Cyflwyniad

1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (“y Ddeddf”) a basiwyd gan Senedd Cymru ar 28 Mawrth 2023 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 14 Mehefin 2023. Fe’u lluniwyd gan Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.

2.Nid yw’r nodiadau hyn yn darparu disgrifiad cynhwysfawr o gynnwys y Ddeddf. Os ymddengys nad oes angen rhoi esboniad neu sylw ar ddarpariaeth yn y Ddeddf, nis rhoddir.

Crynodeb a Chefndir

3.Mae’r Ddeddf yn dwyn ynghyd y brif ddeddfwriaeth ar gyfer cadwraeth yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru. Fe’i trefnir yn saith Rhan.

a.

Mae Rhan 1 yn darparu trosolwg o’r Ddeddf.

b.

Mae Rhan 2 yn cynnwys y gyfraith sy’n ymwneud â henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig, a all amrywio o wasgariadau o offer cynhanesyddol neu safleoedd archaeolegol eraill i adfeilion sefydlog cestyll, abatai neu safleoedd diwydiannol diweddarach. Ymhlith pethau eraill, mae Rhan 2 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal y gofrestr o henebion y maent yn ystyried eu bod o bwysigrwydd cenedlaethol (mae dros 4,200 ohonynt ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn) ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer awdurdodi a rheolaethu gwaith i henebion cofrestredig gan Weinidogion Cymru. Mae Rhan 2 hefyd yn cynnwys pwerau ar gyfer caffael henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig a gwarcheidiaeth henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig gan Weinidogion Cymru neu awdurdodau lleol, sy’n darparu’r sail ar gyfer rheolaeth a chadwraeth llawer o’r henebion sydd yng ngofal Gweinidogion Cymru (yn ymarferol, Cadw, sy’n gweithredu ar eu rhan).

c.

Mae Rhan 3 yn ymwneud â’r dros 30,000 o adeiladau rhestredig yng Nghymru sy’n dyddio o’r Oesoedd Canol i gyfnodau mwy diweddar. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru restru adeiladau sydd, yn eu barn hwy, o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer awdurdodi a rheolaethu gwaith sy’n effeithio ar adeiladau cofrestredig. Yn wahanol i’r gofrestr o henebion, pan nad oes rhaid i bob heneb yr ystyrir ei bod o bwysigrwydd cenedlaethol fod ar y gofrestr, rhaid i bob adeilad yr ystyrir ei fod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig gael ei gynnwys ar y rhestr. Rhennir y cyfrifoldeb am awdurdodi a rheolaethu gwaith sy’n effeithio ar adeiladau rhestredig rhwng awdurdodau cynllunio a Gweinidogion Cymru, er mai’r awdurdodau cynllunio sy’n ymwneud fwyaf â gweinyddu’r system. Mae Rhan 3 hefyd yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru neu awdurdodau cynllunio i gaffael adeilad. Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol hefyd ymgymryd â gwaith brys i ddiogelu adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

d.

Mae Rhan 4 yn ymdrin ag ardaloedd cadwraeth ac yn darparu ar gyfer eu dynodi’n ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig gan awdurdodau cynllunio a’u hadolygu o bryd i’w gilydd. Ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn, mae dros 500 o ardaloedd cadwraeth yng Nghymru. Mae’r Rhan hon hefyd yn cynnwys darpariaethau ar gyfer rheolaethu gwaith dymchwel ac ar gyfer cyflawni gwaith brys mewn ardaloedd cadwraeth ac ar gyfer grantiau sy’n ymwneud â diogelu neu wella ardaloedd cadwraeth.

e.

Mae Rhan 5 yn cynnwys darpariaethau atodol sy’n ymwneud ag adeiladau o ddiddordeb arbennig ac ardaloedd cadwraeth. Maent yn ymdrin â materion megis arfer swyddogaethau gan awdurdodau cynllunio, achosion gerbron Gweinidogion Cymru a dilysrwydd penderfyniadau a chywiro penderfyniadau.

f.

Mae Rhan 6 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal a chyhoeddi’r gofrestr o barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru, sydd ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn yn cynnwys bron i 400 o safleoedd, a’r rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru, sydd â bron i 700,000 o gofnodion. Mae Rhan 6 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal cofnod amgylchedd hanesyddol ar gyfer pob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru, yn manylu ar yr hyn y mae rhaid i gofnod amgylchedd hanesyddol ei gynnwys ac yn nodi’r trefniadau y mae rhaid eu gwneud i sicrhau mynediad y cyhoedd i gofnodion, ymhlith materion eraill.

g.

Mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth gyffredinol sy’n ymwneud â materion yn y Ddeddf, megis cyflwyno dogfennau, pwerau i wneud gwybodaeth yn ofynnol, digollediad a diffiniadau a dehongli.

4.Y prif Ddeddfau a ddygir ynghyd yn yr ymarfer cydgrynhoi hwn yw:

5.Mae’r ymarfer cydgrynhoi hefyd yn ailddatgan darpariaethau sydd i’w cael ar hyn o bryd mewn Deddfau eraill sy’n berthnasol i’r amgylchedd hanesyddol i wella hygyrchedd ac eglurder. Mae’r rhain yn cynnwys:

6.Mae cydgrynhoi hefyd wedi rhoi cyfle i ymgorffori darpariaethau perthnasol o is-ddeddfwriaeth yn y Ddeddf lle y bo’n briodol. Dilynir y llwybr hwn yn gyffredinol pan fydd yr is-ddeddfwriaeth wedi ei hen sefydlu ac nad yw’n debygol o fod angen ei diwygio’n aml.

7.Yn ogystal â chael ei hategu gan is-ddeddfwriaeth berthnasol, ategir y ddeddfwriaeth sylfaenol hefyd gan gyngor cynllunio technegol, yn arbennig Polisi Cynllunio Cymru (argraffiad 11, 2021) a Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol (2017) (“TAN 24”). Mae Cadw hefyd yn cyhoeddi nifer o ddogfennau canllaw arferion gorau anstatudol sy’n ymwneud â’r amgylchedd hanesyddol. Ymhlith pethau eraill, mae TAN 24 yn nodi’r meini prawf dethol a gymhwysir wrth benderfynu a ddylid cynnwys heneb yn y gofrestr o henebion (Rhan 2, Pennod 1) ac wrth benderfynu pa un a yw adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig at ddibenion y rhestr o adeiladau (Rhan 3, Pennod 1). Mae’r holl ddogfennau cyngor a chanllawiau hyn yn cyfeirio at Egwyddorion Cadwraeth ar gyfer Rheoli Amgylchedd Hanesyddol Cymru mewn Ffordd Gynaliadwy (“Egwyddorion Cadwraeth”) a gyhoeddwyd gan Cadw, ar ran Gweinidogion Cymru, yn 2011. Gyda’i gilydd mae’r dogfennau hyn yn nodi mai ystyr “cadwraeth” yw rheoli newid yn ofalus i warchod a diogelu’r hyn sy’n arwyddocaol ac yn arbennig am asedau hanesyddol.

Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 1 — Trosolwg

Adran 1 — Trosolwg

8.Mae’r trosolwg yn yr adran hon yn cynnwys datganiad yn is-adran (1) ynghylch statws y Ddeddf fel rhan o god o gyfraith Cymru. Mae’r datganiad hwn wedi ei gynnwys i wella hygyrchedd y gyfraith yng Nghymru ac mae’n ddull a fydd yn cael ei fabwysiadu mewn Deddfau cydgrynhoi yn y dyfodol ac mewn unrhyw Ddeddfau diwygio sy’n cynnwys datganiad cynhwysfawr o’r ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n ymwneud â phwnc penodol.

9.Bwriad y datganiad statws hwn yw helpu personau sydd â diddordeb yn y gyfraith ar bwnc penodol — yr amgylchedd hanesyddol yn yr achos hwn — i ddod o hyd iddi a’i dosbarthu’n haws. Mae’r cyfeiriad at statws y Ddeddf wedi ei gynnwys gyda’r nod y bydd is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Ddeddf yn gwneud darpariaeth sy’n union yr un fath. Bwriad Llywodraeth Cymru yw y bydd deddfwriaeth sylfaenol, is-ddeddfwriaeth a deddfwriaeth drydyddol (canllawiau yn bennaf) yn cael eu categoreiddio a’u cyhoeddi fel codau cyfraith cydlynol yn y dyfodol.

10.Mae dosbarthu Deddfau yn y ffordd hon yn gyson ag argymhellion a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith yn ei adroddiad Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy’n Gymwys yng Nghymru (Comisiwn y Gyfraith Rhif 366, 2016). Roedd yr adroddiad hwnnw yn cydnabod pwysigrwydd cynnal uniondeb y gyfraith er mwyn sicrhau bod y gyfraith yn hygyrch. Bwriad rhoi statws cod i Ddeddf yw annog symud oddi wrth sefyllfa pan fo’r gyfraith ar bwnc penodol wedi ei gwasgaru dros nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth sylfaenol ar wahân. Yn hytrach, y bwriad yw y bydd Deddfau’r Senedd yn y dyfodol yn cael eu deddfu a’u cynnal mewn ffordd sy’n caniatáu i’r sawl sy’n defnyddio’r ddeddfwriaeth ddod o hyd i gymaint â phosibl o’r gyfraith sy’n effeithio ar bwnc penodol drwy ddarllen un Ddeddf gan y Senedd neu is-ddeddfwriaeth a wneir odani.

11.Mae is-adran (2) yn nodi’r Deddfau presennol y mae darpariaethau yn y Ddeddf hon yn deillio ohonynt neu odanynt. Daw’r rhan fwyaf o gynnwys y Ddeddf o Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (p. 46) (“Deddf 1979”) a Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p. 9) (“Deddf Adeiladau Rhestredig 1990”).

Rhan 2 — Henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig

12.Mae degau o filoedd o safleoedd archaeolegol hysbys ledled Cymru, ac mae llawer mwy eto i’w darganfod sydd wedi eu claddu a’u cuddio o’r golwg. Mae’r mwyafrif llethol o’r safleoedd hysbys wedi eu cofnodi yn y cofnodion amgylchedd hanesyddol statudol ar gyfer ardal pob awdurdod lleol, a chynhelir y rhain gan ymddiriedolaethau archaeolegol Cymru ar ran Gweinidogion Cymru (adran 194). Mae’r cysyniad o “heneb” yn ganolog i reoli a gwarchod y dreftadaeth archaeolegol hon. Gall henebion gynnwys ystod eang o safleoedd archaeolegol, gan gynnwys: arteffactau cynhanesyddol wedi eu gwasgaru; olion claddedig; henebion angladdol a henebion defodol cynhanesyddol a gwrthgloddiau amddiffynnol; ffyrdd, caerau a filâu Rhufeinig; ac abatai, cestyll ac aneddiadau canoloesol.

13.Mae’r term “heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig” bellach yn cael ei ffafrio dros “heneb hynafol” yr arferid ei ddefnyddio, i adlewyrchu’r ffaith bod llawer o henebion yr ystyrir eu bod o ddiddordeb i’r cyhoedd yn dyddio o’r gorffennol mwy diweddar, megis olion diwydiant y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg neu amddiffynfeydd milwrol o’r ugeinfed ganrif.

14.Mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i lunio a chynnal cofrestr o henebion y maent yn ystyried eu bod o bwysigrwydd cenedlaethol. Nid yw’r holl henebion neu safleoedd archaeolegol o bwysigrwydd cenedlaethol ar y gofrestr ar hyn o bryd a gellir dod o hyd i safleoedd newydd ar hap neu o ganlyniad i arolygon archaeolegol systematig. Cyhoeddir y gofrestr gyflawn gyfredol ar Cof Cymru — Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru, y gronfa ddata ar-lein o asedau hanesyddol dynodedig yng Nghymru a gynhelir gan Cadw (“Cof Cymru”).

15.Ategir y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â henebion a safleoedd archaeolegol gan bolisi cynllunio a chyngor a chanllawiau arferion gorau, yn arbennig TAN 24 a Rheoli Henebion Cofrestredig yng Nghymru (2018). Mae’r dogfennau hyn yn egluro mai Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am gofrestru henebion, ond y caiff y broses, yn ymarferol, ei rheoli gan Cadw sy’n gweithredu ar eu rhan.

16.Ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn, mae 131 o henebion yng ngofal Gweinidogion Cymru, gan gynnwys henebion claddu Neolithig cynnar sydd dros 5000 o flynyddoedd oed, llawer o gestyll ac abatai mawr Cymru’r Oesoedd Canol a henebion o’n gorffennol diwydiannol mwy diweddar. Yn ymarferol, caiff yr henebion hyn eu cadw, eu cynnal a’u cyflwyno i’r cyhoedd gan Cadw a ran Gweinidogion Cymru. O’r 131 o henebion hynny, mae 108 o dan warcheidiaeth ar hyn o bryd. Mae hwn yn drefniant gwirfoddol lle y mae’r gwarcheidwad (Gweinidogion Cymru yn yr achos hwn) yn cytuno i dderbyn cyfrifoldeb am reoli’r heneb ac yn caffael hawliau penodol dros yr eiddo ond nad yw’n cymryd perchnogaeth ohono.

17.Mae’r cysyniadau “heneb gofrestredig” a “gwarcheidiaeth” yn dyddio o’r ddeddfwriaeth gyntaf yn ymwneud â’r amgylchedd hanesyddol i’w phasio ym Mhrydain Fawr ac Iwerddon, sef Deddf Gwarchod Henebion Hynafol 1882 (p. 73) Cafodd tair heneb gynhanesyddol yng Nghymru eu cynnwys yn y gofrestr gyntaf un ym 1882. Ym mis Ebrill 2023, roedd 4,229 o henebion cofrestredig yng Nghymru. Yr heneb gyntaf yng Nghymru i gael ei chymryd i warcheidiaeth oedd yr heneb gladdu Neolithig ym Mhentre Ifan yng ngogledd Sir Benfro ym 1884, a’r diweddaraf oedd y castell canoloesol yng Nghaergwrle yn Sir y Fflint yn 2020.

Pennod 1 — Termau allweddol

18.Mae’r cydsyniad o “heneb” yn ganolog i’r ddeddfwriaeth ar gyfer dynodi, rheoli a gwarchod treftadaeth archaeolegol Cymru. Mae Pennod 1, felly, yn darparu diffiniadau sylfaenol sy’n ymwneud â henebion ar ddechrau’r Rhan.

Adran 2 — Ystyr “heneb” a “safle heneb”

19.Bydd y pum categori a ddiffinnir yn adran 2(1)(a) i (e) yn cynnwys ystod eang o “henebion” yn yr amgylchedd hanesyddol daearol a’r amgylchedd hanesyddol morol.

20.Ym mharagraffau (a) a (b), mae “gwaith” yn cyfeirio at unrhyw beth a adeiledir gan weithgarwch dynol neu o ganlyniad i weithgarwch dynol. Byddai hyn yn cynnwys gwrthgloddiau cynhanesyddol a hwyrach, megis Clawdd Offa’r canoloesoedd cynnar.

21.Mae paragraff (e) yn darparu y caniateir ystyried safle unrhyw beth neu unrhyw grŵp o bethau sy’n dystiolaeth o weithgarwch dynol blaenorol yn heneb (cyhyd nad yw eisoes wedi ei gwmpasu gan baragraff (b), (c) neu (d)). Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, safleoedd heb adeiladau neu waith lle y mae arteffactau wedi eu gwasgaru — offer fflint cynhanesyddol efallai neu, o gyfnodau mwy diweddar, eitemau wedi eu gwrthod o odynau crochenwaith neu brosesau diwydiannol eraill — gan gynnig tystiolaeth archaeolegol o weithgarwch dynol yn y gorffennol.

22.Mae is-adran (3) yn dileu unrhyw adeilad crefyddol a ddefnyddir at ddibenion crefyddol ar hyn o bryd o’r rhestr o bethau y caniateir eu hystyried yn henebion. Er na ellid barnu bod man addoli sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau yn heneb, gellid barnu bod man addoli adfeiliedig yn heneb.

23.Ni fyddai is-adran (3) yn atal arteffactau sydd wedi eu dwyn i mewn i fan addoli i’w gwarchod a’u harddangos rhag cael eu dosbarthu’n henebion os ydynt yn dod o fewn y diffiniad yn is-adran (1). Gallai’r arteffactau hyn fod yn groesau, yn gerrig arysgrifedig ac yn arteffactau eraill tebyg. Hyd yn oed os yw arteffact fel hyn yn sownd wrth lawr neu wal eglwys, caniateir ei gydnabod yn heneb os gellid ei symud ymaith heb aflonyddu gormod ar yr adeilad.

24.Mae is-adran (5) yn egluro bod “safle heneb” yn cynnwys y tir y mae’r heneb ynddo, arno neu odano, ond hefyd unrhyw dir arall sy’n hanfodol i gynnal a diogelu’r heneb. Naill ai Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol fyddai’n penderfynu a yw tir arall yn hanfodol at y diben hwn, gan ddibynnu ar ba un o’r ddau barti a oedd yn arfer swyddogaeth o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r heneb. Gallai tir ychwanegol o’r fath, er enghraifft, ddarparu mynediad at yr heneb sy’n angenrheidiol i barhau i’w rheoli a’i chadw.

25.Mae is-adran (8) yn cadarnhau bod “olion” yn yr adran hon yn cynnwys unrhyw arlliw neu unrhyw arwydd o fodolaeth flaenorol y peth o dan sylw. Mae olion cnydau a ddarganfyddir yn ystod arolwg o’r awyr neu wybodaeth a geir o sganio laser 3-D (lidar), radar treiddio daear neu dechnegau gwyddonol eraill i arolygu safleoedd archaeolegol yn amlygu’n aml fodolaeth henebion nas datgelwyd fel arall.

Pennod 2 — Cofrestr o henebion o bwysigrwydd cenedlaethol

26.Mae’r Bennod hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr o henebion o bwysigrwydd cenedlaethol. Yn ymarferol, caiff hon ei chynnal gan Cadw ar ran Gweinidogion Cymru. At ddibenion trosglwyddo o Ddeddf 1979 i’r Ddeddf hon, daw’r gofrestr o henebion a gynhelir ar hyn o bryd gan Weinidogion Cymru o dan adran 1 o Ddeddf 1979 yn gofrestr a gynhelir at ddibenion adran 3 o’r Ddeddf.

27.Wrth i heneb gael ei chynnwys ar y gofrestr — “cofrestru” — daw yn ddarostyngedig i’r drefn gydsynio, gweithdrefnau gorfodi a darpariaethau eraill sydd wedi eu cynnwys mewn Penodau tuag at ddiwedd y Rhan hon o’r Ddeddf.

28.Mae’r Bennod hon yn ei gwneud yn ofynnol ymgynghori cyn i Weinidogion Cymru ddiwygio’r gofrestr (adran 5) ac yn rhoi’r cyfle i berchnogion a meddianwyr i ofyn am adolygiad o benderfyniad Gweinidogion Cymru i ychwanegu heneb neu ran ychwanegol o heneb at y gofrestr (adrannau 9 a 10). Mae hefyd yn cadarnhau bod heneb sy’n cael ei hystyried ar gyfer ei chofrestru, yn ystod y cyfnod ymgynghori, yn cael gwarchodaeth interim fel pe bai eisoes yn heneb gofrestredig. Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â diwygio’r gofrestr, caiff person sydd â buddiant mewn heneb, ac sy’n dioddef colled neu ddifrod o ganlyniad uniongyrchol i warchodaeth interim, hawlio digollediad oddi wrth Weinidogion Cymru (adrannau 6 i 8).

Adran 3 — Dyletswydd i gynnal a chyhoeddi cofrestr o henebion

29.Mae adran 3(1) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr o henebion a rhaid iddynt gyhoeddi’r gofrestr gyfredol. Mae Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi’r gofrestr gyfredol ar Cof Cymru.

30.Mae Gweinidogion Cymru yn defnyddio meini prawf dethol sydd wedi eu cynnwys yn Atodiad A o TAN 24 i asesu a yw heneb o bwysigrwydd cenedlaethol a phenderfynu a yw cofrestru yn briodol. Fodd bynnag, nid yw’r meini prawf hyn yn cwmpasu pob sefyllfa; yn hytrach maent yn ddangosyddion sy’n cyfrannu at ddyfarniad ehangach sy’n seiliedig ar amgylchiadau unigol pob achos. Er enghraifft, efallai nad cofrestru yw’r dull gorau ar gyfer safle sydd i’w golli yn fuan i erydu arfordirol; mae’n debygol mai cloddio llawn yw’r unig ffordd i gofnodi pwysigrwydd yr ased hanesyddol. Felly, er bod adran 3 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr o henebion y maent yn ystyried eu bod o bwysigrwydd cenedlaethol, effaith is-adran (1) yw nad yw’n ofynnol iddynt gynnwys pob heneb sy’n bodloni’r meini prawf. Mae’n werth nodi hefyd bod Gweinidogion Cymru, pan fyddant yn cofrestru heneb, yn gallu cofrestru rhan o’r heneb, heb gofrestru’r heneb yn ei chyfanrwydd. Ac mae adran 2(6)(c) o’r Ddeddf yn darparu bod cyfeiriadau yn y Ddeddf at heneb yn cynnwys cyfeiriadau at unrhyw ran ohoni.

31.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i bob cofnod yn y gofrestr gynnwys map a gynhelir gan Weinidogion Cymru sy’n nodi ardal yr heneb. Bydd map diffiniol yn cael ei gynnwys yn y cofnod a ddarperir pan fydd Gweinidogion Cymru yn bodloni’r gofynion hysbysu yn adran 4(3). Mae’r cofnod ar gyfer pob heneb ar Cof Cymru hefyd yn darparu mynediad at fap y gellir ei argraffu.

32.Mae is-adran (3) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, yn ogystal â chofrestru henebion ychwanegol o dan is-adran (1), ddileu heneb o’r gofrestr — “datgofrestru” — neu ddiwygio cofnod presennol. Gallai’r olaf, er enghraifft, olygu cynyddu neu leihau ardal gofrestredig heneb. Caiff Gweinidogion Cymru hefyd wneud unrhyw newidiadau eraill y gall fod angen eu gwneud i gofnod yn y gofrestr. Er enghraifft, pe bai ymchwiliadau archaeolegol neu hanesyddol yn darparu gwybodaeth newydd am heneb, gellid diwygio’r cofnod yn y gofrestr i adlewyrchu hyn. Caiff datgofrestru ei ystyried mewn achosion eithriadol yn unig. Gallai rhesymau dros ddatgofrestru gynnwys colli rhan sylweddol o heneb neu ei safle, efallai drwy erydu arfordirol.

33.Mae is-adran (5) yn cadarnhau bod cofnod yn y gofrestr sy’n cofnodi cynnwys heneb yn bridiant tir lleol. Bydd pridiant tir lleol yn tynnu sylw prynwr at y cyfyngiadau a osodir ar ddefnyddio’r tir drwy gofrestru’r heneb.

Adran 4 — Hysbysu perchennog etc. pan fo’r gofrestr wedi ei diwygio

34.Mae’r adran hon yn nodi sut y mae rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad ar ôl iddynt ddiwygio’r gofrestr drwy ychwanegu heneb, dileu heneb neu ddiwygio’r cofnod ar gyfer heneb. Rhaid cyflwyno hysbysiad i’r derbynwyr penodedig cyn gynted â phosibl ar ôl i ddiwygiad gael ei wneud er mwyn codi ymwybyddiaeth o’i oblygiadau — rhaid tynnu sylw perchnogion a meddianwyr, er enghraifft, at y ffaith bod cofrestru yn gosod gwaharddiadau penodol ar waith anawdurdodedig. Oni bai bod y diwygiad yn dileu heneb o’r gofrestr, rhaid i’r hysbysiad bennu’r dyddiad y gwnaeth Gweinidogion Cymru y diwygiad a rhaid iddo gael ei gyflwyno ar y cyd â chopi o’r cofnod neu’r cofnod diwygiedig yn y gofrestr.

Adran 5 — Ymgynghori cyn ychwanegu heneb at y gofrestr neu ddileu heneb o’r gofrestrAdran 6 — Gwarchodaeth interim wrth aros am benderfyniad ar ddiwygiadau penodol sy’n ymwneud â’r gofrestr

35.Mae adran 5 yn sefydlu strwythur ffurfiol ar gyfer ymgynghori ar gynigion Gweinidogion Cymru i ddiwygio’r gofrestr. Mae’n darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad o ddiwygiad arfaethedig i dderbynwyr penodedig a chaniatáu 28 o ddiwrnodau o leiaf i’r personau hynny gyflwyno sylwadau ysgrifenedig.

36.Bydd cyflwyno hysbysiad o gynnig i ddiwygio’r gofrestr drwy ychwanegu heneb neu ychwanegu unrhyw beth fel rhan o heneb yn sbarduno gwarchodaeth interim o dan adran 6. Yn yr achos hwnnw, mae adran 5(4)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i’r hysbysiad egluro effaith gwarchodaeth interim a phennu’r dyddiad y mae gwarchodaeth interim yn cymryd effaith.

37.O’r adeg honno, a hyd nes y daw gwarchodaeth interim i ben yn unol ag adran 7, bydd y Rhan hon o’r Ddeddf yn cael effaith fel pe bai heneb sy’n cael ei hystyried i’w hychwanegu at y gofrestr eisoes wedi ei chofrestru neu fel pe bai diwygiad arfaethedig eisoes wedi ei wneud.

38.Pan fo heneb yn ddarostyngedig i warchodaeth interim, mae’n drosedd ymgymryd â gwaith iddi heb gydsyniad (adran 30) neu wneud difrod i’r heneb (adran 58). Mae hyn yn golygu, er enghraifft, y byddai person sy’n cyflawni gwaith dymchwel heb gydsyniad mewn perthynas â heneb o dan warchodaeth interim yn cyflawni trosedd, oni bai bod amddiffyniad perthnasol ar gael i’r person. Nod gwarchodaeth interim yw rhoi gwarchodaeth i heneb yn ystod y cyfnod ymgynghori. Gall hyn fod yn warchodaeth, er enghraifft, rhag perchennog a allai fel arall fod â chymhelliant i ddifrodi neu ddinistrio ased hanesyddol yn fwriadol yn ystod y cyfnod ymgynghori mewn ymdrech i danseilio’r warchodaeth y byddai cofrestru wedi ei darparu fel arall.

39.Mae is-adran (4) o adran 6 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi rhestr o henebion sy’n ddarostyngedig i warchodaeth interim a darparu copi o’r hysbysiad a gyflwynir o dan adran 5(2) i unrhyw berson sy’n gofyn am gopi. Ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn, mae’r rhestr wedi ei chynnwys ar y dudalen “Hysbysiadau statudol ymgynghori heneb gofrestredig” yn yr adran “Henebion cofrestredig” ar wefan Cadw ac fe’i cynrychiolir hefyd fel categori penodol ar Cof Cymru.

Adran 7 — Pan ddaw gwarchodaeth interim i benAtodlen 1 — Diwedd gwarchodaeth interim ar gyfer henebion

40.Mae adran 7 yn nodi sut a phryd y daw gwarchodaeth interim i ben.

41.Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu ychwanegu heneb at y gofrestr neu ychwanegu rhan newydd i heneb bresennol yn y gofrestr, daw gwarchodaeth interim i ben ar ddechrau’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru ei roi o dan adran 4 (gweler is-adrannau (1)(a) a (2)(a) o adran 7).

42.Os yw Gweinidogion Cymru, ar y llaw arall, yn penderfynu peidio ag ychwanegu heneb at y gofrestr neu ychwanegu rhan newydd i heneb bresennol yn y gofrestr, rhaid iddynt gyflwyno hysbysiad o’u penderfyniad i bob perchennog a meddiannydd a phob awdurdod lleol y mae’r heneb yn ei ardal. Bydd gwarchodaeth interim yn dod i ben ar ddechrau’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad hwnnw (gweler is-adrannau (1)(b), (2)(b) a (3))

43.Mae Atodlen 1 — a gyflwynir gan yr adran hon — yn gymwys pan ddaw gwarchodaeth interim i ben o ganlyniad i gyflwyno hysbysiad o dan adran 7(1)(b) neu (2)(b); mae’n nodi sut y mae’r ffaith bod gwarchodaeth interim yn dod i ben yn effeithio ar gamau amrywiol a gymerwyd tra oedd gwarchodaeth interim yn cael effaith (gan gynnwys camau gorfodi ac atebolrwydd troseddol).

Adran 8 — Digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan warchodaeth interim

44.Os yw Gweinidogion Cymru yn cyflwyno hysbysiad o ddiwedd gwarchodaeth interim o dan adran 7(1)(b) neu (2)(b), sy’n nodi eu bod wedi penderfynu peidio â chofrestru heneb neu ran ychwanegol o heneb, caiff person a oedd â buddiant yn yr heneb pan gymerodd y warchodaeth interim effaith hawlio digollediad am unrhyw golledion neu ddifrod a ddioddefwyd y gellir eu priodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r warchodaeth interim. Mae’r adran hon yn nodi sut mae rhaid gwneud hawliad i Weinidogion Cymru.

45.Mae adran 202 yn gwneud darpariaeth ychwanegol ynghylch hawliadau am ddigollediad, ac yn arbennig yn caniatáu i Weinidogion Cymru estyn y cyfnod ar gyfer gwneud hawliad am ddigollediad mewn achos penodol os ydynt wedi eu bodloni bod rheswm da dros wneud hynny. Bydd unrhyw anghydfodau ynghylch digollediad o dan y Ddeddf hon yn cael eu hatgyfeirio at yr Uwch Dribiwnlys o dan adran 203. Mae Rheolau’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd) yn gwneud darpariaeth ar gyfer atgyfeirio’r achos a’r modd yr ymdrinnir ag ef at y Tribiwnlys.

Adran 9 — Adolygu penderfyniad i ychwanegu heneb at y gofrestr etc.Adran 10 — Darpariaeth atodol ynghylch adolygiadauAtodlen 2 — Penderfyniad ar adolygiad gan berson a benodir gan Weinidogion CymruAtodlen 6 — Achosion o dan Ran 2

46.Os yw Gweinidogion Cymru yn ychwanegu heneb at y gofrestr neu’n diwygio cofnod presennol yn y gofrestr i gynnwys rhan ychwanegol o heneb gofrestredig bresennol, mae adran 9 yn ei gwneud yn ofynnol iddynt roi cyfle i unrhyw berchennog neu unrhyw feddiannydd ar yr heneb i ofyn am adolygiad o’u penderfyniad cofrestru.

47.Mae is-adran (2) o adran 9 yn darparu mai’r sail ar gyfer adolygiad yw nad yw’r heneb (neu ran o’r heneb, os gwnaed estyniad i gofnod presennol ar gyfer heneb) o bwysigrwydd cenedlaethol. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith mai pwysigrwydd cenedlaethol, o dan adran 3(1), yw’r sail ar gyfer cynnwys heneb yn y gofrestr gan Weinidogion Cymru. Mae is-adran (6) o adran 9 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i bennu seiliau eraill ar gyfer adolygiad yn y dyfodol.

48.O dan is-adran (3) o adran 9, rhaid i Weinidogion Cymru benodi person i gynnal yr adolygiad ac i wneud penderfyniad arno. Fel rheol, un o arolygwyr Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (Arolygiaeth Gynllunio Cymru gynt) fydd hwn. Fodd bynnag, mae is-adran (4) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru bennu disgrifiadau o achosion pan fyddant hwy yn cynnal adolygiad ac yn gwneud penderfyniad arno eu hunain, yn hytrach na phenodi person i wneud hynny.

49.Mae adran 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch gweinyddu adolygiadau o dan adran 9. Ategir hyn gan Atodlenni 2 a 6. Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau personau a benodir gan Weinidogion Cymru i gynnal adolygiadau. Mae’n cwmpasu gwahanol faterion gweinyddol, gan gynnwys penodi asesydd i gynorthwyo person a benodir a dirprwyo swyddogaethau gan berson a benodir i berson arall. Mae Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth sy’n caniatáu i bersonau a benodir gyflwyno gwysion mewn cysylltiad ag ymchwiliadau lleol a gynhelir at ddibenion yr adran hon ac yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag adennill neu dalu costau yr eir iddynt mewn cysylltiad â’r ymchwiliadau hynny neu unrhyw achos arall a gynhelir at ddibenion yr adran hon.

Pennod 3 — Rheolaethu gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig

50.Mae Pennod 3 yn nodi na chaniateir i fathau penodol o waith gael eu cyflawni i henebion cofrestredig oni bai bod y gwaith wedi ei awdurdodi (adran 11). Mae darpariaethau’r Bennod hon eu hunain yn rhoi awdurdodiad (yn adran 12 ac Atodlen 3) ar gyfer disgrifiadau penodol o waith. Mae’r Bennod (yn adran 13) hefyd yn darparu y caniateir i waith gael ei awdurdodi drwy roi cydsyniad heneb gofrestredig.

51.Mae’r rhan fwyaf o’r darpariaethau yn y Bennod yn ymwneud â chydsyniad heneb gofrestredig: y broses o wneud cais (adrannau 14 i 16), rhoi cydsyniad (adrannau 17 i 19) ac addasu a dirymu cydsyniad (adran 20 ac Atodlen 4). Mae adrannau clo’r Bennod yn ymdrin â’r digollediad y gellir ei hawlio o dan amgylchiadau penodol os gwrthodir cydsyniad heneb gofrestredig, os y’i rhoddir yn ddarostyngedig i amodau neu os y’i haddesir neu y’i dirymir wedi hynny (adrannau 21 i 24).

52.Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi canllawiau, a adolygir yn gyson, i gefnogi’r gwaith o reoli henebion cofrestredig. Ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn, mae’r canllawiau, Rheoli Henebion Cofrestredig yng Nghymru (2018), yn nodi’r egwyddorion cyffredinol y mae rhaid eu dilyn wrth reoli henebion cofrestredig a gwneud newidiadau iddynt. Maent yn egluro sut i wneud cais am gydsyniad heneb gofrestredig, gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau perchnogion a Cadw.

Adran 11 — Gofyniad i waith gael ei awdurdodi

53.Mae’r adran hon yn darparu mai dim ond gydag awdurdodiad o dan y Bennod hon y caniateir i ystod eang o waith sy’n effeithio ar heneb gofrestredig, sy’n amrywio o ddymchwel i atgyweirio, gael ei gyflawni. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd yn ofynnol cael awdurdodiad i gyflawni bron unrhyw waith i heneb gofrestredig — gan gynnwys gwaith a fydd o fudd i’r ased, megis atgyweirio gwaith maen, llenwi creithiau erydu neu gynnal ymchwiliadau archaeolegol. Caniateir rhoi awdurdodiad naill ai drwy gydsyniad heneb gofrestredig o dan adran 13, neu, o dan amgylchiadau a ddiffinnir yn benodol iawn, fel gwaith sy’n dod o fewn disgrifiad o ddosbarth o waith o dan adran 12.

54.Mae is-adran (1) o’r adran hon yn datgan na chaiff person gyflawni’r gwaith perthnasol na pheri na chaniatáu i’r gwaith perthnasol gael ei gyflawni oni bai bod y gwaith hwnnw wedi ei awdurdodi. Yn ogystal â gwahardd person rhag ymgymryd â gwaith yn bersonol neu gomisiynu neu gyflogi eraill i’w gyflawni, mae’r ddarpariaeth hon yn atal person rhag caniatáu i waith fynd rhagddo heb gymryd camau i’w atal. Felly, ni chaiff tirfeddiannwr anwybyddu gwaith anawdurdodedig yn fwriadol sy’n digwydd ar heneb gofrestredig ar eiddo’r tirfeddiannwr.

55.Os yw person yn cyflawni unrhyw waith i heneb gofrestredig, neu’n peri neu’n caniatáu i unrhyw waith gael ei gyflawni i heneb gofrestredig, yn groes i is-adran (1), mae’n drosedd o dan adran 30(1).

Adran 12 — Awdurdodi dosbarthau o waithAtodlen 3 — Awdurdodiad ar gyfer dosbarthau o waith

56.Mae adran 12(1) yn awdurdodi gwaith i heneb gofrestredig os yw’r gwaith yn dod o fewn disgrifiad o ddosbarth o waith yn y tabl yn Atodlen 3.

57.Mae Atodlen 3 yn ailddatgan, gydag addasiadau, ddosbarthau o gydsyniad o Orchymyn Henebion Hynafol (Cydsyniadau Dosbarth) 1994, OS 1994/1381 Drwy ymgorffori’r darpariaethau sefydledig hyn o is-ddeddfwriaeth, dygir ynghyd y ddeddfwriaeth berthnasol ynghylch awdurdodi gwaith. Fodd bynnag, mae pwerau i wneud rheoliadau ym mharagraff 1 o Atodlen 3 yn rhoi hyblygrwydd i Weinidogion Cymru i ddiwygio’r Atodlen.

58.Mae Atodlen 3 yn nodi wyth dosbarth o waith a awdurdodir gan adran 12(1). Nid yw’r dosbarthau hyn yn waith niweidiol fel arfer ac felly gall y gwaith fynd rhagddo heb fod angen ystyried y broses cydsyniad heneb gofrestredig yn fanwl.

59.Mae Dosbarth 1 yn cynnwys gwaith amaethyddol, gwaith garddwriaethol a gwaith coedwigaeth o’r un math â gwaith a gyflawnwyd yn gyfreithlon yn yr un man o fewn y chwe mlynedd flaenorol. Drwy ganiatáu i’r un gweithgarwch ddigwydd yn yr un lle, bydd unrhyw darfu pellach ar yr heneb gofrestredig yn sgil gwaith parhaus yn cael ei leihau i’r eithaf. Er enghraifft, pan fo safle heneb wedi cael ei aredig yn gyfreithlon o fewn y chwe mlynedd flaenorol, caiff gwaith aredig barhau ar yr amod nad yw’n mynd yn ddyfnach nag yr aeth yn ystod y cyfnod hwnnw o chwe mlynedd. Mae’r gwaith a bennir ym mharagraffau (a) i (f) o’r cofnod Dosbarth 1 oll wedi eu heithrio rhag cael eu hawdurdodi oherwydd y bygythiad y byddent yn ei achosi i archaeoleg heb ei aflonyddu ac olion sefydlog heneb gofrestredig.

60.Os nad oes gwaith amaethyddol, gwaith garddwriaethol neu waith coedwigaeth wedi digwydd ar heneb gofrestredig am dros chwe mlynedd, mae’r posibilrwydd o gael awdurdodiad o dan adran 12(1) yn darfod ac ni ellir ei adnewyddu. Wedi hynny byddai’n ofynnol cael cydsyniad heneb gofrestredig o dan adran 13 ar gyfer gwaith o’r fath.

61.Mae Dosbarth 5 wedi ei gynnwys i ddarparu awdurdodiad pe bai Comisiwn Adeiladau Hanesyddol a Henebion Lloegr (Historic England) yn ymgymryd â gwaith ar Glawdd Offa neu ar unrhyw heneb gofrestredig drawsffiniol arall ac yn ymestyn y gwaith dros y ffin i Gymru yn anfwriadol neu drwy gytundeb ymlaen llaw.

62.Mae Dosbarth 6 yn caniatáu i waith gwerthuso archaeolegol gael ei gyflawni gan neu ar ran rhywun sydd wedi gwneud cais am gydsyniad heneb gofrestredig. Bydd gwaith o’r fath yn gyfyngedig, er enghraifft tyllau prawf neu ffosydd prawf, ac yn cael ei gyflawni i asesu’r adnodd archaeolegol a photensial yr heneb er mwyn llywio’r penderfyniad ar y cais am gydsyniad heneb gofrestredig. Rhaid cyflawni’r gwaith hwn yn unol â manyleb ysgrifenedig sydd wedi ei chymeradwyo gan Cadw.

Adran 13 — Awdurdodi gwaith drwy gydsyniad heneb gofrestredig

63.Mae adran 13 yn darparu ar gyfer awdurdodi gwaith drwy roi cydsyniad heneb gofrestredig.

64.Mae is-adran (1) yn nodi bod gwaith wedi ei awdurdodi os yw cydsyniad ysgrifenedig wedi ei roi gan Weinidogion Cymru ac os yw’r gwaith yn cael ei gyflawni yn unol â thelerau’r cydsyniad, a all gynnwys amodau. Mae adrannau 18 a 19 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch amodau sydd ynghlwm wrth gydsyniadau henebion cofrestredig. Yn ymarferol, Cadw, gan weithredu ar ran Gweinidogion Cymru, sy’n gweinyddu’r broses cydsyniad heneb gofrestredig ac yn rhoi cydsyniad.

65.O dan is-adran (2), caiff Gweinidogion Cymru roi cydsyniad ysgrifenedig ar gyfer gwaith anawdurdodedig sydd eisoes wedi ei gyflawni i heneb gofrestredig neu i dir y mae heneb o’r fath ynddo, arno neu odano. Mewn achosion o’r fath, nid yw’r gwaith ond wedi ei awdurdodi o adeg rhoi’r cydsyniad. Mae unrhyw atebolrwydd troseddol posibl sy’n deillio o’r gwaith anawdurdodedig cyn y cysyniad yn parhau a gallai fod yn sail ar gyfer achosion dilynol. Yn ymarferol, anaml iawn y rhoddir cydsyniad yn ôl-weithredol, a hynny dim ond mewn achosion pan fo’r gwaith anawdurdodedig o fudd i’r heneb.

Adran 14 — Gwneud cais am gydsyniad heneb gofrestredig

66.Mae adran 14 yn sefydlu’r strwythur sylfaenol ar gyfer y broses o wneud cais am gydsyniad heneb gofrestredig.

67.Mae’n rhagnodi sut y mae rhaid i gais gael ei wneud i Weinidogion Cymru, yn nodi’r hyn y mae’n ofynnol ei gynnwys ynddo ac yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ar agweddau eraill ar y broses o wneud cais (is-adrannau (1) i (3)).

68.Mae is-adrannau (4) a (5) yn caniatáu ar gyfer gweithdrefn syml ar gyfer gwneud cais am gydsyniad heneb gofrestredig pan mai mân waith sydd o dan sylw. Gallai gwaith o’r fath gynnwys: atgyweirio yn sgil erydu lleol, ailosod darnau byr o ffensys, ailosod cerrig rhydd, neu godi placiau neu arwyddion. Mewn achosion pan fydd mân waith arfaethedig yn cael effaith niwtral neu effaith gadarnhaol ar heneb, caiff Cadw gytuno i’r gwaith yn ystod ymweliad â’r safle a hepgor yr angen am gais ffurfiol. Ym mhob achos, hyd yn oed pan nad oes angen cais ysgrifenedig, ni fydd gwaith ond yn cael ei awdurdodi ar ôl cael cydsyniad heneb gofrestredig ysgrifenedig, a roddir o dan adran 13(1).

Adran 15 — Declarasiynau o berchnogaeth mewn cysylltiad â heneb

69.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wrthod ystyried cais am gydsyniad heneb gofrestredig os nad oes declarasiwn o berchnogaeth a lofnodwyd gan neu ar ran y ceisydd yn dod gydag ef. Mae’r declarasiwn yn ymwneud â pherchnogaeth yr heneb ar ddechrau’r cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dod i ben ar ddyddiad y cais. Rhaid iddo gadarnhau mai’r ceisydd oedd naill ai yr unig berchennog ar yr heneb ar y pryd, neu ei fod wedi rhoi hysbysiad i bob perchennog arall ar yr heneb neu wedi cymryd pob cam rhesymol i wneud hynny (is-adran (1)). Yn ymarferol, gall y ceisydd fod yn berchennog, yn feddiannydd, yn asiant neu’n berson arall.

Adran 17 — Y weithdrefn ar gyfer penderfynu ceisiadau ac effaith rhoi cydsyniadAtodlen 6 — Achosion o dan Ran 2

70.Mae adran 17, ynghyd ag Atodlen 6, yn rheoleiddio’r weithdrefn ar gyfer penderfynu ceisiadau a rhoi cydsyniad heneb gofrestredig.

71.Mae is-adran (2) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, cyn penderfynu cais am gydsyniad heneb gofrestredig:

a.

peri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal;

b.

penodi person i gynnal gwrandawiad;

c.

penodi person i gael sylwadau ysgrifenedig ato; neu

d.

defnyddio unrhyw gyfuniad o’r achosion hyn.

72.Ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn, byddai Gweinidogion Cymru yn penodi un o arolygwyr Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru i gynnal achos o’r fath.

73.Yn ymarferol, cymerir amryw o gamau anffurfiol cyn y gallai Gweinidogion Cymru arfer eu pŵer o dan is-adran (2). Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd Cadw yn rhoi cyngor cyn gwneud cais i’r darpar geisydd. Gallai hyn fod yn arbennig o bwysig pan fo’n debygol y bydd gofyniad i ymwneud ag arbenigwyr archeolegol. Ar ôl cael cais, fel arfer bydd Cadw (gan weithredu ar ran Gweinidogion Cymru) yn cyhoeddi llythyr penderfyniad interim, sy’n cynnwys manylion unrhyw amodau arfaethedig neu’r rhesymau dros unrhyw gynnig i wrthod y cais. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r ceisydd i gyflwyno sylwadau, a all gynnwys darparu gwybodaeth ychwanegol sy’n berthnasol i’r cais. Bydd un o swyddogion Cadw yn cael y sylwadau hyn ac yn eu hystyried. Os oes materion heb eu datrys, dyna pryd y caiff Gweinidogion Cymru arfer eu pŵer o dan is-adran (2).

74.Mae is-adran (5) yn cadarnhau, oni bai bod ei delerau yn gwneud darpariaeth arall i’r gwrthwyneb, fod cydsyniad heneb gofrestredig yn cael effaith er budd yr heneb a phob person sydd â buddiant ynddi am y tro. Er enghraifft, pe bai perchnogaeth heneb gofrestredig yn newid tra bo gwaith y rhoddwyd cydsyniad iddo yn mynd rhagddo, ni fyddai angen i’r perchennog newydd wneud cais am gydsyniad heneb gofrestredig newydd er mwyn parhau â’r gwaith (ar yr amod nad oedd darpariaeth i’r gwrthwyneb yn nhelerau’r cydsyniad).

75.Mae Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth bod gwysion yn ei gwneud yn ofynnol cyflwyno tystiolaeth neu fod yn bresennol mewn ymchwiliadau lleol, ac yn ymdrin ag adennill neu dalu costau yr eir iddynt yn ystod ymchwiliadau neu wrandawiadau.

Adran 18 — Pŵer i roi cydsyniad yn ddarostyngedig i amodauAdran 19 — Amod ynghylch y cyfnod y mae rhaid i’r gwaith ddechrau ynddo

76.Mae adran 18 yn caniatáu i gydsyniadau henebion cofrestredig gael eu rhoi yn ddarostyngedig i amodau. Mae’r adran yn darparu dwy enghraifft o amodau, ond nid yw’r rhain yn hollgynhwysol. Caiff amodau ymwneud yn uniongyrchol â’r ffordd y cyflawnir gwaith neu cânt osod gofynion eraill, megis rhaglen o waith cofnodi ac adrodd archaeolegol neu gyhoeddi canlyniadau ar ôl cwblhau cloddiadau archaeolegol ac unrhyw waith dadansoddi angenrheidiol yn dilyn cloddiadau archaeolegol.

77.Mae adran 19(1) yn ei gwneud yn ofynnol i gydsyniad heneb gofrestredig gael ei roi yn ddarostyngedig i amod bod rhaid i’r gwaith ddechrau cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr amod. Os na fydd y gwaith y rhoddwyd cydsyniad iddo yn dechrau o fewn y cyfnod hwnnw, bydd y cydsyniad yn darfod. Pan fydd gwaith yn dechrau o fewn y cyfnod penodedig, bydd cydsyniad yn cael effaith fel y’i darperir gan adran 17(5).

78.Mae is-adran (2) yn nodi bod rhaid i’r gwaith ddechrau o fewn pum mlynedd i’r diwrnod y rhoddwyd y cydsyniad, os rhoddir cydsyniad heb amod sy’n pennu cyfnod y mae rhaid i waith ddechrau ynddo.

79.Mae is-adran (3) yn darparu nad yw’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â thri dosbarth o gydsyniad heneb gofrestredig:

a.

cydsyniadau henebion cofrestredig sy’n peidio â chael effaith ar ddiwedd cyfnod penodedig (ni waeth a yw gwaith wedi dechrau)

Mae cydsyniadau o’r fath yn ymwneud yn aml â digwyddiadau neu weithgareddau tymor byr ar safle heneb y gellir pennu cyfnod penodol iawn ar eu cyfer. Gellid pennu cyfnod cydsyniad hefyd, er enghraifft, er mwyn cyfyngu ar effaith gwaith ar rywogaethau a warchodir.

b.

cydsyniadau henebion cofrestredig a roddir o dan adran 13(2) ar gyfer gwaith a gyflawnwyd cyn i gydsyniad gael ei roi

Gan fod y cydsyniad yn awdurdodi gwaith sydd eisoes wedi ei gyflawni, nid yw’n angenrheidiol cael gofyniad i waith ddechrau.

c.

cydsyniadau henebion cofrestredig a roddir gan gytundeb partneriaeth heneb gofrestredig.

Gall cytundebau partneriaeth heneb gofrestredig barhau rhwng deg a phymtheg mlynedd ac mae’r cydsyniadau a roddir ganddynt yn parhau am oes y cytundebau, ni waeth pryd y bydd gwaith yn dechrau.

Adran 20 — Addasu a dirymu cydsyniadAtodlen 4 — Y weithdrefn ar gyfer gorchmynion sy’n addasu neu’n dirymu cydsyniad heneb gofrestredigAtodlen 6 — Achosion o dan Ran 2

80.Mae adran 20 yn rhoi i Weinidogion Cymru bwerau i ddirymu neu addasu cydsyniad heneb gofrestredig drwy orchymyn. Mae is-adran (2) yn nodi na chaniateir gwneud gorchymyn o dan yr adran hon i addasu neu ddirymu cydsyniad heneb gofrestredig a roddir naill ai ar gyfer cadw gwaith o dan adran 13(2) neu a roddir gan gytundeb partneriaeth heneb gofrestredig. Mae cytundebau partneriaeth henebion cofrestredig yn ymgorffori mecanweithiau ar wahân (adran 27 ac Atodlen 5) sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru derfynu’r cyfan neu ran o gytundeb, gan gynnwys cydsyniadau, drwy orchymyn.

81.Mae Atodlen 4 yn nodi’r weithdrefn y mae rhaid ei dilyn wrth wneud gorchmynion, sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer cynnal ymchwiliadau lleol neu wrandawiadau o dan amgylchiadau penodol. Mae Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth i wysion ei gwneud yn ofynnol cyflwyno tystiolaeth neu fod yn bresennol mewn ymchwiliadau lleol, ac yn ymdrin ag adennill neu dalu costau yr eir iddynt yn ystod ymchwiliadau neu wrandawiadau.

Adran 21 — Digollediad am wrthod cydsyniad heneb gofrestredig neu roi cydsyniad yn ddarostyngedig i amodau

82.Mae adran 21 yn gwneud darpariaeth, yn ddarostyngedig i amodau penodol, ar gyfer talu digollediad pan fo person sydd â buddiant mewn heneb yn dioddef colled neu ddifrod os caiff cydsyniad heneb gofrestredig ei wrthod neu ei roi yn ddarostyngedig i amodau.

83.Mae is-adran (7) yn nodi dau fater sydd i’w hystyried wrth gyfrifo swm y golled neu’r difrod sy’n ddibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir (sy’n golygu i ba raddau y mae gwerth y buddiant yn lleihau i bob pwrpas o ganlyniad i’r cyfyngiadau ar waith a osodir drwy wrthod cydsyniad heneb gofrestredig neu roi cydsyniad yn ddarostyngedig i amodau).

a.

Mae i’w thybio y byddai unrhyw gais dilynol am gydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith o ddisgrifiad tebyg yn cael ei benderfynu yn yr un ffordd gan Weinidogion Cymru.

b.

Yn achos gwrthod cydsyniad, os ymrwymodd Gweinidogion Cymru, wrth wrthod y cydsyniad hwnnw, i roi cydsyniad ar gyfer gwaith arall sy’n effeithio ar yr heneb pe bai cais yn cael ei wneud, dylid ystyried yr ymrwymiad hwnnw. Gallai ymrwymiad ganiatáu ar gyfer rhyw ddefnydd ymarferol arall o’r tir, a byddai hynny’n lleihau’r dibrisiant at ddibenion cyfrifo swm y digollediad sy’n daladwy.

Adran 22 — Adennill digollediad a dalwyd o dan adran 21 ar ôl rhoi cydsyniad dilynol

84.Mae adran 22 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i adennill digollediad a dalwyd o dan adran 21 os ydynt wedyn yn rhoi cydsyniad ar gyfer amodau, neu’n addasu neu’n dileu amodau, a oedd yn effeithio ar y cyfan neu unrhyw ran o’r gwaith y cafodd digollediad ei dalu mewn cysylltiad ag ef.

85.Nid yw’r adran hon ond yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi cyflwyno hysbysiad o dalu digollediad i’r cyngor ym mhob sir neu fwrdeistref sirol y mae’r heneb ynddi (is-adran (2)). Mae’r manylion y mae’n ofynnol eu cynnwys yn yr hysbysiad wedi eu nodi yn is-adran (5) ac mae is-adran (6) yn gwneud yr hysbysiad yn bridiant lleol.

86.Mae is-adran (3) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, wrth roi neu addasu cydsyniad heneb gofrestredig mewn achos y mae’r adran hon yn gymwys iddo, bennu na chaiff gwaith y talwyd digollediad mewn cysylltiad ag ef fynd yn ei flaen hyd nes bod y “swm adenilladwy” (a ddiffinnir yn adran 23) wedi ei ad-dalu neu ei sicrhau yn foddhaol.

Adran 23 — Penderfynu’r swm sy’n adenilladwy o dan adran 22

87.Mae adran 23(1) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru bennu “swm adenilladwy” y digollediad a delir o dan adran 21 wrth roi hysbysiad o’u penderfyniad i roi neu addasu cydsyniad heneb gofrestredig mewn achos o dan adran 22.

88.Os yw person sydd â buddiant yn yr heneb yn dadlau ynghylch y swm a bennir gan Weinidogion Cymru, caiff y person hwnnw geisio penderfyniad ar y swm gan yr Uwch Dribiwnlys. Mae Rheolau’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd) yn gwneud darpariaeth ar gyfer atgyfeirio cais i’r Tribiwnlys ac ar gyfer ymdrin â’r achos. Os caiff anghydfod ei atgyfeirio i’r Uwch Dribiwnlys, y swm adenilladwy fydd y swm y mae’r Tribiwnlys yn ei benderfynu (is-adrannau (2) a (3)).

Adran 24 — Digollediad pan fo gwaith sy’n effeithio ar heneb gofrestredig yn peidio â chael ei awdurdodi

89.Mae’r adran hon yn darparu i ddigollediad gael ei dalu os yw gwaith a awdurdodwyd yn flaenorol yn peidio â chael ei awdurdodi felly. Mae is-adran (1) yn darparu y caiff hyn ddigwydd:

a.

os yw awdurdodiad o dan adran 12 yn peidio â bod yn gymwys pan gaiff dosbarth o waith a bennir yn Atodlen 3 ei ddiwygio neu pan fydd Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo nad yw adran 12(1) yn gymwys i heneb gofrestredig;

b.

os yw cydsyniad heneb gofrestredig wedi ei addasu neu ei ddirymu drwy orchymyn a wneir o dan adran 20; neu

c.

os caiff awdurdodiad ei ganslo yn dilyn cyflwyno hysbysiad o addasiad neu ddirymiad arfaethedig ar gyfer cydsyniad heneb gofrestredig fel y’i nodir ym mharagraff 2 o Atodlen 4.

90.Mae gan unrhyw berson a chanddo fuddiant yn yr heneb hawlogaeth, wrth wneud hawliad am ddigollediad i Weinidogion Cymru, i gael ei ddigolledu ganddynt am unrhyw wariant yr eir iddo wrth gyflawni gwaith a ddaw yn ofer oherwydd bod awdurdodiad wedi dod i ben neu unrhyw golled neu unrhyw ddifrod y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r ffaith bod yr awdurdodiad hwnnw wedi dod i ben. At ddibenion yr adran hon, mae gwariant yr eir iddo wrth gyflawni gwaith yn cynnwys gwariant ar faterion paratoi, a allai gynnwys arolygon safle, llunio planiau neu ddatganiad o’r effaith ar dreftadaeth neu lunio manylebau manwl o ddeunyddiau a methodolegau, ond nid yw’n gyfyngedig i hyn (is-adrannau (2) a (4)).

91.Mae adrannau 202, 203 a 204 yn gwneud darpariaethau ychwanegol ynghylch hawliadau am ddigollediad o dan y Ddeddf hon.

Pennod 4 — Cytundebau partneriaethau henebion cofrestredig

92.Mae’r Bennod hon yn darparu ar gyfer gwneud cytundebau partneriaethau henebion cofrestredig. Cytundebau gwirfoddol yw’r rhain rhwng Gweinidogion Cymru, perchnogion henebion cofrestredig a phartïon eraill ar gyfer rheoli un neu ragor o henebion cofrestredig yn y tymor hir. Caiff cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig roi cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer rhaglen waith y cytunwyd arni i’w chyflawni yn ystod oes y cytundeb. Gwneir darpariaeth ar gyfer cytundebau partneriaethau adeiladau rhestredig tebyg yn Rhan 3, Pennod 3.

93.Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi canllawiau, sy’n cael eu hadolygu’n gyson, i gefnogi’r dasg o lunio cytundebau partneriaethau treftadaeth gan gynnwys y rheini ar gyfer henebion cofrestredig. Ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn, mae’r canllawiau, Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth yng Nghymru (2021), yn nodi’r elfennau y mae’n ofynnol eu cynnwys mewn cytundeb ac yn nodi’r arferion gorau i hyrwyddo cysondeb o ran gweithredu gwaith yn ogystal â monitro ac adolygu rheolaidd. Mae’r canllawiau yn cynnwys templed i ddarparu fframwaith ar gyfer cytundebau newydd.

Adran 25 — Cytundebau partneriaethau henebion cofrestredig

94.Mae adran 25(1) yn pennu’r partïon hanfodol ar gyfer unrhyw gytundeb partneriaeth heneb gofrestredig:

a.

Gweinidogion Cymru — fel yr awdurdod cydsynio perthnasol — a

b.

unrhyw berchennog ar heneb gofrestredig y mae’r cytundeb yn ymwneud â hi, neu

c.

unrhyw berchennog ar unrhyw dir sy’n cydffinio â heneb o’r fath neu sydd yng nghyffiniau heneb o’r fath, y cyfeirir ato fel “tir cysylltiedig”.

95.Caiff personau eraill a chanddynt fuddiant mewn heneb, fel y’u nodir yn is-adran (2), hefyd ymuno fel partïon i’r cytundeb.

96.Caiff cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig roi cydsyniad heneb gofrestredig o dan adran 13(1) ar gyfer rhaglen waith y cytunwyd arni ac a bennir yn y cytundeb. Caiff y cydsyniad awdurdodi gwaith at ddiben symud ymaith neu atgyweirio heneb neu wneud unrhyw addasiadau iddi neu unrhyw ychwanegiadau ati (is-adrannau (3) a (7)). Bydd hyn yn caniatáu gwaith cynnal a chadw, gwaith cadwraeth neu waith rheoli a fydd o fudd i’r heneb neu’r henebion a gwmpesir gan y cytundeb.

97.Ni chaiff cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig roi cydsyniad ar gyfer gwaith sy’n arwain at ddymchwel neu ddinistrio heneb nac at unrhyw ddifrod i heneb nac ar gyfer unrhyw weithrediadau i foddi tir neu weithrediadau tipio ar dir y mae heneb ynddo, arno neu odano (adran 11(2)(a) ac (c)). Byddai’n ofynnol cael cydsyniad heneb gofrestredig ar wahân ar gyfer y gwaith sydd wedi ei eithrio a geir drwy’r broses arferol o wneud cais (adrannau 14 i 19).

98.Nid yw cydsyniad heneb gofrestredig mewn cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig yn ddarostyngedig i’r darpariaethau yn adran 19 ynghylch pryd y mae rhaid i waith ddechrau a bydd yn parhau’n ddilys ar hyd oes y cytundeb, a all fod rhwng 10 a 15 mlynedd.

99.Mae is-adran (5)(a) yn caniatáu i bartïon i gytundeb bennu gwaith y byddai adran 11 yn gymwys iddo neu na fyddai’n gymwys iddo, ac felly y byddai’n ofynnol cael awdurdodiad ar ei gyfer neu na fyddai’n ofynnol cael awdurdodiad ar ei gyfer. Gallai hyn ganiatáu i’r partïon nodi mân waith penodol — er enghraifft, rhaglen y cytunwyd arni i glirio a rheoli llystyfiant — a allai fynd yn ei flaen heb awdurdodiad. Gallent hefyd bennu gwaith mwy sylweddol na ellid ei gynnwys yn y cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig ac felly a fyddai angen ystyriaeth lawn y weithdrefn cydsyniad heneb gofrestredig ar wahân.

Adran 26 — Darpariaeth bellach ynghylch cytundebau partneriaethau henebion cofrestredig

100.Mae’r adran hon yn rhagnodi elfennau sy’n ofynnol ar gyfer cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig (is-adrannau (1) a (2)), yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth, drwy reoliadau, ar gyfer yr ymgynghoriad y mae rhaid iddo gael ei gynnal a’r cyhoeddusrwydd y mae rhaid iddo gael ei roi cyn i gytundeb gael ei wneud neu ei amrywio (is-adrannau (5) a (6)) ac yn cyfyngu ar effaith cytundeb ac effaith unrhyw gydsyniad a roddir (is-adran (7)).

101.Mae is-adran (2)(e) yn ei gwneud yn ofynnol i gytundeb partneriaeth heneb gofrestredig wneud darpariaeth ar gyfer ei amrywio. Gan y bydd cytundeb yn parhau am flynyddoedd, mae’n debygol y bydd yn ofynnol gwneud addasiadau o bryd i’w gilydd. Rhaid i’r partïon, felly, ymgorffori yn y cytundeb drefniadau gweithio y cytunwyd arnynt ar gyfer cymeradwyo amrywiadau angenrheidiol. Mewn rhai achosion, bydd amrywiadau yn ddarostyngedig i’r gofynion ymgynghori a chyhoeddusrwydd a ragnodir drwy reoliadau o dan is-adran (5).

102.Mae’r ddarpariaeth ar gyfer terfynu’r cytundeb sy’n ofynnol gan is-adran (2)(f) yn galw am ddull ar gyfer terfynu drwy negodi pe na bai’r cytundeb yn gwasanaethu buddiannau cyffredin y partïon mwyach neu os yw wedi methu fel arall. Mae hyn yn wahanol i derfynu cytundeb neu ddarpariaeth mewn cytundeb drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru o dan adran 27.

103.Mae is-adran (7) yn darparu na fydd cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig ond yn gosod rhwymedigaeth ar y partïon i’r cytundeb hwnnw. Ni fydd perchnogion ar yr heneb gofrestredig yn y dyfodol yn cael eu rhwymo gan gytundeb, ac ni fyddant ychwaith yn gallu elwa ar unrhyw gysyniad heneb gofrestredig a roddir gan y cytundeb. O ganlyniad, oni bai bod yr holl bartïon yn cytuno i barhau â chytundeb gyda pherchennog newydd, bydd cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig yn peidio â chael effaith wrth i berchnogaeth newid.

Adran 27 — Terfynu cytundeb neu ddarpariaeth mewn cytundebAtodlen 5 — Terfynu drwy orchymyn gytundeb partneriaeth heneb gofrestredigAtodlen 6 — Achosion o dan Ran 2

104.Mae adran 27 yn caniatáu i Weinidogion Cymru derfynu cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig neu unrhyw ddarpariaeth mewn cytundeb o’r fath drwy orchymyn. Mae’n debygol na fydd hyn ond yn digwydd mewn achosion eithriadol, er enghraifft, os bydd gwaith anawdurdodedig yn digwydd a’r berthynas rhwng y partïon yn dirywio i’r fath raddau fel ei bod yn amhosibl terfynu drwy negodi. Fel arall, gallai darganfyddiadau archaeolegol arwyddocaol ei gwneud yn ofynnol i waith penodol ddod i ben yn groes i ddymuniadau perchennog ac ysgogi Gweinidogion Cymru i derfynu rhan o’r cytundeb drwy orchymyn.

105.Mae adran 27(4) yn darparu bod Atodlen 5 a pharagraff 1 o Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â gwneud gorchmynion o dan yr adran hon.

106.Mae Atodlen 5 yn sefydlu’r weithdrefn ar gyfer gwneud gorchymyn i derfynu cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig neu ddarpariaeth mewn cytundeb o’r fath. Mae’r weithdrefn hon yn debyg iawn i’r weithdrefn ar gyfer gwneud gorchymyn i addasu neu ddirymu cydsyniad heneb gofrestredig yn Atodlen 4.

Adran 28 — Digollediad mewn perthynas â therfynu

107.O dan adran 28, mae hawlogaeth gan unrhyw barti i gytundeb partneriaeth heneb gofrestredig a chanddo fuddiant mewn heneb neu dir cysylltiedig sy’n dioddef colled neu ddifrod o ganlyniad uniongyrchol i waith yn dod i ben oherwydd i hysbysiad o derfyniad arfaethedig gael ei gyflwyno neu i orchymyn terfynu gael ei wneud, wrth wneud hawliad am ddigollediad i Weinidogion Cymru, i gael ei ddigolledu gan Weinidogion Cymru.

108.Caniateir gwneud hawliadau am wariant yr eir iddo ar waith y perir iddo fod yn ofer gan yr hysbysiad neu’r gorchymyn ac ar blaniau a materion eraill i baratoi ar gyfer y gwaith (is-adrannau (2)(a) a (3)). Gallai materion paratoi o’r fath gynnwys datblygu’r cynlluniau manwl y mae eu hangen ar gyfer cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig. Caniateir gwneud hawliadau hefyd am unrhyw golled arall neu unrhyw ddifrod arall a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r hysbysiad neu’r gorchymyn.

109.Mae adrannau 202 a 203 yn gwneud darpariaethau ychwanegol ynghylch hawliadau am ddigollediad o dan y Ddeddf hon (gweler paragraff 45 uchod).

Pennod 5 Gorfodi rheolaethau sy’n ymwneud â henebion cofrestredig

110.Mae’r Bennod hon yn nodi ei bod yn drosedd cyflawni gwaith anawdurdodedig mewn perthynas â heneb gofrestredig, neu beri neu ganiatáu i waith anawdurdodedig gael ei gyflawni mewn perthynas â heneb gofrestredig (adran 30). Mae’n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i ddyroddi hysbysiad stop dros dro er mwyn rhoi terfyn ar unwaith ar waith sy’n torri naill ai adran 11 neu amod mewn cydsyniad (adrannau 31 i 34). Mae hefyd yn darparu ar gyfer hysbysiad gorfodi, y caniateir ei ddefnyddio i bennu’r camau i’w cymryd er mwyn unioni effeithiau gwaith anawdurdodedig, ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyflwyno hysbysiad a’r hysbysiad yn cymryd effaith yn ogystal ag apêl yn ei erbyn (adrannau 35 i 41). Mae’r Bennod hefyd yn darparu ar gyfer gwaharddebau i atal achosion gwirioneddol neu ddisgwyliedig o dorri adran 11 neu fethiannau i gydymffurfio ag amodau mewn cydsyniad (adran 42).

Adran 30 — Y drosedd o gyflawni gwaith anawdurdodedig neu dorri amod mewn cydsyniad

111.Mae adran 30(1) yn ei gwneud yn drosedd i berson gyflawni gwaith anawdurdodedig ar heneb gofrestredig, neu i beri neu i ganiatáu i waith o’r fath gael ei gyflawni. Caiff adran 12, sy’n awdurdodi dosbarthau penodol o waith, neu adran 13, sy’n darparu ar gyfer rhoi cydsyniad heneb gofrestredig gan Weinidogion Cymru, ddarparu awdurdodiad.

112.Os rhoddwyd cydsyniad heneb gofrestredig, mae is-adran (2)(b) yn darparu ei bod yn drosedd i berson fethu â chydymffurfio ag amod mewn cydsyniad wrth gyflawni gwaith, neu wrth beri neu ganiatáu i’r gwaith gael ei gyflawni. Bydd hyn yn gymwys i bob amod sy’n gysylltiedig â chydsyniad heneb gofrestredig, gan gynnwys, er enghraifft, yr amodau hynny sy’n ymwneud â chyhoeddi canlyniadau ar ôl cwblhau ymchwiliad archaeolegol.

113.Yn is-adrannau (1) a (2), ystyr “person” yw unrhyw un sy’n cyflawni gwaith ar heneb, pa un a yw’n berchennog neu’n feddiannydd ar heneb, yn gontractiwr neu’n is-gontractiwr neu’n drydydd parti arall.

114.Os cyflawnir gwaith heb awdurdodiad neu yn groes i amod, cyflawnir trosedd pa un a yw person:

a.

yn cyflawni’r gwaith hwnnw ei hun,

b.

yn cyfarwyddo neu’n cyflogi rhywun arall i’w gyflawni, neu

c.

yn caniatáu gwaith o’r fath.

