- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Act yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol.![]()
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Deddf Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) 2026 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 11 Awst 2026. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Deddf gan Senedd Cymru i ddarparu ar gyfer adalw Aelodau o’r Senedd; i’w gwneud yn ofynnol bod Pwyllgor Safonau Ymddygiad o’r Senedd yn bodoli sy’n cynnwys aelodau nad ydynt yn Aelodau o’r Senedd; i awdurdodi Comisiynydd Safonau y Senedd i gynnal ymchwiliadau ar ysgogiad y Comisiynydd; i ddiwygio pŵer Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth drwy orchymyn ynghylch rhedeg etholiadau Senedd Cymru; ac at ddibenion cysylltiedig.
[27 Ebrill 2026]
Gan ei fod wedi ei basio gan Senedd Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Fawrhydi, deddfir fel a ganlyn:
Rhagolygol
(1)Mae’r Rhan hon yn darparu ar gyfer adalw Aelodau o’r Senedd drwy bôl adalw.
(2)Cynhelir pôl adalw ynghylch pa un a ddylai Aelod o’r Senedd gael ei ddiswyddo neu ei gadw fel aelod o Senedd Cymru.
(3)Os canlyniad y pôl adalw yw bod Aelod o’r Senedd i’w ddiswyddo, daw sedd yr aelod yn wag (gweler adrannau 12 a 13).
(4)Gweler adran 11 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) am ddarpariaeth ynghylch canlyniadau aelodaeth o Senedd Cymru yn dod yn wag.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)
(1)Mae Aelod o’r Senedd yn dod yn destun pôl adalw os yw—
(a)digwyddiad sbardun A neu ddigwyddiad sbardun B wedi digwydd mewn perthynas â’r Aelod o’r Senedd, a
(b)y Llywydd yn rhoi hysbysiad o’r ffaith honno o dan adran 6.
(2)Digwyddiad sbardun A yw bod yr Aelod o’r Senedd, ar ôl dod yn Aelod o’r Senedd, yn cael ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o drosedd y mae’r aelod yn cael ei ddedfrydu neu ei orchymyn i gael ei garcharu neu ei gadw’n gaeth yn ei chylch.
(3)Mae adrannau 3 a 4 yn cynnwys rhagor ynghylch digwyddiad sbardun A.
(4)Digwyddiad sbardun B yw bod Senedd Cymru yn penderfynu gwneud yr Aelod o’r Senedd yn destun pôl adalw yn dilyn adroddiad gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn argymell gwneud yr aelod yn destun pôl adalw.
(5)Mae adran 5 yn cynnwys rhagor ynghylch digwyddiad sbardun B.
(6)Nid yw’r ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â phôl adalw yn effeithio ar y ffyrdd eraill y gall sedd Aelod o’r Senedd ddod yn wag.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)
(1)Yn adran 2(2) (digwyddiad sbardun A)—
(a)mae’r cyfeiriad at drosedd yn cynnwys trosedd a gyflawnwyd cyn i’r Aelod o’r Senedd ddod yn Aelod o’r Senedd a throsedd a gyflawnwyd cyn y diwrnod y mae adran 2 yn dod i rym, ond
(b)nid yw’r cyfeiriad at Aelod o’r Senedd yn cael ei euogfarnu o drosedd ond yn gyfeiriad at Aelod o’r Senedd yn cael ei euogfarnu o drosedd ar neu ar ôl y diwrnod y mae adran 2 yn dod i rym.
(2)Mewn perthynas â’r cyfeiriad yn adran 2(2) at Aelod o’r Senedd yn cael ei ddedfrydu neu ei orchymyn—
(a)mae’n cynnwys yr Aelod o’r Senedd yn cael ei ddedfrydu neu ei orchymyn pan fo’r ddedfryd neu’r gorchymyn yn ohiriedig,
(b)nid yw’n cynnwys yr Aelod o’r Senedd yn cael ei remandio yn y ddalfa, ac
(c)nid yw’n cynnwys yr Aelod o’r Senedd yn cael ei awdurdodi i gael ei gadw’n gaeth o dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl os nad oes dedfryd neu orchymyn ar gyfer carcharu neu gadw’n gaeth heblaw o dan y ddeddfwriaeth honno.
(3)Ystyr “deddfwriaeth iechyd meddwl” yw—
(a)Deddf Iechyd Meddwl 1983 (p. 20),
(b)Rhan 6 neu adran 200(2)(b) o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995 (p. 46), neu
(c)Gorchymyn Iechyd Meddwl (Gogledd Iwerddon) 1986 (O.S. 1986/595 (G.I. 4)).
(4)At ddibenion y Ddeddf hon, yr adeg y mae person yn dod yn Aelod o’r Senedd yw pan ddatgenir bod yr aelod wedi ei ddychwelyd ar ddechrau tymor swydd presennol yr aelod.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw Aelod o’r Senedd, ar ôl dod yn Aelod o’r Senedd, yn cael ei euogfarnu o drosedd yng Nghymru a Lloegr a’i ddedfrydu neu ei orchymyn i gael ei garcharu neu ei gadw’n gaeth o fewn ystyr adran 2(2) (gweler adran 3).
(2)Rhaid i’r llys sy’n gosod y ddedfryd neu’r gorchymyn mewn perthynas â’r euogfarn hysbysu’r Llywydd am yr euogfarn ac am y ddedfryd neu’r gorchymyn.
(3)Mae is-adran (4) yn gymwys mewn achos pan ddygir apêl mewn cysylltiad â’r euogfarn, y ddedfryd neu’r gorchymyn (gan gynnwys o lys sy’n penderfynu’r apêl honno neu’n ei gwaredu fel arall).
(4)Os yw’r euogfarn, y ddedfryd neu’r gorchymyn yn cael ei gwrthdroi neu ei wrthdroi ar apêl, rhaid i’r llys y dygwyd yr apêl iddo neu y’i hanfonwyd iddo gan lys arall hysbysu’r Llywydd am y ffaith honno.
(5)Mewn perthynas â chyfeiriadau at apêl yn yr adran hon—
(a)maent yn gyfeiriadau at apêl i lys yng Nghymru a Lloegr (gan gynnwys y Goruchaf Lys);
(b)maent yn cynnwys cais (ac yn unol â hynny mae cyfeiriadau at apêl yn cael ei dwyn yn cynnwys cais yn cael ei wneud);
(c)nid ydynt yn cynnwys atgyfeiriad o dan Ran 2 o Ddeddf Apêl Droseddol 1995 (p. 35) (y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol).
(6)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at benderfynu apêl, pan fo’r llys y dygir yr apêl iddo yn anfon y mater i lys arall, yn gyfeiriadau at waredu’r achos gan y llys arall hwnnw.
(7)Yn yr adran hon, ystyr “ei gwrthdroi neu ei wrthdroi ar apêl” yw—
(a)mewn perthynas ag euogfarn, nad oes euogfarn mwyach at ddibenion adran 2(2);
(b)mewn perthynas â dedfryd neu orchymyn—
(i)y’i hamrywir fel nad yw mwyach yn ddedfryd neu’n orchymyn bod yr Aelod o’r Senedd i gael ei garcharu neu ei gadw’n gaeth o fewn ystyr adran 2(2);
(ii)y’i disodlir gan ddedfryd neu orchymyn arall nad yw’n ddedfryd neu’n orchymyn bod yr Aelod o’r Senedd i gael ei garcharu neu ei gadw’n gaeth o fewn ystyr adran 2(2).
(8)Nid yw’n ofynnol i lys hysbysu’r Llywydd o dan yr adran hon os yw sedd yr Aelod o’r Senedd, ar unrhyw adeg ers cymhwysiad yr adran, wedi dod yn wag.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)
(1)Ni chaiff y Pwyllgor Safonau Ymddygiad argymell gwneud Aelod o’r Senedd yn destun pôl adalw oni bai bod canllawiau wedi eu dyroddi yn unol â’r adran hon ynghylch y materion sydd i’w hystyried gan y Pwyllgor wrth ystyried a ddylid argymell gwneud Aelod o’r Senedd yn destun pôl adalw (“canllawiau adalw”).
(2)Cyn i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad argymell gwneud Aelod o’r Senedd yn destun pôl adalw, rhaid i’r Pwyllgor roi sylw i’r canllawiau adalw.
(3)Os nad oes unrhyw ganllawiau adalw wedi eu dyroddi o dan yr adran hon, rhaid i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad lunio canllawiau adalw drafft a chynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y drafft.
(4)Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus o dan is-adran (3), rhaid i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad osod copi o’r canllawiau adalw drafft (gydag addasiadau neu hebddynt) gerbron Senedd Cymru.
(5)Os oes canllawiau adalw wedi eu dyroddi o dan yr adran hon, caiff y Pwyllgor Safonau Ymddygiad lunio canllawiau adalw drafft i’w disodli.
