Nodiadau Esboniadol i Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 Nodiadau Esboniadol

Adran 10: Gorchmynion a rheoliadau

13.Mae’r adran hon yn cynnwys y manylion arferol ynghylch pŵer Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth. Byddai hwnnw’n dod o dan y weithdrefn negyddol yn y Cynulliad Cenedlaethol, gydag un eithriad. Yn unol â’r arfer cyffredin, fyddai dim gweithdrefn mewn perthynas â gorchmynion cychwyn a fyddai’n cael eu gwneud o dan adran 12(3).

Back to top