115.Mae’r pwynt olaf yn golygu na all person anwybyddu’r hyn sy’n digwydd i heneb gofrestredig a methu â chymryd camau rhesymol i atal gwaith anawdurdodedig.

116.Mae is-adran (4) yn darparu amddiffyniad i berson mewn achos am drosedd o dan is-adran (1) yn ymwneud â heneb o dan warchodaeth interim pan fo’r person yn gallu profi nad oedd y person yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, fod yr heneb yn ddarostyngedig i warchodaeth interim. Pan fo’r amddiffyniad yn cael ei godi gan berson y dylai hysbysiad fod wedi cael ei gyflwyno iddo o dan adran 5(2), yr erlyniad sydd i brofi i’r hysbysiad gael ei gyflwyno i’r person.

117.Dylai gwybodaeth am henebion o dan warchodaeth interim fod ar gael yn hawdd. Mae adran 5(2) i (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad os ydynt yn cynnig ychwanegu heneb i’r gofrestr neu ychwanegu at ardal heneb gofrestredig bresennol. Rhaid i’r hysbysiad, y mae rhaid ei gyflwyno i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb ymhlith personau eraill, bennu’r dyddiad y mae gwarchodaeth interim yn dechrau ac egluro ei heffaith. Caiff rhestr o henebion o dan warchodaeth interim ei chyhoeddi ar wefan Cadw yn unol ag adran 6(4) (gweler paragraff 39 uchod) ac mae Cof Cymru hefyd yn nodi henebion o dan warchodaeth interim.

118.Mae is-adran (7) yn darparu amddiffyniad tebyg mewn achos am drosedd o dan yr adran hon am waith sydd wedi arwain at ddymchwel neu ddinistrio, neu unrhyw ddifrod i heneb gofrestredig neu foddi tir neu weithrediadau tipio ar dir y mae heneb gofrestredig ynddo, arno neu odano. Bydd amddiffyniad gan berson os yw’r person yn gallu profi ei fod wedi cymryd pob cam rhesymol, cyn cyflawni’r gwaith, er mwyn canfod a oedd heneb gofrestredig yn yr ardal y byddai’r gwaith yn effeithio arni, ac nad oedd y person yn gwybod, ac nad oedd ganddo reswm dros gredu, fod yr heneb yn yr ardal, neu, yn ôl y digwydd, ei bod yn heneb gofrestredig.

119.Gallai camau rhesymol o’r fath gynnwys edrych ar Cof Cymru, lle mae gwybodaeth gywir a chyfredol am leoliad a rhychwant pob heneb gofrestredig yng Nghymru ar gael. Mae gwefannau eraill — er enghraifft Archwilio, sef porth ar-lein cofnodion amgylchedd hanesyddol Cymru, neu DataMapCymru — hefyd yn cynnwys gwybodaeth am henebion cofrestredig sy’n deillio o Cof Cymru.

120.Mae unrhyw un sydd wedi perchen ar heneb gofrestredig neu wedi ei meddiannu am dymor hir yn debygol o wybod am ei statws yn ogystal â gwybod beth yw ei rhychwant am fod wardeiniaid henebion maes Cadw yn ymweld â phob heneb gofrestredig yng Nghymru ar raglen dreigl er mwyn cofnodi eu cyflwr. Dylai perchnogion newydd gael gwybod eu bod wedi caffael heneb gofrestredig drwy chwiliad teitl trawsgludo, am fod cofnod yn y gofrestr yn bridiant tir lleol o dan adran 3(5).

121.Mae is-adran (8) yn darparu amddiffyniad i berson mewn achos am drosedd o dan yr adran hon os cyflawnwyd gwaith er mwyn mynd i’r afael ag anghenion iechyd a diogelwch brys. Fodd bynnag, nid yw’r amddiffyniad ar gael ac eithrio pan fo’r gwaith wedi ei gyfyngu i isafswm y mesurau sy’n angenrheidiol ar unwaith i sicrhau iechyd a diogelwch, a phan fo hysbysiad sy’n cyfiawnhau’r gwaith yn fanwl wedi cael ei roi i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

122.Mae is-adran (9) yn darparu mai dirwy ddiderfyn yw’r gosb am drosedd o dan yr adran hon, pa un a roddir euogfarn ddiannod neu euogfarn ar dditiad.

Adran 31 — Pŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi hysbysiad stop dros droAdran 32 — Hyd etc. hysbysiad stop dros droAdran 33 — Y drosedd o dorri hysbysiad stop dros dro

123.Mae adran 31 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i ddyroddi hysbysiad stop dros dro er mwyn rhoi terfyn ar unwaith ar unrhyw waith, neu’r holl waith ar heneb gofrestredig y maent yn ystyried ei fod yn anawdurdodedig neu’n torri amod mewn cydsyniad heneb gofrestredig. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud hynny oni bai eu bod yn ystyried y dylid rhoi terfyn ar y gwaith ar unwaith, gan roi sylw i effaith y gwaith ar yr heneb fel un sydd o bwysigrwydd cenedlaethol.

124.Mae is-adrannau (2) i (5) yn pennu’r hyn y mae’n ofynnol i hysbysiad stop dros dro ei gynnwys ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyflwyno hysbysiad. Mae is-adrannau (3) a (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru arddangos copi o’r hysbysiad ar yr heneb neu’r tir, neu, pan nad yw’n rhesymol ymarferol arddangos copi o’r hysbysiad ar yr heneb neu’r tir neu pe gellid difrodi’r heneb drwy wneud hynny,mewn man amlwg gerllaw. Mae is-adran (5) yn darparu y caniateir cyflwyno copi o’r hysbysiad i’r personau a nodir yn yr is-adran honno — gan gynnwys person y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn cyflawni’r gwaith neu’n peri neu’n caniatáu iddo gael ei gyflawni.

125.Er y bydd Gweinidogion Cymru yn ymdrechu i gyflwyno copїau unigol i bartïon â buddiant o dan is-adran (5), drwy arddangos copi o’r hysbysiad stop dros dro yn gyhoeddus, gellir rhoi gwybod i bawb sy’n rhan o’r gwaith penodedig sy’n effeithio ar yr heneb gofrestredig fod rhaid i’r gwaith hwnnw gael ei atal dros dro, ar unwaith.

126.Mae adran 66 yn gwneud darpariaeth i berson awdurdodedig fynd ar dir er mwyn arddangos hysbysiad stop dros dro ac at ddibenion cysylltiedig.

127.Mae adran 32 yn nodi bod hysbysiad stop dros dro yn cymryd effaith pan gaiff copi ohono ei arddangos yn gyntaf yn unol ag adran 31, y bydd yn parhau i gael effaith am 28 o ddiwrnodau (oni bai bod cyfnod byrrach wedi ei bennu), ac y caiff Gweinidogion Cymru ei dynnu’n ôl cyn iddo ddod i ben.

128.Cyn gynted ag y bydd hysbysiad stop dros dro yn cael effaith, mae adran 33 yn ei gwneud yn drosedd i berson gyflawni gwaith sydd wedi ei wahardd gan yr hysbysiad neu beri neu ganiatáu i berson arall wneud hynny.

Adran 34 — Digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan hysbysiad stop dros dro

129.Mae adran 34 yn darparu y caiff unrhyw berson a chanddo fuddiant mewn heneb neu dir y mae hysbysiad stop dros dro yn ymwneud â hi neu ag ef fod â hawlogaeth i ddigollediad gan Weinidogion Cymru am golled neu ddifrod y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i effaith hysbysiad stop dros dro.

130.Mae is-adran (1) yn darparu nad yw digollediad ond yn daladwy:

a.

pan nad oedd y gwaith a bennir yn yr hysbysiad yn torri adran 11 ar yr adeg y cymerodd yr hysbysiad effaith (hynny yw, roedd naill ai wedi ei awdurdodi neu nid oedd yn ofynnol iddo gael ei awdurdodi); neu

b.

pan nad oedd y gwaith a bennir yn yr hysbysiad yn torri amod mewn cydsyniad heneb gofrestredig ar yr adeg y cymerodd yr hysbyseb effaith; neu

c.

pan fo Gweinidogion Cymru wedi tynnu’n ôl yr hysbysiad stop dros dro ar ôl iddo gymryd effaith.

Fodd bynnag, mae is-adran (2) yn darparu ymhellach nad oes digollediad yn daladwy os yw Gweinidogion Cymru yn tynnu hysbysiad yn ôl ar ôl rhoi cydsyniad heneb gofrestredig a fydd yn caniatáu i’r gwaith a bennir yn yr hysbysiad fynd rhagddo.

131.Mae is-adran (5) hefyd yn eithrio unrhyw hawliad am golled neu ddifrod y gellid bod wedi ei osgoi neu ei hosgoi pe bai’r hawlydd wedi darparu gwybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru ynghylch buddiannau yn y tir o dan adran 197, neu pe bai wedi cydweithredu fel arall â Gweinidogion Cymru.

132.Mae adrannau 202 a 203 yn gwneud darpariaethau ychwanegol ynghylch hawliadau am ddigollediad o dan y Ddeddf hon (gweler paragraff 45 uchod).

Adran 35 — Pŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi hysbysiad gorfodi

133.Mae adran 35 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i ddyroddi hysbysiad gorfodi i atal gwaith anawdurdodedig penodedig ar heneb gofrestredig a/neu ei gwneud yn ofynnol i gymryd camau er mwyn:

a.

adfer yr heneb neu’r tir i’w chyflwr neu ei gyflwr cyn i’r gwaith anawdurdodedig fynd rhagddo;

Byddai’r camau gofynnol yn debygol o gynnwys cynnal ymchwiliad archaeolegol priodol o’r ardal a ddifrodwyd er mwyn adennill a chofnodi tystiolaeth hanesyddol cyn i weithrediadau penodedig pellach fynd rhagddynt.

b.

lleddfu effaith y gwaith, os nad yw’n rhesymol ymarferol neu yn ddymunol adfer yr heneb neu’r tir; neu

Pe bai difrod difrifol neu helaeth i heneb gofrestredig, gallai fod yn annichonadwy ei hadfer a gallai, mewn gwirionedd, achosi rhagor o ddifrod i’r dystiolaeth archaeolegol sydd wedi goroesi. Mewn achos o’r fath, byddai Gweinidogion Cymru yn pennu camau i sefydlogi’r heneb yn ei chyflwr newydd er mwyn ei gwarchod, ac er mwyn gwarchod yr wybodaeth y mae’n ei chynnwys at y dyfodol.

c.

rhoi’r heneb neu’r tir yn y cyflwr y byddai wedi bod ynddo pe cydymffurfiwyd â thelerau ac amodau cydsyniad heneb gofrestredig a roddwyd.

134.O dan is-adran (5) rhaid i Weinidogion Cymru gynnal rhestr gyfredol o hysbysiadau gorfodi henebion cofrestredig sydd ar waith. Ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn, mae’r rhestr wedi ei chynnwys ar y dudalen “Hysbysiadau statudol ymgynghori heneb gofrestredig” yn yr adran “Henebion cofrestredig” ar wefan Cadw’.

Adran 36 — Cyflwyno hysbysiad gorfodi a’r hysbysiad yn cymryd effaith

135.Mae adran 36 yn nodi’r gofynion ar gyfer cyflwyno copi o hysbysiad gorfodi a phryd y mae hysbysiad gorfodi’n cymryd effaith.

136.Mae is-adran (2) yn darparu y bydd hysbysiad gorfodi yn cymryd effaith ar ddechrau’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad. Pe bai apêl yn cael ei wneud i lys ynadon yn erbyn yr hysbysiad o dan adran 39, mae adran 39(4) yn darparu na fydd yr hysbysiad yn cymryd effaith hyd nes y caiff yr apêl ei phenderfynu neu ei thynnu’n ôl.

137.Mae is-adran (3) yn caniatáu i hysbysiad gorfodi bennu gwahanol gyfnodau ar gyfer atal gwaith gwahanol neu gymryd camau gwahanol. Mae hyblygrwydd o’r fath yn galluogi hysbysiad gorfodi i wneud darpariaeth briodol ar gyfer gofynion cadwraeth heneb. Er enghraifft, gellid nodi cyfres o gamau i’w cymryd yn raddol er mwyn sicrhau bod heneb a ddifrodwyd gan waith anawdurdodedig yn cael ei hadfer neu ei sefydlogi’n foddhaol.

138.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol cyflwyno copi o’r hysbysiad i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb neu’r tir y mae’n ymwneud â hi neu ag ef, i unrhyw lesddeiliad (os yw’n briodol) ac i unrhyw berson arall sydd â buddiant yn yr heneb neu’r tir y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod yr hysbysiad yn effeithio’n sylweddol arni neu arno.

139.Mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol cyflwyno copi o’r hysbysiad cyn diwedd 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y’i dyroddwyd, ac o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y mae i gymryd effaith. Ystyr “dyroddwyd” yma yw’r adeg y cytunwyd ar yr hysbysiad gorfodi gan swyddog dirprwyol i Weinidogion Cymru.

140.Mae adran 66 yn gwneud darpariaeth i berson awdurdodedig fynd ar dir er mwyn cyflwyno hysbysiad gorfodi ac at ddibenion cysylltiedig.

Adran 38 — Effaith rhoi cydsyniad heneb gofrestredig ar hysbysiad gorfodi

141.Mae adran 38 yn darparu ar gyfer sefyllfa pan roddir cydsyniad heneb gofrestredig, ar ôl i hysbysiad gorfodi gael ei ddyroddi, i awdurdodi:

a.

gwaith y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef a oedd wedi ei gyflawni yn groes i adran 11, neu

b.

gwaith a oedd wedi torri amod mewn cydsyniad heneb gofrestredig blaenorol.

142.Mae is-adran (2) yn darparu bod camau a bennir yn yr hysbysiad sy’n anghyson â’r cydsyniad newydd yn peidio â chael effaith. Fodd bynnag, mae is-adran (3) yn nodi bod person yn parhau’n atebol am unrhyw drosedd gynharach sy’n deillio o fethu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi, er bod rhan o’r hysbysiad neu’r hysbysiad cyfan yn peidio â chael effaith wedi hynny o dan yr adran hon. Mae methu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi (adran 41) yn drosedd ar wahân i gyflawni gwaith anawdurdodedig (adran 30) a chaniateir mynd ar drywydd achosion am y troseddau yn annibynnol ar ei gilydd.

Adran 39 — Apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi

143.Mae adran 39 yn caniatáu i unrhyw un y cyflwynwyd copi o hysbysiad gorfodi iddo, neu unrhyw un a chanddo fuddiant yn yr heneb neu’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi neu ag ef, apelio i lys ynadon yn erbyn yr hysbysiad.

144.Mae is-adran (2) yn rhestru’r seiliau dros apêl ac mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i apêl gael ei gwneud cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y mae’r hysbysiad yn cymryd effaith. Mae is-adran (2)(b) yn darparu ar gyfer apêl ar y sail nad oedd y gwaith yn ’torri adran 11 neu amod mewn cydsyniad heneb gofrestredig. Efallai fod hyn oherwydd bod y gwaith wedi digwydd y tu allan i ardal yr heneb gofrestredig neu oherwydd ei fod, mewn gwirionedd, yn cydymffurfio ag awdurdodiad a ddarperir gan adran 12 neu 13 ac unrhyw amodau sydd ynghlwm wrtho.

145.Mae is-adran (6) yn darparu y caiff y llys gadarnhau hysbysiad er gwaethaf methiant i’w gyflwyno i berson yr oedd yn ofynnol cyflwyno hysbysiad iddo, os yw wedi ei fodloni nad yw’r methiant wedi cael effaith andwyol sylweddol ar y person.

Adran 40 — Pwerau i fynd ar dir a chymryd camau sy’n ofynnol gan hysbysiad gorfodiAdran 41 — Y drosedd o fethu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi

146.Mae adran 40 yn darparu ar gyfer sefyllfa pan nad yw un o’r camau gofynnol wedi cael ei gymryd o fewn yr amser a bennir mewn hysbysiad gorfodi. Yn yr achos hwnnw, caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru fynd ar y tir, cymryd y cam hwnnw ac adennill y costau yr eir iddynt oddi wrth unrhyw berchennog neu lesddeiliad ar yr heneb neu’r tir. Mae hyn yn caniatáu i waith cadwraeth angenrheidiol a nodir yn yr hysbysiad gorfodi er mwyn sicrhau dyfodol yr heneb gofrestredig fynd rhagddo mewn modd amserol. Fel arall, gellid caniatáu i heneb a ddifrodwyd fynd i gyflwr gwael, gan arwain at ragor o ddifrod i’r heneb a cholli unrhyw wybodaeth archaeolegol sydd ynddi.

147.Os yw’r pŵer mynediad a nodir yn is-adran (1) i’w arfer ar dir sydd wedi ei feddiannu, mae is-adran 69(2)(a) yn ei gwneud yn ofynnol i roi o leiaf 14 o ddiwrnodau o rybudd i bob meddiannydd.

148.Pe bai meddiannydd yn rhwystro perchennog rhag cyflawni gwaith sy’n ofynnol gan hysbysiad gorfodi, mae is-adran (3) yn galluogi llys ynadon, ar gais gan y perchennog, i ddyroddi gwarant sy’n awdurdodi’r perchennog i fynd ar y tir a chyflawni’r gwaith. Mae’n bwysig i berchennog allu troi at y gyfraith yn y modd hwn gan fod adran 41(1) yn gosod unrhyw atebolrwydd am drosedd o fethu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi ar berchennog yr heneb gofrestredig neu’r tir. Gallai fod gan berchennog amddiffyniad hefyd o dan adran 41(3) os yw meddiannydd, er gwaethaf pob ymdrech rhesymol i gymryd camau a nodir mewn hysbysiad gorfodi, yn ei rwystro rhag eu cymryd.

149.Mae adran 70 yn caniatáu i unrhyw berson â chanddo fuddiant mewn tir hawlio digollediad am unrhyw ddifrod i dir neu eiddo arall a achosir o ganlyniad i arfer pwerau o dan yr adran hon.

150.Mae adran 41 yn pennu y bydd perchennog yr heneb gofrestredig neu’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi neu ag ef yn euog o drosedd os nad yw’r gwaith a bennir yn yr hysbysiad wedi dod i ben neu os nad yw un o’r camau gofynnol wedi cael ei gymryd ar ôl diwedd y cyfnod a nodir mewn hysbysiad gorfodi.

Adran 42 — Gwaharddeb i atal gwaith anawdurdodedig neu fethiant i gydymffurfio ag amod mewn cydsyniad

151.Mae adran 42 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud cais i’r Uchel Lys neu’r llys sirol am waharddeb i atal achosion gwirioneddol neu ddisgwyliedig o dorri adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) neu achosion gwirioneddol neu ddisgwyliedig o fethu â chydymffurfio ag amod mewn cydsyniad heneb gofrestredig.

Pennod 6 — Caffael, gwarcheidiaeth a mynediad y cyhoedd

152.Mae’r Bennod hon yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol i ddod â henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig i’w gofal.

153.Caniateir cymryd henebion i ofal drwy gaffael. Mae’r Bennod yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru gaffael henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig naill ai drwy eu caffael yn orfodol neu drwy gytundeb neu rodd (adrannau 43 a 44), ac y caiff awdurdodau lleol gaffael henebion drwy gytundeb neu rodd (adran 44).

154.Caniateir cymryd henebion i ofal hefyd drwy warcheidiaeth; mae’r Bennod yn nodi trefniadau sy’n caniatáu i berson â chanddo fuddiant cyfreithiol cymhwysol mewn heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig benodi naill ai Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn warcheidwad yr heneb (adrannau 45 i 48). O dan y trefniadau gwirfoddol hyn, mae’r gwarcheidwad yn cytuno i dderbyn cyfrifoldeb am reoli’r heneb ac yn caffael hawliau penodol dros yr eiddo.

155.Mae adrannau eraill o’r Bennod hon yn ymwneud â thir yng nghyffiniau heneb sydd o dan warcheidiaeth Gweinidogion Cymru neu awdurdodau lleol (adrannau 49 a 50), cytundebau rheoli sy’n ymwneud â henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig (adran 51) a’r trefniadau ar gyfer mynediad y cyhoedd i henebion sydd o dan reolaeth Gweinidogion Cymru neu awdurdodau lleol (adrannau 55 i 57).

Adran 43 — Caffael yn orfodol henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig

156.Mae adran 43 yn caniatáu i Weinidogion Cymru gaffael yn orfodol heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig at ddibenion ei diogelu, pa un a yw’r heneb wedi ei chynnwys yn y gofrestr o henebion o dan adran 3 ai peidio. Diffinnir “heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig” yn adran 75(6) (gweler paragraff 242 isod).

157.Mae is-adran (2) yn darparu bod Deddf Caffael Tir 1981 (p. 67) (“Deddf 1981”) yn gymwys i gaffaeliad gorfodol o dan yr adran hon. Un o’r effeithiau yw bod digollediad yn daladwy ar y caffaeliad. Mae is-adrannau (3) a (4) yn darparu ymhellach ei bod i’w thybio, wrth asesu digollediad am gaffael heneb sydd wedi ei chofrestru ar adeg y caffaeliad, na fyddai cydsyniad heneb gofrestredig yn cael ei roi ar gyfer unrhyw waith a fyddai’n arwain neu a allai arwain at ddymchwel, dinistrio neu symud ymaith yr heneb neu unrhyw ran ohoni. Yr effaith yw y caiff y digollediad sy’n daladwy fod yn llai nag a fyddai fel arall.

158.Nid oes yr un o’r henebion sydd o dan ofal Gweinidogion Cymru ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn wedi ei chaffael yn orfodol. Fodd bynnag, gallai Gweinidogion Cymru ystyried caffael heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig yn orfodol o dan amgylchiadau eithriadol, ond dim ond os nad oedd dulliau caffael eraill (drwy gytundeb neu rodd) neu warcheidiaeth wedi bod yn bosibl ac nad oedd unrhyw opsiynau eraill ar gael i’w diogelu. Mae Llawlyfr Gorchymyn Prynu Gorfodol (GPG) (2021), a adolygir yn gyson, yn cynnwys canllawiau ar gaffael yn orfodol.

Adran 44 — Caffael drwy gytundeb neu rodd henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig

159.Mae adran 44 yn darparu’r pŵer i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol i gaffael, drwy gytundeb neu rodd, heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig. Yn achos awdurdod lleol, mae’r pŵer i gaffael heneb drwy gytundeb wedi ei gyfyngu i henebion yn ei ardal neu yng nghyffiniau ei ardal (is-adran (2)). Yng Nghymru, caffaelwyd nifer o henebion gan Weinidogion Cymru drwy gytundeb neu rodd, gan gynnwys Abaty Nedd, Castell Dolforwyn a Gwaith Haearn Blaenafon. Yr un fwyaf diweddar yw Llys Rhosyr ar Ynys Môn, sef llys brenhinol canoloesol tywysogion Gwynedd, a gaffaelwyd yn 2023. Yn yr un modd, mae sawl awdurdod lleol wedi caffael henebion naill ai drwy rodd, megis Castell Caerdydd (Cyngor Dinas Caerdydd), neu gytundeb prynu, megis Castell Cil-y-coed (Cyngor Sir Fynwy).

Adran 45 — Pŵer i osod heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig o dan warcheidiaeth

160.Mae adran 45 yn galluogi person sydd â math penodol o fuddiant cyfreithiol mewn heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig i’w rhoi i warcheidiaeth Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol (pan fo’r heneb yn ardal yr awdurdod lleol neu yn ei chyffiniau). Nodir y mathau o fuddiant cyfreithiol sy’n ofynnol yn is-adran (5). Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod henebion fel arfer yn cael eu rhoi i warcheidiaeth gan rydd-ddeiliad neu berson sy’n dal les hirdymor. Mae’r trafodiad yn cael ei wneud drwy gyflawni “gweithred warcheidiaeth”.

161.Mae gwarcheidiaeth yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb am gynnal a chadw ac am gadwraeth yr heneb, a rheolaeth eang ar reoli’r heneb, i’r gwarcheidwad. Gweler adran 47.

162.Ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn, Gweinidogion Cymru yw’r gwarcheidwaid ar gyfer 108 o henebion, gan gynnwys llawer o’r henebion cynhanesyddol a chanoloesol mwyaf eithriadol yng Nghymru.

Adran 46 — Darpariaeth atodol ynghylch gweithredoedd gwarcheidiaeth

163.Mae adran 46(1) yn pennu mai pridiant tir lleol yw gweithred warcheidiaeth. Felly, bydd y teitl i’r eiddo yn hysbysu unrhyw brynwr am fodolaeth y weithred, a’r cyfyngiadau a osodir gan delerau’r weithred.

164.Mae is-adran (2) yn darparu ar gyfer sefyllfa pan fo teitl person A i heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig yn deillio o berson B sydd wedi cyflawni gweithred warcheidiaeth. Bydd person A wedi ei rwymo gan y weithred warcheidiaeth oni bai bod teitl person A i’r heneb yn deillio o warediad a wnaed gan berson B cyn i’r weithred warcheidiaeth gael ei chyflawni.

165.Mae is-adran (3) yn darparu na chaiff Gweinidogion Cymru nac awdurdod lleol ddod yn warcheidwaid heneb a feddiennir fel annedd, ac eithrio pan mai’r gofalwr neu aelod o deulu’r gofalwr yw’r meddiannydd.

Adran 47 — Swyddogaethau cyffredinol gwarcheidwaid

166.Mae adran 47 yn ei gwneud yn ofynnol i warcheidwad heneb ei chynnal a’i chadw. Caiff y gwarcheidwad wneud unrhyw beth yr ystyrir ei fod yn angenrheidiol ar gyfer cynnal a chadw’r heneb (is-adran (1)). Mae hwn i bob pwrpas yn gyfrifoldeb eang i sicrhau bod yr heneb yn cael ei gwarchod, ei rheoli’n dda a’i chadw mewn cyflwr da.

167.Er mwyn cydymffurfio â’r ddyletswydd hon, mae’r adran yn rhoi pwerau eang i warcheidwad yr heneb i arfer swyddogaethau rheolaethu a rheoli ac i wneud popeth sy’n angenrheidiol ar gyfer cynnal a chadw’r heneb (is-adran (2)).

168.Mae is-adran (3) yn egluro bod y pwerau yn is-adrannau (1) a (2) yn cynnwys pŵer i wneud archwiliad o’r heneb, gan gynnwys drwy gloddio, neu i symud y cyfan neu ran o heneb ymaith i fan arall at ddibenion ei diogelu. Mewn llawer o achosion, mae angen wedi bod i ymgymryd â chloddiadau archaeolegol fel rhan o’r gofyniad i gynnal a chadw a sicrhau cadwraeth heneb sydd o dan warcheidiaeth. Mae’r pwerau hyn wedi cael eu defnyddio i adleoli rhannau o henebion sydd o dan warcheidiaeth i amgueddfeydd neu storfeydd er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu diogelu. Er enghraifft, mae hyn wedi cynnwys symud carreg fawr wedi ei hysgythru, sy’n rhan o’r heneb gladdu gynhanesyddol ym Mryn Celli Ddu, Ynys Môn, i amgueddfa lle mae’n cael ei diogelu rhag difrod.

169.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn glir bod y pŵer yn is-adran (2) yn cynnwys pŵer i’r gwarcheidwad godi tâl mewn cysylltiad â defnyddio heneb sydd o dan warcheidiaeth. Efallai y bydd angen hyn i ddarparu goruchwyliaeth a rheolaeth briodol yn ystod gweithgareddau neu ddigwyddiadau. Mae hyn yn aml wedi galluogi henebion sydd o dan warcheidiaeth i gael eu defnyddio fel “llwyfan” ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau megis ffilmio, theatr fyw a chyngherddau.

Adran 48 — Terfynu gwarcheidiaeth

170.Mae adran 48(1) yn darparu y caiff gwarcheidwad heneb, drwy gytundeb â’r personau yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan y weithred warcheidiaeth, derfynu gwarcheidiaeth y cyfan neu ran o’r heneb.

171.Mae is-adran (5) yn darparu na chaiff gwarcheidwad wneud cytundeb i derfynu gwarcheidiaeth oni bai bod y gwarcheidwad wedi ei fodloni bod trefniadau amgen ar waith ar gyfer diogelu’r heneb, neu nad yw’n ymarferol ei diogelu mwyach oherwydd y gost neu fel arall.

172.Mae Gweinidogion Cymru wedi terfynu gwarcheidiaeth o bryd i’w gilydd. Mae hyn wedi digwydd weithiau pan fo’r warcheidiaeth wedi ei disodli gan gaffaeliad drwy gytundeb neu rodd (adran 44). Roedd Abaty Nedd, er enghraifft, yn ddarostyngedig i weithred warcheidiaeth ym 1944, ond terfynwyd hon yn ddiweddarach pan gafodd ei newid yn weithred rodd ym 1949. Ar adegau eraill, mae Gweinidogion Cymru wedi gweithredu fel gwarcheidwaid dros dro ar heneb tra bod trefniadau eraill wedi eu rhoi ar waith i’w diogelu.

Adran 49 — Caffael a gwarcheidiaeth tir yng nghyffiniau heneb

173.Mae adran 49 yn caniatáu i dir sy’n cydffinio â heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig, neu sydd yn ei chyffiniau, gael ei gaffael neu ei gymryd i warcheidiaeth gan Weinidogion Cymru neu awdurdodau lleol o dan rai amgylchiadau. Dim ond os yw’r heneb ei hun wedi ei chymryd i warcheidiaeth, neu’n cael ei chymryd i warcheidiaeth, y caniateir cymryd tir i warcheidiaeth.

174.Mae is-adran (1) yn darparu bod cyfeiriadau at heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig — yn adrannau 43 i 46 — yn cynnwys unrhyw dir sy’n cydffinio â’r heneb neu sydd yn ei chyffiniau, os yw Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn ystyried bod angen y tir yn rhesymol at un neu ragor o’r dibenion a restrir yn is-adran (2), sy’n cynnwys cynnal a chadw’r heneb a hwyluso mynediad y cyhoedd iddi. Efallai bod llwybrau mynediad ar y tir cydffiniol neu lwybrau sy’n arwain at iardiau storio, meysydd parcio neu gyfleusterau i ymwelwyr.

175.Mae’r pwerau sy’n ymwneud â gwarcheidiaeth tir yng nghyffiniau heneb yn debyg i’r rhai ar gyfer gwarcheidiaeth yr heneb ei hun, gan gynnwys pwerau sy’n caniatáu rheolaethu a rheoli’n llawn (is-adran (5)) a phwerau mynediad (is-adran (6)).

176.Mae is-adrannau (7) ac (8) yn gwneud darpariaeth ar gyfer terfynu gwarcheidiaeth tir. Fe’i terfynir o dan yr un amgylchiadau â phan y terfynir gwarcheidiaeth heneb o dan adran 48, a hefyd pan derfynir gwarcheidiaeth yr heneb neu pan fydd yr heneb yn peidio â bodoli.

Adran 50 — Caffael hawddfreintiau a hawliau tebyg eraill dros dir yng nghyffiniau heneb

177.Mae adran 50 yn nodi pwerau i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol i gaffael hawddfreintiau a hawliau eraill dros dir yng nghyffiniau heneb sydd naill ai o dan eu perchnogaeth neu o dan eu gwarcheidiaeth. Byddai hyn yn caniatáu defnyddio rhan o eiddo sy’n cydffinio at ddibenion penodol, megis i gyflawni dyletswyddau sy’n ymwneud â chynnal a chadw’r heneb neu i hwyluso mynediad.

Adran 51 — Cytundebau ynghylch rheoli henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig a thir yn eu cyffiniau

178.Mae adran 51(1) i (3) yn galluogi Gweinidogion Cymru neu awdurdodau lleol i wneud “cytundeb rheoli” gyda meddiannydd ar heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig neu dir sy’n cydffinio â heneb neu sydd yn ei chyffiniau. Caiff unrhyw berson arall sydd â buddiant yn yr heneb neu’r tir hefyd fod yn barti i’r cytundeb (is-adran (4)).

179.Caiff cytundebau rheoli wneud unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a restrir yn is-adran (5). Caiff cytundeb rheoli a wneir gan Cadw (ar ran Gweinidogion Cymru) roi cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith cynnal a chadw neu ddiogelu penodedig (a gosod amodau y mae’r cydsyniad yn ddarostyngedig iddynt). Yn gyffredinol, mae’r gwaith y rhoddir cydsyniad iddo yn fân waith cynnal a chadw ac atgyweirio er budd yr heneb, ac ni ellir ei ymestyn i waith dymchwel neu weithrediadau i foddi tir neu weithrediadau tipio. Caiff cytundebau rheoli eu creu’n aml i ganiatáu ar gyfer rheoli neu gadwraeth heneb neu i hwyluso mynediad y cyhoedd, ac fe’u defnyddir ar gyfer rhai o safleoedd Cadw sydd o dan warcheidiaeth a reolir ar y cyd a weithredir gan bartïon eraill.Mae cytundebau rheoli fel arfer yn para am gyfnod penodol, sef cyfnod o rhwng 3 a 5 mlynedd fel rheol.

Adran 52 —Pwerau perchnogion cyfyngedig at ddibenion adrannau 45, 50 a 51

180.Mae adran 52 yn darparu y caiff person sefydlu gwarcheidiaeth henebion neu dir (adran 45), rhoi hawddfreintiau neu hawliau eraill dros dir yng nghyffiniau heneb (adran 50) neu wneud cytundeb rheoli (adran 51) er mai perchennog cyfyngedig ar yr heneb neu’r tir yw’r person.

Adran 55 — Mynediad y cyhoedd i henebion sydd o dan reolaeth gyhoeddus

181.Mae adran 55 yn gosod gofyniad ar Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol i ddarparu mynediad i’r cyhoedd i henebion sydd o dan eu perchnogaeth neu eu gwarcheidiaeth yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r adran hon, unrhyw reoliadau neu unrhyw is-ddeddfau a wneir o dan adran 56 ac unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb a gynhwysir mewn cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig (adran 25), cytundeb rheoli (adran 51) neu weithred warcheidiaeth (adran 45 (is-adrannau (1) a (2)).

182.O dan yr adran hon, caiff Cadw (gan weithredu ar ran Gweinidogion Cymru) neu awdurdodau lleol, os ydynt yn berchnogion neu’n warcheidwaid heneb, wneud y canlynol:

a.

rheolaethu amseroedd agor (is-adran (4));

b.

cyfyngu ar fynediad y cyhoedd i’r cyfan neu ran o heneb er lles diogelwch, ar gyfer gwaith cynnal a chadw neu gadwraeth neu ar gyfer cynnal gweithgareddau neu ddigwyddiadau (is-adran (5));

c.

gosod cyfyngiadau neu reolaethau eraill ar fynediad y cyhoedd (is-adran (6));

d.

codi tâl am fynediad (is-adran (7)); ac

e.

gwrthod mynediad os teimlir bod person yn fygythiad i’r heneb neu i fwynhad y cyhoedd o’r heneb (is-adran (8)).