(6)Cyn dyroddi canllawiau adalw sy’n disodli canllawiau sydd wedi eu dyroddi, rhaid i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ddrafft o’r canllawiau.
(7)Os yw’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn dymuno bwrw ymlaen â’r drafft (gydag addasiadau neu hebddynt) yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus o dan is-adran (3), rhaid iddo osod copi o’r drafft gerbron Senedd Cymru.
(8)Mewn perthynas â’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad—
(a)ni chaiff ddyroddi canllawiau adalw oni bai bod drafft o’r canllawiau wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru, a
(b)rhaid iddo ddyroddi canllawiau adalw os yw drafft o’r canllawiau wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru.
(9)Rhaid i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad ddwyn unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus o dan yr adran hon i sylw—
(a)pob Aelod o’r Senedd, a
(b)Comisiynydd Safonau y Senedd.
(10)Wrth lunio canllawiau adalw, rhaid i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad ystyried cynnwys yn y canllawiau enghreifftiau o ymddygiad neu fathau o ymddygiad a allai olygu bod y Pwyllgor yn argymell gwneud Aelod o’r Senedd yn destun pôl adalw.
(11)Mae canllawiau adalw a ddyroddir yn unol â’r adran hon yn cael effaith (ac yn parhau i gael effaith pan fo Senedd Cymru yn cael ei diddymu) hyd nes y bônt yn cael eu disodli yn unol â’r adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)
(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dod yn ymwybodol bod digwyddiad sbardun wedi digwydd mewn perthynas ag Aelod o’r Senedd, rhaid i’r Llywydd—
(a)pennu’r dyddiad ar gyfer y pôl adalw yn unol ag is-adran (4), a
(b)hysbysu’r swyddog canlyniadau etholaethol dros etholaeth Senedd yr aelod yn unol ag is-adran (5).
(2)Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys pe bai’n ei gwneud yn ofynnol i’r Llywydd bennu dyddiad ar gyfer y pôl adalw ar adeg—
(a)o fewn y cyfnod o 6 mis sy’n dod i ben â’r diwrnod y byddai’r pôl yn etholiad cyffredinol cyffredin nesaf Senedd Cymru yn cael ei gynnal (gan ddiystyru adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (“Deddf 2006”)),
(b)ar ôl y diwrnod y byddai’r pôl yn etholiad cyffredinol cyffredin nesaf Senedd Cymru yn cael ei gynnal (gan ddiystyru adran 4 o Ddeddf 2006),
(c)pan fydd yr Aelod o’r Senedd eisoes yn destun pôl adalw, neu
(d)pan fydd sedd yr Aelod o’r Senedd eisoes wedi dod yn wag.
(3)At ddibenion is-adran (2)(c), mae Aelod o’r Senedd “yn destun pôl adalw” yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â rhoi hysbysiad o dan yr adran hon mewn perthynas â’r Aelod o’r Senedd ac yn dod i ben ag—
(a)y swyddog canlyniadau etholaethol yn cael hysbysiad o dan adran 8(5) (terfynu pôl adalw yn gynnar) mewn perthynas â’r pôl adalw o dan sylw, neu
(b)y swyddog canlyniadau etholaethol yn cyhoeddi canlyniad pôl adalw yn unol ag adran 12(2).
(4)Rhaid i’r dyddiad a bennir ar gyfer y pôl adalw fod o fewn y cyfnod o dri mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r Llywydd yn rhoi hysbysiad o dan yr adran hon.
(5)Rhaid i hysbysiad o dan yr adran hon bennu—
(a)enw’r Aelod o’r Senedd y mae’r digwyddiad sbardun wedi digwydd mewn cysylltiad ag ef,
(b)y dyddiad y’i rhoddir,
(c)pa un o’r ddau fath o ddigwyddiad sbardun sydd wedi digwydd mewn perthynas â’r Aelod o’r Senedd,
(d)gwybodaeth am y digwyddiad sbardun sydd wedi digwydd mewn perthynas â’r Aelod o’r Senedd yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wneir drwy reoliadau o dan adran 11, ac
(e)y dyddiad a bennwyd ar gyfer y pôl adalw.
(6)At ddibenion y Ddeddf hon, mae hysbysiad o dan yr adran hon—
(a)i’w drin fel pe bai’n cael ei roi ar y dyddiad a bennir ynddo o dan is-adran (5)(b), a
(b)i’w drin fel pe bai’r swyddog canlyniadau etholaethol yn ei gael ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl y diwrnod y’i rhoddir.
(7)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at “hysbysiad y Llywydd” yn gyfeiriadau at hysbysiad o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)
(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael hysbysiad yn unol ag adran 6, rhaid i swyddog canlyniadau etholaethol roi hysbysiad cyhoeddus o’r pôl adalw yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wneir drwy reoliadau o dan adran 11.
(2)Yn ogystal, rhaid i’r swyddog canlyniadau etholaethol anfon hysbysiad o’r pôl adalw yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wneir drwy reoliadau o dan adran 11—
(a)at unrhyw ddisgrifiadau o bersonau sydd wedi eu cofrestru yn y cofrestrau o etholwyr llywodraeth leol ar gyfer yr ardaloedd o fewn yr etholaeth Senedd sydd i’w pennu yn y rheoliadau hynny, a
(b)at unrhyw ddisgrifiadau eraill o bersonau a bennir yn y rheoliadau hynny.
(3)Rhaid i reoliadau o dan adran 11 ei gwneud yn ofynnol i’r hysbysiad gynnwys gwybodaeth am y digwyddiad sbardun sydd wedi digwydd mewn perthynas â’r Aelod o’r Senedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os bydd unrhyw un o ddigwyddiadau terfynu cynnar A, B neu C yn digwydd ar unrhyw adeg ar ôl i hysbysiad y Llywydd gael ei roi ond cyn i ganlyniad y pôl adalw gael ei gyhoeddi yn unol ag adran 12(2).
(2)Digwyddiad terfynu cynnar A ywbod y Llywydd wedi cynnig diwrnod ar gyfer cynnal pôl mewn etholiad cyffredinol eithriadol yn unol ag adran 5(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
(3)Digwyddiad terfynu cynnar B yw bod sedd yr Aelod o’r Senedd yn dod yn wag.
(4)Digwyddiad terfynu cynnar C yw, mewn achos pan ddigwyddodd digwyddiad sbardun A mewn perthynas â’r Aelod o’r Senedd, fod yr euogfarn, y ddedfryd neu’r gorchymyn o dan sylw yn cael ei gwrthdroi neu ei wrthdroi ar apêl (o fewn ystyr adran 4(7)).
(5)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dod yn ymwybodol bod yr adran hon yn gymwys, rhaid i’r Llywydd hysbysu’r swyddog canlyniadau etholaethol ar gyfer etholaeth Senedd yr Aelod o’r Senedd sy’n destun y pôl adalw fod yr adran yn gymwys, gan bennu pa un o’r digwyddiadau terfynu cynnar sydd wedi digwydd.
(6)Pan fo swyddog canlyniadau etholaethol yn cael hysbysiad o dan is-adran (5), nid oes unrhyw gamau pellach i’w cymryd o dan neu yn rhinwedd y Ddeddf hon mewn perthynas â’r broses sy’n ymwneud â’r pôl adalw ac eithrio—
(a)y camau sy’n ofynnol o dan is-adran (7), a
(b)unrhyw gamau a allai fod yn ofynnol neu a ganiateir gan reoliadau o dan adran 11 mewn perthynas â therfynu’r broses honno.
(7)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael hysbysiad o dan is-adran (5), rhaid i’r swyddog canlyniadau etholaethol—
(a)cymryd unrhyw gamau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol i derfynu’r broses sy’n ymwneud â’r pôl adalw, a
(b)rhoi hysbysiad cyhoeddus bod y broses honno wedi ei therfynu yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wneir drwy reoliadau o dan adran 11.
(8)Ac eithrio mewn achos pan fo’r adran hon yn gymwys yn rhinwedd digwyddiad terfynu cynnar A a bod Senedd Cymru wedi ei diddymu, rhaid i’r Llywydd osod unrhyw hysbysiad a roddir o dan is-adran (5) gerbron Senedd Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)
Y personau a chanddynt hawlogaeth i bleidleisio mewn pôl adalw yw’r rhai, ar ddiwrnod y pôl—
(a)y byddai ganddynt hawlogaeth i bleidleisio fel etholwyr mewn etholiad cyffredinol o Aelodau o’r Senedd, a
(b)sydd wedi eu cofrestru mewn cofrestr o etholwyr llywodraeth leol mewn cyfeiriad o fewn etholaeth Senedd yr Aelod o’r Senedd y mae’r pôl adalw yn gymwys iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)
(1)Rhaid rhedeg pôl adalw drwy bleidlais gudd.
(2)Rhaid i bob papur pleidleisio fod wedi ei ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
(3)Y cwestiwn y mae rhaid iddo ymddangos ar y papurau pleidleisio yw—
“A ddylid diswyddo neu gadw [mewnosoder enw’r Aelod o’r Senedd y mae’r pôl adalw yn gymwys iddo] fel aelod o Senedd Cymru?
Should [mewnosoder enw’r Aelod o’r Senedd y mae’r pôl adalw yn gymwys iddo] be removed or retained as a member of Senedd Cymru (the Welsh Parliament)?”
(4)Y cyntaf o’r ddau ateb posibl i’r cwestiwn hwnnw y mae rhaid iddo ymddangos ar y papurau pleidleisio yw—
“Diswyddo [mewnosoder enw’r Aelod o’r Senedd y mae’r pôl adalw yn gymwys iddo] fel aelod o Senedd Cymru.
Remove [mewnosoder enw’r Aelod o’r Senedd y mae’r pôl adalw yn gymwys iddo] as a member of Senedd Cymru.””
(5)Yr ail o’r ddau ateb posibl i’r cwestiwn hwnnw y mae rhaid iddo ymddangos ar y papurau pleidleisio yw—
“Cadw [mewnosoder enw’r Aelod o’r Senedd y mae’r pôl adalw yn gymwys iddo] fel aelod o Senedd Cymru.
Retain [mewnosoder enw’r Aelod o’r Senedd y mae’r pôl adalw yn gymwys iddo] as a member of Senedd Cymru.”
(6)Mae’r gofynion yn is-adrannau (3) i (5) yn ddarostyngedig i fewnosod enw’r Aelod o’r Senedd y mae’r pôl adalw yn gymwys iddo yn y mannau a gyfarwyddir yn y cwestiwn a’r atebion.
Gwybodaeth Cychwyn
I10A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud—
(a)darpariaeth ynghylch rhedeg pôl adalw;
(b)darpariaeth ynghylch cwestiynu pôl adalw a chanlyniadau afreoleidd-dra;
(c)darpariaeth bellach ynghylch rhoi, anfon, danfon neu gael hysbysiadau neu ddogfennau eraill o dan y Ddeddf hon.
(2)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (1)(a) yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, ddarpariaeth—
(a)ynghylch cofrestru etholwyr;
(b)ynghylch gosod terfynau ar dreuliau a rhoddion ymgyrchu mewn pôl adalw;
(c)ar gyfer cyfuno polau.
(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—
(a)cymhwyso neu ymgorffori, gydag addasiadau neu eithriadau neu hebddynt, unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan—
(i)Deddfau Cynrychiolaeth y Bobl,
(ii)gorchymyn a wneir o dan adran 13 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32),
(iii)Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41), neu
(iv)unrhyw ddeddfiad arall sy’n ymwneud ag etholiadau neu refferenda;
(b)rhoi pŵer neu ddyletswydd i unrhyw berson (gan gynnwys pŵer neu ddyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth);
(c)creu troseddau;
(d)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;
(e)gwneud darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed;
(f)diwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys deddfiad a gynhwysir yn y Ddeddf hon).
(4)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth y byddai’r canlynol yn ofynnol ar ei chyfer—
(a)cydsyniad y Gweinidog priodol o dan baragraff 8(1)(a) neu (c), 10 neu 11 o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) pe bai’r ddarpariaeth wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru, oni bai y byddai’r cydsyniad yn ofynnol mewn cysylltiad â pherson a bennir yn is-adran (5);
(b)ymgynghori â’r Gweinidog priodol o dan baragraff 11(2) o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) pe bai’r ddarpariaeth wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru, oni bai y byddai ymgynghori yn ofynnol mewn cysylltiad â’r Arglwydd Ganghellor neu’r Trysorlys.
(5)Y personau yw—
(a)y llysoedd;
(b)yr Arglwydd Brif Ustus a deiliaid swyddi barnwrol eraill;
(c)yr Arglwydd Ganghellor;
(d)y Pwyllgor Rheolau Trefniadaeth Sifil;
(e)y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus neu unrhyw erlynydd y Goron arall;
(f)cwnstabl;
(g)person sydd wedi ei ddynodi o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (p. 30) yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol;
(h)y Comisiwn Etholiadol;
(i)y Trysorlys.
(6)Cyn gwneud unrhyw reoliadau o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol.
(7)Ni chaniateir gwneud unrhyw ddarpariaeth mewn rheoliadau a wneir o dan is-adran (1) sydd—
(a)yn pennu’r hyn sydd i’w drin neu’r hyn nad yw i’w drin fel traul neu rodd ymgyrchu mewn pôl adalw sy’n ddarostyngedig i derfynau at ddibenion y rheoliadau hynny, neu
(b)yn gosod y terfynau sy’n gymwys i dreuliau neu roddion ymgyrchu mewn pôl adalw,
ond gyda chydsyniad y Comisiwn Etholiadol.
(8)Ond nid yw is-adran (7) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod amrywio terfyn o fath a grybwyllir yn is-adran (7)(b) ac a osodir mewn rheoliadau a wneir o dan is-adran (1) yn hwylus o ganlyniad i newid yng ngwerth arian.
(9)Rhaid i’r pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (1) gael ei arfer drwy offeryn statudol Cymreig.
(10)Mae rheoliadau o dan is-adran (1) yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys oni bai bod y swyddog canlyniadau etholaethol wedi cael hysbysiad o dan adran 8(5) (terfynu proses ar gyfer pôl adalw yn gynnar).
(2)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r pleidleisio mewn pôl adalw ddod i ben, rhaid i’r swyddog canlyniadau etholaethol, yn unol ag unrhyw reoliadau o dan adran 11—
(a)pennu canlyniad y pôl adalw,
(b)cyhoeddi canlyniad y pôl adalw,
(c)yn dibynnu ar ganlyniad y pôl adalw, ddatgan bod yr Aelod o’r Senedd sy’n destun y pôl adalw naill ai—
(i)wedi ei ddiswyddo fel Aelod o Senedd Cymru, neu
(ii)yn cael ei gadw fel Aelod o Senedd Cymru, a
(d)hysbysu’r Llywydd yn ysgrifenedig am ganlyniad y pôl adalw a’r datganiad.
(3)At ddibenion is-adran (2)(c), mae Aelod o’r Senedd sy’n destun pôl adalw—
(a)wedi ei ddiswyddo fel Aelod o Senedd Cymru os bwriwyd y mwyafrif o’r pleidleisiau o blaid yr ateb ar y papur pleidleisio a nodir yn adran 10(4);
(b)yn cael ei gadw fel Aelod o Senedd Cymru os bwriwyd y mwyafrif o’r pleidleisiau o blaid yr ateb ar y papur pleidleisio a nodir yn adran 10(5) neu os bwriwyd nifer cyfartal o bleidleisiau o blaid y naill ateb a’r llall ar y papur pleidleisio.
(4)Rhaid i’r Llywydd osod unrhyw hysbysiad a geir o dan is-adran (2) gerbron Senedd Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I12A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)
(1)Os yw’r swyddog canlyniadau etholaethol yn datgan o dan adran 12(2) fod yr Aelod o’r Senedd sy’n destun y pôl adalw wedi ei ddiswyddo fel Aelod o Senedd Cymru, daw sedd yr aelod yn wag pan wneir y datganiad hwnnw.
(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r sedd eisoes wedi dod yn wag.
(3)Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau o dan adran 11 ynghylch cwestiynu canlyniad pôl adalw.
(4)Nid yw’r ffaith bod sedd aelod yn dod yn wag o dan is-adran (1) yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw drafodion gan Senedd Cymru sy’n digwydd cyn i’r Llywydd gael ei hysbysu o dan adran 12(2)(d).
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)
Nid effeithir ar ddilysrwydd pôl adalw a gynhelir o ganlyniad i’r ffaith bod digwyddiad sbardun B wedi digwydd gan unrhyw annilysrwydd yn nhrafodion Senedd Cymru sy’n gysylltiedig ag—
(a)y digwyddiad sbardun, gan gynnwys trafodion unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor sy’n gysylltiedig â’r adroddiad oddi wrth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad sy’n argymell gwneud yr aelod yn destun pôl adalw, neu
(b)dyroddi canllawiau adalw o dan adran 5.
Gwybodaeth Cychwyn
I14A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)
(1)Mewn perthynas â phôl adalw mewn etholaeth Senedd, dyletswydd gyffredinol y swyddog canlyniadau etholaethol yw gwneud unrhyw beth sy’n angenrheidiol er mwyn rhedeg y pôl adalw yn effeithiol yn unol â’r Ddeddf hon a rheoliadau a wneir odani.
(2)Caiff swyddog canlyniadau etholaethol benodi un neu ragor o ddirprwyon i gyflawni unrhyw un neu ragor neu bob un o swyddogaethau’r swyddog o dan neu yn rhinwedd y Ddeddf hon.
(3)Rhaid i bob cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn yr etholaeth Senedd y mae pôl adalw yn gymwys iddi roi gwasanaethau ei swyddogion ar gael i’r swyddog canlyniadau etholaethol at ddiben cynorthwyo’r swyddog canlyniadau etholaethol i gyflawni swyddogaethau’r swyddog o dan neu yn rhinwedd y Ddeddf hon.
(4)Yn y Ddeddf hon, ystyr “swyddog canlyniadau etholaethol”, mewn perthynas ag etholaeth Senedd, yw’r person a ddynodir yn swyddog canlyniadau ar gyfer yr etholaeth yn unol â gorchymyn o dan adran 13 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (pŵer Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth ynghylch etholiadau etc.).
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)
Yn y Rhan hon—
ystyr “digwyddiad sbardun” (“trigger event”) yw digwyddiad o’r math a ddisgrifir yn is-adran (2) neu (4) o adran 2;
ystyr “digwyddiad sbardun A” (“trigger event A”) yw digwyddiad o’r math a ddisgrifir yn adran 2(2);
ystyr “digwyddiad sbardun B” (“trigger event B”) yw digwyddiad o’r math a ddisgrifir yn adran 2(4);
mae i “ei gwrthdroi neu ei wrthdroi ar apêl” (“overturned on appeal”) yr ystyr a roddir gan adran 4(7);
ystyr “etholaeth Senedd” (“Senedd constituency”) yw etholaeth y darperir ar ei chyfer mewn rheoliadau a wneir o dan adran 49J o Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 (dccc 4);
mae i “hysbysiad y Llywydd” (“Presiding Officer’s notice”) yr ystyr a roddir gan adran 6(7);
ystyr “Llywydd” (“Presiding Officer”) yw Llywydd Senedd Cymru a etholir yn unol ag adran 25 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);
mae i “pôl adalw” (“recall poll”) yr ystyr a roddir gan adran 1(2);
ystyr “Pwyllgor Safonau Ymddygiad” (“Standards of Conduct Committee”) yw’r pwyllgor o Senedd Cymru y mae rhaid ei sefydlu yn rhinwedd adran 30A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (a fewnosodir gan adran 18 o’r Ddeddf hon).
Gwybodaeth Cychwyn
I16A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)
Mae Rhan 1 o’r Atodlen i’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth ganlyniadol sy’n ymwneud â’r Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)
(1)Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) wedi ei diwygio gan is-adrannau (2) a (3).
(2)Yn adran 28 (pwyllgorau ac is-bwyllgorau)—
(a)yn is-adran (1)(b), hepgorer “power to appoint”;
(b)yn is-adran (2), ar ôl “Member of the Senedd” mewnosoder “, except the members of the Standards of Conduct Committee or a sub-committee of the Standards of Conduct Committee”.
(3)Ar ôl adran 30 (Pwyllgor Archwilio) mewnosoder—
(1)The committees of the Senedd must include one to be known as the Standards of Conduct Committee or Pwyllgor Safonau Ymddygiad or by such other name as the Senedd may determine; and, if the Senedd makes such a determination, references to the committee in—
(a)any enactment (including any enactment comprised in or made under this Act) or prerogative instrument, or
(b)any other instrument or document,
have effect accordingly.
(2)The Standards of Conduct Committee is to have functions relating to the standards of conduct of Members of the Senedd specified by the standing orders; and the standing orders may specify that it has other functions.
(3)The Standards of Conduct Committee is to have the number of members specified by the standing orders.
(4)The standing orders must provide for the membership of the Standards of Conduct Committee to include one or more lay members.
(5)In this section and in section 30B, “lay member” means a member who is not a Member of the Senedd.
(6)The standing orders may include provision—
(a)for excluding from the proceedings of the Standards of Conduct Committee, or a sub-committee of the Committee, a member of the committee or sub-committee who is a lay member;
(b)for the membership of sub-committees of the Standards of Conduct Committee, which may include provision for members of sub-committees who are not appointed by, nor members of, the Committee;
(c)for sub-committees of the Standards of Conduct Committee that are composed entirely of one or more lay members for the purpose of carrying out appeals or reviews of Committee or sub-committee proceedings concerning the conduct of Members of the Senedd.
(7)The standing orders must provide for—
(a)lay members of the Committee to have the same participation and voting rights as other members of the Committee, and
(b)the number of lay members and other members required for proceedings to be quorate,
in Committee or sub-committee proceedings concerning the conduct of a Member of the Senedd.
(8)The standing orders may provide for—
(a)lay members of the Committee to have the same participation and voting rights as other members of the Committee, and
(b)the number of lay members and other members required for proceedings to be quorate,
in Committee or sub-committee proceedings concerning other matters, subject to subsection (9).
(9)The standing orders may not allow lay members of the Committee to participate or vote as a member in Committee or sub-committee proceedings concerning the scrutiny of legislation.
(10)Subsection (7) does not apply to sub-committees of the kind described in subsection (6)(c).
(1)Standing orders may not provide for there to be more lay members of the Standards of Conduct Committee (“the Committee”) than members who are Members of the Senedd.
(2)Lay members must be appointed by resolution of Senedd Cymru.
(3)A motion for a resolution under subsection (2) may only be tabled with the consent of the Presiding Officer and in accordance with any provision made by standing orders.
(4)The person who is the subject of the motion must have been selected on merit on the basis of fair and open competition in accordance with arrangements made by standing orders.
(5)An appointment of a lay member is to be—
(a)for a fixed term not exceeding 6 years, which may end after the expected date of the next ordinary general election of the Senedd;
(b)on such other terms and conditions as may be made under arrangements made by standing orders.
(6)If provision is made in standing orders for a sub-committee of the kind described in section 30A(6)(c), at least one person appointed as a lay member is to be legally qualified; but this does not require each sub-committee of that kind to include a legally qualified person.
(7)A person is legally qualified for the purposes of subsection (6) if the person has a general qualification within the meaning of section 71(3)(c) of the Courts and Legal Services Act 1990 (c. 41).
(8)A person is disqualified from appointment as a lay member if that person—
(a)holds an office specified in subsection (9), or
(b)has at any time held an office that is specified in any of paragraphs (a) to (h) of subsection (9).
(9)The offices are—
(a)Member of the Senedd;
(b)member of the House of Commons;
(c)member of the House of Lords;
(d)member of the Scottish Parliament;
(e)member of the Northern Ireland Assembly;
(f)Counsel General, where the person holding the office is not also a Member of the Senedd;
(g)police and crime commissioner for a police area in Wales or England;
(h)member of the council of a county or county borough in Wales;
(i)member of the council of a community in Wales;
(j)the disqualifying offices in the second column of the table in Part 2 of Schedule 1A, except the judicial offices.
(10)A person may not be appointed to serve more than 2 terms of office as a lay member (whether or not the terms of office are consecutive).
(11)A person who is a lay member ceases to be a lay member if the person—
(a)is a candidate in a Senedd general election when the period for notice of withdrawal of candidature ends and has not given such notice before the end of the period, or
(b)becomes disqualified from appointment as a lay member under subsection (8).
(12)A lay member—
(a)may resign by giving notice to the Committee;
(b)may be removed by resolution of the Senedd, if the number of votes cast in favour of the resolution is not less than two thirds of the total number of votes cast.
(13)A motion for a resolution under subsection (12)(b) may only be tabled with the consent of the Presiding Officer and in accordance with any provision made by standing orders.
(14)Standing orders must make provision for the investigation and adjudication of complaints about misconduct by lay members.
(15)The Senedd Commission may pay to lay members such remuneration and allowances as the Commission may determine.
(16)In this section ”lay member” includes—
(a)a lay member of the Committee, and
(b)a lay member of a sub-committee of the Committee who is not a member of the Committee.”
(4)Hyd 7 Tachwedd 2027, mae adran 30A(4) a (7) ac adran 30B(14) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (fel y’u mewnosodir gan is-adran (3)) yn cael effaith fel a ganlyn—
(a)yn adran 30A(4), mae’r cyfeiriad at “must” i’w ddehongli fel cyfeiriad at “may”, a
(b)nid yw’r dyletswyddau yn adran 30A(7) ac adran 30B(14) yn gymwys oni bai bod darpariaeth yn cael ei gwneud o dan adran 30A(4) i’r aelodaeth o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad gynnwys un neu ragor o aelodau lleyg.
Gwybodaeth Cychwyn
I18A. 18 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 26(1)
(1)Rhaid i’r Llywydd gyflwyno cynnig sy’n cydymffurfio ag is-adran (2)—
(a)cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyfarfod cyntaf Senedd Cymru yn dilyn deddfu’r Ddeddf hon, a
(b)mewn unrhyw achos, yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl cyfarfod cyntaf y Senedd yn dilyn deddfu’r Ddeddf hon.
