xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CAPELAU A HAWLIADAU ADDYSG GAN BLANT

TreialuLL+C

17Treialu hawliau plentyn i apelio neu i wneud hawliadLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu ar gyfer treialu darpariaethau Deddf Addysg 1996 (p. 56) a Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd [F1Deddf Cydraddoldeb 2010 (p.15)] fel y'u diwygir gan y Rhan hon am gyfnod a bennir yn y rheoliadau o hyd at 40 o fisoedd (“y cyfnod treialu”).

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddarparu (ymhlith eraill)—

(a)mai dim ond i blant y mae awdurdodau lleol penodedig yn gyfrifol amdanynt y mae hawliau plentyn a roddir gan ddiwygiadau a wneir i Ddeddf Addysg 1996 gan y Rhan hon yn gymwys;

(b)mai dim ond i awdurdodau lleol penodedig y mae unrhyw ddyletswydd a osodir ar awdurdod lleol gan ddiwygiadau a wneir i Ddeddf Addysg 1996 gan y Rhan hon yn gymwys;

(c)mai dim ond i gorff sy'n gyfrifol am ysgol mewn ardaloedd penodedig y mae hawliau person a roddir gan ddiwygiadau a wneir i [F2Ddeddf Cydraddoldeb 2010] gan y Rhan hon yn gymwys;

(d)mai dim ond i awdurdodau lleol penodedig y mae unrhyw ddyletswydd a osodir ar awdurdod lleol gan ddiwygiadau a wneir i [F3Ddeddf Cydraddoldeb 2010] gan y Rhan hon yn gymwys;

(e)bod adroddiadau neu wybodaeth arall ar weithredu darpariaethau a dreialwyd yn cael eu darparu neu ei darparu ar gyfer Gweinidogion Cymru gan Dribiwnlys Cymru, awdurdodau lleol a bennir o dan baragraffau (a), (b) neu (d) neu gyrff sy'n gyfrifol am ysgolion mewn ardaloedd a bennir o dan baragraff (c).

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi adroddiad ynghylch sut y rhoddwyd y darpariaethau a dreialwyd ar waith a pha mor effeithiol oeddynt o ran hyrwyddo llesiant plant, a

(b)gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Caniateir i adroddiad o dan is-adran (3) gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn diwedd y cyfnod treialu; ond ni chaniateir iddo gael ei osod ar ddyddiad lai na 12 mis ar ôl dechrau'r cyfnod treialu.

(5)Rhaid i adroddiad o dan is-adran (3) gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru heb fod yn hwyrach na 30 o fisoedd ar ôl i reoliadau o dan yr adran hon ddod i rym.

18Pŵer i wneud darpariaeth ynghylch apelau a hawliadau gan blentynLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud darpariaeth ynghylch—

(a)hawliau plentyn i apelio i Dribiwnlys Cymru mewn cysylltiad â materion y mae gan riant hawl i apelio mewn perthynas â hwy o dan Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996;

(b)hawl person i wneud hawliad i Dribiwnlys Cymru mewn cysylltiad â materion y mae gan riant i'r person hwnnw hawl i wneud hawliad mewn perthynas â hwy o dan [F4baragraff 3 o Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010];

(c)unrhyw fater sy'n gysylltiedig â'r cyfryw hawliau;

(d)darparu cyngor a gwybodaeth i blant ynghylch materion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig;

(e)darparu cyngor a gwybodaeth i blant anabl ynghylch materion sy'n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion;

(f)gwasanaethau eirioli ynghylch anghenion addysgol arbennig neu wahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion;

(g)trefniadau gyda'r bwriad o osgoi neu ddatrys anghytundebau rhwng—

(i)[F5awdurdod lleol] (ar y naill law) a phlentyn (ar y llaw arall) ynghylch arfer gan awdurdodau swyddogaethau o dan Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996;

(ii)perchennog ysgol berthnasol (ar y naill law) a phlentyn (ar y llaw arall) ynghylch darpariaeth addysgol arbennig (o fewn ystyr “special educational provision” yn adran 312(4) o Ddeddf Addysg 1996);

(iii)corff sy'n gyfrifol am ysgol (ar y naill law) a phlentyn anabl (ar y llaw arall) ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd.

(2)Mae'r pŵer i wneud gorchymyn o dan is-adran (1) yn cynnwys pŵer—

(a)i ychwanegu, i ddileu neu i addasu hawliau;

(b)i ddiwygio neu ddiddymu un neu fwy o ddarpariaethau Rhan 4 o Ddeddf Addysg 1996;

(c)i ddiwygio neu ddiddymu un neu fwy o ddarpariaethau [F6Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac Atodlen 17 i'r Ddeddf honno];

(d)i wneud diwygiadau canlyniadol a diddymiadau i ddarpariaethau yn y Deddfau hynny.

(3)Ni chaniateir arfer y pŵer i wneud gorchymyn o dan yr adran hon—

(a)cyn i adroddiad gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 17(3), neu

(b)ar ôl cyfnod o 24 o fisoedd yn cychwyn ar ddiwrnod olaf y cyfnod treialu a bennir mewn rheoliadau o dan adran 17(1).

19Dehongli adrannau 17 ac 18LL+C

(1)Yn adrannau 17 ac 18—

(2)At ddibenion adran 17(2)(c) ac 18(1)(g)(iii), penderfynir ar y corff sy'n gyfrifol am ysgol yn unol [F9ag adran 85(9) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010].

(3)Mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn at ddibenion adran 17(2)(a) os yw'r plentyn yn ei ardal—

(a)a bod y plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir,

(b)a bod addysg yn cael ei darparu ar gyfer y plentyn mewn ysgol nad yw'n ysgol a gynhelir neu'n ysgol feithrin a gynhelir, ond ei bod yn cael ei darparu felly ar gost yr awdurdod,

(c)ac nad yw'r plentyn yn dod o fewn (a) neu (b), ond bod y plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a'i fod wedi ei ddwyn i sylw'r awdurdod am fod ganddo (neu am ei bod yn debygol bod ganddo) anghenion addysgol arbennig, neu

(d)ac nad yw'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol, ond nad yw o dan ddwyflwydd oed neu dros oedran ysgol gorfodol a'i fod wedi ei ddwyn i sylw'r awdurdod am fod ganddo (neu am ei bod yn debygol bod ganddo) anghenion addysgol arbennig.