183.Ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn, mae’r rhan fwyaf o’r 131 o henebion sydd o dan ofal a rheolaeth Cadw yn safleoedd heb staff, nad ydynt yn codi tâl, gydag amseroedd agor a hysbysebir. Mae mynediad i rannau dan do safleoedd heb staff yn tueddu i fod yn fwy cyfyngedig am resymau diogelwch ac oherwydd y bygythiad o ddifrod a achosir gan fynediad y cyhoedd ar eu pen eu hunain. Codir tâl mynediad i lai na 30 o henebion Cadw.

184.Mae oddeutu 400 o henebion cofrestredig o dan berchnogaeth neu warcheidiaeth awdurdodau lleol. Maent yn amrywio o henebion cynhanesyddol i weddillion canoloesol i adeiladau o’r Chwyldro Diwydiannol.

Adran 56 — Pŵer i wneud rheoliadau ac is-ddeddfau mewn cysylltiad â mynediad y cyhoedd i henebion sydd o dan reolaeth gyhoeddus

185.Mae adran 56 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru ac awdurdodau lleol reoleiddio mynediad i henebion sydd o dan eu perchnogaeth neu eu gwarcheidiaeth drwy wneud, yn ôl eu trefn, reoliadau (is-adran (1)) neu is-ddeddfau (is-adran (3)) sy’n gwahardd neu’n rheoleiddio unrhyw weithred neu unrhyw beth sy’n debygol o:

a.

difrodi’r heneb neu ei hamwynderau, neu

b.

tarfu ar y cyhoedd yn eu mwynhad ohoni.

186.Gellid defnyddio’r rheoliadau neu’r is-ddeddfau hyn i fynd i’r afael â phroblemau’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, megis fandaliaeth neu bobl yn ymgynnull ar y safle y tu allan i oriau agor.

187.Mae is-adran (2) hefyd yn cymhwyso rheoliadau a wneir o dan is-adran (1) i henebion sy’n cael eu rheolaethu neu eu rheoli gan Weinidogion Cymru, ond nid yn rhinwedd eu perchnogaeth neu eu gwarcheidiaeth arnynt.

188.Mae methu â chydymffurfio â’r rheoliadau neu’r is-ddeddfau a wneir o dan yr adran hon yn drosedd sydd, ar euogfarn ddiannod, yn ddarostyngedig i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 2 ar y raddfa safonol (is-adrannau (4) a (5)).

Adran 57 — Darparu cyfleusterau i’r cyhoedd mewn cysylltiad â henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig

189.Mae adran 57(1) yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i ddarparu cyfleusterau, gwybodaeth a gwasanaethau eraill i’r cyhoedd ar gyfer darparu mynediad y cyhoedd i henebion sydd o dan eu perchnogaeth neu eu gwarcheidiaeth neu sydd fel arall yn cael eu rheolaethu neu eu rheoli ganddynt.

190.Mae is-adran (2) yn rhoi pwerau tebyg i awdurdodau lleol ar gyfer henebion o dan eu perchnogaeth neu eu gwarcheidiaeth.

191.O dan is-adran (3), caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdodau lleol ddarparu’r cyfleusterau a’r gwybodaeth hyn i’r cyhoedd ar yr heneb ei hun neu ynddi neu ar unrhyw dir cysylltiedig. Mae hyn yn caniatáu ar gyfer sefydlu ciosgau, caffis neu stondinau a allai werthu tywyslyfrau, lluniaeth neu gynhyrchion eraill, a chodi arwyddion a phaneli dehongli mewn cysylltiad â darparu mynediad y cyhoedd a gwella mwynhad a dealltwriaeth y cyhoedd o heneb. Gellid darparu gwasanaethau o’r fath ar dir cysylltiedig, megis mewn maes parcio neu adeilad cyfagos.

Pennod 7 — Cyffredinol

192.Mae’r Bennod hon yn ymdrin â materion amrywiol sy’n ymwneud â henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig. Mae sawl darpariaeth yn ymdrin â difrod i henebion (adrannau 58 i 60). Mae adrannau 62 i 64 yn ymdrin â gwariant ar henebion. Mae adrannau 65 i 71 yn ymdrin â phwerau mynediad ac mae adrannau 72 i 75 yn cynnwys darpariaethau atodol.

Adran 58 — Y drosedd o ddifrodi henebion penodol o ddiddordeb hanesyddol arbennig

193.Mae adran 58 yn darparu ei bod yn drosedd dinistrio neu ddifrodi heneb warchodedig, fel y’i diffinnir yn is-adran (2), heb esgus cyfreithlon (is-adran (1)).

194.Mae is-adran (1) yn sefydlu dau brawf i benderfynu a yw person sydd wedi dinistrio neu wedi difrodi heneb warchodedig yn euog o drosedd. Mae’r prawf cyntaf yn gofyn a oedd y person yn gwybod, neu a ddylai’n rhesymol fod wedi gwybod bod yr heneb yn heneb warchodedig. Mae gwybodaeth gywir a chyfredol am leoliad a rhychwant pob heneb gofrestredig yng Nghymru ar gael ar Cof Cymru.

195.Mae’r ail brawf yn gofyn a oedd y person yn bwriadu dinistrio neu ddifrodi’r heneb neu’n ddi-hid o ran a fyddai’r heneb yn cael ei dinistrio neu ei difrodi.

196.Mae’r diffiniad o “heneb warchodedig” yn is-adran (2) yn cynnwys nid yn unig heneb gofrestredig (adran 3) ond hefyd heneb sydd o dan berchnogaeth neu warcheidiaeth Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol. Mewn llawer o achosion, mae’r ardal sydd o dan berchnogaeth neu warcheidiaeth o’r fath yn ymestyn y tu hwnt i’r ardal sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr.

197.Mae is-adran (3) yn egluro bod yr adran hon yn gymwys i unrhyw beth a wneir gan neu o dan awdurdod y perchennog ac eithrio’r gwaith a eithrir sydd wedi ei ddiffinio yn is-adran (4). Yn achos heneb sydd o dan warcheidiaeth bydd y perchennog yn wahanol i’r gwarcheidwad.

198.Mae’r gwaith a eithrir yn is-adran (3) yn cynnwys gwaith a awdurdodir o dan Bennod 3 a gwaith y mae cydsyniad datblygu wedi ei roi iddo o dan Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29) (“Deddf 2008”). Mae cydsyniad datblygu o dan Ddeddf 2008 yn ofynnol ar gyfer y categorïau o brosiectau a ddisgrifir yn Rhan 3 o’r Ddeddf honno. Nid yw pob categori yn cynnwys prosiectau yng Nghymru. Mae Adran 150 o Ddeddf 2008 yn galluogi gorchymyn sy’n rhoi cydsyniad datblygu o dan Ddeddf 2008 i ddileu gofyniad am gydsyniadau penodol, sy’n cael eu rhagnodi mewn is-ddeddfwriaeth (Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Partïon a chanddynt Fuddiant a Darpariaethau Rhagnodedig Amrywiol) 2015, OS 2015/462), os yw’r corff cydsynio yn cytuno.

Adran 60 — Cyfyngiadau ar y defnydd o ddatgelyddion metel

199.Mae’r adran hon yn ymdrin â’r drosedd o ddefnyddio “datgelydd metel” (unrhyw ddyfais sydd wedi ei dylunio neu ei haddasu i ganfod neu leoli unrhyw fetel neu unrhyw fwyn yn y ddaear) heb gydsyniad ar fan gwarchodedig. Diffinnir cydsyniad at ddibenion yr adran hon fel cydsyniad ysgrifenedig Gweinidogion Cymru. Diffinnir “man gwarchodedig” yn is-adran (1) fel safle unrhyw heneb gofrestredig neu safle unrhyw heneb sydd o dan berchnogaeth neu warcheidiaeth Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.

200.Yn ystod y degawdau diwethaf, mae’r defnydd heb ei awdurdodi o ddatgelyddion metel ar fannau gwarchodedig, yn aml dan lenni’r nos pan gyfeirir ato’n aml fel “nighthawking”, wedi dod yn fwyfwy cyffredin. Mae tystiolaeth archaeolegol a hanesyddol hynod bwysig yn cael ei cholli, wrth i wrthrychau o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol gael eu symud o’u cyd-destun archaeolegol claddedig yn sgil hynny.

201.Felly, nodir pedair trosedd ar wahân yn is-adrannau (2) i (5) y gall person sy’n defnyddio datgelydd metel eu cyflawni mewn man gwarchodedig. Mae person a geir yn euog yn agored ar euogfarn ddiannod, neu euogfarn ar dditiad, i ddirwy, yn dibynnu ar natur y drosedd. Nodir y dirwyon hyn yn is-adrannau (8) a (9).

202.Mae is-adrannau (6) a (7) yn nodi’r amddiffyniadau sydd ar gael i berson os bydd unrhyw achos am drosedd o dan is-adrannau (2) neu (4). Mewn unrhyw achos am drosedd o dan is-adran (2) mae’n amddiffyniad i berson brofi bod y datgelydd metel wedi ei ddefnyddio at ddiben ac eithrio i ganfod neu leoli gwrthrychau o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol. At hynny, mewn unrhyw achos am drosedd o dan is-adran (2) neu (4) mae’n amddiffyniad i berson brofi bod pob cam rhesymol wedi ei gymryd i ganfod a oedd y man lle y defnyddiwyd y datgelydd metel yn fan gwarchodedig ac nad oedd yn gwybod, ac nad oedd ganddo unrhyw reswm dros gredu, bod y man yn fan gwarchodedig. Mae gwybodaeth am leoliad a rhychwant yr holl henebion cofrestredig ar gael ar Cof Cymru.

Adran 61 — Gwaith ar gyfer diogelu heneb gofrestredig mewn achosion brys

203.Mae adran 61 yn caniatáu i Weinidogion Cymru fynd i safle heneb gofrestredig a chyflawni unrhyw waith y mae’n ofynnol iddo gael ei awdurdodi o dan adran 11 ac y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn angenrheidiol ar frys ar gyfer diogelu’r heneb. Fodd bynnag, rhaid iddynt fod wedi rhoi 7 niwrnod clir o rybudd ysgrifenedig o’u bwriad i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb (is-adran (2)). Mae is-adran (4) yn darparu bod gwaith a gyflawnir o dan yr adran hon i’w drin fel pe bai wedi ei awdurdodi at ddibenion Pennod 3.

204.Os cyflawnir gwaith o dan yr adran hon i atgyweirio difrod i heneb gofrestredig, mae unrhyw orchymyn digolledu a wnaed yn flaenorol mewn cysylltiad â’r difrod o blaid rhywun ac eithrio Gweinidogion Cymru o dan Bennod 2 o Ran 7 o’r Cod Dedfrydu yn orfodadwy (i’r graddau na chydymffurfiwyd ag ef eisoes) fel pe bai wedi ei wneud o blaid Gweinidogion Cymru. Gallai sefyllfa o’r fath godi, er enghraifft, pe bai llys yn gwneud gorchymyn digolledu o blaid perchennog heneb ar ôl euogfarnu troseddwr am achosi difrod drwy yrru oddi ar y ffordd heb awdurdod. Pe bai Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y difrod yn gwneud gwaith brys yn angenrheidiol, a’u bod yn cyflawni’r gwaith hwnnw, byddai unrhyw ddigollediad sy’n ddyledus yn cael ei drosglwyddo i Weinidogion Cymru i dalu cost yr ymyriad brys.

Adran 62 — Gwariant ar gaffael a diogelu henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig etc.

205.Mae adran 62 yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru i dalu’r costau sy’n gysylltiedig â chaffael heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig (adran 75(6)) gan unrhyw berson, neu gyfrannu tuag at y costau hynny. Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol, ar gais perchennog, gynorthwyo hefyd gyda’r costau sy’n gysylltiedig â diogelu heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig, neu gyfrannu tuag at y costau hynny.

206.Mae Cadw, gan weithredu ar ran Gweinidogion Cymru, yn cynnig grantiau yn rheolaidd tuag at gadwraeth a diogelu henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig. Bydd Cadw hefyd yn ystyried ceisiadau am gyfraniad tuag at gostau adleoli heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig i sicrhau y caiff ei diogelu yn y tymor hir.

Adran 63 —Cyngor gan Weinidogion Cymru a goruchwylio gwaith ganddynt

207.Mae adran 63 yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi cyngor ynghylch trin unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig (is-adran (1)) neu oruchwylio unrhyw waith mewn cysylltiad â heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig os ydynt yn cael eu gwahodd i wneud hynny gan y perchennog (is-adran (2)). Fodd bynnag, rhaid iddynt oruchwylio gwaith mewn cysylltiad â heneb gofrestredig, os ydynt yn ystyried bod hynny yn ddoeth (is-adran (3)). Mae Cadw, gan weithredu ar ran Gweinidogion Cymru, yn cyflogi arolygwyr rhanbarthol henebion a wardeiniaid henebion maes sy’n ymweld yn rheolaidd i drafod a chynghori ar gadwraeth a rheoli henebion cofrestredig gyda’u perchnogion a/neu eu meddianwyr.

208.Er bod y darpariaethau yn caniatáu i Weinidogion Cymru adennill costau cyngor neu oruchwyliaeth o’r fath (is-adran (4)), prin iawn y maent wedi gwneud hynny. Mae’r trafodaethau gydag arolygwyr a wardeiniaid henebion maes Cadw yn fwy tebygol o gynnwys cyngor ar y cymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer unrhyw wariant gofynnol, gan gynnwys gan Weinidogion Cymru o dan adran 62.

Adran 64 — Gwariant gan awdurdodau lleol ar ymchwiliad archaeolegol

209.Mae adran 64 yn darparu pwerau i awdurdodau lleol i gynnal unrhyw ymchwiliadau archaeolegol o’r tir neu gynorthwyo mewn ymchwiliadau o’r fath, neu i dalu costau unrhyw ymchwiliadau archaeolegol neu gyfrannu tuag at y costau hynny, mewn ardal awdurdod neu yng nghyffiniau ei ardal.

210.Ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn, dim ond nifer bach o awdurdodau lleol yng Nghymru sy’n cyflogi archaeolegwyr arbenigol, felly mae’r pŵer hwn fel arfer yn cael ei arfer drwy gontractwyr archaeolegol neu drwy un o ymddiriedolaethau archaeolegol Cymru. Rhaid ychwanegu manylion unrhyw ymchwiliadau archaeolegol a gynhelir o dan yr adran hon, a chanfyddiadau’r ymchwiliadau hynny, at gofnod yr amgylchedd hanesyddol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol hwnnw (adran 194).

Adran 65 — Pwerau mynediad i arolygu henebion cofrestredig etc.

211.Mae’r adran hon yn darparu pwerau i berson sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru i fynd ar unrhyw dir i arolygu heneb gofrestredig at y dibenion a nodir yn yr adran.

212.Yn ymarferol, cynhelir arolygiadau o’r fath fel arfer naill ai gan staff arbenigol Cadw neu gan archaeolegwyr arbenigol sy’n gweithio i sefydliadau eraill, megis un o ymddiriedolaethau archaeolegol rhanbarthol Cymru.

213.Mae’r pwerau mynediad hyn yn ddarostyngedig i ddarpariaethau atodol a nodir yn adran 69. Mae adran 69(1) yn darparu y caniateir arfer y pŵer mynediad ar unrhyw adeg resymol.

214.Mae eithriad i’r gofyniad i gael mynediad ar unrhyw adeg rhesymol wedi ei wneud yn adran 69(1) ar gyfer adran 65(5), sy’n darparu ar gyfer codi hysbysfyrddau a physt marcio. Fodd bynnag, mae adran 65(6) yn pennu mai dim ond gyda chytundeb pob perchennog a phob meddiannydd y caniateir arfer y pŵer yn adran 65(5).

215.O dan adran 69(2), os yw’r tir wedi ei feddiannu, mae’n ofynnol rhoi rhybudd o’r mynediad bwriadedig i bob meddiannydd. At ddibenion arolygu, mae’n ofynnol rhoi o leiaf 24 awr o rybudd o fynediad bwriadedig (adran 69(2)(b)). Os yw hysbysfwrdd neu bost marcio i’w godi o dan adran 65(5), mae hyn yn waith ac mae angen rhoi o leiaf 14 o ddiwrnodau o rybudd i bob meddiannydd (adran 69(2)(a)).

216.Mae adran 70 yn gwneud darpariaeth ar gyfer digollediad am ddifrod a achosir drwy arfer pwerau mynediad o dan yr adran hon.

Adran 66 — Pwerau mynediad sy’n ymwneud â gorfodi rheolaethau ar waith

217.Mae adran 66 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i awdurdodi person yn ysgrifenedig i fynd ar dir at ddibenion sy’n ymwneud â hysbysiadau stop dros dro a hysbysiadau gorfodi.

218.Mae is-adran (1) yn ymwneud â phwerau mynediad i benderfynu a ddylai hysbysiad stop dros dro gael ei ddyroddi, i arddangos neu osod copi o hysbysiad stop dros dro, neu i asesu a gydymffurfiwyd â hysbysiad.

219.Mae is-adran (2) yn ymwneud â phwerau mynediad i benderfynu a ddylai hysbysiad gorfodi gael ei ddyroddi, i osod copi o hysbysiad gorfodi neu i asesu a gydymffurfiwyd â hysbysiad gorfodi.

220.Mae’r pwerau mynediad hyn yn ddarostyngedig i’r darpariaethau atodol yn adran 69 (sy’n cynnwys y caniateir eu harfer ar unrhyw adeg resymol). Yn achos hysbysiad gorfodi a phan fo’r tir wedi ei feddiannu, mae adran 69(2)(b) yn darparu, at y dibenion a bennir yn adran 66(2), fod rhaid rhoi rhybudd o leiaf 24 awr cyn y diwrnod y bwriedir mynd ar y tir. Nid oes angen rhybudd o’r fath wrth arfer pwerau mynediad mewn perthynas â hysbysiad stop dros dro (adran 69(3)(b)). Bydd hyn yn caniatáu ar gyfer cymryd camau amserol i asesu cyflwr heneb ac, os oes angen, ymyrryd er mwyn atal rhagor o ddifrod.

221.Gallai person awdurdodedig fod yn aelod o staff Llywodraeth Cymru, megis arolygydd neu warden henebion maes Cadw, neu’n arbenigwr archaeolegol neu’n arbenigwr cadwraeth sy’n gweithio o dan gontract i Lywodraeth Cymru neu sy’n gweithio i un o ymddiriedolaethau archaeolegol rhanbarthol Cymru. Ar adegau, efallai y bydd angen i’r heddlu fynd gyda’r person, yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

Adran 67 — Pŵer mynediad i dir y credir ei fod yn cynnwys heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig

222.Mae adran 67 yn darparu’r pŵer i Weinidogion Cymru i awdurdodi person i fynd ar dir y maent yn gwybod neu y mae ganddynt reswm dros gredu ei fod yn cynnwys heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig (adran 75(6)). Rhaid i’r person gael ei awdurdodi’n ysgrifenedig (is-adran (5)).

223.Rhaid i ddiben mynd ar y tir fod er mwyn arolygu’r tir gyda golwg ar gofnodi unrhyw faterion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol ac er mwyn adnabod henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig gan gynnwys y rhai y gellid eu hychwanegu at y gofrestr o henebion o dan adran 3.

224.Mae is-adran (2) yn darparu y caiff y person awdurdodedig gynnal cloddiadau yn y tir at ddibenion ymchwiliadau archaeolegol (adran 75(2)), yn ddarostyngedig i gytundebau — er enghraifft gyda’r perchennog a’r meddiannydd —y byddai fel arfer eu hangen ar gyfer gwaith cloddio (is-adran (3)). Nid yw’n ofynnol cael cytundeb o’r fath ymlaen llaw os yw Gweinidogion Cymru yn gwybod neu fod ganddynt reswm dros gredu fod heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig sydd yn y tir, arno neu odano mewn perygl o fod ar fin cael ei difrodi neu ei dinistrio (is-adran (4)).

225.Yn ymarferol, cynhelir arolygiadau o dan yr adran hon naill ai gan staff arbenigol Cadw neu gan archaeolegwyr arbenigol sy’n gweithio i sefydliadau eraill, megis un o ymddiriedolaethau archaeolegol rhanbarthol Cymru. Yn ystod y degawdau diwethaf mae miloedd o ymweliadau wedi eu cynnal i arolygu tir y credir ei fod yn cynnwys henebion. Yn y mwyafrif helaeth o achosion, mae’r ymweliadau wedi eu cynnal gyda chytundeb perchennog neu feddiannydd y tir (neu’r ddau) ymlaen llaw. Mewn llawer o achosion, mae’r ymweliadau wedi arwain at ddiwygiadau i’r gofrestr o henebion (adran 3) drwy ychwanegu henebion o bwysigrwydd cenedlaethol.

226.Mae’r pŵer mynediad a roddir gan yr adran hon yn ddarostyngedig i ddarpariaethau atodol a nodir yn adran 69. Maent yn datgan y caniateir i bŵer mynediad gael ei arfer ar unrhyw adeg resymol, ond bod angen rhoi o leiaf 24 awr o rybudd o’r bwriad i fynd ar y tir i bob meddiannydd ar yr heneb, gan gynnwys ar gyfer gwaith sy’n ymwneud â chloddio o dan is-adran (2).

Adran 69 — Darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediad o dan y Rhan hon

227.Mae’r adran hon yn nodi darpariaethau atodol ynghylch arfer pwerau mynediad sy’n ymwneud â henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig. Mae is-adran (1) yn nodi y caniateir i bwerau o’r fath gael eu harfer ar unrhyw adeg resymol, ond nid yw hyn yn gymwys i adran 65(5).

228.Mae’r is-adrannau a ganlyn o adran 69 yn nodi nifer o amodau i’r pwerau mynediad.

229.Mae is-adran (2) yn darparu, pan fo unrhyw dir wedi ei feddiannu, fod rhaid rhoi rhybudd o’r bwriad i fynd ar y tir i bob meddiannydd cyn mynd ar y tir. Pan mai diben y mynediad yw cyflawni gwaith (ac eithrio cloddiadau o dan adran 67) rhaid rhoi rhybudd o’r fath o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn y dyddiad y bwriedir mynd ar y tir. Mewn unrhyw achos arall, gan gynnwys cloddiadau o dan adran 67, rhaid rhoi rhybudd o leiaf 24 awr cyn y dyddiad y bwriedir mynd ar y tir.

230.Mae is-adran (3) yn darparu ymhellach nad yw’r gofynion a nodir yn is-adran (2) yn gymwys o dan yr amgylchiadau a ganlyn:

a.

mynediad o dan adran 61 pan fo angen 7 niwrnod clir o rybudd ysgrifenedig i bob perchennog a phob meddiannydd ar heneb cyn cyflawni gwaith brys i ddiogelu heneb gofrestredig

b.

mewn cysylltiad â’r pwerau mynediad ar gyfer hysbysiadau stop dros dro (adran 66(1)), pan nad yw’n ofynnol rhoi unrhyw rybudd i feddianwyr.

231.Mae is-adrannau (11) ac (12) o adran 69 yn darparu bod person sy’n fwriadol yn rhwystro person sy’n arfer pŵer mynediad o dan Ran 2 yn cyflawni trosedd a’i fod yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Adran 71 — Trin a diogelu darganfyddiadau

232.Mae’r adran hon yn darparu ar gyfer trin a diogelu unrhyw wrthrychau o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol a gymerir i warchodaeth dros dro gan berson wrth ymgymryd â’r gweithgareddau a grybwyllir yn is-adran 1(a) i (c).

233.Mae’r pŵer hwn yn caniatáu i archaeolegwyr ac arbenigwyr canfyddiadau, sy’n gweithredu ar ran awdurdod priodol fel y’i diffinnir yn is-adran (4), ddiogelu a dadansoddi unrhyw wrthrychau a gaiff eu hadennill yn briodol. Mae gwrthrychau o’r fath o werth archaeolegol a hanesyddol ynddynt eu hunain ond gallant hefyd ddarparu gwybodaeth werthfawr am natur ac oed yr heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig y maent yn deillio ohoni. Gallant gynorthwyo Gweinidogion Cymru ac awdurdodau lleol i arfer eu cyfrifoldebau a’u pwerau o dan y Rhan hon.

234.Mae is-adran (5) yn egluro nad yw’r adran hon yn effeithio ar unrhyw hawl sydd gan y Goron o dan Ddeddf Trysorau 1996 (p. 24) (“Deddf 1996”). O dan Ddeddf 1996, mae rhwymedigaeth i adrodd am wrthrychau sy’n drysor (fel y’u diffinnir yn y ddeddfwriaeth honno) i’r crwner lleol o fewn 14 o ddiwrnodau a bydd y crwner wedyn yn cynnal cwest er mwyn pennu statws y gwrthrych.

Adran 72 — Dilysrwydd penderfyniadau a gorchmynion penodol o dan y Rhan honAdran 73 — Cais i’r Uchel Lys am adolygiad statudol o benderfyniad neu orchymyn

235.Mae adran 72 yn darparu na chaniateir cwestiynu dilysrwydd penderfyniad gan Weinidogion Cymru ar gais am gydsyniad heneb gofrestredig, penderfyniad ar adolygiad o dan adran 9, na gorchymyn o dan adran 20 sy’n addasu neu’n dirymu cydsyniad heneb gofrestredig mewn unrhyw achos cyfreithiol ac eithrio adolygiad statudol o dan adran 73.

236.Mae adran 73 yn darparu y caiff person sy’n cael ei dramgwyddo gan benderfyniad neu orchymyn a restrir yn adran 72 wneud cais i’r Uchel Lys am adolygiad statudol. Rhaid gwneud cais am adolygiad statudol cyn diwedd y 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y gwneir y penderfyniad neu’r gorchymyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

237.Bydd y cwestiwn a yw person wedi ei dramgwyddo ai peidio yn amrywio yn dibynnu ar yr achos unigol, ond caiff personau a dramgwyddir gynnwys y perchennog neu’r meddiannydd, y ceisydd, neu unrhyw barti arall sydd wedi ymwneud â’r penderfyniad neu’r gorchymyn neu sydd â buddiant yn y penderfyniad neu’r gorchymyn. Caiff yr awdurdod sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r penderfyniad neu’r gorchymyn hefyd wneud cais am adolygiad statudol.

Adran 74 — Tir y Goron

238.Mae adran 74 yn nodi sut mae’r Rhan hon yn gymwys i dir y Goron. Caniateir i heneb ar dir y Goron gael ei chofrestru. Mae unrhyw gyfyngiadau a osodir ac unrhyw bwerau a roddir gan y Rhan hon yn gymwys i diroedd y Goron, ond nid fel y byddai’n effeithio ar unrhyw fuddiant sydd gan y Goron yn y tir. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y byddai Cadw, gan weithredu ar ran Gweinidogion Cymru, cyn rhoi cydsyniad heneb gofrestredig ar dir y Goron, yn ymgynghori ag awdurdod priodol y Goron i weld a fyddai hyn yn effeithio ar ei fuddiant yn y tir.

239.Nid yw is-adran (4) yn caniatáu i berson arfer pŵer mynediad ar dir y Goron heb gydsyniad awdurdod priodol y Goron. Nid yw ychwaith yn caniatáu caffael yn orfodol fuddiant yn nhir y Goron a ddelir ac eithrio gan neu ar ran y Goron heb gydsyniad o’r fath.

240.Diffinnir “tir y Goron” ac “awdurdod priodol y Goron” yn adran 207.

Adran 75 — Dehongli’r Rhan hon

241.Mae adran 75 yn egluro ystyr llawer o’r termau a ddefnyddir yn y Rhan hon. Yn benodol, mae’n darparu diffiniad o “heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig” yn is-adran (6).

242.Mae “heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig” yn cwmpasu unrhyw heneb gofrestredig ac unrhyw henebion eraill sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod o ddiddordeb i’r cyhoedd oherwydd eu diddordeb hanesyddol, pensaernïol, traddodiadol, artistig neu archaeolegol. Dim ond ym Mhenodau 6 a 7 o’r Rhan hon y defnyddir y diffiniad hwn. Ymhlith pethau eraill, mae’r diffiniad hwn yn caniatáu i Weinidogion Cymru gymryd i warcheidiaeth henebion sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd ond nad ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer cofrestru.

243.Mae is-adran (7) yn darparu nad yw’r diffiniad yn is-adran (6)(b) yn cynnwys heneb sydd yn, ar neu o dan wely’r môr islaw’r marc distyll. Mae hyn yn cyfyngu’r ardal y caiff Gweinidogion Cymru adnabod henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig ynddi i’r ardal sy’n cael ei chwmpasu gan siroedd a bwrdeistrefi sirol Cymru gan gynnwys y glannau cyfagos hyd at y marc distyll (fel y darperir ar ei gyfer yn adran 46 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4)). O ganlyniad, caiff Gweinidogion Cymru nodi drylliadau, trapiau pysgod ac olion eraill yn y parth rhynglanwol yn henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig, ond ni chânt wneud yr un fath os bydd olion tebyg o dan y dŵr yn barhaol y tu hwnt i’r marc distyll.

Rhan 3 — Adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig

244.Rhestrir adeiladau pan ystyrir eu bod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae adeiladau rhestredig yn ffynhonnell unigryw o wybodaeth am y gorffennol ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at ansawdd a chymeriad tirweddau a threfluniau yng Nghymru.

245.Ym mis Ebrill 2023, roedd 30,091 o adeiladau rhestredig yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys adeiladau cyfarwydd — tai, siopau, adeiladau dinesig a chrefyddol, ysguboriau ac adeiladau fferm eraill, ac adeiladau diwydiannol — ond hefyd waliau, cerrig milltir, pontydd, cofebau, blychau ffôn a sawl math arall o strwythur. Mae adeiladau rhestredig yn amrywio o ran oedran o’r cyfnod canoloesol i’r gorffennol diweddar iawn.

246.Cyhoeddir rhestr gyflawn o adeiladau rhestredig ar Cof Cymru.

247.Ategir deddfwriaeth sy’n ymwneud ag adeiladau rhestredig gan bolisi a chyngor cynllunio a chanllawiau arferion gorau, yn enwedig TAN 24 a Rheoli Newid i Adeiladau Rhestredig yng Nghymru (2017). Mae’r gyfres hon o ddogfennau yn egluro mai Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am restru adeiladau, ond mai Cadw, yn ymarferol, yn gweithredu ar eu rhan sy’n rheoli’r broses. Mae Atodiad B o TAN 24 yn nodi’r meini prawf dethol anstatudol a ddefnyddir i asesu diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig adeilad.

248.Mae Atodiad B o TAN 24 yn nodi hefyd strwythur graddio anstatudol i adlewyrchu pwysigrwydd cymharol adeiladau rhestredig:

a.

gradd I (un) — adeiladau o ddiddordeb eithriadol

Mae’r rhain yn cyfrif am lai na dau y cant o’r adeiladau rhestredig yng Nghymru.

b.

gradd II* (dau â seren) — adeiladau arbennig o bwysig o fwy na diddordeb arbennig

Mae’r rhain yn cyfrif am ryw saith y cant o’r adeiladau rhestredig yng Nghymru.

c.

gradd II (dau) — adeiladau o ddiddordeb arbennig sy’n cyfiawnhau pob ymdrech a wneir i’w diogelu.

Mae’r rhain yn cyfrif am ryw 91 y cant o’r adeiladau rhestredig yng Nghymru.

249.Mae rhestru yn rhoi arweiniad i awdurdodau cynllunio wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau. Mae’n sicrhau y rhoddir ystyriaeth ofalus i adeiladau o ddiddordeb arbennig cyn i benderfyniadau cynllunio gael eu gwneud. Nid yw rhestru’n gwahardd newid, ond mae’n helpu i sicrhau ei fod yn cael ei reoli’n ofalus yn unol ag Egwyddorion Cadwraeth Cadw drwy’r gyfundrefn cydsyniad adeiladau rhestredig.

Pennod 1 — Rhestru adeiladau o ddiddordeb arbennig

250.Mae’r Bennod hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal a chyhoeddi rhestr o adeiladau yng Nghymru. Rhaid iddynt gynnwys yn y rhestr bob adeilad yng Nghymru yr ystyriant sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig (adran 76). At ddibenion trosglwyddo o Ddeddf Adeiladau Rhestredig 1990, y rhestr o adeiladau a gynhelir gan Weinidogion Cymru o dan adran 1 o’r Ddeddf honno fydd y rhestr a gynhelir at ddibenion adran 76 o’r Ddeddf hon.

251.Mae cynnwys adeilad ar y rhestr — “rhestru” (adran 76(6)(a)) — yn ei wneud yn ddarostyngedig i’r gyfundrefn cydsyniad, y gweithdrefnau gorfodi a’r darpariaethau eraill sydd wedi eu cynnwys ym Mhenodau 2 i 6 o Ran 3 o’r Ddeddf.

252.Mae’r Bennod hon yn nodi’r gofynion ar gyfer ymgynghori cyn i Weinidogion Cymru ddiwygio’r rhestr drwy ychwanegu adeilad ati neu ddileu adeilad ohoni (adrannau 77 a 78). Mae hefyd yn rhoi cyfle i berchnogion a meddianwyr ofyn am adolygiad o benderfyniad Gweinidogion Cymru i restru adeilad (adrannau 81 ac 82). Mae’n pennu bod adeilad sy’n cael ei ystyried ar gyfer ei restru, yn ystod y cyfnod ymgynghori, yn cael gwarchodaeth interim fel pe bai eisoes yn adeilad rhestredig (adran 79). Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â rhestru adeilad, caiff person sydd â buddiant yn yr adeilad sy’n dioddef colled neu ddifrod o ganlyniad uniongyrchol i warchodaeth interim hawlio digollediad gan Weinidogion Cymru (adran 80).

253.Mae’r Bennod hefyd yn darparu ar gyfer rhestru dros dro gan awdurdod cynllunio (adrannau 83 i 85). Mae rhestru dros dro yn caniatáu i awdurdod warchod adeilad fel pe bai wedi ei restru os yw’n ystyried ei fod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig ac mewn perygl o gael ei ddymchwel neu o gael ei newid mewn ffordd a fyddai’n effeithio ar ei gymeriad. Os yw rhestru dros dro yn dod i ben o dan amgylchiadau arbennig, caiff person sydd â buddiant yn yr adeilad hawlio digollediad gan yr awdurdod cynllunio am golled neu ddifrod a ddioddefwyd yn uniongyrchol o ganlyniad i’r rhestru dros dro (adran 86).

