yr ad-daliad neu'r cyfraniad mewn cysylltiad â mathau gwahanol o wasanaeth yn absenoldeb penderfyniad sy'n ymwneud â gallu person i dalu, a

(iii)gweithrediad rheoliadau o dan yr adran hon;

(m)darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sydd wedi gwneud penderfyniad sy'n ymwneud ag ad-daliad neu gyfraniad person roi datganiad i'r person hwnnw a'r datganiad hwnnw ar unrhyw ffurf ac yn cynnwys unrhyw faterion a bennir yn y rheoliadau;

(n)darpariaeth mewn cysylltiad ag ac ar gyfer adolygu penderfyniadau a gymerir gan awdurdodau lleol o dan reoliadau o dan yr adran hon.

(5)Yn yr adran hon—

  • ystyr “ad-daliad” yw swm a benderfynir fel ad-daliad fel y'i crybwyllir yn adran 57(4)(b) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001;

  • ystyr “cyfraniad” yw swm a benderfynir fel cyfraniad fel y'i crybwyllir yn adran 57(5)(a) o'r Ddeddf honno.

13Gwasanaethau y caniateir codi ffioedd amdanynt

(1)At ddibenion y Mesur hwn, mae gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano yn wasanaeth sy'n dod o fewn is-adran (2).

(2)Dyma'r gwasanaethau—

(a)gwasanaeth a ddarperir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (p. 29) (trefniadau lles ar gyfer personau dall, byddar, mud ac efrydd etc) oni bai bod y gwasanaeth yn un y caniateir ei gwneud yn ofynnol codi tâl amdano o dan adran 22 neu 26 o'r Ddeddf honno;

(b)gwasanaeth a ddarperir o dan adran 45(1) o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 (p. 46) (lles hen bobl);

(c)gwasanaeth a ddarperir o dan atodlen 15 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) (gofal am famau a phlant ifanc, atal salwch a gofal ac ôl-ofal a chymorth yn y cartref a chyfleusterau golchi dillad);

(d)gwasanaeth a ddarperir o dan paragraff 1 o Ran II o Atodlen 9 i Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 (p. 41) (prydau ac adloniant ar gyfer hen bobl) oni bai bod y gwasanaeth yn un y gall fod taliad yn ofynnol amdano o dan adran 22 neu 26 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948;

(e)gwasanaeth a ddarperir o dan adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (p. 16) (gwasanaethau ar gyfer gofalwyr) oni bai i'r gwasanaeth gael ei ddarparu ar ffurf gofal preswyl.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio drwy orchymyn is-adran (2) er mwyn ychwanegu gwasanaeth o unrhyw ddisgrifiad neu ddiwygio neu ddileu'r disgrifiad o wasanaeth sydd wedi ei gynnwys yno am y tro.

14Diwygio Deddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983

(1)Diwygier adran 17 o Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 (p. 41) fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1) ar ôl “authority” mewnosoder “in England”.

(3)Yn is-adran (2)(c) hepgorer “or Schedule 15 to the National Health Service (Wales) Act 2006”.

(4)Ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Subject to subsection (3) below, an authority in Wales providing a service under section 2 of the Carers and Disabled Children Act 2000 in the form of residential care may recover such charge (if any) for it as they consider reasonable..

15Diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970

(1)Diwygier Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 (p. 42) fel a ganlyn.

(2)Ar ddiwedd y tabl yn Atodlen 1 i'r Ddeddf mewnosoder—

Social Care Charges (Wales) Measure 2010
Sections 1, 2 and 4 to 12Charges for local authority welfare services.

16Diwygio Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001

(1)Diwygier adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15) (taliadau uniongyrchol) fel a ganlyn.

(2)Ar ôl is-adran (7A) mewnosoder—

(7B)Section 12 of the Social Care Charges (Wales) Measure 2010 makes further provision for and in connection with the determination of amounts by way of reimbursement as mentioned in subsection (4)(b) or contribution as mentioned in subsection (5)(a) in respect of chargeable services within the meaning of that Measure..

17Gorchmynion a rheoliadau

(1)Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Caiff unrhyw orchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn—

(a)gwneud darpariaeth wahanol at achosion a dibenion gwahanol; a

(b)gwneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed ag y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn wneud y cyfryw ddarpariaeth ag y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion cyffredinol, neu at unrhyw ddibenion penodol, y Mesur hwn, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Mesur hwn neu er mwyn rhoi effaith lawn iddi.

(4)Caiff gorchymyn o dan is-adran (3) ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddarpariaeth—

(a)mewn unrhyw Ddeddf Seneddol neu Ddeddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys y Mesur hwn); a

(b)mewn is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr Deddf Dehongli 1978 (p. 30)).

(5)Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i'w ddirymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Mae offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn sy'n cynnwys darpariaeth (unigol neu ynghyd â darpariaeth arall) a grybwyllir yn is-adran (4)(b) yn ddarostyngedig i'w ddirymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Ond nid yw hyn yn gymwys os yw'r gorchymyn hefyd yn cynnwys darpariaeth a grybwyllir yn is-adran (4)(a).

(7)Rhaid peidio â gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys (yn unigol neu ynghyd â darpariaeth arall)—

(a)gorchymyn o dan adran 13(3), neu

(b)gorchymyn o dan is-adran (3) gan gynnwys darpariaeth a grybwyllir yn is-adran (4)(a),

oni chafodd drafft o'r offeryn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac oni chafodd ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

18Cychwyn a dehongli

(1)Yn y Mesur hwn ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.

(2)Mae'r darpariaethau'r adran hon ac adrannau 17 a 19 yn dod i rym ar ddiwedd cyfnod o ddau fis sy'n dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.

(3)Mae gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i ddod i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

(4) Caiff gorchymyn o dan is-adran (3) ddarparu i ddarpariaethau'r Mesur ddod i rym ar ddiwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

19Enw byr

Enw'r Mesur hwn yw Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Dangos Nodiadau Eglurhaol ar gyfer Adrannau: Yn arddangos rhannau perthnasol o’r nodiadau esboniadol wedi eu cydblethu â chynnwys y ddeddfwriaeth.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cynulliad Cymru oedd yn gyfrifol am destun y Mesur i esbonio beth mae’r Mesur yn ceisio ei wneud ac i wneud y Mesur yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill