1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn yn ymwneud â Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 a basiwyd gan Senedd Cymru ar 4 Chwefror 2025 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 24 Mawrth 2025.
2.Fe’u lluniwyd gan y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar yn Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Nid ydynt yn rhan o’r Ddeddf ac nid ydynt wedi eu cymeradwyo gan Senedd Cymru.
3.Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf. Ni fwriedir iddynt fod yn ddisgrifiad cynhwysfawr o’r Ddeddf. Pan fo’n ymddangos nad oes angen unrhyw esboniad na sylw ar adran unigol o’r Ddeddf, nis rhoddir.
4.Yn dilyn Papur Gwyn 2011 ar Wasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, mae cyfraith gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi cael ei diwygio a’i chydgrynhoi drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“
5.Sefydlodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fframwaith newydd ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yng Nghymru.
6.Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn darparu fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol, a fframwaith ar gyfer rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.
7.Mae’r Ddeddf hon yn ceisio gwneud gwelliannau pellach i ofal cymdeithasol yng Nghymru, drwy ddiwygio Deddfau 2014 a 2016 i gyfyngu ar y gallu i dynnu allan elw a wneir yn sgil darparu gofal i blant sy’n derbyn gofal; a thrwy wneud nifer o ddiwygiadau i’r Deddfau hynny er mwyn sicrhau eu bod yn gweithredu’n llawn ac yn effeithiol.
8.Yn ogystal, mae’r Ddeddf yn galluogi i daliadau uniongyrchol gael eu cyflwyno o fewn Gofal Iechyd Parhaus y GIG (GIP), gyda’r bwriad o gysoni â’r taliadau uniongyrchol y gellir eu gwneud ym maes gofal cymdeithasol.
9.Datblygwyd y Ddeddf hon yn dilyn ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth sylfaenol ar ofal cymdeithasol a gofal iechyd parhaus a gynhaliwyd rhwng mis Awst a mis Tachwedd 2022. Mae’r dogfennau ymgynghori, yr ymatebion, a chrynodeb o’r ymatebion, wedi eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru: Newidiadau arfaethedig i’r ddeddfwriaeth ar ofal cymdeithasol a gofal iechyd parhaus y GIG | LLYW.CYMRU.
10.Mae’r Ddeddf yn cynnwys 30 o adrannau (mewn tair Rhan) a dwy Atodlen.
Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn ymwneud â gofal cymdeithasol ac mae’n cynnwys dwy Bennod:
Mae Pennod 1 yn gwneud diwygiadau i Ddeddfau 2014 a 2016 gyda’r bwriad o gyfyngu ar allu darparwyr gwasanaethau cartrefi gofal i blant, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau maethu i dynnu elw allan;
Mae Pennod 2 yn gwneud nifer o ddiwygiadau amrywiol mewn perthynas â gwasanaethau gofal cymdeithasol, gweithwyr gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, gyda’r bwriad o sicrhau y gall Deddfau 2014 a 2016 weithredu’n llawn ac yn effeithiol.
Mae’r Rhan hon o’r Ddeddf hefyd yn cyflwyno Atodlen 1 sy’n gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â’r Rhan hon.
Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn ymwneud â gofal iechyd ac mae’n gwneud diwygiadau i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 er mwyn galluogi i daliadau uniongyrchol gael eu cyflwyno o fewn Gofal Iechyd Parhaus y GIG (GIP). Mae’r Rhan hon o’r Ddeddf hefyd yn cyflwyno Atodlen 2, sy’n gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â’r newid hwn.
Mae Rhan 3 o’r Ddeddf yn cynnwys nifer o ddarpariaethau cyffredinol, gan gynnwys darpariaethau mewn perthynas â rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf, dehongli, pwerau i wneud darpariaethau canlyniadol a darpariaethau trosiannol, a threfniadau dod i rym.
11.Mae adran 1 yn rhoi trosolwg o brif ddarpariaethau Rhan 1, Pennod 1 o’r Ddeddf. Mae’n crynhoi’r pynciau yr ymdrinnir â hwy ym mhob adran ddilynol yn y Bennod.
12.Mae adran 2 yn mewnosod darpariaeth newydd yn Rhan 1 o Ddeddf 2016 sy’n diffinio gwasanaeth plant o dan gyfyngiad at ddibenion y Rhan honno. Mae’r ddarpariaeth newydd yn cael ei mewnosod yn adran newydd 2A ac mewn diwygiadau i Atodlen 1 i Ddeddf 2016. Mae adran 2 hefyd yn diwygio adran 1 o Ddeddf 2016 (trosolwg o Ran 1) o ganlyniad i’r newidiadau hyn.
13.Mae adran newydd 2A(1) (a fewnosodir gan adran 2(b) o’r Ddeddf) yn diffinio pob un o’r gwasanaethau rheoleiddiedig y mae’r darpariaethau newydd a fewnosodir gan y Ddeddf yn Rhan 1 o Ddeddf 2016 yn gymwys iddynt fel “gwasanaeth plant o dan gyfyngiad” at ddibenion y Rhan honno. Y rhain yw gwasanaeth cartref gofal (i’r graddau y mae’n “gwasanaeth cartref plant”, sydd wedi ei ddiffinio at y diben hwn fel gwasanaeth cartref gofal a ddarperir mewn un neu ragor o fannau y mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i blant ynddo neu ynddynt), gwasanaeth maethu, a gwasanaeth llety diogel.
14.Mae adran 2(c) yn mewnosod is-baragraff newydd (3A) ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 2016. Mae is-baragraff (3A) yn darparu nad yw ysgol sy’n gyfystyr â gwasanaeth cartref gofal yn rhinwedd is-baragraff (3) yn gyfystyr â gwasanaeth cartref plant oni bai ei bod wedi darparu mwy o ddiwrnodau o lety i blant sy’n derbyn gofal nag i rai nad ydynt yn blant sy’n derbyn gofal am unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dod o fewn y 24 mis blaenorol, neu ei bod yn bwriadu darparu mwy o ddiwrnodau o lety i blant sy’n derbyn gofal nag i rai nad ydynt yn blant sy’n derbyn gofal am unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dod o fewn y 24 mis dilynol.
15.Mae adran 3(3) yn mewnosod adrannau newydd 6A (cofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad) a 6B (cofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad: diffiniadau) yn Neddf 2016.
16.O dan adran newydd 6A(1), er mwyn cael ei gofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, rhaid i berson nad yw’n awdurdod lleol fod yn endid nid-er-elw.
17.Mae adran 6A(2), (3) a (4) yn darparu bod “endid nid-er-elw” yn berson sy’n bodloni’r ddau brawf hyn:
bod amcanion neu ddibenion y person yn ymwneud yn anad dim â lles plant, neu ag unrhyw fudd cyhoeddus arall a ragnodir gan Weinidogion Cymru (ni chaniateir gwneud rheoliadau sy’n rhagnodi budd cyhoeddus o’r fath oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad);
bod y person yn un o’r pedwar math o ymgymeriad a ganlyn (a ddiffinnir yn adran 6B, ac y mae’r gyfraith yn cyfyngu ar y gallu i dynnu elw allan mewn perthynas â hwy): cwmni elusennol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau; sefydliad elusennol corfforedig; cymdeithas gofrestredig elusennol; cwmni buddiant cymunedol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau.