254.Mae’r Bennod yn cloi gyda darpariaeth i Weinidogion Cymru ddyroddi tystysgrif nad ydynt yn bwriadu rhestru adeilad yng Nghymru am gyfnod o 5 mlynedd (adran 87).

Adran 76 — Dyletswydd i gynnal a chyhoeddi rhestr o adeiladau

255.Mae adran 76(1) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gynnal rhestr o adeiladau yng Nghymru ac i gyhoeddi’r rhestr gyfredol. Rhaid i Weinidogion Cymru gynnwys yn y rhestr bob adeilad yng Nghymru sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yn eu barn hwy. Yn ymarferol, wrth benderfynu a yw adeilad, yn eu barn hwy, o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi sylw i’r meini prawf anstatudol ar gyfer rhestru a gyhoeddwyd yn TAN 24.

256.Mae adran 76(2) yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i ddiwygio’r rhestr drwy ychwanegu adeilad (y cyfeirir ato fel “rhestru” adeilad), dileu adeilad (y cyfeirir ato fel “dadrestru” adeilad) neu ddiwygio cofnod presennol ar gyfer adeilad.

257.Yn ymarferol, ychwanegir adeiladau at y rhestr naill ai o ganlyniad i arolwg systematig o ardaloedd penodol neu fathau penodol o adeiladau, neu yn dilyn ceisiadau “rhestru yn y fan a’r lle” sy’n ymwneud ag adeiladau penodol gan awdurdodau lleol, cymdeithasau amwynder, cyrff eraill, neu unigolion.

258.Dim ond os daw tystiolaeth newydd i’r amlwg sy’n ymwneud â’i ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig y bydd Gweinidogion Cymru yn dadrestru adeilad. Nid yw cyflwr adeilad yn sgil esgeulustod na’r gost o’i atgyweirio neu ei gynnal a’i gadw yn sail ar gyfer dadrestru.

259.Caniateir defnyddio’r pwerau i ddiwygio cofnod rhestru sy’n bodoli eisoes i gywiro camgymeriadau ffeithiol, gan gynnwys gwallau cyfeiriad neu leoliad, yn ogystal â gwella neu ddiwygio rhestriad yng ngoleuni tystiolaeth newydd sy’n ymwneud â diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig adeilad.

260.Mae adran 76(3)(a) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru ystyried adeilad yn ei gyd-destun ehangach wrth bwyso a mesur a ddylid ei restru. Er enghraifft, os yw adeilad sy’n ymgeisydd i gael ei restru yn rhan o grŵp — teras o dai sydd wedi ei gadw’n dda, canolfan ddiwydiannol neu amaethyddol neu gymuned a gynlluniwyd o bosibl — gellir ystyried ei gyfraniad at ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol y grŵp hwnnw yn ogystal â’i rinweddau ei hun.

261.Mae adran 76(3)(b) yn darparu ar gyfer ystyried dymunioldeb diogelu nodwedd artiffisial o adeilad ar sail ei diddordeb pensaernïol neu hanesyddol wrth benderfynu a ddylid rhestru adeilad. Gallai’r nodweddion artiffisial hyn gynnwys gosodiadau mewnol, megis lleoedd tân, panelau neu risiau, neu nodweddion allanol, sef cerfluniau, clociau neu blaciau coffa o bosibl. Nid yw nodweddion artiffisial yn cwmpasu dodrefn symudol.

262.Mae’r diffiniad o “adeilad” yn adran 210 (dehongli) yn cwmpasu unrhyw adeilad neu strwythur, neu unrhyw ran o adeilad neu strwythur. Mae ystyr “adeilad” at ddibenion rhestru wedi ei ystyried mewn cyfraith achosion (megis Dill v Secretary of State for Housing, Communities and Local Government and another [2020] 1 WLR 2206). Nid yw’r diffiniad yn adran 210 yn cynnwys (ac eithrio yn adran 148) unrhyw gyfarpar neu beiriannau sy’n rhan o adeilad neu strwythur. Mae hyn yn atal darnau mawr a chymhleth o gyfarpar a pheiriannau, er enghraifft, peiriannau stêm, melinau rholio neu offer diwydiannol arall, rhag cael eu rhestru yn eu rhinwedd eu hunain, naill ai fel adeiladweithiau annibynnol neu’n annibynnol ar yr adeiladau sy’n eu cartrefu.

263.Fodd bynnag, gall presenoldeb cyfarpar a pheiriannau mewn adeilad gyfrannu at ei ddiddordeb arbennig a bod yn ffactor pwysig mewn penderfyniad i’w restru. Ar ôl i’r adeilad gael ei restru, bydd cyfarpar a pheiriannau sefydlog ynddo yn cael eu cynnwys yn y rhestru a byddant yn ddarostyngedig i’r rheolaethau yn y Rhan hon.

264.Mae adran 76(5)(a) yn egluro mai ystyr “adeilad rhestredig” yw adeilad sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr a’i fod yn cynnwys unrhyw strwythur neu wrthrych artiffisial sy’n sownd wrth yr adeilad ac yn atodol iddo; bydd hyn yn cwmpasu gosodiadau mewnol ac allanol. Ar y llaw arall, nid yw dodrefn symudol, hyd yn oed o bwysigrwydd hanesyddol, yn rhan o’r adeilad rhestredig. Er enghraifft, byddai is-adran (5)(a) yn gymwys i allor gwaith maen canoloesol sefydlog mewn eglwys restredig, ond nid i fwrdd allor o’r cyfnod ar ôl y Diwygiad. Mae’r gofyniad i wrthrych neu strwythur fod yn “atodol” yn seiliedig ar gyfraith achosion, gan gynnwys Debenhams plc v Westminster City Council [1987] AC 396; Morris v Wrexham County Borough Council [2002] 2 P & CR 7; ac R (Hampshire County Council) v Secretary of State for Environment, Food and Rural Affairs [2022] QB 103).

265.Yn y cyd-destun hwn, defnyddir “artiffisial” fel term idiomatig ar gyfer gwrthrychau neu nodweddion sydd wedi eu gwneud neu eu saernïo gan bobl, o’u cyferbynnu â gwrthrychau neu nodweddion naturiol. Nid yw ei ddefnydd yn y cyd-destun hwn yn berthnasol i unrhyw gwestiwn ynghylch a ganiateir defnyddio deunyddiau “artiffisial” (yn yr ystyr eu bod yn efelychiadau neu’n synthetig) wrth atgyweirio neu sicrhau cadwraeth adeiladau rhestredig.

266.Mae is-adran (5)(b) yn darparu bod rhestru adeilad yn ymestyn i gynnwys strwythurau atodol ar wahân neu wrthrychau artiffisial os bodlonir amodau penodol.

267.Yr amod cyntaf yw bod rhaid i’r strwythur neu’r gwrthrych fod wedi ffurfio rhan o’r tir ers cyn 1 Gorffennaf 1948, y dyddiad y daeth Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1947 (p. 51) i rym, y ddeddfwriaeth gyntaf a oedd yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhestru adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol yn statudol.

268.Yr ail amod yw bod rhaid i’r strwythur neu’r gwrthrych fod o fewn cwrtil yr adeilad, ac yn atodol iddo, ar y dyddiad y rhestrwyd yr adeilad am y tro cyntaf neu 1 Ionawr 1969, pa un bynnag oedd y diweddaraf. Daeth darpariaethau Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1968 (p. 72) a ymestynnodd y rhestru i gynnwys strwythurau a gwrthrychau o fewn cwrtil adeilad i rym ar 1 Ionawr 1969. Mae’r dyddiad wedi ei gynnwys i roi mwy o eglurder i’r diffiniad o adeilad rhestredig yn unol ag argymhelliad 13.10 yn adroddiad Comisiwn y Gyfraith, Cyfraith Cynllunio yng Nghymru (Comisiwn y Gyfraith Rhif 383, 2018).

269.Nid yw’r adran yn diffinio “cwrtil”. Mae cyfraith achosion (Attorney General (ex rel Sutcliffe) v Calderdale BC (1982) 46 P & CR 399, CA fel y’i derbyniwyd gan Debenhams plc v. Westminster CC, 1987) yn darparu mai’r tir sydd â chysylltiad agos ag adeilad yw hwn a bydd ei gwmpas yn cael ei bennu fesul achos. Gall y ffactorau sydd i’w hystyried wrth benderfynu a yw strwythurau neu wrthrychau artiffisial eraill wedi eu cwmpasu o fewn cwrtil adeilad gynnwys:

a.

cynllun “ffisegol” yr adeilad, y strwythurau cysylltiedig a’r tir;

b.

eu perchnogaeth, yn y gorffennol ac yn y presennol; ac

c.

eu defnydd a’u swyddogaeth, yn y gorffennol ac yn y presennol.

270.Mae enghreifftiau o strwythurau a gwrthrychau o fewn y cwrtil y gellir ymestyn y rhestru i’w cynnwys o dan is-adran (5)(b) yn cynnwys adeiladau allanol, waliau terfyn, a nodweddion ac addurniadau gardd.

Adran 77 — Hysbysiad o restru neu ddadrestru adeilad

271.Pan fydd Gweinidogion Cymru yn rhestr’ neu’n dadrestru adeilad, mae adran 77(1) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gyflwyno hysbysiad i bob perchennog a meddiannydd a phob awdurdod lleol perthnasol y lleolir yr adeilad yn ei ardal.

272.Mae is-adran (6) yn diffinio “awdurdod lleol perthnasol” at ddibenion yr adran hon fel a ganlyn:

a.

cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol,

b.

awdurdod Parc Cenedlaethol, neu

c.

bwrdd cydgynllunio.

273.Caniateir ffurfio bwrdd cydgynllunio o dan adran 2(1B) ac (1C) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8) (“Deddf Cynllunio 1990”) fel yr awdurdod cynllunio ar gyfer dwy neu fwy o ardaloedd, y mae pob un ohonynt yn sir neu fwrdeistref sirol gyfan neu ran o sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru. Ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn, nid oes yr un yng Nghymru.

274.Pan restrir eiddo, rhaid i’r hysbysiad a gyflwynir gan Weinidogion Cymru bennu dyddiad ei ychwanegu at y rhestr a rhaid iddo gynnwys copi o’r cofnod ar y rhestr (is-adran (2)).

275.O is-adran (3), mae copi o gofnod yn y rhestr a gyflwynir o dan yr adran hon yn bridiant tir lleol. Bydd pridiant tir lleol yn hysbysu prynwr o’r cyfyngiadau a osodir ar ddefnyddio’r tir gan y ffaith bod yr adeilad yn un rhestredig.

276.Mae is-adrannau (4) a (5) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol perthnasol sicrhau bod copïau o’r cofnodion yn y rhestr a gyflwynir iddynt o dan yr adran hon a chopïau o unrhyw gofnodion yn y rhestr sy’n parhau i fod yn gyfredol ar ôl cael eu cyflwyno o dan Ddeddfau cynharach ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt (is-adran (4)(b)). Yn ymarferol, mae awdurdodau fel arfer yn darparu mynediad rheolaidd at yr holl gofnodion cyfredol yn y rhestr drwy Cof Cymru, er enghraifft, drwy fynediad am ddim ar y rhyngrwyd mewn llyfrgelloedd cyhoeddus a lleoliadau tebyg.

Adran 78 — Ymgynghori cyn rhestru neu ddadrestru adeiladAdran 79 — Gwarchodaeth interim wrth aros am benderfyniad o ran pa un ai i restru adeiladAtodlen 7 — Diwedd gwarchodaeth interim neu restru dros dro ar gyfer adeiladau

277.Mae adran 78 yn rhoi strwythur ffurfiol ar waith ar gyfer ymgynghori ar gynigion Gweinidogion Cymru i restru neu ddadrestru adeilad. Mae’n gwneud darpariaeth ar gyfer gwahodd y personau a nodir yn is-adran (2) i wneud sylwadau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ar y diwygiad arfaethedig i’r rhestr.

278.Wrth gyflwyno hysbysiad o gynnig i ddiwygio’r rhestr drwy ychwanegu adeilad, caiff gwarchodaeth interim ei sbarduno o dan adran 79. Os felly, mae is-adran 78(3)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i’r hysbysiad esbonio effaith gwarchodaeth interim a phennu’r dyddiad y mae gwarchodaeth interim yn cymryd effaith.

279.Bydd unrhyw adeilad sy’n cael ei ystyried ar gyfer ei restru gan Weinidogion Cymru, oni bai ei fod eisoes yn heneb gofrestredig (adran 79(7)), yn cael gwarchodaeth interim o dan adran 79 o ddechrau’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad a gyflwynir o dan adran 78(1).

280.Mae adran 79(2) yn darparu bod y Ddeddf hon (ac eithrio adrannau penodedig) a Deddf Cynllunio 1990 yn gymwys i unrhyw adeilad o dan warchodaeth interim fel pe bai’n adeilad rhestredig. Felly, bydd yn drosedd ymgymryd â gwaith sy’n newid ei gymeriad heb gydsyniad adeilad rhestredig a bydd yr ystod lawn o bwerau gorfodi ym Mhennod 4 ar gael i awdurdod cynllunio neu i Weinidogion Cymru os gwneir gwaith heb ei awdurdodi. Fodd bynnag, nid yw adran 118 yn gymwys i adeilad o dan warchodaeth interim. Bydd gwarchodaeth interim yn gwarchod adeilad yn ystod y cyfnod ymgynghori, er enghraifft, rhag perchennog a allai fel arall fod â chymhelliant i ddifrodi neu ddinistrio’r ased hanesyddol yn fwriadol mewn ymdrech i danseilio’r warchodaeth y byddai rhestru wedi ei darparu fel arall drwy wneud rhestru’r adeilad yn ofer.

281.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi rhestr o adeiladau sy’n destun gwarchodaeth interim. Ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn, mae’r rhestr yn ymddangos ar y dudalen “Hysbysiadau statudol ymgynghori adeilad rhestredig” yn yr adran “Adeiladau rhestredig” ar wefan Cadw. Mae adeiladau o dan warchodaeth interim hefyd i’w gweld fel categori ar wahân o asedau ar Cof Cymru.

282.Daw gwarchodaeth interim i ben pan fydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu a ddylid rhestru adeilad ai peidio ac yn cyflwyno hysbysiad i bob perchennog a meddiannydd a’r awdurdodau lleol perthnasol o dan adran 77(1) neu adran 79(5)(b).

283.Mae Atodlen 7 yn darparu ar gyfer effaith diwedd gwarchodaeth interim o dan adran 79(5)(b). Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch yr effaith pan ddaw rhestru dros dro i ben heb i’r adeilad gael ei restru o dan adran 85(4).

284.Mae paragraff 2 o Atodlen 7 yn nodi y bydd person yn parhau i fod yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi, hyd yn oed ar ôl diwedd y warchodaeth interim neu’r rhestru dros dro, am drosedd o dan y Ddeddf a gyflawnwyd tra bod yr adeilad wedi ei warchod.

285.Pan fydd gwarchodaeth interim neu restru dros dro yn cael ei derfynu, mae paragraffau 3 i 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y canlynol:

a.

bydd cydsyniadau adeilad rhestredig, hysbysiadau stop dros dro, a hysbysiadau gorfodi yn peidio â chael effaith; a

b.

bydd unrhyw achos sy’n gysylltiedig ag unrhyw un o’r uchod neu gais am waharddeb yn gysylltiedig â’r adeilad yn darfod.

286.Fodd bynnag, mae paragraff 5(3) yn caniatáu i adran 132(1) i (6) barhau i fod yn gymwys i ganiatáu adennill y costau y mae awdurdod cynllunio yn mynd iddynt yn rhesymol wrth gymryd camau a bennir mewn hysbysiad gorfodi ar adeilad sy’n destun gwarchodaeth interim neu restru dros dro ar y pryd.

Adran 80 — Digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan warchodaeth interim

287.O dan yr adran hon, os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â rhestru adeilad ac yn cyflwyno hysbysiad o dan adran 79(5)(b) sy’n dod â gwarchodaeth interim i ben, mae hawlogaeth gan unrhyw berson a oedd â buddiant yn yr adeilad pan gymerodd y warchodaeth interim effaith, wrth wneud hawliad am ddigollediad i Weinidogion Cymru, i gael digollediad ganddynt am golled neu ddifrod y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r warchodaeth interim.

288.Mae is-adran (5) yn pennu y caiff yr hawliadau am ddigollediad a wneir i Weinidogion Cymru gynnwys colledion neu ddifrod y gellir eu priodoli neu ei briodoli i’r rhestru dros dro neu a ddioddefwyd o ganlyniad i’r rhestru dros dro, yn yr achosion hynny pan mae gwarchodaeth interim yn dilyn rhestru dros dro.

289.Mae adrannau 202 a 203 yn gwneud darpariaethau ychwanegol ynghylch hawliadau am ddigollediad o dan y Ddeddf hon (gweler paragraff 45 uchod).

Adran 81 — Adolygu penderfyniad i restru adeiladAdran 82 — Darpariaeth atodol ynghylch adolygiadauAtodlen 2 — Penderfyniad ar adolygiad gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru

290.Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhestru adeilad, mae adran 81 yn ei gwneud yn ofynnol iddynt roi cyfle i unrhyw berchennog neu feddiannydd ar yr adeilad i ofyn am adolygiad o’u penderfyniad rhestru.

291.Mae is-adran (2) yn darparu mai’r sail ar gyfer adolygu yw nad yw’r adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae is-adran (6) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i bennu seiliau eraill yn y dyfodol.

292.O dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru benodi person i gynnal yr adolygiad a gwneud penderfyniad arno. Fel rheol, un o arolygwyr Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru fydd hwn. Fodd bynnag, mae is-adran (4) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i bennu disgrifiadau o achosion y byddant yn eu hadolygu ac yn penderfynu arnynt eu hunain, yn hytrach na phenodi person i wneud hynny.

293.Mae adran 82 yn gwneud darpariaeth weinyddol a gweithdrefnol ar gyfer yr adolygiadau y darperir ar eu cyfer yn adran 81. Fe’i hategir gan Atodlen 2, sy’n nodi swyddogaethau personau a benodir gan Weinidogion Cymru i gynnal adolygiadau. Mae Atodlen 2 hefyd yn gymwys i adolygiadau o benderfyniadau i ychwanegu henebion at y gofrestr.

Adran 83 — Cyflwyno hysbysiad rhestru dros droAdran 84 — Rhestru dros dro mewn achosion brys

294.Mae adran 83 yn caniatáu i awdurdod cynllunio roi statws rhestredig dros dro i adeilad anrhestredig y mae’n ystyried ei fod:

a.

o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, a

b.

mewn perygl o gael ei ddymchwel neu ei newid mewn ffordd a fyddai’n effeithio ar y diddordeb hwnnw.

295.Mae’r adran hon ac adran 84 yn rhoi pwerau i awdurdodau cynllunio gymryd camau prydlon, ar sail eu gwybodaeth leol, i warchod asedau hanesyddol sydd, yn eu barn hwy, o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae’n caniatáu i waith ar yr adeilad gael ei reoleiddio tra bo Gweinidogion Cymru yn ystyried a ddylid ei restru.

296.Mae adran 83(2) yn darparu ar gyfer cyflwyno hysbysiad rhestru dros dro gan awdurdod cynllunio. Arferai’r hysbysiad gael ei alw’n “hysbysiad diogelu adeilad” (“building preservation notice”) yn adran 3A o Ddeddf Adeiladau Rhestredig 1990.

297.Mae is-adrannau (2) a (3) yn nodi derbynwyr gofynnol a chynnwys gofynnol hysbysiad rhestru dros dro. Mae is-adran (3)(a)(ii) yn pennu bod rhaid i gais i Weinidogion Cymru ystyried yr adeilad i’w restru gyd-fynd â hysbysiad rhestru dros dro ar gyfer adeilad.

298.Ar ôl i’r hysbysiad angenrheidiol gael ei gyflwyno i bob perchennog a meddiannydd ar adeilad, ei effaith yw bod yr un cyfyngiadau a gofynion yn gymwys i adeilad sydd wedi ei restru dros dro ag sy’n gymwys i adeilad o dan warchodaeth interim (is-adran (4)) — gweler paragraff 280 uchod.

299.Mae is-adran (6) yn eithrio henebion cofrestredig ac adeiladau crefyddol esempt (fel y’u diffinnir yn adran 156(1)) o gwmpas rhestru dros dro.

300.Mae adran 84 yn darparu y caiff awdurdod cynllunio, pan fo o’r farn ei bod yn fater brys i ddiogelu adeilad drwy ei restru dros dro, roi hysbysiad rhestru dros dro drwy osod yr hysbysiad yn sownd wrth yr adeilad, neu’n agos ato, yn hytrach na’i gyflwyno i bob perchennog a meddiannydd.

Adran 85 — Diwedd rhestru dros droAtodlen 7 — Diwedd gwarchodaeth interim neu restru dros dro ar gyfer adeiladau

301.Mae adran 85(1)–(3) yn nodi tair ffordd y gall rhestru dros dro ddod i ben. Gall:

a.

dod i ben ar ddiwedd chwe mis i’r diwrnod y cymerodd effaith oni bai ei fod wedi dod i ben yn gynharach;

b.

cael ei ddisodli gan warchodaeth interim os yw Gweinidogion Cymru yn cyflwyno hysbysiad o dan adran 78(1) o gynnig i restru’r adeilad; neu

c.

dod i ben ar y diwrnod a nodir ar yr hysbysiad, os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad i’r awdurdod cynllunio nad ydynt yn bwriadu ymgynghori ar gynnig i restru’r adeilad.

302.Mae Atodlen 7, a gyflwynir gan is-adran (4), yn gwneud darpariaeth ynghylch yr effaith pe byddai gwarchodaeth interim neu restru dros dro yn dod i ben heb i’r adeilad gael ei restru; fe’i trafodwyd eisoes ym mharagraffau 283–6 uchod.

Adran 86 — Digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan restru dros dro

303.Os daw rhestru dros dro i ben ar ôl chwe mis neu oherwydd bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio ag ymgynghori ar gynnig i restru’r adeilad, mae hawlogaeth gan unrhyw berson a oedd â buddiant yn yr adeilad pan gymerodd y rhestru dros dro effaith, wrth wneud hawliad i’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal, i gael ei ddigolledu gan yr awdurdod am unrhyw golled neu unrhyw ddifrod y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r rhestru dros dro (adran 86(1)-(3)).

304.Fodd bynnag, os yw gwarchodaeth interim yn dilyn y rhestru dros dro a bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â rhestru’r adeilad yn y pen draw, byddai digollediad ar gael o dan adran 80 yn lle hynny.

305.Mae adrannau 202 a 203 yn gwneud darpariaethau ychwanegol ynghylch hawliadau am ddigollediad o dan y Ddeddf hon (gweler paragraff 45 uchod).

Adran 87 — Tystysgrif nad yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu rhestru adeilad

306.O dan adran 87, caiff Gweinidogion Cymru, ar gais unrhyw berson, ddyroddi tystysgrif sy’n datgan nad ydynt yn bwriadu rhestru adeilad penodol. Yr effaith yw na chaiff Gweinidogion Cymru restru’r adeilad ac na chaiff yr awdurdod cynllunio perthnasol restru’r adeilad dros dro am 5 mlynedd. Mae cais o’r fath yn gyfystyr â pherson yn gofyn i Weinidogion Cymru ystyried yr adeilad ar gyfer ei restru ac os bernir nad yw’r adeilad yn bodloni’r meini prawf rhestru, caniateir dyroddi tystysgrif. Mae hyn yn rhoi sicrwydd i berson sy’n dymuno datblygu neu ymgymryd â gwaith ar adeilad, neu ddatblygu’r tir y mae wedi ei leoli arno, na fydd yr adeilad yn cael ei restru am y 5 mlynedd nesaf.

Pennod 2 — Rheolaethu gwaith sy’n effeithio ar adeiladau rhestredig

307.Mae Pennod 2 yn darparu, gyda rhai eithriadau penodol a nodir, bod rhaid i waith ar gyfer newid neu estyn adeilad rhestredig “a fyddai’n effeithio ar ei gymeriad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig” neu ar gyfer dymchwel adeilad rhestredig gael ei awdurdodi drwy roi cydsyniad adeilad rhestredig. Caniateir i’r cydsyniad gael ei roi gan awdurdod cynllunio y mae’r adeilad wedi ei leoli yn ei ardal neu gan Weinidogion Cymru (adrannau 88 a 89).

308.Mae’r Bennod yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithdrefn ymgeisio ar gyfer cydsyniad adeilad rhestredig a weinyddir fel mater o drefn gan awdurdodau cynllunio a rhoi cydsyniad yn ddarostyngedig i amodau (adrannau 90 i 99). Mae’r Bennod hefyd yn rhoi mecanweithiau ar waith ar gyfer apelau i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniadau awdurdodau cynllunio (neu, mewn rhai achosion, eu methiant i wneud penderfyniadau) ar faterion gan gynnwys ceisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig, ceisiadau i amrywio neu ddileu amodau a osodir ar gydsyniad, a cheisiadau i gymeradwyo manylion gwaith (adrannau 100 i 104).

309.Mae’r Bennod hefyd yn darparu y caiff awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru addasu neu ddirymu cydsyniad adeilad rhestredig drwy orchymyn, ac mae hefyd yn darparu ar gyfer mynediad at ddigollediad i berson sydd â buddiant mewn adeilad rhestredig ac sy’n dioddef colled neu ddifrod y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i addasu neu ddirymu cydsyniad (adrannau 107, 108 ac Atodlen 8). Os yw perchennog adeilad rhestredig yn honni na ellir gwneud defnydd rhesymol fuddiol o adeilad rhestredig a’i dir cysylltiedig o ganlyniad i wrthod cydsyniad adeilad rhestredig, rhoi cydsyniad yn ddarostyngedig i amodau neu addasu neu ddirymu cydsyniad drwy orchymyn, caniateir cyflwyno hysbysiad prynu i’r awdurdod cynllunio. Effaith yr hysbysiad, os bodlonir amodau penodol, yw ei bod yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio brynu’r tir oddi wrth y perchennog (adrannau 109 i 112 ac Atodlen 9).

310.Yn olaf, mae’r Bennod yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch ceisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig a wneir gan awdurdodau cynllunio a cheisiadau a wneir gan neu ar ran y Goron (adran 105). Mewn achosion pan ystyrir bod gwaith ar adeilad rhestredig ar dir y Goron yn fater o bwys cenedlaethol a bod ei gyflawni yn fater brys, caiff awdurdod priodol y Goron wneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig i Weinidogion Cymru yn hytrach nag i awdurdod cynllunio (adran 106).

311.Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi canllawiau arferion gorau, anstatudol, sy’n cael eu hadolygu’n gyson, i gefnogi’r gwaith o reoli adeiladau rhestredig. Ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn, mae’r canllawiau, Rheoli Newid i Adeiladau Rhestredig yng Nghymru (2017), yn nodi’r egwyddorion cyffredinol i’w dilyn wrth reoli a gwneud newidiadau i adeiladau rhestredig. Maent yn esbonio sut i wneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig, gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau perchnogion, awdurdodau cynllunio a Cadw.

Adran 88 — Gofyniad i waith gael ei awdurdodi

312.Mae adran 88 yn darparu na chaiff person gyflawni gwaith penodol, na pheri i waith penodol gael ei gyflawni, oni bai ei fod wedi ei awdurdodi yn sgil rhoi cydsyniad adeilad rhestredig o dan adran 89.

313.O dan is-adran (2), dyma’r gwaith y mae’n ofynnol ei awdurdodi:

a.

gwaith ar gyfer addasu neu estyn adeilad rhestredig mewn unrhyw ffordd a fyddai’n effeithio ar ei gymeriad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig

b.

gwaith ar gyfer dymchwel adeilad rhestredig.

314.Felly, nid oes angen awdurdodiad drwy gydsyniad adeilad rhestredig ar gyfer gwaith cynnal a chadw rheolaidd priodol ac atgyweirio tebyg am debyg nad yw’n effeithio ar gymeriad adeilad rhestredig.

315.Mae is-adran (3) yn eithrio pedwar categori o waith o’r gofyniad am awdurdodiad:

a.

gwaith mewn perthynas ag adeilad rhestredig sydd hefyd yn heneb gofrestredig

Ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn, mae dros 500 o adeiladau rhestredig yng Nghymru sydd hefyd yn henebion cofrestredig. Mewn achosion o’r fath, mae’r dynodiad fel heneb gofrestredig yn cael blaenoriaeth ac, yn ymarferol, bydd angen cydsyniad heneb gofrestredig o dan adran 13 ar gyfer bron unrhyw waith. Nid yw Cadw yn arfer cofrestru a rhestru’r un ased mwyach.

b.

gwaith mewn perthynas ag adeilad crefyddol esempt fel y’i diffinnir yn adran 156

c.

gwaith ar gyfer dymchwel adeilad cyfan neu ran ohono sydd ar gau ar gyfer addoli cyhoeddus rheolaidd yn unol â Rhan 6 o Fesur Cenhadaeth a Bugeiliol 2011 (Rhif 3)

Dim ond i Eglwys Loegr y mae Mesur 2011 yn gymwys felly ni fydd y ddarpariaeth hon yn y Ddeddf ond yn effeithio ar y nifer bach o adeiladau crefyddol yng Nghymru ger y ffin â Lloegr sy’n parhau o dan awdurdodaeth y corff hwnnw.

d.

gwaith brys angenrheidiol a gyflawnir gan neu ar ran y Goron er budd diogelwch neu iechyd neu er mwyn diogelu’r adeilad o dan yr amgylchiadau a nodir o dan adran 117(4)(a)–(d).

Adran 89 — Awdurdodiad gwaith drwy gydsyniad adeilad rhestredig

316.Mae adran 89(1) yn darparu bod gwaith ar gyfer newid, estyn neu ddymchwel adeilad rhestredig yn cael ei awdurdodi os rhoddir cydsyniad ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal neu Weinidogion Cymru a bod y gwaith yn cael ei gyflawni yn unol â thelerau’r cydsyniad gan gynnwys unrhyw amodau sydd ynghlwm wrtho. Mae adrannau 97 a 98 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch amodau sydd ynghlwm wrth gydsyniadau adeilad rhestredig.

317.Disgwylir y ceir cydsyniad adeilad rhestredig cyn i unrhyw waith ddechrau. Fodd bynnag, o dan is-adran (2) caiff awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru roi cydsyniad adeilad rhestredig ar gyfer gwaith anawdurdodedig sydd eisoes wedi ei gyflawni. Yn ymarferol, dim ond o dan amgylchiadau eithriadol a dim ond pan fu’r gwaith a gyflawnwyd er budd yr adeilad y caiff cydsyniad o’r fath ei roi. Bydd angen i’r ceisydd gyfiawnhau’r gwaith yn llawn mewn cais am gydsyniad adeilad rhestredig. Mewn achosion o’r fath, mae’r gwaith wedi ei awdurdodi o adeg rhoi’r cydsyniad. Mae unrhyw atebolrwydd am drosedd sy’n deillio o’r gwaith anawdurdodedig o dan adran 117 yn parhau a gallai fod yn sail i achos dilynol.

Adran 90 — Gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredigAdran 91 — Hysbysiad o gais i berchnogion adeilad

318.Mae adran 90 yn darparu ar gyfer y weithdrefn i wneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig. Gwneir ceisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig i’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad rhestredig wedi ei leoli yn ei ardal fel rheol. Fodd bynnag, gwneir ceisiadau penodol, a bennir yn adran 90(1), i Weinidogion Cymru.

319.Mae is-adran (2) yn nodi’r hyn y mae rhaid ei gynnwys mewn cais am gydsyniad adeilad rhestredig ac mae is-adran (3) yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch ffurf a chynnwys cais a sut y mae rhaid ei wneud. Yn ymarferol, cyflwynir y rhan fwyaf o geisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig ar gyfer gwaith yng Nghymru ar y ffurflen 1APP safonol a ddarperir ar blatfform ar-lein canolog Llywodraeth Cymru — Ceisiadau Cynllunio Cymru. Fodd bynnag, caiff ceisydd hefyd gyflwyno ffurflen gais, gyda dogfennau ategol, drwy’r post.

320.Mae is-adran (4) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol i geisydd gynnwys gyda’r cais ddatganiad — o’r enw “datganiad o’r effaith ar dreftadaeth” — sy’n ymwneud ag effaith y gwaith arfaethedig ar gymeriad yr adeilad rhestredig ac, yn dibynnu ar natur y cais, y naill neu’r llall neu’r ddwy o’r egwyddorion dylunio a gymhwysir i’r gwaith a sut yr ymdrinnir â materion mynediad. Datganiad o’r effaith ar dreftadaeth yw canlyniad asesiad o’r effaith ar dreftadaeth. Ceir esboniad mwy cyflawn o’r broses hon yng nghanllawiau arferion gorau, anstatudol Cadw, Asesiadau o’r Effaith ar Dreftadaeth yng Nghymru (2017), sy’n cael eu hadolygu’n gyson.

321.Mae adran 91 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol i geisydd am gydsyniad adeilad rhestredig roi hysbysiad o’r cais i bob un o berchnogion yr adeilad. Bydd hyn yn sicrhau bod y perchnogion yn cael cyfle i gyflwyno sylwadau ynghylch unrhyw waith arfaethedig ar yr adeilad rhestredig.

Adran 92 — Y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chais

322.Mae adran 92 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ymdrin â cheisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig.

323.Mae is-adran (1) yn darparu bod rhaid i gais am gydsyniad adeilad rhestredig a wneir i awdurdod cynllunio gael ei drin gan yr awdurdod hwnnw ac eithrio o dan yr amgylchiadau canlynol:

a.

os yw’n ofynnol i’r awdurdod cynllunio beidio ag ystyried y cais o dan adran 90(6) neu 91(3)

Mae’r adrannau hyn yn atal yr awdurdod cynllunio rhag ystyried cais oni bai bod y ceisydd wedi darparu’r holl wybodaeth ragnodedig a’r holl ddeunydd ategol. Mae awdurdodau cynllunio yn gweithredu gweithdrefn ddilysu i benderfynu a yw ceisiadau cynllunio yn gyflawn ac yn barod i’w prosesu. Os bydd dilysu’n datgelu diffygion mewn cais, gall yr awdurdod cynllunio ofyn am wybodaeth ychwanegol gan geisydd.

b.

os yw’r awdurdod cynllunio yn gwrthod ystyried cais yn unol ag adran 93 (pŵer i wrthod ystyried ceisiadau tebyg)

c.

os yw’n ofynnol i’r awdurdod cynllunio atgyfeirio’r cais at Weinidogion Cymru o dan adran 94 (a drafodir isod).

