Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

Cyfuno cosbauLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

[F112Ni chaniateir gwneud darpariaeth o dan y paragraffau a bennir mewn cofnod yng ngholofn 1 o'r tabl a ganlyn mewn perthynas â'r un math o doriad o reolau diogelwch oni bai bod yr amodau cyntaf a'r ail amodau a roddir yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofnau 2 a 3 yn cael eu bodloni.

TABL

Colofn 1Colofn 2Colofn3
Paragraffau o'r Atodlen honYr Amod CyntafYr Ail Amod
Paragraffau 2 a 4Rhaid i'r ddarpariaeth sicrhau na chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o fwriad y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i berson mewn perthynas â thoriad pan fo gofyniad yn ôl disgresiwn wedi ei osod ar y person hwnnw mewn perthynas â'r un toriad.

Rhaid i'r ddarpariaeth sicrhau na chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o fwriad y cyfeirir ato ym mharagraff 5(1)(a) i berson mewn perthynas â thoriad pan fo—

(a)

cosb ariannol benodedig wedi ei gosod ar y person hwnnw mewn perthynas â'r un toriad, neu

(b)

y person wedi ei ryddhau ei hun o'i atebolrwydd i dalu cosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r toriad yn unol â pharagraff 3 (1)(b).

Paragraffau 2 a 7Rhaid i'r ddarpariaeth sicrhau na chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o fwriad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 3(1)(a) i berson mewn perthynas â thoriad pan fo hysbysiad stop wedi ei gyflwyno mewn perthynas â'r un toriad.

Rhaid i'r ddarpariaeth sicrhau na chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad stop i berson mewn perthynas â thoriad pan fo—

(a)

cosb ariannol benodedig wedi ei gosod ar y person hwnnw mewn perthynas â'r un toriad, neu

(b)

y person wedi ei ryddhau ei hun o'i atebolrwydd i dalu cosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r toriad yn unol â pharagraff 3 (1)(b).

Paragraffau 4 a 7Rhaid i'r ddarpariaeth sicrhau na chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o fwriad y cyfeirir ato ym mharagraff 5(1)(a) i berson mewn perthynas â thoriad pan fo hysbysiad stop wedi ei gyflwyno mewn perthynas â'r un toriad.Rhaid i'r ddarpariaeth sicrhau na chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad stop i berson mewn perthynas â thoriad pan fo gofyniad yn ôl disgresiwn wedi ei osod ar y person hwnnw mewn perthynas â'r un toriad.]

Diwygiadau Testunol