18.O ganlyniad i fewnosod adrannau 6A a 6B yn Neddf 2016, mae adran 3(2) yn mewnosod is-adran newydd (1A) yn adran 6 o Ddeddf 2016. Mae’r is-adran newydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gwneud cais i gael ei gofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad ddarparu gwybodaeth ragnodedig i Weinidogion Cymru sy’n dangos bod y person yn endid nid-er-elw. Mae’r pŵer i ragnodi’r wybodaeth i’w arfer drwy reoliadau a wneir mewn offeryn statudol o dan adran 187 o Ddeddf 2016.
19.Mae adran 4 yn mewnosod Atodlen newydd 1A yn Neddf 2016 er mwyn gwneud darpariaeth ynghylch trefniadau trosiannol mewn cysylltiad â darparwyr gwasanaethau sydd eisoes wedi eu cofrestru cyn i adran newydd 6A ddod i rym (ac o ran hynny, gweler adran 3).
20.Ar ôl cychwyn adran 6A, bydd y gofyniad mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad a osodir o dan yr adran honno (i fod yn endid nid-er-elw) yn gymwys i bob newydd-ddyfodiad i’r gofrestr a gynhelir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf 2016 a phob darparwr gwasanaeth presennol cyhyd â’u bod yn parhau’n gofrestredig. Fodd bynnag, mae paragraffau 1 a 2 o Atodlen 1A yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfnod trosiannol pan nad yw darparwyr a oedd wedi eu cofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth cyn iddo ddod yn wasanaeth plant o dan gyfyngiad (yn rhinwedd dyfodiad adran 6A i rym) yn ddarostyngedig i’r gofynion yn adran 6A(1), ac eithrio at ddibenion unrhyw geisiadau y mae’r darparwr gwasanaeth yn eu gwneud o dan adran 11 o Ddeddf 2016 i amrywio cofrestriad i ychwanegu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad neu i ddarparu’r gwasanaeth presennol sy’n wasanaeth plant o dan gyfyngiad mewn man newydd neu mewn perthynas â man newydd.
21.Mae’r cyfnod trosiannol yn dechrau pan ddaw adran 6A i rym mewn cysylltiad â’r gwasanaeth ac yn gorffen ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau.
22.Fel y darperir ar ei gyfer gan baragraff 3 o’r Atodlen, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n gosod amodau ar ddarparwyr gwasanaethau presennol yn ystod y cyfnod trosiannol, gan gynnwys cyfyngiadau ar y math o wasanaeth y cânt ei ddarparu a’r disgrifiad o blant sy’n derbyn gofal y cânt eu lletya. Er enghraifft, byddai hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfyngu ar yr amgylchiadau pan gaiff darparwyr sy’n ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol dderbyn lleoliadau gan awdurdodau lleol yn Lloegr. Gellid defnyddio’r pŵer hefyd i atal darparwyr sy’n ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol rhag darparu lle ar gyfer unrhyw blentyn newydd ar ôl dyddiad penodol, neu i’w gwneud yn ofynnol mai dim ond gwasanaethau arbenigol o ddisgrifiad penodol y caniateir eu darparu.
23.Os bydd darparwr gwasanaeth yn methu â chydymffurfio â’r amodau hyn, caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ganslo ei gofrestriad yn unol ag adrannau 18 a 19 o Ddeddf 2016.
24.Yn achos darparwr gwasanaeth maethu y mae paragraff 2 yn gymwys iddo, bydd methiant gan y darparwr hwnnw i gydymffurfio â gofynion a osodir yn ystod y cyfnod trosiannol drwy reoliadau a wneir o dan adran 87 o Ddeddf 2014 hefyd yn sbarduno pŵer Gweinidogion Cymru i amrywio neu ganslo cofrestriad y darparwr. Cyfeirir at adran 87 o Ddeddf 2014 oherwydd dyma’r pŵer sy’n galluogi gwneud rheoliadau sy’n cyfyngu ar allu darparwyr gwasanaethau maethu sy’n ddarostyngedig i baragraff 2 o Atodlen 1A i gymeradwyo rhieni maeth newydd.
25.O dan baragraff 4 o’r Atodlen, caiff darparwyr sy’n darparu gwasanaethau presennol wneud cais i amrywio eu cofrestriad fel bod cofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â gwasanaeth presennol yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1) ac, felly, nad yw unrhyw amodau y gellid bod wedi eu gosod arnynt o dan baragraff 3 o’r Atodlen yn gymwys mwyach. Mewn cyferbyniad â hynny, os bydd darparwr sy’n darparu gwasanaeth presennol yn gwneud cais o dan adran 11(1)(a)(i) neu (ii) o Ddeddf 2016 i amrywio ei gofrestriad mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad ac nad hwnnw yw’r gwasanaeth presennol, rhaid i’r darparwr wneud cais i Weinidogion Cymru i gofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth presennol fod yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1). Mae hyn yn sicrhau na fydd darparwr yn gallu bod yn ddarparwr sydd wedi ei gofrestru yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1) mewn perthynas ag un gwasanaeth, neu mewn cysylltiad â man neu fannau, a’i fod wedi ei gofrestru fel darparwr nad yw’n ddarostyngedig i’r gofyniad mewn perthynas â gwasanaeth arall neu fan arall (neu fannau eraill). Mae amrywiadau o dan y paragraff hwn yn ddarostyngedig i’r gweithdrefnau hysbysu a nodir yn adrannau 18 i 20 o Ddeddf 2016 a’r hawliau apelio cysylltiedig o dan adran 26 o Ddeddf 2016.
26.Mae adran 4(4) yn diwygio adran 45 o Ddeddf 2016 fel y caiff Gweinidogion Cymru hefyd ragnodi drwy reoliadau ei bod yn drosedd i ddarparwr fethu â chydymffurfio ag amodau a osodir mewn rheoliadau a wneir o dan baragraff 3 o Atodlen 1A. Gan fod y pŵer i greu trosedd yn y rheoliadau wedi ei roi gan adran 45 o Ddeddf 2016, bydd y cosbau a nodir yn adran 51 o Ddeddf 2016 yn gymwys pan fo’r pŵer hwn yn cael ei arfer, fel y bydd y pŵer i ddyroddi hysbysiadau cosb o dan adran 52 o Ddeddf 2016.
27.Mae adran 5 yn diwygio adran 7 (caniatáu neu wrthod cofrestriad fel darparwr gwasanaeth) o Ddeddf 2016 o ganlyniad i gyflwyno’r gofynion mewn cysylltiad â gwasanaethau plant o dan gyfyngiad a nodir yn adran newydd 6A o Ddeddf 2016 (fel y’i mewnosodir gan adran 3).
28.Mae is-adran (2) yn mewnosod paragraff newydd (aa) yn is-adran (1) i’w gwneud yn ofynnol nad yw Gweinidogion Cymru ond yn caniatáu cais i gofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad os yw’r ymgeisydd yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1).