(2)Rhaid i’r cynnig gynnig—
(a)naill ai—
(i)bod y Senedd yn sefydlu pwyllgor i gynnal ymchwiliad i’r mater a ddisgrifir yn is-adran (3), neu
(ii)bod pwyllgor o’r Senedd a enwir yn y cynnig yn cynnal yr ymchwiliad i’r mater a ddisgrifir yn is-adran (3);
(b)bod rhaid i’r pwyllgor gwblhau adroddiad ar yr ymchwiliad a’i osod gerbron y Senedd.
(3)Y mater yw a ddylai cod ymddygiad ar gyfer Aelodau o’r Senedd fod yn gymwys ac, os felly, sut y dylai fod yn gymwys i ymddygiad Aelod o’r Senedd mewn perthynas â chyfnod pan oedd yr aelod yn ymgeisydd mewn etholiad i’r Senedd (pa un a oedd yr aelod yn dal swydd fel Aelod o’r Senedd ar y pryd ai peidio).
(4)Mae is-adran (5) yn gymwys os yw, yn dilyn ymchwiliad i’r mater a ddisgrifir yn is-adran (3) gan bwyllgor yn unol â chynnig a osodir yn unol ag is-adran (1), adroddiad ar yr ymchwiliad yn cael ei osod gerbron y Senedd gan y pwyllgor.
(5)Os yw’r is-adran hon yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron y Senedd sy’n nodi ymateb Gweinidogion Cymru i’r adroddiad a grybwyllir yn is-adran (4).
(6)Yn yr adran hon, ystyr “Llywydd” yw Llywydd Senedd Cymru a etholir yn unol ag adran 25 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Gwybodaeth Cychwyn
I19A. 19 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 26(1)
(1)Mae Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 (mccc 4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)Ar ôl adran 10 (ymchwilio gan y Comisiynydd i gwynion) mewnosoder—
(1)Caiff y Comisiynydd ymchwilio i ymddygiad Aelod o’r Senedd os—
(a)oes gan y Comisiynydd sail resymol dros amau bod ymddygiad yr aelod, ar adeg berthnasol, wedi methu â chydymffurfio â gofyniad mewn darpariaeth berthnasol, a
(b)yw’r Comisiynydd yn fodlon bod unrhyw amodau eraill y mae rhaid eu bodloni cyn dechrau ymchwiliad y caniateir eu rhagnodi yn y Rheolau Sefydlog neu mewn rheolau a grybwyllir yn is-adran (3)(b) wedi eu bodloni (er enghraifft rheolau sy’n gosod terfynau amser ar gyfer dechrau ymchwiliad neu reolau ynghylch y gofynion o ran tystiolaeth).
(2)Os yw’r Comisiynydd yn ymchwilio i ymddygiad Aelod o’r Senedd o dan yr adran hon, rhaid i’r Comisiynydd, yn ddarostyngedig i is-adran (5), gyflwyno adroddiad i’r Senedd ar ganlyniad yr ymchwiliad.
(3)Rhaid i’r Comisiynydd gynnal unrhyw ymchwiliad o dan is-adran (1) ac adrodd o dan is-adran (2) yn unol ag—
(a)darpariaethau’r Rheolau Sefydlog, a
(b)unrhyw reolau sy’n ymwneud ag ymchwiliadau a gynhelir o dan yr adran hon sydd wedi’u mabwysiadu gan y Senedd o dan y Rheolau Sefydlog.
(4)Yn ddarostyngedig i is-adran (3), mater i’r Comisiynydd yw penderfynu pryd a sut y dylid cynnal ymchwiliad a chyflwyno adroddiad ar ei ganlyniad.
(5)O dan unrhyw amgylchiadau a ragnodir gan reolau y cyfeirir atynt yn is-adran (3)(b), caiff y Comisiynydd derfynu ymchwiliad sy’n cael ei gynnal o dan yr adran hon heb gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd.
(6)Os yw’r Comisiynydd yn terfynu ymchwiliad o dan is-adran (5), rhaid i’r Comisiynydd hysbysu’r Aelod o’r Senedd o dan sylw mewn ysgrifen, gan roi’r rhesymau dros derfynu’r ymchwiliad.
(7)Ni chaiff adroddiad gan y Comisiynydd i’r Senedd ar ganlyniad ymchwiliad o dan yr adran hon gynnwys unrhyw argymhelliad ynghylch pa sancsiwn a ddylai gael ei orfodi ar yr Aelod o’r Senedd o dan sylw, os dylai unrhyw sancsiwn gael ei orfodi o gwbl.
(8)Os caiff y Comisiynydd wybod, wrth gynnal ymchwiliad o dan yr adran hon, am unrhyw amgylchiadau sy’n codi materion o egwyddor neu o arfer cyffredinol sy’n berthnasol i swyddogaethau’r Clerc o dan adran 138 o’r Ddeddf (y Clerc i fod yn brif swyddog cyfrifyddu i’r Comisiwn), rhaid i’r Comisiynydd fynegi’r amgylchiadau hynny mewn ysgrifen i’r Clerc.
(9)Rhaid i’r Rheolau Sefydlog wneud darpariaeth ar gyfer ymchwiliadau o dan yr adran hon.
(10)Yn yr adran hon, ystyr “adeg berthnasol yw adeg pan oedd y gofyniad o dan sylw mewn grym ond mae’n amherthnasol pa un a honnir bod yr ymddygiad o dan sylw wedi digwydd cyn neu ar ôl i’r adran hon ddod i rym.”
Gwybodaeth Cychwyn
I20A. 20 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 26(1)
(1)Mae Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 (mccc 4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 1(3) (personau nad ydynt yn gymwys i’w penodi’n Gomisiynydd)—
(a)ym mharagraff (b) hepgorer “yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae’r penodiad i ddod i rym”;
(b)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)yn aelod, neu wedi bod yn aelod ar unrhyw adeg, o—
(i)Tŷ’r Cyffredin,
(ii)Tŷ’r Arglwyddi,
(iii)Senedd yr Alban,
(iv)Cynulliad Gogledd Iwerddon,
(bb)yn dal neu wedi dal ar unrhyw adeg swydd comisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru neu Loegr,
(bc)yn aelod, neu wedi bod yn aelod ar unrhyw adeg, o’r cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru,
(bd)yn aelod, neu wedi bod yn aelod ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae’r penodiad i ddod i rym, o’r cyngor ar gyfer cymuned yng Nghymru,”;
(c)ym mharagraff (e) hepgorer “neu”;
(d)ar ôl paragraff (f) mewnosoder—
“(g)yn cael ei gymryd ymlaen gan Aelod o’r Senedd o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod,
(h)wedi ei gymryd ymlaen gan Aelod o’r Senedd, o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae’r penodiad i ddod i rym,
(i)yn cael ei gymryd ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau, neu
(j)wedi ei gymryd ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae’r penodiad i ddod i rym.”
(3)Yn adran 1(8) (penodiad Comisiynydd yn dod i ben)—
(a)o flaen paragraff (b) mewnosoder—
“(aa)yn dod yn aelod o—
(i)Tŷ’r Cyffredin,
(ii)Tŷ’r Arglwyddi,
(iii)Senedd yr Alban,
(iv)Cynulliad Gogledd Iwerddon, neu
(v)y cyngor ar gyfer sir, bwrdeistref sirol neu gymuned yng Nghymru,
(ab)yn dod yn gomisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru neu Loegr,”;
(b)ym mharagraff (b), hepgorer “neu” yn yr ail le y mae’n digwydd;
(c)ar ôl paragraff (c) mewnosoder—
“(d)yn cael ei gymryd ymlaen gan Aelod o’r Senedd o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod, neu
(e)yn cael ei gymryd ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau.”
(4)Ar ôl adran 1(8) (penodiad Comisiynydd yn dod i ben) mewnosoder—
“(9)Yn yr adran hon, ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig yw plaid a gofrestrwyd o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41).”
Gwybodaeth Cychwyn
I21A. 21 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 26(1)
(1)Mae Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 (mccc 4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)Ar ôl adran 10A (pŵer y Comisiynydd i ymchwilio ar ei ysgogiad ei hun) (a fewnosodir gan adran 20 o’r Ddeddf hon) mewnosoder—
(1)Caiff y Comisiynydd gyhoeddi gwybodaeth sy’n—
(a)cadarnhau bod ymchwiliad y mae’r adran hon yn gymwys iddo yn cael ei gynnal;
(b)enwi’r Aelod o’r Senedd sy’n destun yr ymchwiliad;
(c)disgrifio mewn termau cyffredinol y mater yr ymchwilir iddo;
(d)cadarnhau bod ymchwiliad wedi dod i ben, wedi ei atal dros dro neu wedi ei ailagor.
