- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Mae’r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn rhagolygol.![]()
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) 2026, Adran 5.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Rhagolygol
(1)Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 84 (hysbysiad bod dyletswyddau wedi dod i ben), ar ôl is-adran (1), mewnosoder—
“(1A)Pan fo awdurdod tai lleol yn cynnig llety wrth gyflawni unrhyw ddyletswydd o dan y Bennod hon, rhaid iddo hysbysu’r ceisydd am yr hawl i ofyn am adolygiad o addasrwydd y llety pa un a dderbynnir y cynnig ai peidio.”
(3)Yn lle adran 85 (hawl i ofyn am adolygiad) rhodder—
(1)Mae gan geisydd yr hawl i ofyn am adolygiad o’r materion yn is-adran (2), yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) i (7).
(2)Y materion y caniateir eu hadolygu yw—
(a)penderfyniad awdurdod tai lleol ynghylch cymhwystra’r ceisydd ar gyfer cymorth;
(b)penderfyniad awdurdod tai lleol i beidio â chynnal asesiad o achos person o dan adran 62;
(c)asesiad gan awdurdod tai lleol o anghenion tai y ceisydd ynghyd ag unrhyw aelod o aelwyd y ceisydd;
(d)asesiad gan awdurdod tai lleol o’r gefnogaeth y mae ei hangen ar y ceisydd ynghyd ag unrhyw aelod o aelwyd y ceisydd—
(i)i gadw llety sydd ar gael neu a allai ddod ar gael;
(ii)i oresgyn unrhyw rwystr rhag byw’n annibynnol;
(e)cynllun atal, cefnogaeth a llety;
(f)penderfyniad awdurdod tai lleol nad oes dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 66, 68 neu 75 (dyletswyddau i geiswyr sy’n ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd);
(g)penderfyniad awdurdod tai lleol nad oes dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 76A(2) (dyletswydd i ddarparu cymorth i gadw llety addas);
(h)penderfyniad awdurdod tai lleol bod dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 66, 68 neu 75 wedi dod i ben;
(i)penderfyniad awdurdod tai lleol bod dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 76A(2) wedi dod i ben;
(j)penderfyniad awdurdod tai lleol o dan adran 80 i hysbysu awdurdod tai lleol arall yng Nghymru neu yn Lloegr am ei farn bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r ceisydd;
(k)penderfyniad o dan adran 80(5) fod yr amodau ar gyfer atgyfeirio achos wedi eu bodloni;
(l)penderfyniad awdurdod tai lleol ynghylch addasrwydd llety a gynigir i’r ceisydd wrth gyflawni unrhyw ddyletswydd o dan y Bennod hon, neu mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw ddyletswydd o’r fath (pa un a yw’r ceisydd wedi derbyn y cynnig ai peidio).
(3)Os yw ceisydd yn cyflwyno cais i awdurdod tai lleol am adolygiad, rhaid i’r awdurdod (yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) i (7)) adolygu unrhyw fater yn is-adran (2) y mae’n ymddangos i’r awdurdod ei fod yn berthnasol, pa un a yw’r ceisydd yn pennu’r mater sydd i’w adolygu ai peidio.
(4)Nid oes ar awdurdod ddim dyletswydd o dan yr adran hon i adolygu penderfyniad a wnaed mewn adolygiad cynharach.
(5)Nid oes ar awdurdod ddim dyletswydd o dan yr adran hon i adolygu cynllun atal, cefnogaeth a llety oni bai y cyflwynir y cais am adolygiad ar unrhyw adeg pan fo’n ofynnol i’r awdurdod gynnal y cynllun.
(6)Nid oes ar awdurdod ddim dyletswydd o dan yr adran hon i adolygu addasrwydd llety a gynigir i’r ceisydd wrth gyflawni unrhyw ddyletswydd o dan y Bennod hon, neu mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw ddyletswydd o’r fath, oni bai y cyflwynir cais am adolygiad ar unrhyw adeg—
(a)cyn i’r cynnig gael ei dderbyn gan y ceisydd a thra bo’r cynnig yn parhau ar agor, a
(b)os yw’r ceisydd wedi derbyn y cynnig—
(i)ar unrhyw adeg pan fydd dyletswydd o dan adran 66, 68 neu 75 yn gymwys i’r ceisydd, neu
(ii)cyn diwedd cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf y mae’r llety ar gael i’w feddiannu gan y ceisydd.
(7)Nid oes ar awdurdod ddim dyletswydd o dan yr adran hon i adolygu unrhyw fater arall oni bai y cyflwynir y cais am adolygiad cyn diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau (neu’r cyfryw gyfnod hirach ag y caiff yr awdurdod ei ganiatáu yn ysgrifenedig) gan ddechrau â’r diwrnod yr hysbysir y ceisydd am asesiad neu benderfyniad yr awdurdod.”
(4)Yn adran 86 (gweithdrefn ar gyfer adolygiad)—
(a)yn is-adran (2), yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)ei gwneud yn ofynnol i’r adolygiad gael ei gynnal gan berson ar y lefel briodol nad oedd yn ymwneud â’r asesiad, y penderfyniad neu’r cynllun sy’n destun adolygiad,”;
(b)yn is-adran (4)—
(i)ym mharagraff (a), yn lle “penderfyniad” rhodder “asesiad, y penderfyniad neu’r cynllun”;
(ii)hepgorer “neu
(b)yn cadarnhau y cafodd camau rhesymol eu cymryd.”
(5)Yn adran 88 (hawl i apelio i lys sirol ar bwynt cyfreithiol)—
(a)yn is-adran (1), yn lle “neu, yn ôl y digwydd, y penderfyniad gwreiddiol neu gwestiwn ynghylch a gymerwyd pob cam rhesymol” rhodder “mewn adolygiad neu, yn ôl y digwydd, yr asesiad, y penderfyniad neu’r cynllun gwreiddiol”;
(b)yn is-adran (4), ar ôl “penderfyniad” mewnosoder “mewn adolygiad neu’r asesiad, y penderfyniad neu’r cynllun gwreiddiol”;
(c)yn is-adran (5)(a), hepgorer “yn erbyn penderfyniad yr awdurdod”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys