Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

36Gweithdrefnau ar gyfer cymryd camau penodol

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru'n bwriadu cymryd unrhyw un neu unrhyw rai o'r camau canlynol o dan y Rhan hon—

(a)gwrthod cais i gofrestru;

(b)gosod amod newydd ar gofrestriad person;

(c)amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod a osodwyd ar gofrestriad person;

(d)gwrthod caniatáu cais i amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod o'r fath;

(e)diddymu cofrestriad person.

(2)Nid yw'r adran hon yn gymwys i gam a gymerir o dan adran 34 neu 35.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru roi i'r ceisydd i gofrestru neu (yn ôl y digwydd) y person cofrestredig hysbysiad o'u bwriad i gymryd y cam o dan sylw.

(4)Rhaid i'r hysbysiad—

(a)rhoi rhesymau Gweinidogion Cymru dros y bwriad i gymryd y cam, a

(b)hysbysu'r person o dan sylw o hawliau'r person hwnnw o dan yr adran hon.

(5)Ni chaiff Gweinidogion Cymru gymryd y cam tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau gyda'r diwrnod y maent yn rhoi'r hysbysiad o dan is-adran (3) oni fydd y ceisydd i gofrestru neu (yn ôl y digwydd) y person cofrestredig yn hysbysu Gweinidogion Cymru ei fod yn dymuno gwrthwynebu bod y cam yn cael ei gymryd.

(6)Os bydd derbynnydd hysbysiad o dan is-adran (3) (“y derbynnydd”) yn hysbysu Gweinidogion Cymru fod y derbynnydd yn dymuno gwrthwynebu bod y cam yn cael ei gymryd, rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfle i'r derbynnydd wrthwynebu cyn iddynt gymryd y cam.

(7)Caniateir i wrthwynebiad o dan is-adran (5) gael ei wneud ar lafar neu'n ysgrifenedig ac yn y naill achos neu'r llall caniateir iddo gael ei wneud gan y derbynnydd neu gan gynrychiolydd y derbynnydd.

(8)Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu cymryd y cam, rhaid iddynt hysbysu'r derbynnydd o'u penderfyniad (p'un a wnaeth y derbynnydd hysbysu Gweinidogion Cymru fod y derbynnydd yn dymuno gwrthwynebu bod y cam yn cael ei gymryd ai peidio).

(9)Nid yw cymryd cam a grybwyllir ym mharagraff (b), (c) neu (e) o is-adran (1) yn cael effaith—

(a)nes bod y cyfnod y ceir apelio ynddo o dan adran 37 wedi dod i ben, neu

(b)os cyflwynir y cyfryw apêl, hyd at yr amser pan benderfynir yr apêl (a phan gadarnheir bod caniatâd i gymryd y cam).

(10)Nid yw is-adran (9) yn rhwystro'r cyfryw gam rhag cael effaith cyn i'r cyfnod y caniateir apelio ynddo ddod i ben os yw'r person o dan sylw yn hysbysu Gweinidogion Cymru nad yw'r person yn bwriadu apelio.

(11)Os yw Gweinidogion Cymru'n hysbysu ceisydd i gofrestru o dan y Rhan hon eu bod yn bwriadu gwrthod y cais, ni chaniateir tynnu'r cais yn ôl heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.

(12)Yn yr adran hon ac yn adran 37, ystyr “amod newydd” yw amod a osodir ar adeg heblaw adeg cofrestriad y person.