(2)Mae’r adran hon yn gymwys i—
(a)ymchwiliad o dan adran 10 y bydd y Comisiynydd yn cyflwyno adroddiad arno i’r Senedd ar ganlyniad yr ymchwiliad, a
(b)ymchwiliad o dan adran 10A.
(3)Ni chaiff gwybodaeth a gyhoeddir o dan yr adran hon gynnwys—
(a)enw’r person a wnaeth y gŵyn neu wybodaeth a fyddai’n galluogi’r person i gael ei enwi,
(b)unrhyw dystiolaeth a gafwyd gan y Comisiynydd yn ystod yr ymchwiliad, nac
(c)unrhyw farn, casgliad neu ddynodiad ynghylch a oes sail i’r gŵyn.
(4)Cyn cyhoeddi gwybodaeth o dan yr adran hon, rhaid i’r Comisiynydd roi sylw i—
(a)yr angen am degwch,
(b)yr angen i osgoi rhagfarnu unrhyw ymchwiliad troseddol neu achos troseddol, ac
(c)yr angen i osgoi niwed i unrhyw berson.
(5)Caiff y Rheolau Sefydlog neu reolau sy’n ymwneud ag ystyried cwynion yn erbyn Aelodau o’r Senedd sydd wedi eu mabwysiadu gan y Senedd o dan y Rheolau Sefydlog bennu categorïau o ymchwiliad na chaniateir cyhoeddi gwybodaeth mewn cysylltiad â hwy o dan yr adran hon.
(6)Nid oes unrhyw beth yn yr adran hon yn cyfyngu ar unrhyw bŵer arall sydd gan y Comisiynydd i gyhoeddi neu ddatgelu fel arall wybodaeth.”
(3)Yn adran 11 (pŵer i alw am dystion a dogfennau)—
(a)yn y pennawd, yn lle “dystion a dogfennau” rhodder “dystiolaeth”;
(b)yn is-adran (1)—
(i)ym mharagraff (a), hepgorer “neu”;
(ii)ym mharagraff (b), ar ôl “reolaeth” mewnosoder “neu
(c)rhoi tystiolaeth i’r Comisiynydd mewn ysgrifen, wedi ei gwirhau drwy ddatganiad o wirionedd,”;
(c)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)Mae’r pŵer o dan is-adran (1)(a) yn cynnwys y pŵer i’w gwneud yn ofynnol i berson ddod gerbron y Comisiynydd—
(a)yn bersonol,
(b)drwy gyswllt fideo byw, neu
(c)drwy gyswllt sain byw.”
(4)Yn adran 12 (tystion a dogfennau: hysbysu)—
(a)yn y pennawd, yn lle “Tystion a dogfennau” rhodder “Tystiolaeth”;
(b)o flaen is-adran (1), mewnosoder—
“(A1)Yr unig fodd i ofyniad o dan adran 11(1)(a) gael ei orfodi ar berson yw i’r Comisiynydd roi i’r person hysbysiad mewn ysgrifen sy’n pennu—
(a)yr amser a’r dyddiad y mae’r person i ddod gerbron y Comisiynydd,
(b)os yw’r Comisiynydd yn ei gwneud yn ofynnol bod yn bresennol yn bersonol, ym mha le y mae’n ofynnol bod yn bresennol,
(c)os yw’r Comisiynydd yn ei gwneud yn ofynnol bod yn bresennol drwy gyswllt fideo byw neu gyswllt sain byw, fanylion sut y gall y person gymryd rhan yn y cyswllt fideo byw neu’r cyswllt sain byw, a
(d)y pynciau penodol y mae’n ofynnol i’r person roi tystiolaeth yn eu cylch.”
(c)yn is-adran (1)—
(i)yn lle “11” rhodder “11(1)(b)”;
(ii)hepgorer paragraff (a);
(d)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)Yr unig fodd i ofyniad o dan adran 11(1)(c) gael ei orfodi ar berson yw i’r Comisiynydd roi hysbysiad mewn ysgrifen i’r person sy’n pennu—
(a)ar ba ddyddiad y mae rhaid rhoi’r dystiolaeth,
(b)i ba gyfeiriad y caniateir anfon y dystiolaeth (pa un ai â llaw, drwy’r post neu yn electronig),
(c)y pynciau penodol y mae’n ofynnol i’r person roi tystiolaeth yn eu cylch neu’r cwestiynau penodol y mae rhaid i’r person eu hateb yn y dystiolaeth, a
(d)y gofyniad i wirhau’r dystiolaeth drwy ddatganiad o wirionedd.”;
(e)hepgorer is-adrannau (2) a (3);
(f)ar ôl is-adran (1A) (fel y’i mewnosodir gan baragraff (d)) mewnosoder—
“(2)Caniateir rhoi hysbysiad o dan yr adran hon drwy—
(a)ei roi â llaw i’r person,
(b)ei adael yng nghyfeiriad priodol y person,
(c)ei anfon drwy’r post at y person yn y cyfeiriad hwnnw, neu
(d)ei anfon drwy e-bost i gyfeiriad e-bost y person.
(3)Rhoddir hysbysiad yn unol ag is-adran (2)(a)—
(a)os yw’r person yn gorff corfforaethol, drwy ei roi â llaw i un o swyddogion y corff,
(b)os yw’r person yn bartneriaeth, drwy ei roi â llaw i bartner, neu
(c)os yw’r person yn gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, drwy ei roi â llaw i aelod o gorff llywodraethu’r gymdeithas.
(4)At ddibenion is-adran (2)(b) ac (c), cyfeiriad priodol person yw—
(a)yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff yn y Deyrnas Unedig;
(b)yn achos partneriaeth, cyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth yn y Deyrnas Unedig;
(c)mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y person (pa un ai preswylfa’r person neu fan lle yr oedd y person yn cynnal busnes neu’n cael ei gyflogi) neu, os yw’r person wedi darparu cyfeiriad lle caniateir rhoi hysbysiad o dan yr adran hon, y cyfeiriad hwnnw.
(5)At ddibenion is-adran (2)(d)—
(a)cyfeiriad e-bost person yw—
(i)unrhyw gyfeiriad e-bost a gyhoeddir am y tro gan y person hwnnw fel y cyfeiriad ar gyfer cysylltu â’r person hwnnw, neu
(ii)os nad oes cyfeiriad a gyhoeddir o’r fath, unrhyw gyfeiriad e-bost y mae’r person wedi cytuno i gael hysbysiad ynddo o dan yr adran hon;
(b)mae hysbysiad a anfonir drwy e-bost yn cael ei drin fel pe bai wedi ei roi 48 o oriau ar ôl iddo gael ei anfon, oni phrofir i’r gwrthwyneb.
(6) Yn yr adran hon—
ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff;
ystyr “wedi cytuno” (“agreed”) yw wedi cytuno mewn ysgrifen.””
(5)Yn adran 13 (llwon a chadarnhadau)—
(a)daw’r geiriau “unrhyw berson sy’n rhoi tystiolaeth i’r Comisiynydd, a” yn is-baragraff (i);
(b)ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—
“(ii)unrhyw berson sy’n gweithredu fel cyfieithydd neu ddehonglydd mewn cysylltiad â thystiolaeth a roddir i’r Comisiynydd, a”.
(6)Yn adran 15 (tramgwyddau)—
(a)yn is-adran (1)—
(i)ym mharagraff (a), ar ôl “hysbysiad,” mewnosoder “neu”;
(ii)hepgorer paragraffau (c) a (d);
(b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)Mae person y dyroddwyd hysbysiad iddo o dan adran 12(1) yn cyflawni tramgwydd os yw’r person hwnnw—
(a)yn gwrthod neu’n methu heb esgus rhesymol â chyflwyno unrhyw ddogfen y mae’n ofynnol ei chyflwyno o dan yr hysbysiad, neu
(b)yn mynd ati’n fwriadol i newid, atal, celu neu ddinistrio unrhyw ddogfen o’r fath.
(1B)Mae person y rhoddwyd hysbysiad iddo o dan adran 12(1A) yn cyflawni tramgwydd os yw’r person hwnnw—
(a)yn gwrthod neu’n methu heb esgus rhesymol â rhoi tystiolaeth ynghylch y pynciau a bennir yn yr hysbysiad,
(b)yn gwrthod neu’n methu heb esgus rhesymol ag ateb unrhyw gwestiwn yn yr hysbysiad, neu
(c)yn gwrthod neu’n methu heb esgus rhesymol â gwirhau’r dystiolaeth â datganiad o wirionedd.”
(c)yn is-adran (2), yn lle “is-adran (1)” rhodder “is-adrannau (1), (1A) ac (1B)”;
(d)yn is-adran (4), yn lle “(1)(a), (b) neu (c) neu o dan is-adran” rhodder “(1), (1A), (1B) neu”;
(e)ym mharagraff 5(a), hepgorer “heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol”.