324.Mae gweddill darpariaethau’r adran yn rhoi pwerau gwneud rheoliadau a phwerau gwneud cyfarwyddydau i Weinidogion Cymru i sefydlu gwahanol elfennau o’r weithdrefn cydsyniad adeilad rhestredig.

325.Mae is-adran (2) yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n cynnwys pwerau i osod gofynion ar gyfer ymgynghori neu hysbysu mewn perthynas â cheisiadau. Yn ymarferol, mae’r pwerau hyn wedi cael eu defnyddio i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio hysbysu cymdeithasau amwynder cenedlaethol penodol — Adeiladau a Lleoedd Hanesyddol (y Gymdeithas Henebion gynt), y Cyngor Archaeoleg Brydeinig, y Grŵp Sioraidd, y Gymdeithas Gwarchod Adeiladau Hynafol, y Gymdeithas Fictoraidd a Chymdeithas yr Ugeinfed Ganrif — a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (“y Comisiwn Brenhinol”) os yw cais yn cynnwys gwaith i ddymchwel adeilad rhestredig neu newidiadau a fyddai’n golygu dymchwel unrhyw ran o adeilad rhestredig. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i’r grwpiau hyn, gyda’u gwybodaeth arbenigol am adeiladau rhestredig a’r amgylchedd hanesyddol, i gynnig sylwadau gwybodus i’r awdurdod cynllunio ar gynigion a fyddai’n golygu dinistrio’r cyfan o adeilad a restrir am ei ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol neu ran o’r adeilad hwnnw.

Adran 94 — Atgyfeirio cais at Weinidogion Cymru

326.Mae adran 94(1) a (2) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i gyfarwyddo awdurdod cynllunio i atgyfeirio cais am gydsyniad adeilad rhestredig atynt i’w benderfynu. Caiff cyfarwyddyd ymwneud â chais neu â cheisiadau penodol mewn perthynas â adeiladau a bennir yn y cyfarwyddyd.

327.Caiff Gweinidogion Cymru ddefnyddio’r pŵer cyfarwyddo hwn i “alw i mewn” gais am gydsyniad adeilad rhestredig i benderfynu arno eu hunain. Yn ymarferol, anaml y bydd Gweinidogion Cymru yn galw cais am gydsyniad adeilad rhestredig i mewn ond gallant wneud hynny os yw’n codi materion sy’n bwysig y tu hwnt i’r ardal leol ac yn eithriadol o arwyddocaol neu ddadleuol. Ar yr adegau prin y defnyddir y pŵer hwn, gwneir hynny fel arfer ar y cyd ag adran 95 pan fo’r awdurdod cynllunio wedi nodi ei fod o blaid rhoi cydsyniad a phan fo’r hysbysiad yn awgrymu nad yw’r awdurdod wedi rhoi sylw priodol i bolisi cenedlaethol ar gyfer gwarchod yr amgylchedd hanesyddol.

328.Mae ceisiadau a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan yr adran hon i’w trin yn unol â’r gweithdrefnau a nodir ym Mhennod 2 o Ran 5 o’r Ddeddf. Mae adran 174 yn nodi bod rhaid cynnal achos sy’n ymwneud â cheisiadau o’r fath mewn un neu ragor o’r ffyrdd a ganlyn:

a.

mewn ymchwiliad lleol,

b.

mewn gwrandawiad, neu

c.

ar sail sylwadau ysgrifenedig.

Adran 95 — Hysbysu Gweinidogion Cymru cyn rhoi cydsyniad

329.Mae adran 95(1) i (3) yn darparu na chaiff awdurdod cynllunio roi cydsyniad adeilad rhestredig heb hysbysu Gweinidogion Cymru am y cais yn gyntaf a rhoi manylion y gwaith y ceisir cydsyniad ar ei gyfer. Mae gan Weinidogion Cymru 28 o ddiwrnodau i benderfynu a ddylid cyfarwyddo’r awdurdod i atgyfeirio’r cais atynt o dan adran 94 neu i ofyn am fwy o amser i ystyried gwneud cyfarwyddyd o’r fath. Os nad yw Gweinidogion Cymru, ar ddiwedd 28 diwrnod, wedi gwneud unrhyw ymateb nac wedi hysbysu’r awdurdod nad ydynt yn bwriadu gwneud cyfarwyddyd i alw’r cais i mewn, caiff yr awdurdod cynllunio roi’r cydsyniad. Nid oes angen i awdurdod cynllunio hysbysu Gweinidogion Cymru os ydynt yn gwrthod cydsyniad adeilad rhestredig.

330.O dan is-adran (4), caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddisgrifio ceisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig y caiff awdurdodau cynllunio yn gyffredinol benderfynu arnynt heb hysbysu Gweinidogion Cymru. Ar hyn o bryd, caiff pob awdurdod cynllunio roi cydsyniad adeilad rhestredig ar gyfer gwaith sy’n effeithio ar du mewn yn unig adeiladau rhestredig Gradd II (heb seren) heb hysbysu Gweinidogion Cymru.

331.Mae is-adrannau (5) a (6) yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddyroddi cyfarwyddiadau i awdurdodau cynllunio penodol. O dan is-adran (5), caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod cynllunio nad yw’r gofyniad i’w hysbysu yn gymwys i gais am gydsyniad adeilad rhestredig, neu, i’r gwrthwyneb, fod y gofyniad yn gymwys er gwaethaf unrhyw reoliadau neu gyfarwyddyd sy’n bodoli eisoes i’r gwrthwyneb.

332.Mae is-adran (6) yn nodi y caiff cyfarwyddyd ymwneud ag achos penodol neu ag achosion o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd.

333.Mae is-adran (7) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru osod gofynion penodol ar reoliadau o dan is-adran (4) neu gyfarwyddiadau o dan is-adran (6)(b). Er enghraifft, cânt bennu sut a chan bwy y mae rhaid ymdrin â chais am gydsyniad adeilad rhestredig.

334.Y sefyllfa ym mis Ebrill 2023 yw bod Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi cyfarwyddydau i naw awdurdod cynllunio yng Nghymru sy’n caniatáu i’r awdurdodau hepgor y weithdrefn o hysbysu Gweinidogion Cymru o gais am gydsyniad adeilad rhestredig sy’n cynnwys gwaith sy’n effeithio ar y tu allan i adeiladau rhestredig gradd II (heb seren). Mae hyn yn ddarostyngedig i rai cafeatau, yn cynnwys bod yr awdurdod yn dilyn cyngor arbenigwr cadwraeth arbenigol a enwir. Mae gan ddau o’r awdurdodau cynllunio hyn ymreolaeth o’r fath ar gyfer adeiladau gradd II* hefyd ond, ym mhob achos, nid yw’r trefniadau’n cynnwys ceisiadau i ddymchwel.

Adran 96 — Rhoi neu wrthod cydsyniad

335.Mae adran 96(1) yn darparu y caiff awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru roi neu wrthod cydsyniad adeilad rhestredig.

336.Wrth benderfynu ar gais, mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru roi sylw arbennig i ddymunoldeb diogelu yr adeilad rhestredig, unrhyw nodweddion o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig a safle’r adeilad. Nid yw diogelu adeilad neu ased hanesyddol arall yn golygu bod rhaid ei gynnal fel nad yw’n newid, ond yn hytrach bod ei arwyddocâd yn cael ei gynnal ar gyfer y dyfodol. Mae cymhwyso a dehongli “diogelu” — yn yr ystyr “cadw’n ddiogel rhag niwed” — wedi bod yn destun cyfraith achosion (South Lakeland District Council v Secretary of State for the Environment and another [1992] 1 ALL ER 573).

337.Wrth benderfynu ar gais, mae’r cyngor a’r canllawiau cynllunio ategol (er enghraifft TAN 24 a Rheoli Newid i Adeiladau Rhestredig yng Nghymru (2017)) yn egluro mai’r nod ddylai fod i ddod o hyd i’r ffordd orau o warchod a gwella nodweddion arbennig adeilad rhestredig a sicrhau y gellir parhau i’w ddefnyddio.

338.Mae’r cyngor a’r canllawiau cynllunio (er enghraifft TAN 24, paragraff 1.25) yn egluro bod safle adeilad rhestredig “yn cynnwys yr ardal o’i amgylch lle mae’n cael ei ddeall, ei brofi a’i werthfawrogi, sy’n ymgorffori cydberthnasau blaenorol a phresennol â’r dirwedd gyfagos”. Mae Cadw wedi cyhoeddi canllawiau arferion gorau, anstatudol, Lleoliad Asedau Hanesyddol yng Nghymru (2017), sy’n cael eu hadolygu’n gyson.

339.Mae is-adran (3) yn darparu y bydd cydsyniad adeilad rhestredig, yn ddarostyngedig i’w delerau, yn cael effaith er budd yr adeilad a’r tir y mae wedi ei leoli arno, a phob person sydd â buddiant yn yr adeilad a’r tir am y tro. Mae hyn yn golygu na fydd effaith y cydsyniad adeilad rhestredig yn cael ei newid ac y gall unrhyw waith a gydsyniwyd barhau’n ddi-dor os bydd perchnogaeth neu feddiannaeth adeilad rhestredig yn newid yn ystod y gwaith a gydsyniwyd.

Adran 97 — Pŵer i roi cydsyniad yn ddarostyngedig i amodau

340.Mae adran 97 yn caniatáu rhoi cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig i amodau.

341.Mae is-adran (2) yn rhoi enghreifftiau o amodau, ond nid yw’r rhestr yn hollgynhwysol. Mae Cylchlythyr Llywodraeth Cymru 016/2014, Defnyddio amodau cynllunio i reoli datblygu, ym mharagraff 5.75, yn argymell y dylid drafftio amodau ar gydsyniad adeilad rhestredig ar sail yr egwyddorion a’r profion y mae’r cylchlythyr yn eu nodi ar gyfer drafftio amodau cynllunio. Mae’n cynnig cyfres o amodau enghreifftiol (amodau 71–80 yn yr atodiad i’r cylchlythyr) ar gyfer cydsyniad adeilad rhestredig. Unwaith eto, nid yw hon yn hollgynhwysol.

342.O dan is-adran (5), rhaid i gydsyniad i ddymchwel adeilad rhestredig gynnwys amod sy’n caniatáu i’r Comisiwn Brenhinol gofnodi’r adeilad. O dan delerau ei Warant Frenhinol, mae gan y Comisiwn Brenhinol gyfrifoldeb i arolygu a chofnodi “pob adeilad, safle a heneb o ddiddordeb archeolegol, pensaernïol a hanesyddol” yng Nghymru a’r môr tiriogaethol cyfagos. Rhaid i’r Comisiwn Brenhinol hefyd gywain a churadu Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru “fel cofnod cenedlaethol sylfaenol o’r amgylchedd archeolegol a hanesyddol”; Coflein yw’r gronfa ddata ar-lein ar gyfer Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Adran 98 — Amod ynghylch y cyfnod y mae rhaid i’r gwaith ddechrau ynddo

343.Mae adran 98(1) yn ei gwneud yn ofynnol i gydsyniad adeilad rhestredig gael ei roi yn ddarostyngedig i amod bod rhaid i’r gwaith ddechrau cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr amod. Mae’r cyfnod yn dechrau â’r diwrnod y rhoddir y cydsyniad. Os na fydd y gwaith a gydsyniwyd yn dechrau o fewn y cyfnod hwnnw, bydd y cydsyniad yn darfod. Ar ôl i’r gwaith ddechrau o fewn y cyfnod penodedig, bydd cydsyniad yn cael effaith er budd yr adeilad rhestredig a’r tir y mae arno a phob person sydd â buddiant yn yr adeilad a’r tir, yn ddarostyngedig idelerau’r cydsyniad (adran 96(3)).

344.Mae is-adran (2) yn nodi bod rhaid i’r gwaith ddechrau o fewn pum mlynedd i’r diwrnod y rhoddwyd cydsyniad os na fydd cydsyniad yn cynnwys amod sy’n pennu cyfnod y mae’n rhaid i’r gwaith ddechrau ynddo.

345.Mae is-adran (3) yn darparu nad yw’r adran hon yn gymwys:

a.

pan roddir cydsyniad adeilad rhestredig o dan adran 89(2) ar gyfer gwaith a gyflawnwyd cyn i’r cydsyniad gael ei roi

Gan fod y cydsyniad yn awdurdodi gwaith sydd eisoes wedi ei gwblhau, nid oes angen gofyniad i’r gwaith ddechrau.

b.

pan roddir cydsyniad adeilad rhestredig gan gytundeb partneriaeth adeilad rhestredig o dan adran 113(6).

Gall cytundebau partneriaeth barhau am ddeng i bymtheng mlynedd ac mae’r cydsyniadau y maent yn eu rhoi yn parhau am oes y cytundebau, ni waeth pryd y bydd y gwaith yn dechrau.

Adran 99 — Cais i amrywio neu ddileu amodau

346.Mae adran 99 yn caniatáu i unrhyw berson sydd â buddiant mewn adeilad rhestredig wneud cais i’r awdurdod cynllunio i amrywio neu ddileu amodau sy’n gysylltiedig â chydsyniad ar gyfer yr adeilad hwnnw.

347.Mae’r defnydd o’r term “dileu” (“removal”) yn yr adran hon yn newid o’i gymharu â’r “discharge” cyfatebol yn adran 19 o Ddeddf Adeiladau Rhestredig 1990, y mae’n deillio ohono. Bydd hyn yn helpu i leihau dryswch rhwng y materion yn adran 99 a’r hyn sy’n hysbys yn eang yn y sector amgylchedd hanesyddol fel “discharge” yng nghyd-destun amod — cymeradwyaeth awdurdod cydsynio i fanylion gwaith sy’n ofynnol gan amod, sy’n aml yn angenrheidiol cyn y gall gwaith fynd rhagddo. Gwneir cais am gymeradwyaeth o’r fath ar y ffurflen 1APP safonol a ddarperir ar wefan Ceisiadau Cynllunio Cymru. Mewn ceisiadau o’r fath, gan nad yw’r ceisydd ond yn ceisio cydnabyddiaeth y cydymffurfiwyd ag amod yn hytrach nag unrhyw newid iddo, ychydig iawn o ofynion sy’n gysylltiedig â’r cais ac mae’r gweithdrefnau’n syml.

348.Mae’r newid hwn felly yn helpu i egluro bod adran 99 yn ymwneud â newidiadau i amodau cydsyniad adeilad rhestredig, a allai effeithio ar gymeriad adeilad rhestredig. O ganlyniad, mae is-adran (3) yn darparu bod rhaid i gais i amrywio neu ddileu amodau gydymffurfio â’r holl ofynion a gweithdrefnau ar gyfer ceisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig a nodir yn adrannau 90 i 95 (ac eithrio’r gofyniad ar gyfer datganiad o’r effaith ar dreftadaeth yn adran 90(4)). Mae hyn yn cynnwys y bydd y cais fel arfer yn cael ei wneud i’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal (oni bai bod deddfiadau penodol yn gymwys i’r cais), a’r gofyniad i’r awdurdod cynllunio hysbysu Gweinidogion Cymru os yw’n bwriadu caniatáu’r cais, sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru alw’r cais i mewn i’w benderfynu.

349.Mae is-adran (5) yn nodi nad yw’r adran hon yn gymwys i gydsyniad a roddir gan gytundeb partneriaeth adeilad rhestredig. Yn union fel y byddai’r cydsyniadau adeilad rhestredig sydd mewn cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig yn destun trafod rhwng y partïon i’r cytundeb, felly hefyd y byddai unrhyw benderfyniad i amrywio neu ddileu amodau’r cydsyniadau hynny. Mae adran 114(2)(e) yn ei gwneud yn ofynnol i gytundeb partneriaeth adeilad rhestredig wneud darpariaeth ar gyfer ei amrywio, a allai gynnwys amrywio neu ddileu amodau, ond na fyddai’n gyfyngedig i hynny.

Adran 100 — Yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad awdurdod cynllunio neu fethiant awdurdod cynllunio i wneud penderfyniadAdran 101 — Y weithdrefn ar gyfer gwneud apêl

350.Mae adran 100 yn darparu y caiff y ceisydd, pan fo cais wedi ei wneud i awdurdod cynllunio am gydsyniad adeilad rhestredig (neu fathau penodol eraill o geisiadau sy’n ymwneud ag amodau cydsyniad), apelio i Weinidogion Cymru os yw’r awdurdod cynllunio yn gwrthod y cais (neu’n gosod amodau, neu amodau newydd, ar gydsyniad) neu’n methu â rhoi hysbysiad o’i benderfyniad ar y cais o fewn “y cyfnod penderfynu”. Mae Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012, SI 2012/973 (Cy 108) (“rheoliadau 2012”) yn pennu mai wyth wythnos yw’r cyfnod penderfynu.

351.Mae adran 101 yn rhoi ar waith y gweithdrefnau ar gyfer gwneud apêl o dan adran 100. Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad o apêl gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru ac mae is-adran (3) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch ffurf yr hysbysiad, gwybodaeth y mae’n rhaid iddi gael ei chynnwys gyda hysbysiad a sut y mae rhaid cyflwyno hysbysiad o apêl a’r terfyn amser ar gyfer ei gyflwyno.

352.Ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn, mae’r hysbysiad o apêl gofynnol ar gael ar y dudalen Ffurflenni apelio ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae’n ymgorffori datganiad, a elwir yn “dystysgrif perchnogaeth”, bod y person sy’n gwneud yr apêl wedi cydymffurfio â’r gofynion a osodir gan is-adran (4) i roi hysbysiad o’r apêl i berchennog yr adeilad.

353.Mae is-adran (5) yn darparu bod rhaid i reoliadau sy’n gwneud darpariaeth ynghylch y terfyn amser ar gyfer cyflwyno hysbysiad o apêl ganiatáu cyfnod o 28 o ddiwrnodau o leiaf i’r apelydd gyflwyno hysbysiad o’r apêl, gan ddechrau â’r diwrnod y mae’r ceisydd yn cael hysbysiad o benderfyniad neu ddiwedd y cyfnod penderfynu (yn ôl y digwydd).

354.Ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn, o dan reoliadau 2012 caniateir chwe mis i geisydd wneud apêl yn erbyn penderfyniad gan awdurdod cynllunio. Os yw’r ceisydd yn gwneud apêl oherwydd nad yw’r awdurdod cynllunio wedi rhoi hysbysiad ar ddiwedd y cyfnod penderfynu o wyth wythnos, nid oes dyddiad cau ar gyfer apêl.

Adran 103 — Penderfyniad ar gais ar ôl cyflwyno hysbysiad o apêl

355.Mae adran 103 yn nodi sut y mae rhaid ymdrin ag apêl os yw’n ymwneud â methiant awdurdod cynllunio i roi hysbysiad erbyn diwedd y cyfnod penderfynu fel y nodir yn adran 100(3).

356.Mae is-adran (2) yn gwahardd Gweinidogion Cymru rhag penderfynu ar yr apêl cyn diwedd cyfnod a bennir ganddynt mewn rheoliadau (pedair wythnos o dan reoliadau 2012). Mae is-adran (3) yn caniatáu i’r awdurdod cynllunio roi hysbysiad o’i benderfyniad ar y cais ar unrhyw adeg yn ystod yr un cyfnod.

357.Mae is-adrannau (4) a (5) yn darparu, os yw’r awdurdod cynllunio yn penderfynu ar y cais o fewn y cyfnod pedair wythnos hwnnw, fod rhaid i Weinidogion Cymru roi’r cyfle i’r apelydd i fwrw ymlaen â’r apêl a diwygio’r seiliau os yw’r cais yn cael ei wrthod neu os rhoddir y cydsyniad yn ddarostyngedig i amodau.

Adran 104 — Penderfynu’r apêl

358.Mae adran 104 yn gwneud darpariaethau amrywiol ynghylch sut y caiff Gweinidogion Cymru benderfynu apêl a wneir o dan adran 100.

359.Mae is-adran (4) yn nodi bod Pennod 2 o Ran 5 o’r Ddeddf yn darparu ar gyfer y weithdrefn ar gyfer ystyried apêl. Mae adran 173 yn nodi y bydd apêl yn cael ei phenderfynu gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo fel arall, a bydd gan y person a benodir yr un pwerau a dyletswyddau â Gweinidogion Cymru. Yn ymarferol, mae’n debygol mai un o arolygwyr Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru fydd y person a benodir. Mae adran 174 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru benderfynu y bydd yr achos apêl yn cael ei gynnal mewn un neu ragor o’r ffyrdd a ganlyn:

a.

mewn ymchwiliad lleol,

b.

mewn gwrandawiad, neu

c.

ar sail sylwadau ysgrifenedig.

Adran 105 — Ceisiadau gan awdurdodau cynllunio a’r Goron

360.Mae adran 105 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddarparu nad yw unrhyw ddarpariaethau yn y Ddeddf, neu mewn rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf, yn gymwys, neu eu bod yn gymwys gydag addasiadau, i geisiadau penodol a wneir gan awdurdod cynllunio neu gan neu ar ran y Goron. Mae is-adran (2) yn darparu bod y ceisiadau o dan sylw yn rhai am gydsyniad adeilad rhestredig, i amrywio neu ddileu amodau cydsyniad, neu i gymeradwyo manylion gwaith o dan amod cydsyniad.

361.Mae is-adran (3) yn darparu y caiff y rheoliadau, yn benodol, ei gwneud yn ofynnol i geisiadau gael eu gwneud i Weinidogion Cymru.

362.O dan reoliadau 2012, rhaid i awdurdod cynllunio wneud cais i Weinidogion Cymru am gydsyniad adeilad rhestredig ar gyfer dymchwel adeilad rhestredig o dan ei berchnogaeth. Caiff awdurdod cynllunio benderfynu ar ei geisiadau ei hun ar gyfer cydsyniad adeilad rhestredig os nad ydynt yn ymwneud â gwaith dymchwel. Rhaid i awdurdod cynllunio, oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi cyfarwyddo fel arall o dan adran 95, hysbysu Gweinidogion Cymru os yw o blaid cymeradwyo cais, sy’n rhoi cyfle i Weinidogion Cymru alw’r cais i mewn.

Adran 106 — Ceisiadau sy’n ymwneud â gwaith brys ar dir y Goron

363.Mae adran 106 yn darparu y caiff awdurdod priodol y Goron wneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig yn uniongyrchol i Weinidogion Cymru (yn lle gwneud cais i awdurdod cynllunio):

a.

os yw’r adeilad rhestredig ar dir y Goron, a

b.

os yw awdurdod priodol y Goron yn ardystio bod y gwaith y ceisir cydsyniad ar ei gyfer o bwysigrwydd cenedlaethol a bod rhaid ei gyflawni fel mater o frys.

364.Diffinnir “tir y Goron” ac “awdurdod priodol y Goron” yn adran 207.

365.Gallai Comisiynwyr Ystad y Goron, er enghraifft, wneud cais o’r fath mewn perthynas ag adeilad rhestredig ar ddaliadau helaeth Ystad y Goron yng Nghymru. Mae Ystad y Goron yn berchen ar 65 y cant o’r blaendraeth a gwelyau afonydd yng Nghymru, gan gynnwys porthladd Aberdaugleddau a nifer o borthladdoedd a marinas eraill. Yn yr un modd, gallai’r Weinyddiaeth Amddiffyn wneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig ar gyfer adeilad ar un o’r nifer o ardaloedd hyfforddi milwrol yng Nghymru.

366.Yn yr achos olaf, gallai is-adran (8) fod yn arbennig o berthnasol. Mae’n darparu nad yw’r gofyniad yn is-adran (4) i Weinidogion Cymru sicrhau bod unrhyw ddatganiadau a gwybodaeth sy’n ymwneud â’r cais ar gael i’r cyhoedd yn gymwys os yw’r datganiad neu’r wybodaeth yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd o dan adran 178. Byddai Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfarwyddyd o dan yr adran honno pan fyddant wedi eu bodloni bod y datganiad neu’r wybodaeth yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â diogelwch gwladol ac y byddai ei datgelu yn mynd yn groes i’r buddiant cenedlaethol.

367.Mae is-adran (7) yn cyfeirio at yr adrannau sy’n darparu ar gyfer y weithdrefn ar gyfer ystyried cais a wneir o dan yr adran hon. Mae adran 174 yn nodi bod rhaid i Weinidogion Cymru ddewis cynnal yr achos mewn un neu ragor o’r ffyrdd a ganlyn:

a.

mewn ymchwiliad lleol,

b.

mewn gwrandawiad, neu

c.

ar sail sylwadau ysgrifenedig.

Adran 107 — Addasu a dirymu cydsyniadAtodlen 8 — Y weithdrefn ar gyfer gorchmynion sy’n addasu neu’n dirymu cydsyniad adeilad rhestredig

368.Mae adran 107 yn darparu y caiff awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru, drwy orchymyn, addasu neu ddirymu, i unrhyw raddau, gydsyniad adeilad rhestredig sydd wedi ei roi yn dilyn cais neu apêl o dan y Rhan hon o’r Ddeddf. Caniateir gwneud gorchymyn o’r fath ar unrhyw adeg cyn i’r gwaith ddod i ben, ond ni fydd yn cael unrhyw effaith ar y cydsyniad ar gyfer gwaith sydd eisoes wedi ei gyflawni.

369.Mae Atodlen 8 yn nodi gweithdrefnau y mae rhaid eu dilyn cyn i orchymyn a wneir gan awdurdod cynllunio (Rhan 1), neu orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru (Rhan 2), gymryd effaith.

370.Mae paragraff 1 o Atodlen 8 yn darparu ar gyfer dau fecanwaith i orchymyn a wneir gan awdurdod cynllunio gymryd effaith. Mae’r cyntaf yn ei gwneud yn ofynnol i’r gorchymyn gael ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 2 cyn iddo ddod i rym. Nid yw’r ail, o dan baragraff 3, yn ei gwneud yn ofynnol i’r gorchymyn gael ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru os bodlonir amodau penodol.

371.Mae paragraff 2(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cynllunio sydd wedi cyflwyno gorchymyn o dan adran 107 i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau, gyflwyno hysbysiad yn rhoi gwybod i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr adeilad rhestredig ac i unrhyw berson arall y cred y bydd y gorchymyn yn effeithio arno fod y gorchymyn wedi ei gyflwyno.

372.Rhaid rhoi o leiaf 28 diwrnod i’r rhai y rhoddir yr hysbysiad iddynt i wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru am wrandawiad gerbron person a benodir, sef un o arolygwyr Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru. Rhaid i’r cyfnod, o 28 o ddiwrnodau o leiaf, ddechrau â thrannoeth y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad (paragraff 2(2) a (4)).

373.Mae paragraff 3 yn nodi’r weithdrefn i orchymyn a wneir gan awdurdod cynllunio gymryd effaith heb gael ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru.

374.O dan baragraff 3(1), mae’r weithdrefn hon yn gymwys dim ond os yw’r canlynol wedi hysbysu’r awdurdod nad ydynt yn gwrthwynebu’r gorchymyn:

a.

pob perchennog a phob meddiannydd ar yr adeilad rhestredig, a

b.

pob person arall y cred yr awdurdod cynllunio y bydd y gorchymyn yn effeithio arno.

375.Nid yw’r weithdrefn hon ond yn debygol o gael ei defnyddio os yw cydsyniad yn cael ei addasu neu ei ddirymu gyda dealltwriaeth a chytundeb y partïon â buddiant. Os ydynt yn derbyn y gorchymyn heb ei wrthwynebu, ni fyddant yn gallu gwneud hawliad i gael eu digolledu yn y dyfodol o dan adran 108.

376.Os na chodir unrhyw wrthwynebiadau gan y partïon â buddiant, mae is-baragraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio gyhoeddi hysbysiad o’r gorchymyn.

377.Rhaid i’r hysbysiad roi o leiaf 28 diwrnod i’r personau y mae’r gorchymyn yn effeithio arnynt hysbysu Gweinidogion Cymru eu bod am i’r gorchymyn gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau o dan y weithdrefn ym mharagraff 2. Rhaid i’r cyfnod, o 28 o ddiwrnodau o leiaf, ddechrau â thrannoeth y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad (paragraff 3(3)(a) a (5)). Bydd hyn yn caniatáu i berson nad oedd yn ymwybodol o’r gorchymyn tan i’r hysbysiad gael ei gyhoeddi gan yr awdurdod alw am gadarnhau’r gorchymyn gan Weinidogion Cymru. Yn yr un modd, ar ôl cael yr hysbysiad, caiff unigolyn nad oedd wedi mynegi unrhyw wrthwynebiad i orchymyn yr awdurdod cynllunio yn flaenorol benderfynu galw am gyflwyno’r gorchymyn i’w gadarnhau gan Weinidogion Cymru. Os bydd unrhyw berson yn galw am gyflwyno’r gorchymyn i’w gadarnhau, ni all gymryd effaith oni bai ei fod wedi ei gadarnhau yn unol â pharagraff 2.

378.Mae paragraff 3(4) yn darparu, os na fydd unrhyw berson y mae’r gorchymyn yn effeithio arno yn hysbysu Gweinidogion Cymru yn ystod cyfnod penodedig o 28 o ddiwrnodau o leiaf ei fod am i’r gorchymyn gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau, ac nad yw Gweinidogion Cymru, erbyn diwedd cyfnod dilynol o 14 o ddiwrnodau o leiaf, yn cyfarwyddo bod yn rhaid cyflwyno’r gorchymyn iddynt i’w gadarnhau, bod y gorchymyn yn cymryd effaith ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

379.Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu y dylid addasu neu ddirymu cydsyniad adeilad rhestredig, mae paragraff 4 yn pennu’r weithdrefn ar gyfer gwneud gorchymyn. Cyn gwneud gorchymyn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad rhestredig yn ei ardal (paragraff 4(1)).

380.Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd gyflwyno hysbysiad o’r gorchymyn arfaethedig i bob perchennog a phob meddiannydd ac i unrhyw berson arall y credant y bydd y gorchymyn yn effeithio arno. Rhaid i’r hysbysiad ganiatáu o leiaf 28 o ddiwrnodau i berson y cyflwynir yr hysbysiad iddo ofyn am wrandawiad gerbron person a benodir gan Weinidogion Cymru, sef un o arolygwyr Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru fel rheol. Rhaid i’r cyfnod, o 28 o ddiwrnodau o leiaf, ddechrau â thrannoeth y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad (paragraff 4(2)–(3) a (5)).

Adran 108 — Digollediad pan fo cydsyniad yn cael ei addasu neu ei ddirymu

381.Mae adran 108 yn darparu bod hawlogaeth gan unrhyw berson sydd â buddiant mewn adeilad rhestredig, wrth wneud hawliad, i gael ei ddigolledu am wariant yr eir iddo wrth gyflawni gwaith a ddaeth yn ofer neu am unrhyw golled neu ddifrod arall a achoswyd o ganlyniad i addasu neu ddirymu cydsyniad.

382.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn glir nad yw’r adran ond yn gwneud digollediad yn daladwy pan fo gorchymyn o dan adran 107 yn cael ei wneud gan awdurdod cynllunio a’i gadarnhau gan Weinidogion Cymru neu’n cael ei wneud gan Weinidogion Cymru. Os bydd gorchymyn awdurdod cynllunio yn cymryd effaith o dan y weithdrefn ym mharagraff 3 o Atodlen 8 (h.y. heb gadarnhad gan Weinidogion Cymru) nid oes digollediad ar gael. Yn yr achosion hynny, bydd y personau yr effeithir arnynt wedi dewis peidio â gwrthwynebu’r gorchymyn.

383.Ni waeth a yw’r gorchymyn yn cael ei wneud gan yr awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru, rhaid i’r hawliad ysgrifenedig am ddigollediad gael ei wneud i’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal. Rhaid gwneud hawliad o fewn 6 mis i’r diwrnod y cymerodd y gorchymyn addasu neu ddirymu effaith (is-adrannau (2) a (5)).

384.At ddibenion yr adran hon, mae gwariant yr eir iddo wrth gyflawni gwaith yn cynnwys llunio planiau a materion paratoi eraill; gallai’r rhain gynnwys arolygon ac ymchwiliadau safle, paratoi datganiad o’r effaith ar dreftadaeth a llunio manylebau manwl o fethodolegau a deunyddiau, ond nid ydynt yn gyfyngedig i hynny (is-adrannau (2) a (3)).

385.Os yw awdurdod cynllunio yn agored i dalu digollediad o dan adran 108, mae adran 171(3) yn darparu, o dan amgylchiadau penodol, y caiff Gweinidogion Cymru gyfrannu tuag at dalu’r digollediad neu gyfarwyddo’r awdurdod lleol arall hwnnw i gyfrannu swm i’r taliad.

386.Mae adrannau 202, 203 a 204 yn gwneud darpariaethau ychwanegol ynghylch hawliadau am ddigollediad o dan y Ddeddf hon.

Adran 109 — Hysbysiad prynu pan fo cydsyniad wedi ei wrthod, wedi ei roi yn ddarostyngedig i amodau, wedi ei addasu neu wedi ei ddirymu

387.Mae rheolaethau adeiladau rhestredig yn gosod cyfyngiadau ar yr hyn y gall perchennog ei wneud ag adeilad ac, mewn achosion prin, gall perchennog ganfod nad oes unrhyw fodd hyfyw o ddefnyddio adeilad rhestredig. A’r perchennog yn meddu ar adeilad nad oes llawer o werth iddo, o dan adran 109 mae’n bosibl y bydd yn gallu cyflwyno hysbysiad prynu sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cynllunio brynu buddiant y perchennog yn yr adeilad rhestredig a thir cysylltiedig os yw amodau penodol wedi eu bodloni.

388.Caiff perchennog adeilad rhestredig gyflwyno hysbysiad prynu i’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal os yw cydsyniad:

a.

wedi ei wrthod,

b.

wedi ei roi yn ddarostyngedig i amodau, neu

c.

wedi ei addasu neu ei ddirymu drwy orchymyn o dan adran 107,

ac os yw amodau penodol eraill a nodir yn is-adrannau (4) a (5) wedi eu bodloni.

389.Mae amodau is-adran (4) wedi eu bodloni:

a.

os yw’r adeilad rhestredig a’r tir cysylltiedig yn annefnyddiadwy yn eu cyflwr presennol;

b.

mewn achos pan fo amodau ynghlwm wrth gydsyniad adeilad rhestredig, naill ai fel y’i rhoddwyd neu ar ôl ei addasu, nad oes modd gwneud yr adeilad a’r tir yn ddefnyddiadwy drwy gyflawni’r gwaith yn unol â’r amodau; ac

c.

nad yw cyflawni unrhyw waith arall y rhoddwyd cydsyniad adeilad rhestredig ar ei gyfer (neu y mae awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru wedi ymrwymo i roi cydsyniad ar ei gyfer) yn gallu gwneud yr adeilad na’r tir yn ddefnyddiadwy.

390.Mae is-adran (6) yn nodi mai ystyr “defnyddiadwy” yw “bod modd gwneud defnydd rhesymol fuddiol” o adeilad rhestredig neu dir cysylltiedig.

391.Rhaid i dir cysylltiedig fod o dan yr un berchnogaeth â’r adeilad rhestredig a rhaid ei drin fel pe na bai modd ei wahanu oddi wrth yr adeilad. Ni fyddai’n bosibl cyflwyno hysbysiad prynu sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cynllunio brynu adeiladau o fewn y cwrtil heb y prif adeilad rhestredig.

Adran 112 — Camau gweithredu yn dilyn cyflwyno hysbysiad prynuAtodlen 9 — Camau gweithredu yn dilyn cyflwyno hysbysiad prynu

392.Mae adran 112 yn cyflwyno Atodlen 9 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch y camau gweithredu sydd i’w cymryd gan awdurdod cynllunio a Gweinidogion Cymru ar ôl cyflwyno hysbysiad prynu.

393.Mae paragraff 1 o Atodlen 9 yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio, o fewn tri mis i’r diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad prynu, ymateb i’r person naill ai â hysbysiad derbyn neu hysbysiad gwrthod.

394.Mae is-baragraff (2) yn egluro y bydd hysbysiad derbyn yn datgan naill ai bod yr awdurdod cynllunio yn fodlon cydymffurfio â’r hysbysiad prynu neu fod awdurdod lleol arall neu ymgymerwr statudol arall a bennir yn yr hysbysiad wedi cytuno i gydymffurfio. Diffinnir ymgymerwr statudol ym mharagraff 7 o’r Atodlen ac yn adran 210.

395.Mae is-baragraffau (5) a (7) yn ymhelaethu ar effaith cyflwyno hysbysiad derbyn. Mae is-baragraff (5) yn trin yr awdurdod neu’r ymgymerwr fel pe bai wedi ei awdurdodi i gaffael yn orfodol y buddiant yn yr adeilad rhestredig a’r tir cysylltiedig o dan adran 137, ac fel pe bai wedi cychwyn y broses ar gyfer prynu yn orfodol drwy gyflwyno “hysbysiad i drafod telerau” i’r perchennog. Mae hyn yn golygu bod y caffaeliad yn digwydd yn unol â Deddf Prynu Gorfodol 1965 (p. 56) a bod digollediad yn cael ei benderfynu o dan Ddeddf Digollediad Tir 1961 (p. 33) (“Deddf 1961”).

396.Mae hysbysiad gwrthod, ar y llaw arall, yn nodi’r rhesymau pam na fydd yr awdurdod cynllunio yn cydymffurfio â’r hysbysiad prynu, yn egluro na chanfuwyd unrhyw gorff arall sy’n fodlon cydymffurfio ag ef ac yn datgan bod copïau o’r hysbysiad prynu a’r hysbysiad gwrthod wedi eu hanfon at Weinidogion Cymru (is-baragraff (3)).

397.Mae paragraffau 2 i 5 o’r Atodlen yn ymwneud â chamau gweithredu Gweinidogion Cymru ar ôl cael copïau o hysbysiad prynu a’r hysbysiad gwrthod sy’n ymwneud ag ef.

398.Mae paragraff 2(2) yn nodi bod rhaid i Weinidogion Cymru, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau amrywiol yn is-baragraffau (3) i (7), gadarnhau hysbysiad prynu os ydynt wedi eu bodloni:

a.

bod yr amodau yn adran 109 wedi eu bodloni; a

b.

bod yr hysbysiad yn ymwneud â’r holl dir sy’n cydffinio â’r adeilad rhestredig neu sy’n gyfagos iddo yr ystyriant fod ei angen ar gyfer diogelu’r adeilad neu ei amwynderau, ar gyfer darparu mynediad iddo, neu ar gyfer ei reolaethu neu ei reoli’n briodol.

399.Bydd yr ail amod hwn yn helpu i ddiogelu buddiannau awdurdod caffael a’i gwneud yn fwy tebygol y bydd yn gallu rhoi dyfodol hyfyw i’r adeilad rhestredig a’i dir cysylltiedig.

400.Mae paragraff 4 yn esbonio’r effaith pan fo Gweinidogion Cymru yn cadarnhau hysbysiad prynu. Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud hynny, mae’r awdurdod penodedig — naill ai’r awdurdod y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo neu’r awdurdod neu’r ymgymerwr statudol a ddewiswyd yn ei le gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 2(7) — yn cael ei roi i bob pwrpas yn yr un sefyllfa â phe bai wedi cyflwyno hysbysiad derbyn. Caiff yr awdurdod hwnnw ei drin fel awdurdod sydd wedi ei awdurdodi i gaffael buddiant y person a gyflwynodd yr hysbysiad drwy brynu gorfodol fel y mae paragraff 397 uchod yn ei esbonio.

401.Ar y llaw arall, os nad yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod amodau adran 109 wedi eu bodloni a gofynion eraill a bennir ym mharagraff 2(2)(b), rhaid iddynt, o dan baragraff 2(8), wrthod cadarnhau hysbysiad prynu.

402.Os yw Gweinidogion Cymru yn fodlon mai dim ond mewn perthynas â rhan o’r tir a bennir yn yr hysbysiad prynu y mae’r amodau yn adran 109 wedi eu bodloni, mae paragraff 2(3) yn darparu mai dim ond mewn perthynas â’r rhan honno y mae’n rhaid cadarnhau’r hysbysiad. Byddai hyn, er enghraifft, yn galluogi Gweinidogion Cymru i eithrio tir o gwmpas yr hysbysiad prynu a’r caffael gorfodol dilynol (o dan baragraff 4(1)) a gellid ei ystyried yn ymarferol fel daliad ar wahân i’r adeilad rhestredig.

403.Yn hytrach na chadarnhau hysbysiad prynu, mae paragraff 2(4) yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi neu adfer cydsyniad adeilad rhestredig neu amrywio neu ddileu amodau fel sy’n ofynnol i ganiatáu gwaith a fyddai’n galluogi gwneud yr adeilad rhestredig a’i dir cysylltiedig yn rhai defnyddiadwy.

404.Yn yr un modd, yn hytrach na chadarnhau hysbysiad prynu, mae paragraff 2(5)–(6) yn darparu ar gyfer sefyllfa lle y caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, pe bai cais arall am gydsyniad adeilad rhestredig neu ganiatâd cynllunio yn cael ei wneud a fyddai’n gwneud y tir, neu unrhyw ran ohono, yn ddefnyddiadwy o fewn amser rhesymol, bod rhaid cytuno i’r cais hwnnw.

405.Mae paragraff 2(7) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, wrth gadarnhau hysbysiad prynu, addasu’r hysbysiad drwy roi awdurdod neu ymgymerwr arall yn lle’r awdurdod cynllunio a enwir yn yr hysbysiad os ydynt o’r farn y byddai’r awdurdod lleol neu’r ymgymerwr statudol hwnnw mewn sefyllfa well i sicrhau dyfodol rhan neu’r cyfan o’r tir y mae hysbysiad prynu yn ymwneud ag ef.

406.Mae paragraff 3 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’r camau y bwriadant eu cymryd ynghylch hysbysiad prynu o dan baragraff 2 i’r person a gyflwynodd yr hysbysiad prynu ac unrhyw awdurdod neu ymgymerwr statudol sy’n ymwneud â’r mater. Rhaid iddynt hefyd roi’r cyfle i’r person ymddangos gerbron person a benodir a chael gwrandawiad ganddo. Un o arolygwyr Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru fydd y person a benodir fel rheol.

407.Mae paragraff 4 yn nodi effaith camau gweithredu Gweinidogion Cymru mewn perthynas â hysbysiad prynu a anfonwyd atynt o dan baragraff 1(6).

408.Mae paragraff 4(3) yn darparu bod yr hysbysiad prynu i’w drin fel pe bai wedi ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru o fewn cyfnod perthnasol (fel y’i diffinnir ym mharagraff 4(5) a (6)), os nad yw Gweinidogion Cymru:

a.

yn cadarnhau hysbysiad prynu,

b.

yn gwrthod cadarnhau hysbysiad, neu

c.

yn cymryd unrhyw un o’r camau eraill sydd ar gael iddynt o dan baragraff 2,

ar ddiwedd y cyfnod hwnnw. Mae’r awdurdod y cyflwynwyd yr hysbysiad prynu iddo i bob pwrpas yn cael ei roi yn yr un sefyllfa â phe bai wedi cyflwyno hysbysiad derbyn; mae’n cael ei drin fel pe bai wedi cael ei awdurdodi i gaffael buddiant y person a gyflwynodd yr hysbysiad drwy brynu gorfodol o dan adran 137 ac fel pe bai wedi cyflwyno “hysbysiad i drafod telerau” i’r person.

Pennod 3 — Cytundebau partneriaethau adeiladau rhestredig

409.Mae’r Bennod hon yn darparu ar gyfer gwneud cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig. Cytundeb gwirfoddol yw hwn rhwng awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru, perchennog adeilad rhestredig a phartïon eraill ar gyfer rheoli a sicrhau cadwraeth un neu ragor o adeiladau rhestredig yn yr hirdymor. Caiff cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig roi cydsyniad adeilad rhestredig i gyflawni rhaglen waith y cytunwyd arni yn ystod oes y cytundeb. Gwneir darpariaeth ar gyfer cytundebau partneriaethau henebion cofrestredig cyffelyb yn Rhan 1, Pennod 4.

410.Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi canllawiau arferion gorau anstatudol i gefnogi’r gwaith o lunio cytundebau partneriaethau treftadaeth gan gynnwys y rhai ar gyfer adeiladau rhestredig, a chaiff y canllawiau hyn yn hadolygu’n gyson. Ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn, mae’r canllawiau, Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth yng Nghymru (2021), yn nodi’r elfennau sy’n ofynnol mewn cytundeb ac yn nodi arferion gorau i hyrwyddo cysondeb wrth weithredu gwaith yn ogystal â monitro ac adolygu rheolaidd. Mae’r canllawiau’n cynnwys templed i ddarparu fframwaith ar gyfer cytundebau newydd.

Adran 113 — Cytundebau partneriaethau adeiladau rhestredig

411.Mae adran 113 yn nodi’r partïon posibl i gytundeb partneriaeth adeilad rhestredig a’r hyn y gall cytundeb o’r fath ei wneud.

412.Mae is-adrannau (1) a (3) yn sefydlu y caiff perchennog adeilad rhestredig neu ran o adeilad rhestredig wneud cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig gyda’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal neu Weinidogion Cymru.

413.Yn ymarferol, bydd cytundebau partneriaethau adeiladau rhestredig yn cael eu gwneud fel mater o drefn rhwng perchnogion a’u hawdurdodau cynllunio perthnasol. Er bod y ddeddfwriaeth yn caniatáu cytundebau rhwng perchnogion a Gweinidogion Cymru, adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn, dim ond pan mai awdurdodau lleol yw perchnogion yr adeiladau rhestredig y maent yn debygol o gael eu gwneud. Er y caiff awdurdod cynllunio, mewn rhai sefyllfaoedd, benderfynu ar ei geisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig ei hun (gweler paragraff 362 uchod), fe allai ddymuno llunio cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig gyda Gweinidogion Cymru o hyd i elwa ar yr arbedion effeithlonrwydd hirdymor y gall cytundeb eu cynnig.

414.Caiff personau eraill sydd â buddiant yn yr adeilad rhestredig, fel y’u nodir yn is-adrannau (2) a (4), fod yn bartïon i’r cytundeb hefyd.

415.Mae is-adran (6) yn darparu y caiff cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig roi cydsyniad adeilad rhestredig o dan adran 89(1) ar gyfer gwaith penodedig i addasu neu estyn yr adeilad rhestredig y mae’r cytundeb yn ymwneud ag ef. Defnyddir y pŵer hwn i ganiatáu gwaith buddiol ar gyfer rheoli a sicrhau cadwraeth yr adeilad rhestredig. Bydd angen i’r gwaith a bennir gael ei drafod a’i gytuno gan y partïon i’r cytundeb a chaniateir gosod amodau ar y cydsyniad (ac mae is-adran (7) yn darparu bod rhaid i unrhyw amodau o’r fath gael eu pennu yn y cytundeb).

416.Fodd bynnag, ni all cytundeb roi cydsyniad i ddymchwel adeilad rhestredig. Byddai’n rhaid cael cydsyniad adeilad rhestredig ar wahân, a geir drwy’r weithdrefn ymgeisio arferol, ar gyfer gwaith dymchwel.

417.Nid yw cydsyniad adeilad rhestredig sydd wedi ei gynnwys mewn cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig yn ddarostyngedig i’r darpariaethau yn adran 98 ynghylch pryd y mae rhaid i’r gwaith ddechrau. Bydd cydsyniad ar gyfer gwaith nad yw wedi dechrau yn parhau’n ddilys am oes y cytundeb, a all barhau am 10 i 15 mlynedd.

418.Mae is-adran (8) yn nodi ystod eang o faterion sy’n ymwneud â chynnal a chadw, rheoli a chadwraeth y caiff y partïon gytuno i’w cynnwys mewn cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig hefyd. Mae paragraff (a) yn caniatáu i’r partïon bennu gwaith a fyddai, neu na fyddai, yn eu barn hwy, yn effeithio ar gymeriad yr adeilad rhestredig fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig ac, o ganlyniad, y byddai neu na fyddai angen cydsyniad adeilad rhestredig ar ei gyfer. Byddai hyn yn caniatáu i’r partïon nodi’n glir y gwaith cynnal a chadw rheolaidd neu atgyweiriadau tebyg am debyg (gyda manylion dulliau gwaith a deunyddiau) a allai ddigwydd heb gydsyniad gan na fyddai adeiladwaith hanesyddol yn cael ei golli nac effaith ar gymeriad yr adeilad. Yn yr un modd, byddai’r partïon yn gallu amlinellu gwaith mwy sylweddol — er enghraifft, adfer neu ailadeiladu elfennau o’r adeilad rhestredig, neu ychwanegiadau neu addasiadau mawr — na ellid darparu’n ddigonol ar eu cyfer mewn cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig, oherwydd eu natur gymhleth neu sensitif. Byddai ystyriaeth lawn o’r weithdrefn cydsyniad adeilad rhestredig ar wahân yn ofynnol ar gyfer y gwaith hwnnw (adrannau 90 i 98).

Adran 114 — Darpariaeth bellach ynghylch cytundebau partneriaethau adeiladau rhestredig

419.Mae is-adrannau (1) a (2) o adran 114 yn darparu bod rhaid i gytundebau partneriaethau adeiladau rhestredig fod yn ysgrifenedig ac maent yn pennu elfennau hanfodol cytundeb.

420.Mae is-adran (2)(e) yn ei gwneud yn ofynnol i gytundeb partneriaeth adeilad rhestredig wneud darpariaeth ar gyfer ei amrywio. Oherwydd y bydd cytundeb yn parhau am flynyddoedd, mae’n debygol y bydd angen addasiadau. Rhaid i’r partïon, felly, gynnwys yn y cytundeb drefniadau gwaith y cytunwyd arnynt ar gyfer cymeradwyo amrywiadau angenrheidiol. Yn dibynnu ar natur yr amrywiadau, gallant fod yn ddarostyngedig i’r gofynion ymgynghori a chyhoeddusrwydd a ragnodir gan y rheoliadau o dan is-adran (5).

421.Mae’r gofyniad yn is-adran (2)(f) yn darparu ar gyfer dull i derfynu cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig drwy negodi pe na bai’n gwasanaethu buddiannau cyffredin y partïon mwyach neu ei fod, am ryw reswm arall, wedi methu. Mae hyn yn wahanol i derfynu cytundeb neu ddarpariaeth mewn cytundeb drwy orchymyn awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru fel y darperir ar ei gyfer o dan adran 115.

422.Wrth ystyried a ddylid gwneud neu amrywio cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig sy’n ymgorffori cydsyniad adeilad rhestredig, rhaid i awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru roi’r un sylw arbennig i ddymunoldeb diogelu’r adeilad, ei nodweddion a’i safle ag y gwneir wrth roi neu wrthod cydsyniad adeilad rhestredig o dan adran 96. Gweler y drafodaeth ym mharagraff 336 uchod.

423.Mae is-adran (7) yn darparu na fydd cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig ond yn rhwymo’r partïon i’r cytundeb. Ni fydd perchnogion adeilad rhestredig yn y dyfodol yn cael eu rhwymo gan gytundeb, ac ni fyddant ychwaith yn gallu elwa ar unrhyw gydsyniad adeilad rhestredig a roddir gan gytundeb. Oni bai bod pob parti’n cytuno i barhau â chytundeb gyda pherchennog newydd, bydd cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig, felly, yn peidio â chael effaith wrth i berchnogaeth newid.

Adran 115 — Terfynu cytundeb neu ddarpariaeth mewn cytundebAtodlen 10 — Y weithdrefn ar gyfer gorchmynion sy’n terfynu cytundebau partneriaethau adeiladau rhestredig

424.Mae adran 115(1) yn caniatáu i awdurdod cynllunio wneud gorchymyn i derfynu cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig y mae’n barti iddo neu unrhyw ddarpariaeth mewn cytundeb o’r fath. Mae is-adran (2) yn rhoi pwerau cymaradwy i Weinidogion Cymru, ond nid oes rhaid iddynt fod yn rhan o gytundeb. Dim ond mewn achosion eithriadol y mae cytundeb yn debygol o gael ei derfynu drwy orchymyn — er enghraifft, os bydd gwaith heb ei awdurdodi gan y cytundeb yn digwydd a bod y berthynas rhwng y partïon yn dirywio i’r fath raddau fel ei bod yn amhosibl terfynu drwy negodi.

425.Caniateir i orchymyn terfynu gael ei wneud ar unrhyw adeg cyn i’r gwaith yr effeithir arno gael ei gwblhau, ond ni fydd yn cael unrhyw effaith ar y cydsyniad ar gyfer gwaith sydd eisoes wedi cael ei gwblhau.

426.Mae Atodlen 10 yn rhoi’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud y gorchmynion terfynu ar waith. Mae’r gweithdrefnau hyn yn deillio o’r rhai ar gyfer gwneud gorchymyn i addasu neu ddirymu cydsyniad adeilad rhestredig yn Atodlen 8.

427.Mae Rhan 1 o’r Atodlen yn gwneud darpariaeth ynghylch gorchmynion terfynu a wneir gan awdurdodau cynllunio. Mae paragraff 1(1) yn ei gwneud yn ofynnol i orchymyn terfynu awdurdod cynllunio gael ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru cyn iddo gael effaith.

428.Mae paragraff 1(2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cynllunio sydd wedi cyflwyno gorchymyn i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau roi hysbysiad o’r cyflwyniad:

a.

i’r partïon eraill i’r cytundeb;

b.

i unrhyw berson arall sy’n meddiannu’r adeilad rhestredig y mae’r cytundeb yn ymwneud ag ef o dan les sydd ag o leiaf ddwy flynedd yn weddill; ac

c.

i unrhyw berson arall y cred yr awdurdod y bydd y gorchymyn yn effeithio arno.

429.Mae paragraff 1(2)(b) wedi ei eirio i’w gwneud yn ofynnol ymgynghori â meddianwyr tymor hwy adeilad rhestredig y bydd gorchymyn terfynu yn effeithio arno. Ni fydd meddianwyr llai parhaol, er enghraifft myfyrwyr mewn neuadd breswyl prifysgol, yn cael eu cynnwys gan y ddarpariaeth.

430.Rhaid rhoi o leiaf 28 diwrnod i’r rhai sy’n cael yr hysbysiad i wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru am wrandawiad gerbron person a benodir, sef un o arolygwyr Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru fel rheol. Rhaid i’r cyfnod, o 28 o ddiwrnodau o leiaf, ddechrau â thrannoeth y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad. Os gofynnir am wrandawiad, bydd pob awdurdod cynllunio sy’n barti i’r cytundeb yn cael cyfle i fod yn bresennol (paragraff 1(3)–(5)).

431.Mae Rhan 2 o’r Atodlen yn gwneud darpariaeth ynghylch gorchmynion terfynu a wneir gan Weinidogion Cymru. O dan baragraff 2(1) rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad o’r gorchymyn terfynu arfaethedig i’r partïon i’r cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig a’r unigolion eraill a restrir ym mharagraff 430 uchod.

432.Cyn y gall Gweinidogion Cymru wneud y gorchymyn, rhaid rhoi cyfle i’r rhai sy’n cael yr hysbysiad ymddangos gerbron person a benodir a chael gwrandawiad ganddo. Mae’r gweithdrefnau ym mharagraff 2(2)-(4) yn adlewyrchu’r rheini ym mharagraff 1(3)–(5).

Adran 116 — Digollediad pan fo cytundeb neu ddarpariaeth yn cael ei derfynu neu ei therfynu

433.Os caiff cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig, neu ddarpariaeth mewn cytundeb o’r fath, ei derfynu drwy orchymyn a bod person yn dioddef colled neu ddifrod o ganlyniad uniongyrchol, mae adran 116 yn darparu ar gyfer talu digollediad.

434.Mae’r darpariaethau hyn yn debyg mewn sawl ffordd i’r rhai sy’n darparu ar gyfer digollediad os caiff cydsyniad adeilad rhestredig ei addasu neu ei ddirymu drwy orchymyn o dan adran 108. Fel yn yr adran gynharach honno, mae adran 116(3) yn darparu bod gwariant yr eir iddo wrth gyflawni gwaith yn cynnwys llunio planiau a materion paratoi eraill. Gallai’r materion eraill hyn gynnwys arolygon ac ymchwiliadau safle, paratoi datganiadau o’r effaith ar dreftadaeth a llunio manylebau manwl o fethodolegau a deunyddiau, ond nid ydynt wedi eu cyfyngu i hynny.

435.Rhaid i’r cais am ddigollediad gael ei wneud yn ysgrifenedig naill ai i’r awdurdod cynllunio a wnaeth y gorchymyn, neu, yn achos gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru, i’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad rhestredig yn ei ardal. Rhaid ei wneud o fewn chwe mis i’r gorchymyn terfynu gael effaith (is-adrannau (5) a (6)).

436.Os yw awdurdod cynllunio yn agored i dalu digollediad o dan adran 116, mae adran 171(3)(a) yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfrannu tuag at dalu’r digollediad o dan amgylchiadau penodol. Mae adran 171(4)–(6) yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo unrhyw awdurdod arall a oedd neu sydd yn barti i’r cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig i dalu rhywfaint neu’r cyfan o’r digollediad. Mae hyn yn cydnabod y gallai cytundeb cymhleth — er enghraifft, un ar gyfer adeiladau rhestredig sy’n gysylltiedig â choridor trafnidiaeth— gynnwys nifer o awdurdodau lleol. Er y gallai un awdurdod neu Weinidogion Cymru gyflwyno’r gorchymyn terfynu, gallai fod yn rhesymol rhannu baich y digollediad rhwng rhai neu bob un o’r awdurdodau eraill sy’n barti i’r cytundeb. Fodd bynnag, o dan adran 171(6), ni chaiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o’r fath oni bai eu bod wedi ymgynghori â’r holl awdurdodau cynllunio a oedd neu sydd yn barti i’r cytundeb.

437.Mae adrannau 202 a 203 yn gwneud darpariaethau ychwanegol ynghylch hawliadau am ddigollediad o dan y Ddeddf hon (gweler paragraff 45 uchod).

Pennod 4 — Gorfodi rheolaethau sy’n ymwneud ag adeiladau rhestredig

438.Mae adeiladau rhestredig o bwysigrwydd cenedlaethol ac yn asedau hanesyddol unigryw. Mae’n drosedd cyflawni gwaith anawdurdodedig ar adeilad rhestredig, a all ddinistrio’r adeiladwaith hanesyddol (sy’n golygu’r dystiolaeth hanesyddol a ddarperir gan elfennau ffisegol yr adeilad) a niweidio diddordeb arbennig adeiladau rhestredig. Mae’r Bennod hon yn nodi nifer o droseddau sy’n ymwneud ag adeiladau rhestredig, gan gynnwys troseddau cyflawni gwaith anawdurdodedig, methu â chydymffurfio ag un o amodau cydsyniad adeilad rhestredig (adran 117) neu ddifrodi adeilad rhestredig yn fwriadol (adran 118).

439.Mae’r Bennod hon hefyd yn rhoi’r pwerau i awdurdodau cynllunio ddyroddi hysbysiad stop dros dro i roi terfyn ar unwaith ar waith sydd naill ai’n torri adran 88 neu un o amodau cydsyniad (adrannau 119 i 122).

440.Mae’r Bennod hefyd yn darparu’r pŵer i awdurdod cynllunio i ddyroddi hysbysiadau gorfodi (adran 123). Caniateir dyroddi hysbysiadau o’r fath os yw awdurdod cynllunio o’r farn bod gwaith sy’n golygu torri adran 88, neu amod y rhoddwyd cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig iddo, wedi cael ei gyflawni neu yn cael ei gyflawni mewn perthynas ag adeilad rhestredig yn ei ardal. Caniateir dyroddi’r hysbysiad gorfodi, os yw’n briodol, gan roi sylw i effaith y gwaith ar gymeriad yr adeilad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Rhaid i hysbysiad gorfodi bennu’r camau sydd i’w cymryd i unioni effeithiau gwaith anawdurdodedig. Mae adran 124 yn darparu ar gyfer cyflwyno hysbysiad gorfodi ac ar sut y mae’n cymryd effaith, ac mae adran 127 yn sefydlu hawl i apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi. Mae’r Bennod yn darparu trefniadau ar gyfer cydymffurfio â hysbysiadau gorfodi a phŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi hysbysiadau gorfodi (adrannau 130 i 134).

441.Yn olaf, mae’r Bennod yn darparu ar gyfer gwaharddebau i atal achos gwirioneddol neu ddisgwyliedig o dorri adran 88 neu fethiant gwirioneddol neu ddisgwyliedig i gydymffurfio ag amod cydsyniad adeilad rhestredig ar gyfer gwaith ar adeilad rhestredig (adran 135).

Adran 117 — Y drosedd o gyflawni gwaith anawdurdodedig neu dorri amod mewn cydsyniad

442.Mae adran 117(1) yn ei gwneud yn drosedd i berson gyflawni gwaith, neu beri i waith gael ei gyflawni, mewn perthynas ag adeilad rhestredig yn groes i adran 88. Mae hyn yn cynnwys unrhyw waith a fyddai’n effeithio ar ei gymeriad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

443.Os rhoddwyd cydsyniad adeilad rhestredig, mae is-adran (2)(b) yn darparu ei bod yn drosedd i berson fethu â chydymffurfio ag un o amodau cydsyniad wrth wneud gwaith, neu wrth beri i waith gael ei gyflawni.

444.At ddibenion yr adran hon, caiff “person” fod yn unrhyw un sy’n gwneud gwaith ar adeilad rhestredig, boed yn berchennog neu’n feddiannydd adeilad, yn gontractiwr neu’n is-gontractiwr neu’n drydydd parti arall.

445.Os cyflawnir gwaith ar adeilad rhestredig heb awdurdodiad neu os yw’r gwaith yn torri amod y rhoddwyd cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig iddo, mae person yn cyflawni trosedd os yw:

a.

yn cyflawni’r gwaith hwnnw yn bersonol, neu

b.

yn cyfarwyddo neu’n cyflogi rhywun i ymgymryd â’r gwaith.

446.O ganlyniad, gallai perchennog ac adeiladwr a gyfarwyddwyd gan y perchennog i ymgymryd â gwaith anawdurdodedig fod yn euog o drosedd.

447.Mae is-adran (4) yn darparu amddiffyniad i berson am drosedd o dan yr adran hon pe bai gwaith yn cael ei wneud i fynd i’r afael ag anghenion iechyd a diogelwch brys neu i ddiogelu’r adeilad. Fodd bynnag, nid yw’r amddiffyniad hwn ond ar gael os oedd y gwaith wedi ei gyfyngu i isafswm y mesurau a oedd yn angenrheidiol ar unwaith i sicrhau iechyd a diogelwch neu i ddiogelu’r adeilad, ac os rhoddwyd hysbysiad i’r awdurdod cynllunio yr oedd yr adeilad yn ei ardal, gyda chyfiawnhad manwl dros y gwaith, cyn gynted ag yr oedd yn rhesymol ymarferol.

448.Mae is-adran (5) yn rhoi amddiffyniad i berson ar gyfer trosedd o dan yr adran hon sy’n ymwneud ag adeilad o dan warchodaeth interim pan fo’r person yn profi nad oedd yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, bod yr adeilad yn ddarostyngedig i warchodaeth interim. Pan fo’r amddiffyniad yn cael ei godi gan berson y dylai hysbysiad o warchodaeth interim fod wedi cael ei gyflwyno iddo, yr erlyniad sydd i brofi i’r hysbysiad gael ei gyflwyno i’r person.

449.Dylai gwybodaeth am adeiladau sydd o dan warchodaeth interim fod ar gael yn hawdd. Mae adran 78 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad os ydynt yn bwriadu ychwanegu adeilad at y rhestr. Rhaid i’r hysbysiad, y mae’n rhaid ei gyflwyno i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr adeilad ymhlith personau eraill, bennu’r dyddiad y mae’r warchodaeth interim yn dechrau ac egluro ei heffaith. Cyhoeddir rhestr o adeiladau sydd o dan warchodaeth interim ar wefan Cadw yn unol ag adran 79(4)(a) (gweler paragraff 281 uchod) ac mae Cof Cymru hefyd yn arddangos adeiladau o dan warchodaeth interim.

450.Mae is-adrannau (6) a (7) yn manylu ar lefelau’r cosbau y mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored iddynt, boed hynny ar euogfarn ddiannod neu ar euogfarn ar dditiad. Oherwydd y gall gwaith anawdurdodedig i adeilad rhestredig gael ei ysgogi gan y posibilrwydd o enillion ariannol, bydd y llysoedd yn rhoi sylw i unrhyw fudd ariannol y gallai’r person a euogfarnwyd fod wedi ei gael neu yr ymddengys yn debygol o’i gael o ganlyniad i’r drosedd, wrth benderfynu swm unrhyw ddirwy i’w rhoi (is-adran (7)).

Adran 118 — Y drosedd o ddifrodi adeilad rhestredig yn fwriadol

451.Mae adran 118(1) yn darparu bod person yn cyflawni trosedd, os yw person o’r fath, gyda’r bwriad o achosi difrod i adeilad rhestredig, yn gwneud unrhyw beth, neu’n caniatáu i unrhyw beth gael ei wneud sy’n achosi difrod i’r adeilad hwnnw neu sy’n debygol o arwain at ddifrod iddo, ac y byddai gan y person hawlogaeth i gyflawni neu i ganiatáu gweithred o’r fath oni bai am yr is-adran hon. Yn yr achos hwn, byddai person â hawlogaeth i gyflawni gweithred neu i ganiatáu i weithred ddigwydd i adeilad rhestredig yn cynnwys perchennog, meddiannydd neu rywun a gyflogir ganddo.

452.Mae’r modd y mae’r drosedd o dan yr adran hon wedi ei chyfyngu i bersonau sydd â hawlogaeth i wneud neu i ganiatáu gwaith i adeilad rhestredig, yn gwahaniaethu rhyngddi â’r drosedd fwy eang o dan adran 1(1) o Ddeddf Difrod Troseddol 1971 (p. 48) (“Deddf 1971”). Mae’r drosedd yn Neddf 1971 yn gymwys i unrhyw berson sydd heb esgus cyfreithlon yn dinistrio neu’n difrodi unrhyw eiddo sy’n perthyn i rywun arall. Gwahaniaeth pwysig arall rhwng y ddwy drosedd yw bod rhaid profi bwriad ar gyfer trosedd o dan yr adran hon, tra bod byrbwylltra ynghylch a achosir difrod yn ddigonol ar gyfer y drosedd o dan adran 1 o Ddeddf 1971.

453.Mae is-adran (3) yn darparu bod person a geir yn euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

454.Os yw’r person, ar ôl cael euogfarn o drosedd o dan yr adran hon, hefyd yn methu â chymryd camau rhesymol sy’n angenrheidiol i atal difrod neu unrhyw ddifrod pellach rhag digwydd i’r adeilad, mae’r person yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwyon pellach ar gyfer pob diwrnod y mae’r methiant yn parhau (is-adrannau (4) a (5)).

455.Nid yw adran 118 yn gymwys i adeilad sy’n ddarostyngedig i warchodaeth interim neu restru dros dro — gweler adrannau 79(2) a 83(4).

Adran 119 — Pŵer awdurdod cynllunio i ddyroddi hysbysiad stop dros dro

456.Mae adran 119 yn rhoi’r pŵer i awdurdod cynllunio i ddyroddi hysbysiad stop dros dro i roi terfyn ar unwaith ar unrhyw waith neu’r cyfan o’r gwaith ar adeilad rhestredig y mae’n ei ystyried yn anawdurdodedig neu’n ystyried ei fod yn torri un o amodau cydsyniad adeilad rhestredig a roddwyd. Ni chaiff yr awdurdod cynllunio ddyroddi hysbysiad oni bai ei fod o’r farn y dylid atal y gwaith ar unwaith, gan roi sylw i effaith y gwaith ar gymeriad yr adeilad fel un o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

457.Mae is-adrannau (2) i (4) yn pennu cynnwys gofynnol hysbysiad stop dros dro ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer arddangos hysbysiad. Nid oes angen i’r gwaith a bennir yn yr hysbysiad stop dros dro gampasu’r holl waith sydd ar y gweill. Er enghraifft, efallai y bydd awdurdod cynllunio am atal gwaith i newid neu waredu nodwedd benodol, megis ffenestr, sy’n rhan o raglen waith ehangach, ond ei fod yn fodlon bod gweddill y rhaglen waith wedi ei awdurdodi drwy gydsyniad adeilad rhestredig neu’n cynnwys atgyweiriadau syml na fyddant yn effeithio ar gymeriad yr adeilad.

458.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio arddangos copi o’r hysbysiad stop dros dro ar yr adeilad rhestredig y mae’n ymwneud ag ef, a rhaid i’r copi bennu’r dyddiad y caiff ei arddangos am y tro cyntaf. Mae is-adran (4), fodd bynnag, yn darparu y caiff yr awdurdod, yn lle hynny, arddangos copi mewn lle amlwg mor agos i’r adeilad ag sy’n rhesymol ymarferol, os nad yw’n rhesymol ymarferol arddangos copi o’r hysbysiad ar yr adeilad neu os gallai ei arddangos ar yr adeilad achosi difrod.

459.Er y caiff yr awdurdod cynllunio gyflwyno copïau o’r hysbysiad i bartïon â buddiant o dan is-adran (5), dim ond arddangos copi o’r hysbysiad fel y’i pennir yn is-adran (3) y mae angen ei wneud er mwyn i’r gwaith penodedig gael ei atal dros dro, ar unwaith.

