Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009

5Ymgynghori ynghylch y ddyletswydd gyffredinol a'r amcanion gwellaLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Er mwyn penderfynu sut i gyflawni'r dyletswyddau o dan adran 2(1) a 3(1), rhaid i awdurdod gwella Cymreig ymgynghori â'r canlynol—

(a)cynrychiolwyr personau sy'n preswylio yn ardal yr awdurdod;

(b)cynrychiolwyr personau sy'n atebol i dalu ardrethi annomestig mewn cysylltiad ag unrhyw ardal y mae'r awdurdod yn cyflawni swyddogaethau ynddi;

(c)cynrychiolwyr personau sy'n defnyddio neu sy'n debyg o ddefnyddio gwasanaethau a ddarperir gan yr awdurdod; a

(d)cynrychiolwyr personau y mae'n ymddangos i'r awdurdod bod ganddynt ddiddordeb mewn unrhyw ardal y mae'r awdurdod yn cyflawni swyddogaethau ynddi.

(2)At ddibenion is-adran (1) ystyr “cynrychiolwyr”, mewn perthynas â grwp o bersonau, yw personau y mae'n ymddangos i'r awdurdod eu bod yn cynrychioli'r grwp hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 5 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)

I2A. 5 mewn grym ar 17.7.2009 gan O.S. 2009/1796, ergl. 2(d)