xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3CYFFREDINOL

48Canllawiau

(1)Mae'r adran hon yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwn.

(2)O ran Gweinidogion Cymru—

(a)cânt ddyroddi canllawiau o dan Ran 1 i awdurdodau gwella Cymreig yn gyffredinol neu mewn cysylltiad â hwy neu mewn cysylltiad ag un neu fwy o awdurdodau penodol;

(b)cânt ddyroddi canllawiau o dan Ran 2 i awdurdodau lleol a phartneriaid cynllunio cymunedol yn gyffredinol neu mewn cysylltiad â hwy neu mewn cysylltiad ag un neu fwy o awdurdodau neu bartneriaid penodol;

(c)cânt ddyroddi canllawiau gwahanol i wahanol awdurdodau gwella Cymreig, awdurdodau lleol neu bartneriaid cynllunio cymunedol neu mewn cysylltiad â hwy;

(d)rhaid iddynt, cyn dyroddi canllawiau, ymgynghori â'r awdurdodau neu'r partneriaid o dan sylw neu bersonau y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli'r awdurdodau neu'r partneriaid hynny; ac

(e)rhaid iddynt drefnu i ganllawiau gael eu cyhoeddi.

49Cyfarwyddiadau

O ran unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwn—

(a)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd diweddarach; a

(b)rhaid iddo gael ei roi mewn ysgrifen.

50Gorchmynion a rheoliadau

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol achosion, ardaloedd, awdurdodau a disgrifiadau o awdurdod;

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;

(c)i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, canlyniadol, byrhoedlog, trosiannol neu'r cyfryw ddarpariaeth arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.

(3)Mae offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn o dan adran 8(1), 15(3), (5) neu (7), 19(3)(b) neu 51(4) neu reoliadau o dan adran 29(7) yn ddarostyngedig i ddiddymiad yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Er hynny, ni fydd is-adran (3) yn gymwys os bydd offeryn hefyd yn cynnwys darpariaethau a wnaed o dan y pwerau a grybwyllir yn is-adran (5).

(5)Ni chaniateir i offeryn statudol gael ei wneud sy'n cynnwys (wrth ei hun neu ynghyd â darpariaethau eraill)—

(a)gorchymyn o dan adran 7(1),

(b)gorchymyn o dan adran 16(3),

(c)gorchymyn o dan adran 38(2), neu

(d)gorchymyn o dan adran 51(4) sy'n cynnwys darpariaeth a grybwyllir o dan is-adran (5)(b)(i) o'r adran honno,

onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

(6)Yn ddarostyngedig i is-adran (7), ni chaniateir i offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn o dan adran 31 gael ei wneud onid oes drafft o'r gorchymyn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

(7)Mae gorchymyn o dan adran 31 sydd wedi'i wneud yn unswydd i ddiwygio gorchymyn cynharach o dan yr adran honno—

(a)er mwyn estyn y gorchymyn cynharach, neu unrhyw ddarpariaeth yn y gorchymyn cynharach, i rychwantu awdurdod penodol neu awdurdodau o ddisgrifiad penodol;

(b)er mwyn i'r gorchymyn cynharach, neu unrhyw ddarpariaeth yn y gorchymyn cynharach, beidio â bod yn gymwys mwyach i awdurdod penodol neu i awdurdodau o ddisgrifiad penodol,

yn ddarostyngedig i ddiddymiad yn unol â phenderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

51Diwygiadau canlyniadol etc a darpariaeth drosiannol a darpariaeth arbed

(1)Mae Atodlen 1 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol ar gyfer Rhan 1 o'r Mesur hwn.

(2)Mae Atodlen 2 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol ar gyfer Rhan 2 o'r Mesur hwn.

(3)Mae Atodlen 3 yn cynnwys darpariaeth drosiannol ac arbedion ar gyfer Rhannau 1 a 2 o'r Mesur hwn.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw ddarpariaeth drwy orchymyn y bydd Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn briodol at ddibenion cyffredinol, neu unrhyw ddibenion penodol, y Mesur hwn, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir drwy'r Mesur hwn, neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth o'r fath.

(5)Caiff gorchymyn o dan is-adran (4) wneud y canlynol yn benodol—

(a)darparu bod unrhyw ddiwygiad neu unrhyw ddarpariaeth arall a wneir drwy'r Mesur hwn ac sy'n dod i rym cyn y bydd unrhyw ddarpariaeth arall wedi dod i rym yn cael effaith, hyd nes y bydd y ddarpariaeth arall honno wedi dod i rym, gydag addasiadau penodedig, a

(b)diwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddarpariaeth mewn—

(i)unrhyw Ddeddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys y Mesur hwn); a

(ii)is-ddeddfwriaeth.

(6)Mae'r diwygiadau y caniateir eu gwneud yn rhinwedd is-adran (5)(b) yn ychwanegol at y rhai a wneir neu y caniateir eu gwneud o dan unrhyw un o ddarpariaethau eraill y Mesur hwn.

(7)Yn yr adran hon mae i “is-ddeddfwriaeth” yr un ystyr â “subordinate legislation” yn Neddf Ddehongli 1978 (p. 30).

52Diddymiadau

Mae Atodlen 4 yn cynnwys diddymiadau.

53Cychwyn

(1)Daw adrannau 48 i 50, 51(4) i (7), 54 a'r adran hon i rym ar y diwrnod y caiff y Mesur hwn ei gymeradwyo gan ei Mawrhydi yn Ei Chyngor.

(2)Daw darpariaethau eraill y Mesur hwn i rym ar y diwrnod y bydd Gweinidogion Cymru yn ei bennu drwy orchymyn.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2) bennu gwahanol ddiwrnodau at wahanol ddibenion.

54Enw byr

Enw'r Mesur hwn yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.