(7)Yn adran 20(1) (dehongli), yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“ystyr “cyswllt fideo byw” (“live video link”), mewn perthynas â rhoi tystiolaeth i’r Comisiynydd, yw cyswllt teledu byw neu drefniant arall sy’n galluogi’r person sy’n rhoi tystiolaeth, y Comisiynydd ac unrhyw berson arall sy’n cymryd rhan yn yr achos i weld a chlywed ei gilydd;”;
“ystyr “cyswllt sain byw” (“live audio link), mewn perthynas â rhoi tystiolaeth i’r Comisiynydd, yw cyswllt ffôn byw neu drefniant arall sy’n galluogi’r person sy’n rhoi tystiolaeth, y Comisiynydd ac unrhyw berson arall sy’n cymryd rhan yn yr achos i glywed ei gilydd;”
Gwybodaeth Cychwyn
I22A. 22 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 26(1)
Mae Rhan 2 o’r Atodlen i’r Ddeddf hon yn gwneud mân ddarpariaeth a darpariaeth ganlyniadol sy’n ymwneud â’r Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I23A. 23 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 26(1)
(1)Mae adran 13 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (pŵer Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth ynghylch etholiadau etc.) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn is-adran (2)(c), hepgorer “(and the creation of criminal offences in connection with the limitation of such expenses)”.
(3)Ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(2A)The Welsh Ministers must make provision, of the kind that may be made under subsection (1)(a), prohibiting the making or publishing of false or misleading statements of fact before or during an election for the purpose of affecting the return of any candidate.
(2B)The provision required by subsection (2A) may include, in particular, provision—
(a)about what is or is not a “statement of fact”;
(b)prohibiting false statements only or both false and misleading statements;
(c)specifying the period in which any prohibition has effect;
(d)prohibiting false or misleading statements of fact relating to matters specified in the order or matters more generally;
(e)prohibiting false or misleading statements of fact made or published by persons or categories of person specified in the order or any person;
(f)prohibiting the making or publishing of false or misleading statements knowingly or recklessly;
(g)specifying exemptions or exceptions to any prohibition.”
(4)Ar ôl is-adran (4) mewnosoder—
“(4A)For the avoidance of doubt, an order under this section may—
(a)confer a power or duty on any person (including a power or duty to make subordinate legislation);
(b)create criminal offences.”
Gwybodaeth Cychwyn
I24A. 24 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 26(2)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud—
(a)darpariaeth sy’n ddeilliadol neu’n atodol i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu sy’n ganlyniadol ar unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon;
(b)darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—
(a)diwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys deddfiad a gynhwysir yn y Ddeddf hon);
(b)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol.
(3)Rhaid i’r pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (1) gael ei arfer drwy offeryn statudol Cymreig.
(4)Os yw rheoliadau o dan is-adran (1) yn diwygio, yn diddymu neu’n addasu fel arall ddarpariaeth mewn Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu Ddeddf neu Fesur gan Senedd Cymru, maent yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd.
(5)Mae rheoliadau o dan is-adran (1) nad yw is-adran (4) yn gymwys iddynt yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I25A. 25 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 26(1)
(1)Daw darpariaethau Rhan 2 (gan gynnwys Rhan 2 o’r Atodlen i’r Ddeddf hon) a’r Rhan hon i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
(2)Daw darpariaethau Rhan 3 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
(3)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol Cymreig.
(4)Caiff gorchymyn o dan is-adran (3)—
(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;
(b)gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth i rym a ddygir i rym drwy’r gorchymyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I26A. 26 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 26(1)
Caniateir cyfeirio at y Ddeddf hon fel—
(a)Deddf Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) 2026, neu
(b)Senedd Cymru (Member Accountability and Elections) Act 2026.
Gwybodaeth Cychwyn
I27A. 27 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 26(1)
(a gyflwynir gan adrannau 17 a 23)
Rhagolygol
1(1)Mae Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 13(1A) (cyhoeddi cofrestrau), ar ôl “election” mewnosoder “or recall poll”.
(3)Yn adran 13AB (gwneud newidiadau i gofrestrau: dyddiadau cyhoeddi interim)—
(a)yn is-adran (1)(b), ar ôl “election” mewnosoder “or recall poll”;
(b)yn is-adran (4), ar ôl “election” mewnosoder “or recall poll”;
(c)yn is-adran (5)—
(i)ar ôl “is” mewnosoder “—in respect of an election,”;
(ii)daw’r geiriau o “in respect of an election,” (a fewnosodir gan is-baragraff (i)) hyd at y diwedd yn baragraff (a);
(iii)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
“(b)in respect of a recall poll, the 19th day before the date of the recall poll.”;
(d)yn is-adran (8), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—
“(da)recall polls under Part 1 of the Senedd Cymru (Member Accountability and Elections) Act 2026;”.
(4)Yn adran 13B (gwneud newidiadau i gofrestrau: etholiadau sydd yn yr arfaeth)—
(a)yn y pennawd, ar ôl “elections” mewnosoder “etc.”;
(b)yn is-adran (1), ar ôl “election”, yn y ddau le, mewnosoder “or recall poll”;
(c)yn is-adran (2)—
(i)ym mharagraff (a), ar ôl “election” mewnosoder “or recall poll”;
(ii)ym mharagraff (b), ar ôl “election” mewnosoder “or recall poll”;
(d)yn is-adran (3A)—
(i)ym mharagraff (a), ar ôl “election” mewnosoder “or recall poll”;
(ii)ym mharagraff (b)(i), ar ôl “election” mewnosoder “or recall poll”;
(e)yn is-adran (3C)—
(i)ym mharagraff (a), ar ôl “election” mewnosoder “or recall poll”;
(ii)ym mharagraff (c)(i), ar ôl “election” mewnosoder “or recall poll”;
(f)ar ôl is-adran (4) mewnosoder—
“(4A)This section applies to recall polls under Part 1 of the Senedd Cymru (Member Accountability and Elections) Act 2026.”;
(g)yn is-adran (5)—
(i)yn y diffiniad o “the appropriate publication date”, ar ôl “election” mewnosoder “or recall poll”;
(ii)yn ““the relevant election area”” a’r diffiniad sy’n dilyn, ar ôl “election”, ym mhob lle y mae’n ymddangos, mewnosoder “or recall poll”;
(h)yn is-adran (6)—
(i)ym mharagraff (a), hepgorer “and”;
(ii)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(c)the reference in subsection (3) to—
(i)“any election” included “any recall poll”, and
(ii)“electoral area included “recall poll area.”
(5)Ar ôl adran 13BC (addasu cofrestrau: deiseb adalw) mewnosoder—
(1)Sections 13AB and 13B cease to apply in respect of a recall poll if and when public notice of the early termination of the poll is given in accordance with section 8(7)(b) of the Senedd Cymru (Member Accountability and Elections) Act 2026.
(2)But if, at the time when that public notice is given—
(a)the registration officer is under a duty under section 13AB or section 13B to issue a notice, but
(b)has not yet issued the notice,
the registration officer remains under that duty to issue the notice at the time at which it would have been required to be issued if subsection (1) had not applied.”
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)
2(1)Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 5A (darpariaeth bellach ynghylch adroddiadau ar etholiadau Cymreig)—
(a)yn y pennawd, ar ôl “elections” mewnosoder “and recall polls”;
(b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)After a recall poll has been held, the Electoral Commission must prepare and publish a report (in such manner as the Commission may determine) on the administration of the recall poll after the Presiding Officer gave notice under section 6 of the Senedd Cymru (Member Accountability and Elections) Act 2026 in relation to the poll.”;
(c)yn is-adran (2)(b), ar ôl “(1)” mewnosoder “or (1A)”;
(d)yn is-adran (4), yn y diffiniad o “returning officer”, ym mharagraff (a) ar ôl “election” mewnosoder “or recall poll”.
(3)Yn adran 6ZA(2) (adolygiadau o faterion etholiadol datganoledig yng Nghymru)—
(a)ar ôl paragraff (d) mewnosoder—
“(da)recall polls;”;
(b)ym mharagraff (e)—
(i)yn lle “and referendums” rhodder “, referendums and recall polls”;
(ii)yn lle “(d)” rhodder “(da)”.
(4)Yn adran 6A(1) (presenoldeb cynrychiolwyr y Comisiwn mewn etholiadau etc.), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—
“(d)proceedings relating to a recall poll which are the responsibility of the returning officer for the poll.”
(5)Yn adran 6C(1) (sylwedyddion achrededig: unigolion), ar ôl “section 6A” mewnosoder “, a recall poll”.
(6)Yn adran 6D(1) (sylwedyddion achrededig: sefydliadau), ar ôl “section 6A” mewnosoder “, a recall poll”.
(7)Yn adran 6E(4) (presenoldeb ac ymddygiad sylwedyddion)—
(a)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)in the case of any other proceedings at a recall poll, the returning officer;”;
(b)ym mharagraff (d), ar ôl “(b)” mewnosoder “, (ba)”.
