Nid yw’r Deyrnas Unedig yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd bellach. Mae deddfwriaeth yr UE fel yr oedd yn berthnasol i’r Deyrnas Unedig ar 31 Rhagfyr 2020 yn awr yn rhan o ddeddfwriaeth ddomestig y Deyrnas Unedig, dan reolaeth Seneddau a Chynulliadau’r Deyrnas Unedig, ac mae wedi ei chyhoeddi ar legislation.gov.uk. Mae’n cael ei chadw yn gyfredol ar legislation.gov.uk yn yr un ffordd â ffurfiau eraill o ddeddfwriaeth ddomestig. Bydd y wybodaeth isod yn eich helpu i ddeall beth yr ydym yn ei gyhoeddi, a sut i ddod o hyd i’r ddeddfwriaeth y mae arnoch ei hangen.
Mae’r ddeddfwriaeth sy’n deillio o’r UE ac a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau, o fasnach i deithio. Gall newidiadau i’r cyfreithiau yma effeithio ar eich busnes, eich teulu, neu eich amgylchiadau personol. Os ydych yn chwilio am gyfarwyddyd y llywodraeth ar beth sydd angen i chi ei wneud i addasu i Ymadael â’r UE dylech fynd i gov.uk/transition.
Deddfwriaeth yn deillio o’r Undeb Ewropeaidd
Mae rhai mathau o ddeddfwriaeth yr UE fel Rheoliadau a Phenderfyniadau, yn berthnasol yn uniongyrchol fel cyfraith mewn Aelod Wladwriaeth o’r UE. Roedd hyn yn golygu, fel Aelod Wladwriaeth, bod y mathau hyn o ddeddfwriaeth yn berthnasol yn awtomatig yn y Deyrnas Unedig, dan adran 2(1) Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (c.68), heb fod angen i’r Deyrnas Unedig gymryd unrhyw gamau pellach. Cyhoeddir y mathau hyn o ddeddfwriaeth gan Swyddfa Gyhoeddiadau’r Undeb Ewropeaidd ar y wefan EUR-Lex. Rydym wedi casglu’r ddeddfwriaeth yma o EUR-Lex a'i chyhoeddi ar legislation.gov.uk fel ‘deddfwriaeth yn deillio o’r UE’.
Mae mathau eraill o ddeddfwriaeth yr UE, fel Cyfarwyddebau, yn berthnasol yn anuniongyrchol, sy’n golygu bod angen i Aelod Wladwriaeth wneud deddfwriaeth ddomestig i’w gweithredu cyn iddi ddod yn gyfraith yn y Wladwriaeth honno. Yn y Deyrnas Unedig roedd hyn yn cael ei gyflawni yn aml trwy lunio Offerynnau Statudol yn hytrach na phasio deddfwriaeth sylfaenol. Er enghraifft, fe wnaeth Rheoliadau Ail-ddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus 2015 (Rhif 1415) weithredu Cyfarwyddeb yr UE ar ail-ddefnyddio gwybodaeth y sector cyhoeddus (Cyfarwyddeb (EC) Rhif 2003/98). Mae’r ddeddfwriaeth i’w gweithredu wedi cael ei chyhoeddi ar legislation.gov.uk bob amser.
Trefniadau Gadael yr UE
Roedd y Cytundeb Ymadael rhwng y Deyrnas Unedig a’r UE yn nodi’r trefniadau i’r Deyrnas Unedig ymadael o’r UE am 11.00 p.m. ar 31 Ionawr 2020 (“diwrnod ymadael”), oedd yn cynnwys cyfnod trosglwyddo neu weithredu, pan oedd cyfraith yr UE yn dal yn berthnasol yn y Deyrnas Unedig. Daeth y cyfnod gweithredu, a ddaeth i rym yng nghyfraith y Deyrnas Unedig trwy adran 1 Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) 2020 (c. 1), i ben am 11.00 p.m. ar 31 Rhagfyr 2020 (“diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu"), fel y nodir yn adran 39 Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) 2020 (c. 1).
Mae deddfwriaeth yr UE oedd yn berthnasol yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol i’r Deyrnas Unedig cyn 11.00 p.m. ar 31 Rhagfyr 2020 wedi cael ei gadw yng nghyfraith y Deyrnas Unedig fel ffurf ar ddeddfwriaeth ddomestig a elwir yn ‘ddeddfwriaeth UE a gadwyd’. Nodir hyn yn adrannau 2 a 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (c. 16). Mae Adran 4 Deddf 2018 yn sicrhau y bydd unrhyw hawliau ac ymrwymiadau UE sy’n parhau, gan gynnwys hawliau sy’n effeithiol yn uniongyrchol mewn cytundebau UE, yn parhau i gael eu cydnabod ac ar gael yn y gyfraith ddomestig ar ôl ymadael.
Mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020 (c. 29) yn gweithredu’r trefniadau ar gyfer y berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a’r UE ar ôl y cyfnod gweithredu, fel y cytunwyd ar 24 Rhagfyr 2020. Mae’r trefniadau hyn yn cynnwys y Cytundeb Masnach a Chydweithredu, y Cytundeb Ar Gydweithredu Niwclear a’r Cytundeb ar Weithdrefnau Diogelwch i Gyfnewid a Diogelu Gwybodaeth Gyfrinachol. Mae’r Ddeddf yn darparu ar gyfer gweithredu’r rhain, ac unrhyw gytundebau ategol yn y gyfraith ddomestig. Mae hefyd yn darparu ar gyfer dehongli cyfreithiau domestig yng ngoleuni’r cytundebau hyn.
Mae Atodlen 5 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (c.16) yn ei gwneud yn ofynnol i ni gyhoeddi deddfwriaeth yr UE, gan gynnwys cytundebau a chytuniadau, a gyhoeddwyd gan yr UE hyd at 11.00 p.m. ar 31 Rhagfyr 2020, corff o ddeddfwriaeth y mae deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a gadwyd yn rhan ohono.
Mae’r cyfrifoldeb cyhoeddi yn nwylo Argraffydd y Brenin, sef Prif Weithredwr yr Archifau Gwladol. Bodlonir dyletswyddau Argraffydd y Brenin mewn dwy ffordd: trwy legislation.gov.uk a thrwy Archif Gwe Ymadawiad â’r UE.
legislation.gov.uk
Legislation.gov.uk yw’r man i ddod o hyd i ddeddfwriaeth y mae’n ofynnol ei chyhoeddi dan Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (c.16). Rydym yn galw’r casgliad hwn yn “Ddeddfwriaeth sy’n Deillio o’r UE“. Yn y casgliad hwn rydym hefyd wedi cyhoeddi cywiriadau (slipiau cywiro i ddeddfwriaeth yr UE), Cyfarwyddebau’r UE, Cytuniadau dethol a gwybodaeth am ddiwygiadau. Weithiau dim ond fersiynau gwreiddiol (fel y’u mabwysiadwyd gyntaf gan yr UE) sydd ar gael. Pan fydd yn bosibl, rydym hefyd wedi cyhoeddi deddfwriaeth yr UE fel y’i diwygiwyd gan yr UE cyn 11.00 p.m. ar 31 Rhagfyr 2020. Gallwch hefyd ddod o hyd i fersiynau amser penodol i ddangos sut mae’r ddeddfwriaeth hon wedi newid dros amser.
Archif Gwe Ymadael â’r UE
Archif Gwe Ymadael â’r UE yw’r man cyfeirio cynhwysfawr a swyddogol i’r Deyrnas Unedig o ran cyfraith yr UE fel yr oedd yn sefyll am 11.00 p.m. ar 31 Rhagfyr 2020. Mae’r casgliad yn cynnwys detholiad ehangach o ddogfennau o EUR-Lex, yn Saesneg, Ffrangeg ac Almaeneg. Mae’n cynnwys Cyfamodau, deddfau deddfwriaethol, Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd, cyfraith achos a deunyddiau ategol eraill, a dyfarniadau Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd. Mae dolen i’r fersiynau hyn ar gael o bob eitem o ddeddfwriaeth sy’n deillio o’r UE sydd wedi’i chyhoeddi ar legislation.gov.uk. Nid yw fersiynau a gedwir ar Archif Gwe Ymadael â’r UE yn adlewyrchu unrhyw newidiadau a wneir ar ôl 11.00 p.m. ar 31 Rhagfyr 2020, naill ai gan yr UE, neu gan y Deyrnas Unedig.
Rhyddhadau ac Eithriadau
Mae Atodlen 6 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (c.16) yn diffinio offerynnau’r UE sy’n cael eu heithrio o’r categori o gyfreithiau’r UE a gadwyd. Mae Atodlen 5 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (c.16) yn creu pŵer i Weinidogion greu eithriad rhag y ddyletswydd i gyhoeddi, ar ffurf Cyfarwyddyd Gweinidogol. Gallai hyn gyfeirio at ddogfen benodol, neu at gategori o offerynnau. Pan gânt eu gwneud, caiff Cyfarwyddiadau Gweinidogol eu cyhoeddi ar legislation.gov.uk, a’u cysylltu â’r ddeddfwriaeth sydd wedi’i heithrio.
