Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

Cyhoeddusrwydd am osod cosbau sifilLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

[F116(1)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth sy'n galluogi awdurdod gorfodi i roi hysbysiad cyhoeddusrwydd i berson y gosodwyd cosb sifil arno yn unol â rheoliadau o dan yr Atodlen hon.

(2)Mae “hysbysiad cyhoeddusrwydd” yn hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person roi cyhoeddusrwydd—

(a)i'r ffaith bod y gosb sifil wedi ei gosod, a

(b)i unrhyw wybodaeth arall a bennir yn y rheoliadau,

mewn unrhyw ffordd a bennir yn yr hysbysiad.

(3)Caiff y rheoliadau ddarparu i hysbysiad cyhoeddusrwydd—

(a)pennu amser i gydymffurfio â'r hysbysiad, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i'r person y rhoddir ef iddo roi tystiolaeth i'r awdurdod gorfodi ei fod wedi cydymffurfio erbyn yr amser a bennir yn yr hysbysiad.

(4)Caiff y rheoliadau ddarparu, os bydd person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio, bod awdurdod gorfodi yn cael—

(a)rhoi cyhoeddusrwydd i'r wybodaeth y mae'n ofynnol rhoi cyhoeddusrwydd iddi gan yr hysbysiad, a

(b)adennill costau gwneud hynny oddi wrth y person hwnnw.]

Diwygiadau Testunol