29.Mae is-adran (3) yn mewnosod paragraff newydd (aa) yn is-adran (3) er mwyn darparu, o ran caniatáu cais mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, fod rhaid iddo fod yn ddarostyngedig i amod bod y darparwr gwasanaeth yn hysbysu Gweinidogion Cymru am unrhyw amgylchiadau nad yw’r darparwr bellach yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1) odanynt.
30.Fel yr eglurir ymhellach ym mharagraffau 31 i 33, mae adran 6 yn diwygio Deddf 2016 i ddarparu bod trefniadau ariannol afresymol neu anghymesur yr ymrwymir iddynt gan ddarparwr gwasanaeth sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad yn dystiolaeth y mae rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddi wrth benderfynu a yw’r darparwr yn berson addas a phriodol. (Os nad yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bellach fod person yn addas a phriodol, cânt ganslo cofrestriad y person – gweler adran 15(1)(b) o Ddeddf 2016).
31.Mae adran 9 o Ddeddf 2016 yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, wrth benderfynu a yw darparwr gwasanaeth yn berson addas a phriodol, roi sylw i’r holl faterion sy’n briodol yn eu barn hwy ond bod rhaid iddynt roi sylw yn benodol i dystiolaeth o wahanol bethau, gan gynnwys a yw’r darparwr gwasanaeth wedi bod yn gyfrifol am gamymddwyn neu gamreoli, neu wedi cyfrannu ato neu ei hwyluso, wrth ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig (gweler adran 9(6)).
32.Mae adran 6(2) yn diwygio adran 9(7) o Ddeddf 2016 fel ei bod yn nodi bod rhaid i Weinidogion Cymru, pan fyddant yn rhoi sylw i dystiolaeth ynghylch a yw darparwr gwasanaeth (sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad) yn anaddas ar sail camymddwyn neu gamreoli, ystyried a yw’r darparwr wedi ymrwymo i drefniant ariannol sy’n dod o fewn adran newydd 9A.
33.Mae adran 6(3) yn mewnosod adrannau newydd 9A a 9B yn Neddf 2016. Mae adran newydd 9A(1) yn darparu bod trefniant ariannol yn dod o fewn adran 9A os yw’n drefniant gyda neu er lles “
34.Mae adran 7 yn diwygio adran 10 (datganiad blynyddol) o Ddeddf 2016 i osod gofynion newydd ynghylch yr hyn y mae rhaid ei gynnwys yn natganiad blynyddol darparwr gwasanaeth.
35.Mae paragraff (a) yn mewnosod paragraff newydd (viiia) yn adran 10(2)(a) o Ddeddf 2016, sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad blynyddol yn cynnwys gwybodaeth (a ragnodir gan Weinidogion Cymru) ynghylch tystiolaeth sy’n berthnasol i’r prawf person addas a phriodol yn adran 9 o Ddeddf 2016.
36.Mae paragraff (b) yn mewnosod is-adrannau newydd (2A) a (2B) yn adran 10 o Ddeddf 2016. Mae is-adran newydd (2A) yn ei gwneud yn ofynnol, yn achos darparwr gwasanaeth, ac eithrio awdurdod lleol, sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, bod rhaid i’r datganiad blynyddol gynnwys gwybodaeth (a ragnodir gan Weinidogion Cymru) sy’n dangos bod y darparwr yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1) (fel y’i mewnosodir gan adran 3 o’r Ddeddf - gweler paragraffau 16 a 17 o’r Nodiadau Esboniadol hyn am esboniad o adran newydd 6A). Mae is-adran (2B) yn darparu nad yw hyn yn gymwys i ddarparwyr nad yw adran 6A yn gymwys iddynt yn rhinwedd paragraff 2(3) o Atodlen 1A (fel y’i mewnosodir gan adran 4 o’r Ddeddf, ac sy’n pennu trefniadau trosiannol ar gyfer darparwyr gwasanaethau sy’n darparu’r gwasanaethau hyn).
37.Mae paragraff (c) yn diwygio is-adran (6) o adran 10 o Ddeddf 2016, gyda’r effaith y bydd y set gyntaf o reoliadau a wneir o dan is-adran (2)(a)(viiia) (rhagnodi gwybodaeth am dystiolaeth sy’n berthnasol i’r prawf person addas a phriodol) a’r set gyntaf o reoliadau a wneir o dan is-adran (2A) (rhagnodi gwybodaeth er mwyn bodloni Gweinidogion Cymru bod y darparwr yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1)) yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol ddrafft yn y Senedd.
38.Mae adran 8 yn diwygio Deddf 2016 i gynnwys darpariaethau newydd mewn perthynas ag amrywio neu ganslo cofrestriad fel darparwr gwasanaeth plant o dan gyfyngiad.
39.Mae is-adran (2) yn diwygio adran 11 (cais i amrywio cofrestriad fel darparwr gwasanaeth) drwy fewnosod is-adran newydd (4) sy’n ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i gais i amrywio cofrestriad i ddarparu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad gynnwys gwybodaeth er mwyn bodloni Gweinidogion Cymru bod y darparwr gwasanaeth yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1).
40.Mae is-adran (3) yn diwygio adran 12 (caniatáu neu wrthod cais am amrywiad) i ddarparu na chaiff Gweinidogion Cymru ond caniatáu cais os ydynt wedi eu bodloni bod y darparwr gwasanaeth yn bodloni’r gofynion hyn.
41.Mae is-adran (4) yn diwygio adran 13 (amrywio heb gais) i ddarparu y caiff Gweinidogion Cymru amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth i ddileu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad os nad yw’r darparwr gwasanaeth yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1). Mae is-adran (5) yn mewnosod is-adran newydd (3A) sy’n cyfeirio at baragraff 3(4)(a) o Atodlen 1A. Gwneir darpariaeth o dan yr Atodlen honno ynghylch cymhwyso adran 13 mewn perthynas â darparwyr y mae paragraff 2 o’r Atodlen honno yn gymwys iddynt.
42.Mae is-adran (6)(a) yn diwygio adran 15 (canslo heb gais) i ddarparu y caiff Gweinidogion Cymru ganslo cofrestriad darparwr gwasanaeth os yw pob un o’r gwasanaethau y mae’r darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â hwy yn wasanaeth plant o dan gyfyngiad ac nad yw’r darparwr gwasanaeth yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1). Mae is-adran (6)(b) yn mewnosod is-adran newydd (1A) sy’n cyfeirio at baragraff 3(4)(b) o Atodlen 1A. Gwneir darpariaeth o dan yr Atodlen honno ynghylch cymhwyso adran 15 mewn perthynas â darparwyr y mae paragraff 2 o’r Atodlen honno yn gymwys iddynt.
43.Mae adran 9 yn diwygio adran 38 (cofrestr o ddarparwyr gwasanaethau) o Ddeddf 2016 drwy fewnosod is-adran newydd (2A) sy’n cyflwyno gofynion newydd mewn cysylltiad â chofnodion yn y gofrestr o ddarparwyr gwasanaethau. Y gofynion newydd yw bod rhaid i’r cofnod yn y gofrestr ddangos a yw unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau yn wasanaeth plant o dan gyfyngiad, ac yn achos darparwr gwasanaeth plant o dan gyfyngiad rhaid i’r cofnod yn y gofrestr ddangos bod cofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1), a bod yr amod yn adran 7(3)(aa) wedi ei osod ar gofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw. Fodd bynnag, nid yw’r gofynion hyn yn gymwys mewn cysylltiad â chofrestriad darparwr gwasanaeth plant o dan gyfyngiad nad yw’n ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1) yn ystod y cyfnod trosiannol a ddiffinnir yn Atodlen 1A.