Dod o hyd i’r fersiwn gywir o ddeddfwriaeth yn deillio o’r UE
Mae’r Cytundeb Ymadael yn gwneud darpariaethau i ddeddfwriaeth yr UE barhau i gael effaith yn y Deyrnas Unedig mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig penodol. Mae Adrannau 7A a 7B o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (c. 16) yn nodi y bydd deddfwriaeth yr UE yn parhau i fod yn berthnasol fel y mae mewn Aelod Wladwriaethau, yng nghyswllt yr hawliau, pwerau, atebolrwydd, ymrwymiadau a chyfyngiadau hynny a nodir yn y Cytundeb Ymadael, yn ogystal â’r cytundeb gwahanu AEE EFTA neu gytundeb hawliau dinasyddion y Swistir. Mae hyn yn cynnwys deddfwriaeth sy’n dod dan Brotocol Gogledd Iwerddon.
Mae Protocol Gogledd Iwerddon yn nodi’r amgylchiadau y gall deddfwriaeth yr UE barhau i fod yn berthnasol yn y Deyrnas Unedig o ran Gogledd Iwerddon er mwyn cynnal yr amodau angenrheidiol er mwyn cael parhau’r cydweithrediad rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon ac osgoi ffin galed. Mae hwn yn faes cymhleth yn y gyfraith, a dylech ddarllen y ddeddfwriaeth berthnasol yn ofalus.
Os ydych yn chwilio am ddeddfwriaeth fel y mae’n berthnasol yng Ngogledd Iwerddon, neu unrhyw un o’r sefyllfaoedd eraill sy’n dod dan y Cytundeb Ymadael, efallai y bydd angen i chi gyfeirio at fwy nag un fersiwn o ddeddfwriaeth yr UE er mwyn cael y darlun llawn. Gellid dod o hyd i fersiynau gwahanol fel a ganlyn:
- Legislation.gov.uk yw’r lle i ddod o hyd i ddeddfwriaeth sy’n deillio o’r UE fel y mae’n berthnasol yn y Deyrnas Unedig erbyn hyn. Bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei chadw yn gyfredol gydag unrhyw ddiwygiadau a wneir gan Seneddau, Llywodraethau a Chynulliadau’r Deyrnas Unedig. Er mwyn gweld ein dull golygyddol a phrydlondeb gweler Adolygu deddfwriaeth yn deillio o’r UE.
- EUR-Lex yw’r lle i ddod o hyd i ddeddfwriaeth yr UE fel y mae’n berthnasol i Aelod Wladwriaethau’r UE, ac fel y gall barhau i fod yn berthnasol i’r Deyrnas Unedig dan adrannau 7A neu 7B o’r Ddeddf Ymadael. Mae dolen i fersiwn yr UE o ddeddfwriaeth ar gael o bob eitem o ddeddfwriaeth sy’n deillio o’r UE sydd wedi’i gyhoeddi ar legislation.gov.uk. Ond, ni fydd legislation.gov.uk yn cyhoeddi unrhyw ddeddfwriaeth newydd o’r UE a gyhoeddir ar EUR-Lex ar ôl 11.00 p.m. ar 31 Rhagfyr 2020, na chyfeirio diwygiadau a wneir gan yr UE ar ôl y dyddiad hwnnw.
- Archif Gwe Ymadael â’r UE yw’r fan i ddod o hyd i fersiynau o ddeddfwriaeth yr UE o EUR-Lex fel yr oeddynt am 11.00 p.m. ar 31 Rhagfyr 2020.
Diwygio deddfwriaeth yn deillio o’r UE
Caiff diwygiadau a wneir i ddeddfwriaeth yr UE gan ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig eu trin gan legislation.gov.uk yn yr un modd â diwygiadau i unrhyw fath arall o ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig. Cyhoeddir y diwygiadau hyn yn Newidiadau i Ddeddfwriaeth cyn gynted â phosibl. Pan ddaw’r rhain i rym, caiff y diwygiadau hyn eu cyflwyno a gwneir fersiynau diwygiedig o’r dogfennau sydd wedi’u newid. Rydym hefyd yn creu fersiynau amser penodol o ddogfennau i ddangos sut maent wedi newid dros amser.
