Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

2Ystyr “heneb” a “safle heneb”

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Yn y Ddeddf hon ystyr “heneb” yw—

(a)unrhyw adeilad, unrhyw strwythur neu unrhyw waith (pa un ai uwchben wyneb y tir neu o dan wyneb y tir) ac unrhyw ogof neu unrhyw gloddiad;

(b)safle olion unrhyw adeilad, unrhyw strwythur neu unrhyw waith neu safle olion unrhyw ogof neu gloddiad;

(c)safle unrhyw gerbyd, unrhyw lestr, unrhyw gerbyd awyr neu unrhyw strwythur symudol arall, neu ran o wrthrych o’r fath, nad yw’n waith, nac yn ffurfio rhan o unrhyw waith, sy’n heneb o fewn paragraff (a);

(d)safle olion unrhyw wrthrych neu unrhyw ran o wrthrych a grybwyllir ym mharagraff (c);

(e)safle unrhyw beth, neu unrhyw grŵp o bethau, sy’n dystiolaeth o weithgarwch dynol blaenorol (ac eithrio safle sy’n dod o fewn paragraff (b), (c) neu (d)).

(2)At ddibenion is-adran (1) mae unrhyw beiriannau sydd wedi eu gosod yn sownd wrth heneb i’w trin fel pe baent yn rhan o’r heneb os na ellid eu datgysylltu heb eu datgymalu.

(3)Nid yw is-adran (1)(a) yn gymwys i unrhyw adeilad crefyddol sy’n cael ei ddefnyddio am y tro at ddibenion crefyddol; ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)Nid yw is-adrannau (1)(c) a (d) yn gymwys—

(a)i safle unrhyw wrthrych neu ei olion oni bai bod lleoliad y gwrthrych hwnnw neu ei olion yn y safle penodol hwnnw yn fater o ddiddordeb i’r cyhoedd;

(b)i safle unrhyw lestr neu ei olion sy’n cael ei warchod gan orchymyn o dan adran 1 o Ddeddf Gwarchod Llongddrylliadau 1973 (p. 33) sy’n dynodi ardal o gwmpas y safle yn ardal gyfyngedig.

(5)At ddibenion y Ddeddf hon mae safle heneb yn cynnwys nid yn unig y tir y mae ynddo‍, arno neu odano ond hefyd unrhyw dir sy’n rhan o’r tir hwnnw neu sy’n cydffinio â’r tir hwnnw y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol, wrth arfer mewn perthynas â’r heneb honno unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau hwy neu o’i swyddogaethau ef o dan y Rhan hon, ei fod yn hanfodol er mwyn cynnal a diogelu’r heneb.

(6)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at heneb yn cynnwys—

(a)safle’r heneb o dan sylw,

(b)grŵp o henebion, ac

(c)unrhyw ran o heneb neu grŵp o henebion.

(7)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at safle heneb—

(a)yn gyfeiriadau at yr heneb ei hun pan fo’n safle, a

(b)mewn unrhyw achos arall yn cynnwys yr heneb ei hun.

(8)Yn yr adran hon mae “olion” yn cynnwys unrhyw arlliw neu unrhyw arwydd o fodolaeth flaenorol y peth o dan sylw.