44.Mae adran 10 yn diwygio adran 75 (dyletswydd gyffredinol awdurdod lleol i sicrhau digon o lety i blant sy’n derbyn gofal) o Ddeddf 2014.
45.Mae geiriad is-adran (1) wedi ei ddiwygio i bennu bod rhaid i’r awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau llety i blant a grybwyllir yn is-adran (2). Mae’r gofyniad yn is-adran (1)(a) bod y llety y mae dyletswydd yr awdurdod lleol yn ymwneud ag ef o fewn ardal yr awdurdod lleol wedi ei ddiwygio i gynnwys llety sy’n agos i ardal yr awdurdod lleol. Mae hyn yn galluogi awdurdodau lleol i wneud trefniadau gydag awdurdodau lleol eraill i ddatblygu cartrefi plant newydd a lleoliadau gofal maeth newydd. Mae’n cydnabod y gall amgylchiadau godi pan all plentyn sydd wedi ei leoli y tu allan i ardal yr awdurdod lleol fod yn agosach at ei gymuned gartref na phe bai’n cael ei leoli mewn rhan wahanol o ardal yr awdurdod lleol.
46.Mae paragraffau newydd (aa) ac (ab) wedi eu hychwanegu at is-adran (1), sy’n pennu, pan fo’r llety gyda rhiant maeth awdurdod lleol neu mewn cartref plant, y dylai fodloni’r gofyniad perthnasol a ddisgrifir yn adran newydd 81A(4)(a) neu 81A(4)(b), yn y drefn honno (ac mae’r adran newydd i’w mewnosod gan adran 13 o’r Ddeddf).
47.Mae is-adran (5) yn diwygio is-adran (3) i’w gwneud yn ofynnol bod rhaid i awdurdod lleol, wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1), roi sylw i’r fantais bod ystod o lety sydd o fewn ei ardal neu’n agos iddi, ac sy’n gallu diwallu gwahanol anghenion y plant a grybwyllir yn is-adran (2). Mae’r newid hwn o “nifer o ddarparwr llety” i “ystod o lety” yn symud y ffocws o nifer y darparwyr i’r ystod o lety, ac a oes mathau gwahanol o leoliadau yn y mannau cywir sy’n gallu diwallu anghenion plant. Felly, gallai’r ddyletswydd gael ei chyflawni o bosibl drwy lety yn bodoli a ddarperir gan un darparwr, megis yr awdurdod lleol ei hun.
48.Mae is-adrannau (6) a (7) yn diwygio is-adran (4) ac adran 197(1) i ddiwygio’r diffiniad o “cartref plant” at ddibenion adran 75, fel nad yw’r ddyletswydd yn gymwys ond mewn perthynas â llety mewn cartrefi plant a chyda rhieni maeth awdurdod lleol.
49.Mae adran 11 yn diwygio Deddf 2014 i fewnosod adrannau newydd 75A, 75B a 75C.
50.Mae adran 75A yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio a chyhoeddi cynllun digonolrwydd blynyddol cyn dechrau pob blwyddyn ariannol. Rhaid i’r cynllun fanylu ar y camau y bydd yr awdurdod lleol yn eu cymryd yn y flwyddyn honno i gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 75(1). Rhaid i’r cynllun fod ar ffurf a ragnodir drwy reoliadau, a rhaid iddo gael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru cyn ei gyhoeddi (mae’r broses ar gyfer hyn wedi ei nodi yn adrannau 75B a 75C). Rhaid iddo gynnwys, ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi: amcangyfrif o nifer y plant y bydd yr awdurdod lleol yn gofalu amdanynt ac na fydd yn gallu eu lleoli o dan adran 81(2); asesiad ynghylch i ba raddau y mae’r llety sydd ar gael yn bodloni’r gofynion perthnasol yn adran 81A(3) yn ogystal ag i ba raddau y mae’r llety hwnnw o fewn ardal yr awdurdod lleol, neu’n agos iddi. Rhaid i’r cynllun hefyd gynnwys gwybodaeth ragnodedig ynghylch darparwyr er elw a darparwyr preifat(1) sy’n debygol o gael eu henwi mewn ceisiadau i gymeradwyo lleoliadau atodol, amcangyfrif o nifer y ceisiadau o’r fath a ddisgwylir a’r rhesymau pam y mae’r nifer hwnnw o geisiadau yn debygol o gael ei wneud.
51.Mae adran 75B o Ddeddf 2014 yn nodi’r weithdrefn ar gyfer cymeradwyo’r cynllun digonolrwydd blynyddol. Cyn cyhoeddi’r cynllun, rhaid i awdurdod lleol lunio drafft a’i gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo. Rhaid cyflwyno’r drafft cyntaf heb fod yn hwyrach na 4 mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi, tra bo rhaid cyflwyno drafftiau dilynol heb fod yn hwyrach na 2 fis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol. Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r awdurdod lleol am benderfyniad i gymeradwyo’r cynllun drafft.
52.Mae adran 75C o Ddeddf 2014 yn nodi’r weithdrefn sydd i’w dilyn os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft o gynllun digonolrwydd blynyddol a gyflwynir gan awdurdod lleol o dan adran 75B. Yn yr achos hwn, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r awdurdod lleol am eu penderfyniad a darparu’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw. Rhaid iddynt hefyd bennu cyfnod y mae rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno drafft pellach o’r cynllun ynddo. Rhaid i’r awdurdod lleol wedyn gyflwyno drafft pellach o’r cynllun, ynghyd ag adroddiad sy’n egluro sut y mae’r awdurdod wedi ystyried y rhesymau a ddarparwyd gan Weinidogion Cymru. Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft pellach, mae’r un weithdrefn yn gymwys. Os bydd Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo drafft pellach, rhaid iddynt hysbysu’r awdurdod lleol am y penderfyniad hwnnw.
53.Mae adran 12 yn mewnosod adran newydd 75D yn Neddf 2014. Mae adran 75D yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol adrodd ar eu dyletswydd o dan adran 75 i sicrhau llety. Rhaid i’r adroddiad blynyddol a lunnir gan awdurdod lleol o dan adran 144A gynnwys gwybodaeth am sut y mae’r camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol wedi cynyddu, neu sut y disgwylir iddynt gynyddu, faint o lety sydd ar gael sy’n bodloni gofynion adran 75(1). Rhaid i’r adroddiad hefyd gynnwys nifer y ceisiadau a wnaed gan yr awdurdod lleol am gymeradwyaeth i leoli plant mewn lleoliadau atodol, yn ogystal â’r rhesymau dros unrhyw wahaniaeth rhwng nifer amcangyfrifedig y ceisiadau a nifer gwirioneddol y ceisiadau.