(8)Yn adran 6G (cod ymarfer ar bresenoldeb sylwedyddion mewn etholiadau datganoledig yng Nghymru)—
(a)yn y pennawd, ar ôl “elections” mewnosoder “and other polls”;
(b)yn is-adran (1), ar ôl “elections” mewnosoder “and other polls”;
(c)yn is-adran (2), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—
“(d)recall polls.”;
(d)yn is-adran (3)(e), ar ôl “election” mewnosoder “or recall poll”.
(9)Yn adran 9AA(2) (safonau perfformiad ar gyfer etholiadau a refferenda datganoledig yng Nghymru)—
(a)yn y pennawd, yn lle “referendums” rhodder “other polls”;
(b)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)returning officers in the administration of recall polls;”.
(10)Yn adran 9B (datganiadau ac adroddiadau ar safonau perfformiad)—
(a)yn is-adran (2)(b), yn lle “or referendums (or both)” rhodder “, referendums or recall polls (or any combination of them)”;
(b)yn is-adran (5)(c), yn lle “or referendums (or both)” rhodder “, referendums or recall polls (or any combination of them)”.
(11)Yn adran 10(3)(a) (rhoi cyngor a chymorth), ar ôl paragraff (ii) mewnosoder—
“(iia)returning officers at recall polls,”.
(12)Yn adran 21 (dehongli Rhan 1), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(3)In this Part—
“recall poll” means a recall poll under Part 1 of the Senedd Cymru (Member Accountability and Elections) Act 2026;
“returning officer, in relation to a recall poll, has the same meaning as “constituency returning officer in Part 1 of the Senedd Cymru (Member Accountability and Elections) Act 2026.”
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)
3Yn adran 41 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (achosion gan y Senedd neu yn ei herbyn etc.)—
(a)yn is-adran (1)—
(i)ar ôl “Senedd” (y tro cyntaf y mae’n ymddangos) mewnosoder “or a committee or sub-committee of the Senedd”;
(ii)ar ôl “Senedd” (y trydydd tro y mae’n ymddangos) mewnosoder “or the committee or sub-committee of the Senedd (as the case may be)”;
(b)yn is-adran (3), ar ôl “Senedd” mewnosoder “or a committee or sub-committee of the Senedd”.
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)
4(1)Mae Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 20A(4) (swyddogaethau gweinyddu etholiadol), ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
“(aa)polau adalw;”.
(3)Yn adran 20B(1) (cyfarwyddiadau i swyddogion canlyniadau), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)â pholau adalw yn gyffredinol,
(bb)â phôl adalw penodol,”.
(4)Yn adran 20C(1) (cyfarwyddiadau i swyddogion cofrestru etholiadol), ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
“(ba)â phôl adalw penodol,”.
(5)Yn adran 20I (dehongli), ar ôl y diffiniad o “etholiadau llywodraeth leol” mewnosoder—
“ystyr “pôl adalw” (“recall poll) yw pôl adalw o dan Ran 1 o Ddeddf Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) 2026;”.
(6)Yn adran 49J(8) (gweithredu adroddiad terfynol gan Weinidogion Cymru), ar ôl “Aelod o’r Senedd i Senedd Cymru,” mewnosoder “cynnal neu redeg pôl adalw o dan Ddeddf Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) 2026,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)
5(1)Mae Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 4 (penodi Comisiynydd Dros Dro), yn is-adran (4)(c), yn lle “adran 1(8)(a), (b) a (c)” rhodder “adran 1(8)”.
(3)Yn adran 6 (swyddogaethau’r Comisiynydd), yn is-adran (1)—
(a)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)derbyn unrhyw atgyfeiriad gan Aelod o’r Senedd ynghylch a yw, ar adeg berthnasol, ymddygiad yr aelod ei hun wedi methu â chydymffurfio ag un o ofynion darpariaeth berthnasol,
(bb)ymchwilio i unrhyw atgyfeiriad o’r fath yn unol â darpariaethau’r Mesur hwn,”;
(b)ym mharagraff (c), yn lle “o’r fath” rhodder “o dan baragraff (b) neu (bb)”;
(c)ym mharagraff (d), yn lle “y mae paragraff (a) yn gymwys iddynt” rhodder “ac atgyfeiriadau o dan y Mesur hwn ac am weithdrefnau ynglŷn ag ymchwilio i ymddygiad o dan adran 10A”;
(d)ym mharagraff (e), yn lle “adran 7” rhodder “adrannau 7 a 10A”.
(4)Yn adran 7 (swyddogaethau eraill y Comisiynydd), ym mharagraff (b) hepgorer “i gwynion”.
(5)Ym mhennawd adran 9, yn y testun Cymraeg, yn lle “gyfeirio” rhodder “atgyfeirio”.
(6)Yn adran 10 (ymchwilio gan y Comisiynydd i gwynion)—
(a)yn y pennawd, ar ôl “i gwynion” mewnosoder “a hunanatgyfeiriadau gan Aelodau o’r Senedd”;
(b)yn is-adran (1)—
(i)ar ôl “ymchwilio i gwynion” mewnosoder” a hunanatgyfeiriadau gan Aelodau o’r Senedd”;
(ii)ym mharagraff (b), ar ôl “Aelodau o’r Senedd” mewnosoder “, neu hunanatgyfeiriadau ganddynt,”;
(c)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)Caiff y rheolau a grybwyllir yn is-adran (1)(b) ragnodi amodau y mae rhaid i’r Comisiynydd fod yn fodlon eu bod wedi’u bodloni cyn i’r Comisiynydd gynnal ymchwiliad o dan yr adran hon (er enghraifft, darpariaeth ynghylch ffurf a chynnwys cwyn neu hunanatgyfeiriad gan Aelod o’r Senedd, gosod terfynau amser ar gyfer dechrau ymchwiliad neu reolau ynghylch y gofynion o ran tystiolaeth).”;
(d)yn is-adran (3)—
(i)ar ôl “wrthod cwyn” mewnosoder “neu hunanatgyfeiriad gan Aelod o’r Senedd”;
(ii)ar ôl “ac” mewnosoder “, yn achos cwyn”;
(e)yn is-adran (5) ar ôl “gynnal ymchwiliad” mewnosoder “o dan yr adran hon”;
(f)ar ôl is-adran (5) mewnosoder—
“(6)Rhaid i’r Rheolau Sefydlog wneud darpariaeth ar gyfer ymchwiliadau o dan yr adran hon.”
(7)Yn adran 16(1) (cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth)—
(a)daw’r geiriau “datgelu unrhyw wybodaeth” hyd at y diwedd yn baragraff (a);
(b)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
“(b)datgelu unrhyw wybodaeth a roddir iddynt neu a sicrheir ganddynt yn ystod ymchwiliad o dan adran 10A, neu at ddibenion yr ymchwiliad hwnnw.”
(8)Yn adran 19 (adroddiad blynyddol), yn is-adran (4), yn y testun Saesneg--
(a)yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “Committee on Standards of Conduct” rhodder “Standards of Conduct Committee”;
(b)ym mharagraff (b), yn lle “which such information” rhodder “with such information”.
(9)Yn adran 20 (dehongli)—
(a)yn is-adran (1), yn y testun Cymraeg—
(i)yn lle’r diffiniad o “y Pwyllgor Safonau Ymddygiad” rhodder—
“ystyr “y Pwyllgor Safonau Ymddygiad” (“the Standards of Conduct Committee) yw’r pwyllgor o’r Senedd y mae rhaid ei sefydlu yn rhinwedd adran 30A o’r Ddeddf;”;
(ii)yn y lleoedd priodol, mewnosoder—
“mae i “adeg berthnasol” (“relevant time”) yr ystyr a roddir gan adran 6(2), ac eithrio yn adran 10A;”;
“mae i “darpariaeth berthnasol” (“relevant provision) yr ystyr a roddir gan adran 6(3);”;
(b)yn is-adran (2), yn y testun Saesneg, yn lle “Committee on Standards of Conduct” rhodder “Standards of Conduct Committee”.
Gwybodaeth Cychwyn
I32Atod. para. 5 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 26(1)
6Yn Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (personau sy’n agored i orfod cydymffurfio â safonau: cyrff cyhoeddus etc.), yn y tabl, o dan y pennawd “Cyffredinol”, yn y lle priodol, mewnosoder—
| “Comisiynydd Safonau y Senedd (The Senedd Commissioner for Standards) | Safonau cyflenwi gwasanaethauSafonau llunio polisiSafonau gweithreduSafonau cadw cofnodion” |
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. para. 6 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 26(1)
7Yn Atodlen 6 i Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016 (O.S. 2016/182) (Cy. 76), yn y lle priodol mewnosoder—
“Comisiynydd Safonau y Senedd (“the Senedd Commissioner for Standards”)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I34Atod. para. 7 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 26(1)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys