xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CAPELAU A HAWLIADAU ADDYSG GAN BLANT

TreialuLL+C

17Treialu hawliau plentyn i apelio neu i wneud hawliadLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu ar gyfer treialu darpariaethau Deddf Addysg 1996 (p. 56) a Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd [F1Deddf Cydraddoldeb 2010 (p.15)] fel y'u diwygir gan y Rhan hon am gyfnod a bennir yn y rheoliadau o hyd at 40 o fisoedd (“y cyfnod treialu”).

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddarparu (ymhlith eraill)—

(a)mai dim ond i blant y mae awdurdodau lleol penodedig yn gyfrifol amdanynt y mae hawliau plentyn a roddir gan ddiwygiadau a wneir i Ddeddf Addysg 1996 gan y Rhan hon yn gymwys;

(b)mai dim ond i awdurdodau lleol penodedig y mae unrhyw ddyletswydd a osodir ar awdurdod lleol gan ddiwygiadau a wneir i Ddeddf Addysg 1996 gan y Rhan hon yn gymwys;

(c)mai dim ond i gorff sy'n gyfrifol am ysgol mewn ardaloedd penodedig y mae hawliau person a roddir gan ddiwygiadau a wneir i [F2Ddeddf Cydraddoldeb 2010] gan y Rhan hon yn gymwys;

(d)mai dim ond i awdurdodau lleol penodedig y mae unrhyw ddyletswydd a osodir ar awdurdod lleol gan ddiwygiadau a wneir i [F3Ddeddf Cydraddoldeb 2010] gan y Rhan hon yn gymwys;

(e)bod adroddiadau neu wybodaeth arall ar weithredu darpariaethau a dreialwyd yn cael eu darparu neu ei darparu ar gyfer Gweinidogion Cymru gan Dribiwnlys Cymru, awdurdodau lleol a bennir o dan baragraffau (a), (b) neu (d) neu gyrff sy'n gyfrifol am ysgolion mewn ardaloedd a bennir o dan baragraff (c).

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi adroddiad ynghylch sut y rhoddwyd y darpariaethau a dreialwyd ar waith a pha mor effeithiol oeddynt o ran hyrwyddo llesiant plant, a

(b)gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Caniateir i adroddiad o dan is-adran (3) gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn diwedd y cyfnod treialu; ond ni chaniateir iddo gael ei osod ar ddyddiad lai na 12 mis ar ôl dechrau'r cyfnod treialu.

(5)Rhaid i adroddiad o dan is-adran (3) gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru heb fod yn hwyrach na 30 o fisoedd ar ôl i reoliadau o dan yr adran hon ddod i rym.