54.Mae adran 13 yn diwygio adran 81 o Ddeddf 2014 ac yn mewnosod adrannau newydd 81A, 81B, 81C ac 81D (ar ôl adran 81) yn Neddf 2014.
55.Mae adran 81 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i drefnu i blentyn sy’n derbyn gofal fyw gyda rhiant, person sydd â chyfrifoldeb rhiant neu berson y mae gorchymyn trefniadau plentyn wedi ei wneud o’i blaid. Fodd bynnag, pan na fo hyn yn gyson â llesiant y plentyn sy’n derbyn gofal, neu pan na fo’n rhesymol ymarferol, o dan adran 81A, rhaid i’r awdurdod lleol letya’r plentyn yn y “lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael”. (Fodd bynnag, mae hyn yn ddarostyngedig, yn y ddau achos, i unrhyw benderfyniad a wneir gan yr awdurdod y byddai’n briodol i’r plentyn gael ei leoli gyda darpar fabwysiadydd (ac o ran hynny, gweler adran 81C)).
56.Yng nghyd-destun adran 81A, ystyr “lleoliad” yw lleoli plentyn:
gydag unigolyn sy’n berthynas, yn ffrind neu’n berson arall sy’n gysylltiedig â’r plentyn ac sydd hefyd yn rhiant maeth awdurdod lleol (y cyfeirir ato’n gyffredin fel “lleoliad gyda pherthynas”),
gyda rhiant maeth awdurdod lleol (arall),
mewn cartref plant, neu
(yn ddarostyngedig i adran 82 o Ddeddf 2014) yn unol â threfniadau eraill sy’n cydymffurfio ag unrhyw reoliadau a wneir at ddibenion adran 81A. Mae amrywiaeth o amgylchiadau pan all awdurdod lleol benderfynu lleoli plentyn mewn lleoliad heblaw gofal maeth neu wasanaeth cartref gofal i blant. Er enghraifft, gall awdurdod lleol leoli plentyn hŷn sy’n 16 neu’n 17 oed mewn llety â chymorth fel paratoad ar gyfer byw’n annibynnol.
57.Fel yn achos yr adran 81 bresennol, mae penderfyniadau ynghylch ble i leoli plentyn sy’n derbyn gofal o dan adran 81A i’w gwneud yn ddarostyngedig i’r angen i ystyried yr hyn y cyfeirir ato fel “prif” ddyletswydd awdurdodau lleol yn Rhan 6 o Ddeddf 2014. Nodir hyn yn adran 78 ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant y mae’n gofalu amdanynt.
58.Mae’r newidiadau a wneir gan adran 13 yn adlewyrchu newidiadau a wneir i Ddeddf 2016 sy’n cyfyngu ar wneud elw wrth ddarparu gwasanaethau maethu a gwasanaethau cartrefi gofal i blant fel “gwasanaethau plant o dan gyfyngiad”.
59.Mae’r prif newid a wneir gan yr adran hon (a geir yn adran 81A(2) a (4)) yn ymwneud â’r penderfyniad a wneir gan awdurdod lleol ynghylch y lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal. Mae’r adran 81(7) bresennol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ystyried nifer o faterion wrth wneud y penderfyniad hwn. Mynegir y rhain fel gofynion o dan yr adran 81 bresennol, yn is-adrannau (8) a (9).
60.Rhaid ystyried y materion hyn o hyd o dan adran 81A(5), ond, o ganlyniad i adran 81A(4), os yw’r awdurdod lleol yn ystyried mai lleoliad gyda rhiant maeth neu mewn cartref plant yw’r lleoliad mwyaf priodol (yn unol ag adran newydd 81A(2)) (gan roi blaenoriaeth – yn ddarostyngedig i’r brif ddyletswydd o dan adran 78 – i leoliad gyda pherthynas), yna (er bod hyn hefyd yn ddarostyngedig i’r brif ddyletswydd) bydd angen bellach i’r awdurdod leoli’r plentyn mewn ffordd sy’n gyson â’r gofyniad sy’n cyfyngu ar elw yn adran 6A(1) o Ddeddf 2016. Cyflawnir hyn drwy’r gofyniad yn adran 81A(4) i’r awdurdod lleol ddefnyddio’r mathau canlynol yn unig o rieni maeth a chartrefi plant (ar yr amod nad yw gwneud hynny yn peri bod yr awdurdod yn torri’r brif ddyletswydd):
rhieni maeth awdurdod lleol sydd wedi eu hawdurdodi felly gan yr awdurdod lleol, gan awdurdod lleol gwahanol, neu gan asiantaeth faethu annibynnol sydd wedi ei chofrestru yn ddarostyngedig i ofynion adran 6A(1) o Ddeddf 2016;
cartrefi plant y mae un o’r personau a ganlyn wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â hwy fel y darparwr: yr awdurdod lleol, awdurdod lleol gwahanol, neu ddarparwr gwasanaeth sydd wedi ei gofrestru yn ddarostyngedig i ofynion adran 6A(1) o Ddeddf 2016.
61.Os oes mwy nag un lleoliad ar gael gyda rhiant maeth o’r fath neu mewn cartref plant o’r fath (fel y bo’n briodol), mae’r ddeddfwriaeth ddiwygiedig yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol ystyried unwaith eto beth yw’r lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael yn unol ag adran 81A(2) – y tro hwn i ystyried pa leoliad o’r math hwn y dylid ei ddewis. Wrth wneud hynny, rhaid iddo roi sylw i nifer o ffactorau sy’n benodol i anghenion y plentyn o dan sylw. Nodir y ffactorau hyn yn adran newydd 81A(5)(a), sy’n atgynhyrchu darpariaethau a oedd yn adran 81(7) ac (8) yn flaenorol.
62.Gan fod y ffactorau sydd i’w hystyried yn adlewyrchu buddiannau plentyn sy’n derbyn gofal a all wrthdaro neu orgyffwrdd, a chan eu bod i gyd yn ddarostyngedig i’r brif ddyletswydd yn adran 78, mae geiriad y ddyletswydd a osodir ar awdurdod lleol (a oedd o dan a81(7) yn flaenorol) wedi ei newid i’w gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol roi sylw i’r ffactorau hyn (wrth orfod diogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn). Mae’r gwahanol agweddau ar lesiant plentyn wedi eu nodi yn y diffiniad o “llesiant” yn adran 2 o Ddeddf 2014.
63.Os nad oes lleoliad ar gael gyda rhiant maeth na darparwr cartref plant o’r fath, neu os na fyddai lleoli plentyn mewn lleoliad o’r fath pan fo lleoliad ar gael yn gyson â phrif ddyletswydd yr awdurdod lleol o dan adran 78, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried unwaith eto beth yw’r lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael yn unol ag adran 81A(2).
64.Ar y pwynt hwn, rhaid i’r awdurdod lleol o angenrheidrwydd ystyried lleoliadau a all fod ar gael gyda darparwyr eraill, unwaith eto gan roi sylw i’r ffactorau y cyfeirir atynt yn adran 81A(5)(a), a rhaid iddo hefyd roi blaenoriaeth i leoliad gyda pherthynas (eto, yn ddarostyngedig i’r brif ddyletswydd o dan adran 78).