Ond, daeth dros 140,000 o ddiwygiadau i rym am 11.00 p.m. ar 31 Rhagfyr 2020, sydd yn fwy na thair gwaith y nifer o ddiwygiadau deddfwriaethol blynyddol sy’n cael eu creu fel arfer gan bob math o ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig. Rydym yn dynodi ac yn cofnodi’r diwygiadau hyn ac yna yn eu hymgorffori yn nhestun y ddeddfwriaeth y maent yn effeithio arnynt. Oherwydd y nifer fawr o newidiadau sy’n cael eu gwneud i ddeddfwriaeth ar gyfer Ymadael â’r UE bydd y gwaith hwn yn cymryd mwy o amser nag arfer ac ni fydd ein harferion golygyddol ac amserlenni arferol yn berthnasol. Cofiwch, o ganlyniad, efallai na fydd y diwygiadau hyn ar gael ar unwaith ar Newidiadau i Ddeddfwriaeth.
Dethol deddfwriaeth yn deillio o’r UE i’w chyhoeddi ar legislation.gov.uk
Ein ffynhonnell ar gyfer deddfwriaeth yn deillio o’r UE oedd EUR-Lex, gwefan ddeddfwriaeth swyddogol yr UE. Roeddem yn defnyddio cynllun dosbarthu EUR-Lex CELEX i ddynodi’r ddeddfwriaeth a nodir yn Atodlen 5 Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (c.16), fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) 2020 (c.1). Ac eithrio pedwar Cyfamod roedd yr holl ddogfennau o adran 3 (deddfwriaeth), isadrannau R (Rheoliadau), L (Cyfarwyddebau) a D (Penderfyniadau).
Wrth ddethol pa ddogfennau i'w cyhoeddi ar legislation.gov.uk bu i ni ddefnyddio'r rheolau canlynol:
- Rydym wedi cyhoeddi deddfwriaeth sydd â rhif CELEX EUR-Lex swyddogol ac sydd ar gael yn Saesneg yn unig.
- Nid ydym wedi cyhoeddi deddfwriaeth heb ei rhifo.
- Os yw ar gael, rydym wedi cyhoeddi fersiynau diwygiedig o ddogfennau sy'n ymgorffori diwygiadau a wnaed dros amser. Dyma'r drefn arferol wrth wneud defnydd o ddogfennau ar legislation.gov.uk.
- Rydym hefyd wedi cyhoeddi fersiynau gwreiddiol 'fel y'u mabwysiadwyd' o ddogfennau. Dyma’r fersiynau gwreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel y’i pasiwyd gyntaf a’u mabwysiadu gan yr UE heb newidiadau/diwygiadau wedi hynny.
- Rydym wedi cyhoeddi deddfwriaethau’r UE sydd ar gael ar fformat XML neu PDF yn unig. Mae'r cywiriadau ar gael ar ffurf PDF yn unig.
- Nid yw holl ddeddfwriaeth drydyddol yr UE fel y diffinnir gan adran 20 Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (c. 16) yn bodloni’r meini prawf hyn. Gall unrhyw ddeddfwriaethau trydyddol yr UE nad ydynt ar gael ar legislation.gov.uk fod ar gael ar Archif Gwe Ymadael â’r UE.
Cyfeirio, Rhifo a Chwilio
I gynorthwyo sicrwydd cyfreithiol, mae gan y Rheoliadau, Penderfyniadau a Chyfarwyddebau sy’n deillio o’r UE fel y’u cyhoeddir ar legislation.gov.uk, yr un flwyddyn a rhif ag a roddwyd iddynt gan yr UE. Er enghraifft, wrth chwilio am Reoliad y Cyngor (UE) 2018/2056 o Reoliad diwygiedig (UE) 6 Rhagfyr 2018 Rhif 216/2013 ar gyhoeddiad electronig Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd, dewiswch fath y ddogfen ‘Rheoliadau sy’n deillio o’r UE’, yna ‘2018’ fel y flwyddyn a ‘2056’ fel y rhif.
Dylid dehongli cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yn neddfwriaeth y Deyrnas Unedig yn gyffredinol fel cyfeiriadau at y fersiynau o eitemau o ddeddfwriaeth yr UE fel y’u cyhoeddir ar legislation.gov.uk oni bai y nodir fel arall yn glir.
Mae Rheoliadau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (Addasu Canlyniadol a Diddymiadau a Dirymiadau) (Ymadael â’r UE) 2019 (Rhif 628) a Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â’r UE) 2020 (Rhif 1447) yn darparu ymhellach ar gyfer sut y dylid darllen cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd.