xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2GWARCHOD PLANT A GOFAL DYDD I BLANT

Diogelwch gweithdrefnol

36Gweithdrefnau ar gyfer cymryd camau penodol

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru'n bwriadu cymryd unrhyw un neu unrhyw rai o'r camau canlynol o dan y Rhan hon—

(a)gwrthod cais i gofrestru;

(b)gosod amod newydd ar gofrestriad person;

(c)amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod a osodwyd ar gofrestriad person;

(d)gwrthod caniatáu cais i amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod o'r fath;

(e)diddymu cofrestriad person.

(2)Nid yw'r adran hon yn gymwys i gam a gymerir o dan adran 34 neu 35.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru roi i'r ceisydd i gofrestru neu (yn ôl y digwydd) y person cofrestredig hysbysiad o'u bwriad i gymryd y cam o dan sylw.

(4)Rhaid i'r hysbysiad—

(a)rhoi rhesymau Gweinidogion Cymru dros y bwriad i gymryd y cam, a

(b)hysbysu'r person o dan sylw o hawliau'r person hwnnw o dan yr adran hon.

(5)Ni chaiff Gweinidogion Cymru gymryd y cam tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau gyda'r diwrnod y maent yn rhoi'r hysbysiad o dan is-adran (3) oni fydd y ceisydd i gofrestru neu (yn ôl y digwydd) y person cofrestredig yn hysbysu Gweinidogion Cymru ei fod yn dymuno gwrthwynebu bod y cam yn cael ei gymryd.

(6)Os bydd derbynnydd hysbysiad o dan is-adran (3) (“y derbynnydd”) yn hysbysu Gweinidogion Cymru fod y derbynnydd yn dymuno gwrthwynebu bod y cam yn cael ei gymryd, rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfle i'r derbynnydd wrthwynebu cyn iddynt gymryd y cam.

(7)Caniateir i wrthwynebiad o dan is-adran (5) gael ei wneud ar lafar neu'n ysgrifenedig ac yn y naill achos neu'r llall caniateir iddo gael ei wneud gan y derbynnydd neu gan gynrychiolydd y derbynnydd.

(8)Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu cymryd y cam, rhaid iddynt hysbysu'r derbynnydd o'u penderfyniad (p'un a wnaeth y derbynnydd hysbysu Gweinidogion Cymru fod y derbynnydd yn dymuno gwrthwynebu bod y cam yn cael ei gymryd ai peidio).

(9)Nid yw cymryd cam a grybwyllir ym mharagraff (b), (c) neu (e) o is-adran (1) yn cael effaith—

(a)nes bod y cyfnod y ceir apelio ynddo o dan adran 37 wedi dod i ben, neu

(b)os cyflwynir y cyfryw apêl, hyd at yr amser pan benderfynir yr apêl (a phan gadarnheir bod caniatâd i gymryd y cam).

(10)Nid yw is-adran (9) yn rhwystro'r cyfryw gam rhag cael effaith cyn i'r cyfnod y caniateir apelio ynddo ddod i ben os yw'r person o dan sylw yn hysbysu Gweinidogion Cymru nad yw'r person yn bwriadu apelio.

(11)Os yw Gweinidogion Cymru'n hysbysu ceisydd i gofrestru o dan y Rhan hon eu bod yn bwriadu gwrthod y cais, ni chaniateir tynnu'r cais yn ôl heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.

(12)Yn yr adran hon ac yn adran 37, ystyr “amod newydd” yw amod a osodir ar adeg heblaw adeg cofrestriad y person.

37Apelau

(1)Caiff ceisydd i gofrestru neu (yn ôl y digwydd) berson cofrestredig apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn unrhyw un neu unrhyw rai o'r camau canlynol gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon—

(a)gwrthod cais i gofrestru;

(b)gosod amod newydd wrth gofrestru;

(c)amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod a osodwyd wrth gofrestru;

(d)gwrthod cais i amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod o'r fath;

(e)diddymu cofrestriad.

(2)Caiff y personau canlynol hefyd apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf—

(a)ceisydd i gofrestru neu (yn ôl y digwydd) berson cofrestredig ynglŷn â phenderfyniad a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon o ddisgrifiad a ragnodwyd;

(b)person cofrestredig y gwnaed gorchymyn yn ei erbyn o dan adran 34;

(c)person cofrestredig y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 35.

(3)Pan fo apêl, rhaid i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf—

(a)naill ai gadarnhau bod y cam yn cael ei gymryd, bod y penderfyniad arall yn cael ei wneud, bod y gorchymyn yn cael ei wneud, neu bod yr hysbysiad yn cael ei roi (yn ôl y digwydd), neu

(b)cyfarwyddo nad yw'n cael effaith neu ei fod yn peidio â chael effaith.

(4)Oni fydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf wedi cadarnhau bod cymryd cam a grybwyllir yn is-adran (1)(a) neu (e) neu wneud gorchymyn o dan adran 34 yn diddymu cofrestriad person, caiff y Tribiwnlys hefyd wneud y naill neu'r llall o'r canlynol neu wneud y ddau ohonynt—

(a)gosod amodau ar gofrestriad y person o dan sylw;

(b)amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod a osodwyd cyn hynny ar gofrestriad y person.