65.Pan fo awdurdod lleol yn lleoli plentyn sy’n derbyn gofal mewn lleoliad nad yw’n bodloni gofynion adran newydd 81A(4), rhaid i’r awdurdod wneud cais i Weinidogion Cymru am gymeradwyaeth (gweler adran 81B ynghylch “lleoliadau atodol”).
66.O ganlyniad i adran newydd 81A(7), bydd rhaid i god ymarfer perthnasol a ddyroddir gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 145 o Ddeddf 2014 gynnwys darpariaeth ynghylch sut y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau o dan adran 81.
67.Mae adran 81B(3) yn nodi pa wybodaeth y mae rhaid ei darparu wrth wneud cais i gymeradwyo lleoliad atodol, sy’n cynnwys (ymhlith materion eraill) esboniad pam y mae’r awdurdod lleol o’r farn y byddai’n gweithredu yn anghyson â’i ddyletswydd o dan adran 78 o Ddeddf 2014 pe na bai’n lleoli’r plentyn sy’n derbyn gofal gyda’r darparwr er elw neu’r darparwr preifat (fel y bo’n gymwys).
68.Os bydd Gweinidogion Cymru yn gwrthod y cais, rhaid iddynt gyfarwyddo’r awdurdod lleol i wneud y canlynol:
ystyried rhesymau Gweinidogion Cymru dros wrthod y cais, ac
ailystyried lleoli’r plentyn mewn ffordd nad yw’n groes i’r gofynion yn adran 81A(4).
69.Ar ôl gwneud hynny, caiff yr awdurdod lleol ailgyflwyno’r cais os yw’n parhau i fod o’r farn ei bod yn angenrheidiol lleoli’r plentyn gyda darparwr er elw neu breifat gan gadw mewn cof y brif ddyletswydd o dan adran 78, ond rhaid i’r awdurdod esbonio:
sut y mae wedi ystyried rhesymau Gweinidogion Cymru dros wrthod y cais cychwynnol, a
pam y mae’n parhau i ystyried y dylid lleoli’r plentyn mewn lleoliad atodol.
70.Mae adran newydd 81C yn atgynhyrchu’r hyn a geir ar hyn o bryd yn is-adrannau (10) i (12) o adran 81, gan nodi’r dyletswyddau lleoli sy’n gymwys mewn cysylltiad â phlentyn y mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni y dylid ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu.
71.Mae adran newydd 81D yn atgynhyrchu’r hyn a geir ar hyn o bryd yn is-adran (13) o adran 81, sy’n darparu y caiff awdurdod lleol ddyfarnu telerau unrhyw drefniadau neu leoliadau y mae’n eu gwneud mewn cysylltiad â phlentyn sy’n derbyn gofal o dan adran 81, 81A, 81B neu 81C.
72.Mae adran 14 yn diwygio adran 10 o Ddeddf 2016 sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr gwasanaeth gyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru, ac mae rhaid iddynt hwythau gyhoeddi’r datganiad hwnnw wedyn. Mae adran 14 yn diwygio adran 10 fel ei bod yn ofynnol i’r darparwr (ac nid i Weinidogion Cymru) gyhoeddi ei ddatganiad blynyddol ei hun ar ei wefan, ac iddo roi copi o’r datganiad hwnnw ar gael ar gais. Mae’r diwygiadau hefyd yn darparu bod rhaid i ddarparwr gwasanaeth gyhoeddi ei ddatganiad o fewn terfyn amser a ragnodir gan Weinidogion Cymru a bod methu â gwneud hynny yn drosedd ddiannod y gellir ei chosbi drwy ddirwy (gweler adran 14(3) sy’n diwygio adran 48 o Ddeddf 2016).
73.Mae adran 15 yn diwygio adran 14 o Ddeddf 2016 i ddarparu’r pŵer i Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol bod rhaid i gais i ganslo cofrestriad darparwr gwasanaeth gynnwys gwybodaeth ragnodedig a chael ei wneud ar y ffurf ragnodedig.
74.Mae adran 16 yn diwygio adrannau 13 a 15 o Ddeddf 2016, sy’n nodi pwerau Gweinidogion Cymru i amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth (adran 13) ac i ganslo cofrestriad darparwr gwasanaeth (adran 15), yn ddarostyngedig i’r weithdrefn hysbysiad gwella (a nodir yn adrannau 16 a 17 o Ddeddf 2016). Mae adran 16 yn diwygio’r adrannau hyn fel bod yr weithdrefn hysbysu sy’n gymwys yn dibynnu ar y seiliau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu amrywio neu ganslo cofrestriad y darparwr arnynt. O ganlyniad i’r diwygiadau hyn, pan fo cofrestriad yn cael ei amrywio neu ei ganslo ar seiliau penodol nad oes unrhyw gamau gwella y gallai fod yn ofynnol i ddarparwr gwasanaeth eu cymryd mewn cysylltiad â hwy, bydd y weithdrefn hysbysiad o gynnig yn adran 18 o Ddeddf 2016 yn gymwys yn lle’r weithdrefn hysbysiad gwella. Byddai hyn yn gymwys, er enghraifft, pan na fo’r darparwr gwasanaeth bellach yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig penodol neu pan na fo’r darparwr gwasanaeth bellach yn darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig hwnnw mewn man penodol, ohono, neu mewn perthynas ag ef.
75.Mae adran 17 yn diwygio Pennod 3 o Ddeddf 2016 fel ei bod yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â phwerau Gweinidogion Cymru i gynnal arolygiadau ac ymchwiliadau ac i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu mewn perthynas â swyddogaethau amrywiol sydd ganddynt o dan Ddeddf 2016, gan gynnwys mewn cysylltiad ag ymchwilio i droseddau.
76.Mae adran 18 yn diwygio adran 79 o Ddeddf 2016 i roi’r pŵer i Weinidogion Cymru drwy reoliadau i estyn y diffiniad o weithwyr gofal cymdeithasol at ddiben Deddf 2016 i gynnwys gweithwyr gofal plant (gan gynnwys gweithwyr chwarae).
77.Mae gweithwyr gofal plant yn unigolion sy’n cael eu cyflogi gan berson, neu’n gweithio (gan gynnwys fel gweithwyr asiantaeth) i berson, sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 fel darparwr gofal dydd, i ddarparu gofal a goruchwyliaeth i blant.
78.Mae adran 19 yn diwygio Pennod 4 o Ran 6 o Ddeddf 2016 sy’n gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â gorchmynion interim ac adolygiadau o orchmynion interim mewn achosion addasrwydd i ymarfer. Mae gorchmynion interim a osodir gan y rheoleiddiwr yn fodd i alluogi i gyfyngiadau dros dro gael eu cymhwyso i berson cofrestredig tra bo ymchwiliadau yn cael eu gwneud i honiadau ynghylch addasrwydd i ymarfer a wneir yn erbyn y person. Mae’r diwygiad yn rhoi’r pŵer i banel (panel gorchmynion interim neu banel addasrwydd i ymarfer y dygir yr achos gorchymyn interim ger ei fron) i estyn gorchymyn interim am gyfnod o gyfanswm o hyd at 18 mis, gan ddileu’r angen i geisiadau gael eu gwneud i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf am estyniadau nad ydynt yn estyn hyd cyfan y gorchymyn y tu hwnt i’r terfyn hwnnw. Bydd cais i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn parhau i fod yn ofynnol pan fo gorchymyn interim i gael ei estyn y tu hwnt i 18 mis (gweler adran 148 o Ddeddf 2016).
79.Mae adran 20 yn diwygio Rhan 4 o Ddeddf 2014 er mwyn caniatáu i awdurdod lleol wneud taliadau uniongyrchol i berson (unigolyn neu gorff) sydd wedi ei enwebu gan oedolyn sydd â hawlogaeth i gael taliad uniongyrchol o dan adran 50 o Ddeddf 2014 ni waeth a yw’r oedolyn hwnnw yn oedolyn heb alluedd (o fewn ystyr Deddf Galluedd Meddyliol 2005) i gael a rheoli’r taliadau uniongyrchol ei hunan.
80.Bwriad y diwygiadau a wneir gan adran 20 yw sicrhau bod gan bob person sydd â hawlogaeth i gael taliad uniongyrchol o dan Ran 4 o Ddeddf 2014 (gan gynnwys taliadau a wneir mewn cysylltiad â gwasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983) yr un hawlogaeth i enwebu person i gael a rheoli’r taliadau uniongyrchol ar ei ran, pa un a oes ganddynt alluedd meddyliol ai peidio (neu yn achos plentyn o dan 16 oed, fod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cydsynio i gael taliad uniongyrchol).
81.Mae’r diwygiadau hynny yn mewnosod adrannau newydd 49A a 53A yn Neddf 2014 ac yn amnewid adrannau 50, 51 a 52.
82.Mae adran newydd 49A yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau a gaiff ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol wneud taliadau uniongyrchol ond dim ond pan fo’r amodau perthnasol a bennir yn adrannau 50 (taliadau uniongyrchol: yr amodau ar gyfer taliad i ddiwallu anghenion oedolyn), 51 (taliadau uniongyrchol: yr amodau ar gyfer taliad i ddiwallu anghenion plentyn) neu 52 (taliadau uniongyrchol: yr amodau ar gyfer taliad i ddiwallu anghenion gofalwr) wedi eu bodloni gan y person sydd â hawlogaeth i gael gofal a chymorth o dan Ran 4 o Ddeddf 2014.
83.Mae adran 20 hefyd yn mewnosod adran newydd 53A yn Rhan 4 o Ddeddf 2014. Mae hyn yn disodli darpariaeth bresennol a wneir gan adran 53(11) sydd ar hyn o bryd yn darparu y caiff rheoliadau a wneir o dan adrannau 50 ac 51 alluogi awdurdod lleol i gyflawni ei ddyletswydd i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (“
84.Mae adran 20 yn amnewid Atodlen A1. Mae’r Atodlen A1 newydd yn nodi’n llawn yr amodau y mae rhaid eu bodloni cyn y caiff awdurdod lleol wneud taliadau uniongyrchol wrth gyflawni ei ddyletswydd i ddarparu neu sicrhau gwasanaethau i berson sydd â hawlogaeth i ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf 1983 (yn hytrach na thrwy wneud addasiadau i’r ddarpariaeth berthnasol yn Rhan 4 o Ddeddf 2014). Mae’r Atodlen A1 sydd wedi ei hamnewid yn cynnwys darpariaeth sy’n galluogi person sydd â hawlogaeth i gael taliad uniongyrchol yn lle cael ôl-ofal i enwebu person i gael y taliadau uniongyrchol ar ei ran.
85.Mae adran 21 yn diwygio adrannau 76 ac 81 o Ddeddf 2014 i egluro cwmpas cyfeiriadau yn yr adrannau hynny at “gorchmynion trefniadau plentyn”. Mewnosodwyd y cyfeiriadau hyn fel diwygiadau canlyniadol pan ddisodlwyd gorchmynion preswylio (sef yr hyn yr oedd y darpariaethau hyn yn cyfeirio atynt yn flaenorol) gan orchmynion trefniadau plentyn (gweler adran 12 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) ac Atodlen 2 iddi). Fodd bynnag, mae gorchmynion trefniadau plentyn yn ymdrin ag ystod ehangach o faterion na gorchmynion preswyl, ac maent yn cynnwys trefniadau cyswllt ar gyfer plant. Mae’r Ddeddf felly yn diwygio’r cyfeiriadau at “gorchmynion trefniadau plentyn” yn adrannau 76 ac 81 o Ddeddf 2014 i egluro nad yw cyfeiriad at orchmynion trefniadau plentyn ond yn ymwneud â’r gorchmynion hynny sy’n pennu’r person y dylai plentyn fyw gydag ef.
86.Mae adran 22 yn cyflwyno Atodlen 1 sy’n gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â’r darpariaethau yn Rhan 1 o’r Ddeddf, mewn cysylltiad â gofal cymdeithasol.
87.Mae paragraff 2(6) o Atodlen 1 yn diwygio paragraff 1(4) o Atodlen 1 i Ddeddf 2016 i’w gwneud yn glir fod y ddarpariaeth o lety a gofal i blentyn gan awdurdod lleol yn gyfystyr â gwasanaeth cartref gofal.
88.Mae’r Rhan hon yn cynnwys darpariaethau sy’n diwygio Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 [“Deddf 2006”] sef y brif ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu gweithrediad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru. Mae’r diwygiadau yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud taliadau uniongyrchol i unigolion yn lle darparu gwasanaethau gan neu ar ran y GIG i ddiwallu eu hanghenion (neu gyfarwyddo Byrddau Iechyd Lleol i wneud taliadau o’r fath ar eu rhan gan ddefnyddio pwerau presennol o dan Ddeddf 2006).
89.Mae taliadau uniongyrchol yng nghyd-destun gofal cymdeithasol yn symiau ariannol a delir gan awdurdodau lleol yn unol â dyletswyddau o dan Ddeddf 2014 i unigolion (neu eu cynrychiolwyr) i’w galluogi i sicrhau gwasanaethau i ddiwallu eu hanghenion cymwys am ofal a chymorth (neu anghenion gofalwr). Gwneir y taliadau hyn yn lle bod yr awdurdod lleol yn darparu neu’n trefnu gwasanaethau i ddiwallu’r anghenion hynny ac fe’u gwneir o dan ddarpariaethau yn Rhan 4 o Ddeddf 2014 ac yn rhinwedd y Rhan honno.(2)
90.Bwriedir i’r pwerau newydd gael eu defnyddio i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud taliadau uniongyrchol (mewn achosion priodol) yn lle darparu gwasanaethau pan fo unigolyn yn gymwys i gael Gofal Iechyd Parhaus y GIG (“
91.Roedd Rhaglen Lywodraethu 2021 Llywodraeth Cymru yn nodi ymrwymiad i “wella’r rhyngwyneb rhwng gofal iechyd parhaus a thaliadau uniongyrchol”. Yn unol â hynny, yn 2022, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar yr egwyddor o gyflwyno taliadau uniongyrchol fel opsiwn o fewn GIP. Roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad ar y cynnig yn dangos bod llawer o gefnogaeth i’r egwyddor o gyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer GIP.
92.Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o brif ddarpariaethau Rhan 2 o’r Ddeddf. Mae’n crynhoi’r pynciau yr ymdrinnir â hwy ym mhob adran ddilynol yn y Rhan.
93.Mae’r adran hon yn mewnosod darpariaeth newydd yn Rhan 1 o Ddeddf 2006 er mwyn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud taliadau uniongyrchol i unigolion yn lle darparu gwasanaethau i ddiwallu eu hanghenion asesedig o dan Ddeddf 2006.
94.Mae Gweinidogion Cymru wedi arfer pŵer o dan adran 12 o Ddeddf 2006 i wneud rheoliadau sy’n cyfarwyddo Byrddau Iechyd Lleol (BILlau) i arfer swyddogaethau penodedig Gweinidogion Cymru o dan Ddeddf 2006 ar eu rhan. Caniateir arfer y pwerau hyn ymhellach i gyfarwyddo’r BILlau i arfer pŵer Gweinidogion Cymru i wneud taliadau uniongyrchol yn lle darparu gwasanaethau.
95.Mae adran 10B(6) yn cynnwys pŵer i wneud rheoliadau a fyddai, pe bai’n cael ei arfer gan Weinidogion Cymru, yn galluogi BILlau i wneud taliadau uniongyrchol wrth gyflawni dyletswydd y BILlau i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
96.Pan fo Gweinidogion Cymru yn defnyddio’r pŵer yn adran 10B(1) i wneud taliadau uniongyrchol, rhaid iddynt wneud trefniadau ar gyfer darparu gwybodaeth, cyngor neu gymorth arall i’r claf, i’w dalai neu i gynrychiolydd arall. Yn yr un modd, os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau o dan adran 10B(6) er mwyn galluogi BILlau i wneud taliadau uniongyrchol wrth gyflawni dyletswyddau BILlau o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch gwybodaeth, cyngor neu gymorth arall sydd i’w darparu neu ei ddarparu gan BILlau.
97.Mae’r diwygiadau hefyd yn mewnosod adran 10C yn Neddf 2006, sy’n darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n pennu pryd a sut y caniateir gwneud taliadau uniongyrchol. Caiff rheoliadau a wneir o dan y ddarpariaeth hon ddarparu bod taliadau uniongyrchol i’w cynnig o dan amgylchiadau penodedig yn unig, neu cânt atal taliadau o’r fath rhag cael eu gwneud i bersonau penodedig.
98.Mae’r diwygiadau hefyd yn mewnosod adran 10D yn Neddf 2006, sy’n darparu y caiff Gweinidogion Cymru a BILlau wneud trefniadau gyda sefydliadau eraill i ddarparu cymorth gyda thaliadau uniongyrchol.
99.Gwneir diwygiadau hefyd i adran 203 o Ddeddf 2006, ac effaith hynny yw y bydd y set gyntaf o reoliadau a wneir o dan adran 10B(6) o Ddeddf 2006 yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol ddrafft yn y Senedd.
100.Mae’r adran hon yn cyflwyno Atodlen 2, sy’n gwneud nifer o fân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddfau eraill o ganlyniad i’r ddarpariaeth newydd yn Rhan 1 o Ddeddf 2006 mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol. Mae’r Atodlen yn cynnwys diwygiadau i Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (p. 20), Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986 (p. 33), Deddf 2006, Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p. 47), a Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3).
101.Mae’r adran hon yn diwygio adran 47 o Ddeddf 2014. Mae’r diwygiadau hyn yn mynd i’r afael â chanlyniad anfwriadol sy’n deillio o ddrafftio Deddf 2014, er mwyn ymgorffori’r prawf statudol llawn y bwriedir iddo bennu’r cyfyngiadau ar bwerau awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd.
102.Mae adran 47 o Ddeddf 2014 yn sefydlu’r cyfyngiadau o ran gwasanaethau iechyd y gellid disgwyl yn gyfreithlon i awdurdod lleol eu darparu i ddiwallu anghenion gofal iechyd. Mae is-adrannau (1) a (2) yn cynnwys yr eithriadau ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd gan awdurdodau lleol.
103.Mae’r prawf “maint ac ansawdd”, a ddatblygwyd gan y Llys Apêl o ganlyniad i achos Coughlan (R. v. North and East Devon Health Authority, ex parte Coughlan [1999 EWCA civ 1871], ac y cyfeirir ato weithiau fel y “prawf Coughlan”, yn pennu’r cyfyngiadau ar bwerau awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd. Y bwriad oedd y byddai’r ddarpariaeth a wneir gan adran 47 o Ddeddf 2014 yn dilyn argymhellion Comisiwn y Gyfraith yn ei adroddiad ar Ofal Cymdeithasol i Oedolion (Comisiwn y Gyfraith (Comisiwn y Gyfraith Rhif 326) Gofal Cymdeithasol i Oedolion), gan gynnwys yr argymhelliad y dylid codeiddio’r prawf Coughlan mewn statud. Fodd bynnag, nid oedd Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) fel y’i cyflwynwyd ond yn cynnwys cainc gyntaf y prawf Coughlan, sydd bellach wedi ei nodi yn adran 47 o Ddeddf 2014.
104.Felly, mae’r diwygiadau a wneir gan adran 26 yn mewnosod ail gainc y prawf Coughlan yn adran 47(1) a (2) o Ddeddf 2014, er mwyn rhoi effaith i’r bwriad polisi gwreiddiol.
105.Mae’r adran hon yn darparu mai enw byr y Ddeddf yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025.
106.Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy’r Senedd. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan y Senedd ar:
https://business.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=43830
Cyfnod | Dyddiad |
---|---|
Cyflwynwyd | 20 Mai 2024 |
Cyfnod 1 – Dadl | 22 Hydref 2024 |
Cyfnod 2 Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau | 28 Tachwedd 2024 |
Cyfnod 3 Cyfarfod Llawn – ystyried y gwelliannau | 28 Ionawr 2025 |
Cyfnod 4 Cymeradwywyd gan y Senedd | 4 Chwefror 2025 |
Y Cydsyniad Brenhinol | 24 Mawrth 2025 |
Yn y cyd-destun hwn, mae ‘darparwr preifat’ yn ddarparwr gwasanaethau plant o dan gyfyngiad yn Lloegr nad yw’n awdurdod lleol. Mae’r Ddeddf yn gwahaniaethu rhwng darparwyr o’r fath a ‘darparwyr er elw’ gan na fydd darparwyr yn Lloegr yn ddarostyngedig i’r gyfundrefn sy’n gymwys yng Nghymru, ac felly ni fydd modd eu hadnabod o’r gofrestr yn ddarparwyr ‘er elw’ neu’n ddarparwyr ‘nid-er-elw’, fel y bydd modd ei wneud o ran darparwyr Cymreig. Felly, bydd rhaid i awdurdodau lleol sy’n ceisio lleoli plentyn gyda darparwr yn Lloegr ganfod, yn syml, a yw’r darparwr yn awdurdod lleol ac, os nad yw, bydd cais i gymeradwyo lleoliad atodol yn ofynnol.
Gweler adrannau 50 i 53 o Ddeddf 2014 ac O.S. 2015/1815 (Cy. 260).