Adran 122 — Digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan hysbysiad stop dros dro

460.Mae adran 122 yn darparu y caiff unrhyw berson sydd â buddiant mewn adeilad rhestredig, o dan amgylchiadau cyfyngedig, fod â hawlogaeth i gael ei ddigolledu gan yr awdurdod cynllunio am golled neu ddifrod y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i effaith hysbysiad stop dros dro.

461.Mae is-adran (1) yn darparu nad yw digollediad ond yn daladwy:

a.

pan nad oedd y gwaith a bennir yn yr hysbysiad yn torri adran 88 ar yr adeg y cymerodd yr hysbysiad effaith (hynny yw, roedd naill ai wedi ei awdurdodi neu nid oedd angen awdurdodiad arno); neu

b.

pan nad oedd y gwaith a bennir yn yr hysbysiad yn torri amod cydsyniad adeilad rhestredig ar yr adeg y cymerodd yr hysbysiad effaith; neu

c.

pan fo’r awdurdod cynllunio wedi tynnu’r hysbysiad stop dros dro yn ôl ar ôl iddo gymryd effaith.

462.Gallai awdurdod cynllunio dynnu hysbysiad stop dros dro yn ôl ar ôl iddo gymryd effaith os, er enghraifft, yw’n canfod bod yr hysbysiad wedi ei arddangos drwy gamgymeriad oherwydd nad oedd gwaith yn anawdurdodedig neu oherwydd bod yr hysbysiad wedi ei ddwyn i effaith ar gyfer yr eiddo anghywir.

463.Mae is-adran (2) yn darparu ymhellach nad oes unrhyw ddigollediad yn daladwy pe bai’r awdurdod cynllunio yn tynnu’r hysbysiad stop dros dro yn ôl ar ôl i gydsyniad adeilad rhestredig gael ei roi a fyddai’n caniatáu i’r gwaith a bennir yn yr hysbysiad fynd rhagddo. Nid yw’r eithriad hwn yn gymwys ond os rhoddwyd y cydsyniad ar ôl i’r hysbysiad stop dros dro gymryd effaith; os cafodd y cydsyniad ei roi gyntaf, gallai digollediad fod yn daladwy.

464.Os yw awdurdod cynllunio yn agored i dalu digollediad o dan adran 122, mae adran 171(3) yn darparu, o dan amgylchiadau penodol, y caiff Gweinidogion Cymru gyfrannu tuag at dalu’r digollediad neu gyfarwyddo’r awdurdod lleol arall hwnnw i gyfrannu swm i’r taliad.

465.Mae adrannau 202 a 203 yn gwneud darpariaethau ychwanegol ynghylch hawliadau am ddigollediad o dan y Ddeddf hon (gweler paragraff 45 uchod).

Adran 123 — Pŵer awdurdod cynllunio i ddyroddi hysbysiad gorfodi

466.Mae adran 123 yn rhoi’r pŵer i awdurdod cynllunio i ddyroddi hysbysiad gorfodi i’w gwneud yn ofynnol cymryd camau pan fo o’r farn bod gwaith anawdurdodedig wedi ei gyflawni ar adeilad rhestredig. Rhaid i’r awdurdod cynllunio fod o’r farn ei bod yn briodol dyroddi’r hysbysiad, gan roi sylw i effaith y gwaith ar gymeriad yr adeilad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Yn unol â hynny, caiff yr awdurdod cynllunio bwyso a mesur ffactorau megis difrifoldeb y difrod i’r adeilad rhestredig a’r tebygolrwydd y bydd niwed yn digwydd yn y dyfodol, effaith y difrod ar gymeriad ac arwyddocâd yr adeilad, cyfleoedd ar gyfer negodi a dod o hyd i atebion cydweithredol ac argaeledd ac addasrwydd rhwymedïau cyfreithiol eraill.

467.Rhaid i hysbysiad gorfodi nodi’r toriad honedig a’i gwneud yn ofynnol cymryd camau at unrhyw un neu’r cyfan o’r dibenion a ganlyn:

a.

adfer yr adeilad rhestredig i’w gyflwr cyn i’r gwaith anawdurdodedig ddigwydd;

Byddai’r camau a bennir yn debygol o gynnwys gwaith cofnodi ac ymchwilio priodol ar yr ardal a ddifrodwyd er mwyn adennill a chofnodi tystiolaeth hanesyddol cyn i weithrediadau penodedig pellach fynd rhagddynt.

b.

lleddfu effaith y gwaith, os nad yw gwaith adfer yn rhesymol ymarferol neu’n ddymunol; neu

Pe bai difrod difrifol neu helaeth i adeilad rhestredig, gallai fod yn annichonadwy ei adfer a gallai, mewn gwirionedd, achosi rhagor o ddifrod i ddiddordeb arbennig yr adeilad rhestredig. Mewn achos o’r fath, byddai’r awdurdod cynllunio yn pennu camau i sefydlogi’r adeilad yn ei gyflwr newydd i’w warchod ac i warchod y diddordeb arbennig y mae’n ei gynnwys at y dyfodol.

c.

rhoi’r adeilad yn y cyflwr y byddai wedi bod ynddo pe cydymffurfiwyd â thelerau ac amodau cydsyniad adeilad rhestredig a roddwyd.

Adran 124 — Cyflwyno hysbysiad gorfodi a’r hysbysiad yn cymryd effaith

468.Mae adran 124 yn nodi’r gofynion ar gyfer cyflwyno copi o hysbysiad gorfodi a phryd y mae hysbysiad yn cymryd effaith.

469.Mae is-adran (2) yn darparu y bydd hysbysiad gorfodi yn cymryd effaith ar ddechrau’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad. Os gwneir apêl yn erbyn yr hysbysiad i Weinidogion Cymru, mae adran 127(4)(a) yn darparu na fydd yr hysbysiad yn cymryd effaith hyd nes y caiff yr apêl ei phenderfynu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl. Fodd bynnag, os gwneir apêl i’r Uchel Lys yn erbyn penderfyniad gan Weinidogion Cymru ar hysbysiad gorfodi, mae adran 184(5) yn darparu y caiff y Llys orchymyn bod yr hysbysiad gorfodi yn cael effaith, naill ai’n llawn neu i’r graddau a bennir yn y gorchymyn.

470.Mae is-adran (3) yn darparu y caiff hysbysiad gorfodi bennu cyfnodau gwahanol ar gyfer cymryd camau gwahanol. Mae hyblygrwydd o’r fath yn galluogi hysbysiad gorfodi i wneud darpariaeth briodol ar gyfer gofynion cadwraeth adeilad. Er enghraifft, gellid nodi cyfres o gamau i’w cymryd yn raddol er mwyn sicrhau bod adeilad a ddifrodwyd gan waith anawdurdodedig yn cael ei adfer neu ei sefydlogi’n foddhaol.

471.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i gopi o’r hysbysiad gael ei gyflwyno i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr adeilad ac i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr adeilad y mae’r awdurdod yn ystyried bod yr hysbysiad yn effeithio arno’n sylweddol.

472.Mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i gopi o’r hysbysiad gael ei gyflwyno cyn diwedd 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y’i dyroddwyd, ac o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y mae i gymryd effaith. Ystyr “dyroddwyd” yma yw pryd y cytunodd pwyllgor perthnasol neu swyddog dirprwyedig yr awdurdod cynllunio ar yr hysbysiad gorfodi.

Adran 126 — Effaith rhoi cydsyniad adeilad rhestredig ar hysbysiad gorfodi

473.Mae adran 126 yn darparu ar gyfer sefyllfa pan roddir cydsyniad adeilad rhestredig o dan adran 89(2), ar ôl i hysbysiad gorfodi gael ei ddyroddi, i awdurdodi gwaith y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

474.Yn ymarferol, dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y rhoddir cydsyniad o dan adran 89(2), a phan fu’r gwaith yr ymgymerwyd ag ef er budd yr adeilad rhestredig.

475.Mae is-adran (2) yn darparu bod gofynion yn yr hysbysiad sy’n anghyson â’r cydsyniad newydd yn peidio â chael effaith. Fodd bynnag, mae is-adran (3) yn nodi bod person yn parhau’n atebol am unrhyw drosedd gynharach sy’n deillio o fethu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi, er bod rhan o’r hysbysiad neu’r hysbysiad cyfan yn peidio â chael effaith wedi hynny o dan yr adran hon. Mae methu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi (adran 133) yn drosedd ar wahân i gyflawni gwaith anawdurdodedig (adran 117) neu ddifrodi adeilad rhestredig yn fwriadol (adran 118) a chaniateir mynd ar drywydd achosion am y troseddau yn annibynnol ar ei gilydd.

Adran 127 — Yr hawl i apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi

476.Mae adran 127 yn caniatáu i unrhyw un sydd â buddiant yn yr adeilad rhestredig y mae hysbysiad gorfodi yn ymwneud ag ef apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn yr hysbysiad. Mae hyn yn cynnwys perchnogion, lesddeiliaid a thenantiaid, derbynwyr swyddogol a morgeiseion a benthycwyr eraill.

477.Mae is-adran (1)(b) hefyd yn darparu y caiff unrhyw berson sydd, yn rhinwedd trwydded, yn meddiannu’r adeilad ar y diwrnod y dyroddir yr hysbysiad ac sy’n parhau i’w feddiannu pan wneir yr apêl, apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn hysbysiad gorfodi.

478.Mae is-adran (2) yn rhestru’r seiliau a ganiateir ar gyfer apêl.

479.Mae sail (a) yn caniatáu ar gyfer herio rhestru’r adeilad. Byddai angen i apelydd sy’n troi at sail (a) ddangos nad yw’r adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Wrth gyflwyno’r achos, rhaid ystyried nid yn unig yr adeilad ei hun, yn ei gyflwr cyn i unrhyw waith anawdurdodedig ddigwydd, ond hefyd unrhyw gyfraniad a wneir gan strwythurau neu wrthrychau artiffisial cysylltiedig o fewn cwrtil yr adeilad. Os yw apêl ar y sail hon yn llwyddiannus, bydd Gweinidogion Cymru yn dadrestru’r adeilad (gweler adran 128(3)(c)).

480.Mae sail (b) yn caniatáu i apelydd herio hysbysiad gorfodi drwy ddadlau nad yw’r materion yr honnir eu bod yn torri adran 88 neu amod mewn cydsyniad adeilad rhestredig erioed wedi digwydd.

481.Mae sail (c), ar y llaw arall, yn caniatáu i apelydd ddadlau nad oedd y materion hynny, os oeddent wedi digwydd, yn gyfystyr â thoriad. Gellid gwneud apêl, er enghraifft, pe bai gwaith wedi digwydd, ond nad oedd wedi effeithio ar gymeriad yr adeilad fel un o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Bydd sail (c) hefyd yn cwmpasu apelau sy’n dadlau na ddigwyddodd toriad oherwydd nad yw’r adeilad dan sylw wedi ei restru neu nad yw’r hyn sydd wedi ei restru yn adeilad. Ystyriwyd a chydnabuwyd sefyllfaoedd o’r fath fel seiliau dilys ar gyfer apelio yn Dill v Secretary of State for Housing, Communities and Local Government and another [2020] 1 WLR 2206.

482.Mae sail (d) yn caniatáu apêl ar y sail y bu’r gwaith y mae’r hysbysiad gorfodi yn ymwneud ag ef yn angenrheidiol ar frys er lles iechyd a diogelwch neu ar gyfer diogelu’r adeilad, nad oedd modd diogelu’r adeilad drwy gyflawni gwaith atgyweirio neu waith i’w ategu neu ei gysgodi a bod y gwaith a gyflawnwyd wedi ei gyfyngu i isafswm y mesurau a oedd yn angenrheidiol.

483.Mae sail (e) yn darparu ar gyfer amgylchiadau pan fo’r apelydd yn mynnu y dylid rhoi cydsyniad adeilad rhestredig ar gyfer y gwaith anawdurdodedig y mae hysbysiad gorfodi yn ymwneud ag ef neu y dylid dileu neu ddisodli amod mewn cydsyniad a roddwyd. Gellid gwneud apêl o’r fath pe bai’r gwaith dan sylw yn cael effaith niwtral neu fuddiol ar gymeriad yr adeilad rhestredig.

484.Mae sail (f) yn caniatáu apêl os na chafodd hysbysiad ei gyflwyno i berson fel sy’n ofynnol o dan adran 124. Mae’r adran honno yn ei gwneud yn ofynnol cyflwyno hysbysiad i bob perchennog a phob meddiannydd ac unrhyw berson arall â chanddo fuddiant yn yr adeilad y mae’r awdurdod cynllunio yn ystyried y bydd yr hysbysiad yn effeithio arno’n sylweddol. Fodd bynnag, mae adran 128(4) yn cadarnhau, os yw’r methiant i gyflwyno hysbysiad gorfodi i berson yn sail ar gyfer apêl, y caiff Gweinidogion Cymru anwybyddu’r ffaith os nad yw’r methiant wedi cael effaith andwyol sylweddol ar yr apelydd na’r person hwnnw.

485.Mae sail (g) yn darparu ar gyfer apêl ar y sail na fyddai’r camau sy’n ofynnol mewn hysbysiad gorfodi yn ateb y diben o adfer cymeriad adeilad. Byddai hyn yn caniatáu i apelydd herio hysbysiad gorfodi, er enghraifft, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i ailadeiladu nodwedd a ddymchwelwyd gan ddefnyddio’r holl deilchion gydag uniadau a chraciau o ganlyniad. Gallai’r apelydd ddadlau y byddai copi ffyddlon o’r nodwedd, heb yr uniadau a’r craciau amlwg, yn adfer cymeriad yr adeilad yn well.

486.Mae sail (h) yn darparu y gall apêl ddadlau bod y camau unioni y manylir arnynt yn yr hysbysiad o dan adran 123(3) yn mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n angenrheidiol i adfer yr adeilad rhestredig, lleddfu effaith y toriad neu roi’r adeilad yn y cyflwr y byddai wedi bod ynddo pe bai amodau sydd ynghlwm wrth gydsyniad wedi eu bodloni.

487.Mae sail (i) yn caniatáu ar gyfer apêl ar y sail bod y cyfnod y mae’r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gam gael ei gymryd ynddo yn afresymol o fyr. Mae apelau llwyddiannus ar sail (i) bron yn ddieithriad yn arwain at amrywio hysbysiadau gorfodi i ganiatáu ar gyfer cyfnodau hwy ar gyfer cyflawni’r gwaith penodedig, ac yn annhebygol o arwain at ddiddymu hysbysiadau.

Adran 128 — Penderfynu apêl

488.Mae adran 128 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i benderfynu ar apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi.

489.Mae is-adran (1) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru gywiro unrhyw ddiffyg, gwall neu gamddisgrifiad yn yr hysbysiad y mae’r apêl yn ymwneud ag ef, neu amrywio telerau’r hysbysiad gorfodi, os ydynt wedi eu bodloni na fydd camau o’r fath yn achosi anghyfiawnder i’r naill barti i’r apêl na’r llall.

490.Mae is-adran (6) yn egluro bod penderfyniad Gweinidogion Cymru ar yr apêl yn derfynol.

Adran 130 — Gorchymyn i ganiatáu camau sy’n ofynnol gan hysbysiad gorfodi

491.Mae adran 130 yn caniatáu i berchennog tir wneud cais am orchymyn gan lys ynadon sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson arall a chanddo fuddiant yn y tir ganiatáu i’r perchennog gymryd camau sy’n ofynnol gan hysbysiad gorfodi. Caiff y llys wneud gorchymyn o’r fath os yw wedi ei fodloni bod y perchennog yn cael ei atal rhag cymryd y camau gofynnol.

492.Mae’n bwysig i berchennog tir allu troi at y gyfraith yn y modd hwn, gan fod adran 133(1) yn gosod unrhyw atebolrwydd am drosedd o fethu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi ar berson sydd ar y pryd yn berchennog ar yr adeilad rhestredig y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

Adran 131 — Pŵer i fynd ar dir a chymryd camau sy’n ofynnol gan hysbysiad gorfodi

493.Mae adran 131(1) yn darparu ar gyfer sefyllfa pan na chymerwyd cam sy’n ofynnol gan hysbysiad gorfodi o fewn y cyfnod a ragnodir. Mewn achos o’r fath, caiff yr awdurdod cynllunio fynd ar y tir y mae’r hysbysiad gorfodi yn ymwneud ag ef ar unrhyw adeg resymol a chymryd y cam hwnnw. Mae hyn yn caniatáu i waith cadwraeth angenrheidiol i sicrhau diddordeb arbennig yr adeilad rhestredig a fanylir yn yr hysbysiad gorfodi ddigwydd yn brydlon.

494.Mae is-adrannau (2) a (3) yn darparu ei bod yn drosedd mynd ati’n fwriadol i rwystro person sy’n arfer y pŵer o dan is-adran (1) a bod person a ddyfernir yn euog o drosedd o’r fath yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Adran 132 — Adennill costau cydymffurfio â hysbysiad gorfodi

495.Mae adran 132 yn darparu ar gyfer adennill oddi wrth unrhyw berchennog gostau rhesymol y bydd awdurdod cynllunio yn mynd iddynt ar ôl arfer y pŵer yn adran 131 a mynd ar dir i gymryd y camau sy’n ofynnol i gydymffurfio â hysbysiad gorfodi.

496.Mae is-adrannau (2) a (3) yn darparu ar gyfer adennill costau o’r fath gan berchennog ar y tir sy’n gweithredu fel asiant neu ymddiriedolwr ar gyfer person arall, neu gan y person arall hwnnw, neu gan gyfuniad o’r ddau.

497.Mae’r adran hefyd yn darparu bod y costau adenilladwy yn bridiant tir lleol hyd nes y cânt eu hadennill (is-adrannau (5) a (6)).

498.Yn olaf, mae’r adran yn darparu ar gyfer amgylchiadau penodol pan gaiff yr awdurdod cynllunio adennill rhywfaint neu’r cyfan o’i gostau drwy werthu deunyddiau a gymerir wrth ymgymryd â’r camau sy’n ofynnol yn dilyn methiant i gydymffurfio â hysbysiad gorfodi. Os oes unrhyw warged ar ôl didynnu’r costau adenilladwy rhaid talu’r enillion sy’n weddill i’r person a oedd yn berchen ar y deunyddiau (is-adrannau (7) ac (8)).

Adran 133 — Y drosedd o fethu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi

499.Mae adran 133 yn pennu y bydd perchennog ar yr adeilad rhestredig y mae hysbysiad gorfodi yn ymwneud ag ef yn euog o drosedd os nad yw cam gofynnol wedi ei gymryd ar ôl diwedd y cyfnod a ragnodir yn yr hysbysiad. Byddai hyn yn drosedd yn ogystal â’r drosedd o gyflawni’r gwaith anawdurdodedig o dan adran 117.

500.Mae is-adran (2) yn darparu y caniateir i berson gael ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon drwy gyfeirio at ddiwrnod neu at gyfnod hwy, ac y caniateir i berson gael ei euogfarnu o fwy nag un drosedd mewn perthynas â’r un hysbysiad gorfodi drwy gyfeirio at gyfnodau gwahanol.

501.Mae is-adran (3) yn nodi’r amddiffyniadau posibl sydd ar gael o dan yr adran hon. Mae’n amddiffyniad i berson brofi:

a.

bod y person wedi gwneud popeth y gellid disgwyl iddo gael ei wneud i sicrhau bod y camau gofynnol wedi eu cymryd, neu

b.

na chyflwynwyd copi o’r hysbysiad i’r person ac nad oedd felly’n ymwybodol o’i fodolaeth.

502.Mae is-adran (4) yn darparu mai’r gosb am y drosedd o fethu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi, boed ar euogfarn ddiannod neu euogfarn ar dditiad, yw dirwy ddiderfyn.

503.Oherwydd y gall difrod bwriadol i adeilad rhestredig gael ei ysgogi gan y posibilrwydd o enillion ariannol, mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i’r llysoedd roi sylw i unrhyw fudd ariannol y gallai’r person a euogfarnwyd fod wedi ei gael neu yr ymddengys ei fod yn debygol o’i gael o ganlyniad i’r drosedd, wrth benderfynu swm unrhyw ddirwy i’w rhoi.

Adran 135 — Gwaharddeb i atal gwaith anawdurdodedig neu fethiant i gydymffurfio ag amod mewn cydsyniad

504.Mae adran 135 yn caniatáu i awdurdod cynllunio wneud cais i’r Uchel Lys neu’r llys sirol am waharddeb i atal gwaith anawdurdodedig gwirioneddol neu ddisgwyliedig neu waith gwirioneddol neu ddisgwyliedig sy’n methu â chydymffurfio ag amod mewn cydsyniad adeilad rhestredig.

505.Mae is-adran (2) yn cadarnhau y caiff awdurdod cynllunio wneud cais am waharddeb ni waeth a yw wedi defnyddio neu’n cynnig defnyddio unrhyw bwerau eraill a ddarperir gan y Rhan hon — er enghraifft, hysbysiad gorfodi (adran 123) neu waith brys (adran 144).

506.Caiff y llys roi’r waharddeb ar unrhyw delerau y mae’n ystyried eu bod yn briodol at ddiben atal y toriad a’i chyflwyno i berson nad yw’n hysbys pwy ydyw (is-adrannau (3) a (4)). Bydd hyn yn ei gwneud yn haws cael gwaharddeb yn brydlon os oes ei hangen i atal gwaith sy’n bygwth difrodi diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig adeilad rhestredig.

Pennod 5 — Caffael a diogelu adeiladau o ddiddordeb arbennig

507.Mae pennod 5 yn darparu gwahanol bwerau ar gyfer caffael a diogelu adeiladau rhestredig o ddiddordeb arbennig. Maent yn cynnig cyfres o fesurau y caniateir eu defnyddio pan fydd adeiladau rhestredig yn mynd i gyflwr gwael, naill ai drwy ddiffyg buddsoddi neu anfodlonrwydd i weithredu ar ran perchnogion, neu, mewn rhai achosion, drwy iddynt gael eu hesgeuluso neu eu gadael yn fwriadol. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r pwerau yn arferadwy gan Weinidogion Cymru a naill ai’r awdurdod cynllunio perthnasol neu’r awdurdod lleol.

508.Mae adrannau 137 i 142, er enghraifft, yn darparu ar gyfer caffael adeilad rhestredig yn orfodol gan awdurdod cynllunio (gydag awdurdodiad gan Weinidogion Cymru), neu gan Weinidogion Cymru eu hunain. Gall fod angen arfer y pwerau gorfodol hyn os nad oes dewis arall ond caffael adeilad rhestredig sydd wedi mynd i gyflwr gwael, fel y gellir rhoi trefniadau eraill ar waith ar gyfer ei ddiogelu. Yn yr achosion prin hynny pan ystyrir bod caffael yn orfodol yn angenrheidiol, rhaid i’r awdurdod caffael gyflwyno hysbysiad atgyweirio yn gyntaf er mwyn rhoi i bob perchennog gyfle olaf i gymryd camau rhesymol i ddiogelu adeilad (adran 138).

509.Bydd digollediad yn daladwy i berchennog yn dilyn caffaeliad gorfodol, ond mae’r Bennod yn caniatáu i awdurdod caffael wneud cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol os yw wedi ei fodloni y caniatawyd i adeilad fynd i gyflwr gwael yn fwriadol at ddiben cyfiawnhau ei ddymchwel a datblygu’r safle neu unrhyw safle cydffiniol. Mae hefyd yn nodi’r gweithdrefnau y byddai angen i unrhyw berson a chanddo fuddiant yn yr adeilad eu dilyn i herio cyfarwyddyd o’r fath (adrannau 140 a 141).

510.Caiff awdurdodau lleol neu Weinidogion Cymru hefyd gyflawni gwaith brys sy’n angenrheidiol ar gyfer diogelu adeilad rhestredig a chânt roi mesurau ar waith i adennill costau’r gwaith hwn, gan gynnwys drwy bridiant tir lleol (adrannau 144 i 146). Yn ymarferol, ymyriadau dros dro yw’r gwaith brys a gyflawnir fel arfer, megis gosod cysgodion neu orchuddion, er mwyn gwarchod yr adeilad ar unwaith rhag difrod gan y gwynt a’r glaw. Eu bwriad yn aml yw caniatáu amser i ddatblygu a chytuno ar gynlluniau cadwraeth hirdymor ar gyfer yr adeilad.

511.Mae’r Bennod yn darparu rhagor o gamau ar gyfer diogelu adeiladau rhestredig sydd mewn cyflwr gwael drwy roi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau a all, yn benodol, ddarparu ar gyfer “hysbysiad diogelu” sy’n ei gwneud yn ofynnol i berchnogion adeilad rhestredig gyflawni gwaith i sicrhau ei fod yn cael ei ddiogelu’n briodol (adran 147).

512.Mae’r Bennod hefyd yn galluogi awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru i gynnig cymorth ariannol ar gyfer cynnal a chadw ac atgyweirio adeiladau a gerddi hanesyddol, ac i adennill arian o dan amgylchiadau penodol (adrannau 148 i 150).

513.Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi canllawiau arferion gorau anstatudol sy’n cael eu hadolygu’n barhaus, er mwyn cefnogi’r gwaith o reoli adeiladau rhestredig sydd wedi mynd i gyflwr gwael. Ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn, mae’r canllawiau, Rheoli Adeiladau Rhestredig sydd mewn Perygl yng Nghymru (2018), yn nodi rolau a chyfrifoldebau perchnogion, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wrth reoli adeiladau rhestredig sydd wedi mynd i gyflwr gwael. Mae’n dangos sut y gall polisïau a rhaglenni i reoli adeiladau rhestredig sydd mewn perygl lwyddo.

Adran 136 — Pŵer awdurdod cynllunio i gaffael adeilad drwy gytundeb

514.Mae adran 136 yn darparu y caiff awdurdod cynllunio gaffael drwy gytundeb unrhyw adeilad sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru y mae’n ystyried ei fod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Er y caniateir rhestru adeilad o’r fath, nid yw’n angenrheidiol. Rhaid i’r awdurdod caffael ond bod wedi ei fodloni bod yr adeilad “o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig”.

515.Mae’n bosibl mai ei awydd i ddiogelu adeilad sy’n cymell awdurdod lleol i’w gaffael, ond gallai nodau eraill ysgogi hynny yn yr un modd, er enghraifft diogelu dyfodol adeilad o ddiddordeb arbennig a darparu mynediad y cyhoedd.

516.Caniateir cynnwys tir cysylltiedig yn y caffaeliad cyn belled ag y bo’r amodau yn is-adran (2) wedi eu bodloni.

517.Mae is-adran (3) yn cymhwyso darpariaethau safonol sy’n llywodraethu’r modd o arfer pwerau prynu gorfodol o dan Ran 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 (p. 56), i’r graddau y maent yn berthnasol i gaffael drwy gytundeb.

518.Mae is-adran (4) yn darparu, pan fo gan lesddeiliaid hawlogaeth i ddigollediad am ddifrod penodol oherwydd gwaith a gyflawnir, fod hynny’n cynnwys difrod o waith a gyflawnir o dan adran 203 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22)

Adran 137 — Pwerau i gaffael adeilad rhestredig yn orfodol at ddiben ei ddiogeluAdran 138 — Gofyniad i gyflwyno hysbysiad atgyweirio cyn dechrau caffael yn orfodol

519.Gyda’i gilydd, mae adrannau 137 a 138 yn darparu y caiff awdurdod caffael — awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru — gaffael adeilad rhestredig yn orfodol at ddiben ei ddiogelu. Mae adran 138 yn nodi bod rhaid i’r awdurdod caffael gyflwyno hysbysiad atgyweirio yn gyntaf cyn defnyddio’r pwerau caffael gorfodol yn adran 137.

520.Mae adran 137 yn rhoi pwerau ar gyfer caffael adeilad rhestredig yn orfodol os nad yw’n cael ei ddiogelu yn briodol. Er mwyn defnyddio’r pwerau hyn, mae is-adran (1) yn nodi bod rhaid i Weinidogion Cymru fod o’r farn bod dau brawf ar wahân wedi eu bodloni. Yn gyntaf, rhaid i Weinidogion Cymru fod o’r farn nad yw camau rhesymol yn cael eu cymryd ar gyfer diogelu adeilad rhestredig yn briodol. Er bod camau rhesymol yn cwmpasu gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio arferol, cânt hefyd gynnwys gwaith arall a fydd yn amrywio rhwng un adeilad ac adeilad arall, gan ddibynnu ar natur y strwythur a’i gyflwr presennol. Yn ail, rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni bod achos cymhellol er budd y cyhoedd i’r adeilad gael ei gaffael yn orfodol at ddiben ei ddiogelu. Wrth ddod i’w casgliad, caiff Gweinidogion Cymru ystyried arwyddocâd yr adeilad (gan gynnwys y strwythurau a’r gwrthrychau o fewn ei gwrtil), ymdrechion blaenorol i ddod o hyd i sail gynaliadwy ar gyfer rheoli’r adeilad a’r tebygolrwydd o negodi ffordd hyfyw ymlaen, unrhyw atebion cyfreithiol sydd ar gael a’r risg o golli neu o ddifrodi’n barhaol ran neu’r cyfan o’r adeilad rhestredig. Mae Llawlyfr Gorchymyn Prynu Gorfodol (GPG) (2021) Llywodraeth Cymru, a adolygir yn gyson, yn cynnwys canllawiau ar gaffael yn orfodol.

521.Os yw’r ddau brawf wedi eu bodloni, o dan is-adran (2) caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad rhestredig yn ei ardal i ymgymryd â chaffael yr adeilad a’r tir cysylltiedig yn orfodol. Mae’r un is-adran hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru eu hunain gaffael yr adeilad a’r tir yn orfodol.

522.Mae is-adran (3) yn nodi’r amodau y mae rhaid eu bodloni er mwyn cynnwys tir cysylltiedig wrth gaffael adeilad yn orfodol. Yr amodau hynny yw bod y tir yn cynnwys yr adeilad, yn cydffinio ag ef neu’n gyfagos iddo, a bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod angen y tir at ddiben diogelu’r adeilad neu ei amwynderau, mynd i mewn i’r adeilad neu reolaethu a rheoli’r adeilad yn briodol. Gwneir darpariaeth ar gyfer cynnwys tir cysylltiedig wrth gaffael adeilad yn orfodol oherwydd heb dir o’r fath gallai fod yn amhosibl cyflawni gwaith cadwraeth a rheoli effeithiol ar yr adeilad.

523.Mae is-adrannau (4) a (5) yn eithrio o weithrediad yr adran hon: unrhyw adeilad sydd hefyd yn heneb gofrestredig, unrhyw adeilad crefyddol esempt (a ddiffinnir yn adran 156) a buddiannau yn nhir y Goron (a ddiffinir yn adran 207), ac eithrio fel y’i pennir.

524.Mae is-adran (6) yn cymhwyso Deddf 1981 i gaffaeliad o dan yr adran hon. Mae Deddf 1981 yn darparu bod rhaid awdurdodi caffael tir yn orfodol drwy orchmynion prynu gorfodol ac yn nodi’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud y gorchmynion hynny. Maent yn cynnwys darparu bod rhaid rhoi hysbysiad o orchmynion, bod rhaid ystyried gwrthwynebiadau, a bod rhaid i orchmynion a wneir gan awdurdodau lleol gael eu cadarnhau gan Weinidogion.

525.Mae adran 138(1) yn darparu na chaiff awdurdod caffael gyflwyno hysbysiad o fwriad i gaffael yn orfodol o dan Ddeddf 1981 — sef dechrau’r broses ffurfiol ar gyfer caffael adeilad yn orfodol — oni bai bod “hysbysiad atgyweirio” wedi ei gyflwyno i bob perchennog ar yr adeilad dan sylw a bod dau fis wedi mynd heibio.

526.O dan is-adran (2), rhaid i hysbysiad atgyweirio bennu’r gwaith y mae’r awdurdod yn ystyried ei fod yn rhesymol angenrheidiol ar gyfer diogelu’r adeilad yn briodol. Gallai’r gwaith a bennir yn yr hysbysiad atgyweirio fod y math o waith sy’n angenrheidiol ar gyfer diogelu’r adeilad yn y cyflwr yr oedd ar y dyddiad y cafodd ei restru, yn hytrach nag ar ddyddiad yr hysbysiad. Mae cyflwyno’r hysbysiad yn rhoi cyfle olaf i bob perchennog i gymryd camau rhesymol ar gyfer diogelu’r adeilad ac achub y blaen rhag i’r broses caffael yn orfodol gael ei gweithredu.

527.Mae is-adran (2) hefyd yn darparu bod rhaid i’r hysbysiad atgyweirio egluro effaith adrannau 137 i 141 o’r Ddeddf ac adran 49 o Ddeddf Adeiladau Rhestredig 1990. Effaith adran 49 yw y tybir, wrth gyfrifo digollediad, y byddai cydsyniad adeilad rhestredig yn cael ei roi ar gyfer unrhyw waith ar gyfer addasu neu estyn yr adeilad neu ar gyfer ei ddymchwel o dan amgylchiadau penodol. Bydd y dybiaeth hon yn gymwys yn ogystal â’r darpariaethau cyffredinol ynghylch asesu digollediad yn Neddf 1961. Fodd bynnag, rhaid i’r hysbysiad atgyweirio hefyd egluro’r posibilrwydd y bydd digollediad isafol yn cael ei dalu o dan adran 141 os caniatawyd i adeilad fynd i gyflwr gwael yn fwriadol.

528.Pan fo hysbysiad atgyweirio yn cael ei gyflwyno i berchennog, mae adran 111(5) yn gwahardd y perchennog rhag cyflwyno hysbysiad prynu i’r awdurdod am dri mis neu, os dechreuir achos prynu gorfodol o fewn y cyfnod o dri mis hwnnw, ar unrhyw adeg hyd nes bod yr achos wedi ei gwblhau.

Adran 139 — Cais i stopio caffaeliad gorfodol

529.Pan fydd gorchymyn prynu gorfodol ar gyfer caffael adeilad rhestredig wedi cael ei wneud gan awdurdod cynllunio (ond heb ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru eto) neu wedi cael ei lunio ar ffurf drafft gan Weinidogion Cymru (ond na roddwyd effaith iddo eto), mae adran 139 yn caniatáu i unrhyw un â buddiant yn yr adeilad wneud cais i lys ynadon am orchymyn i atal cymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r gorchymyn prynu gorfodol. (is-adran (2)).

530.Mae is-adran (3) yn darparu bod rhaid i’r cais gael ei wneud o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cyflwynirr hysbysiad caffael yn orfodol o dan Ddeddf 1981. Byddai’r cais yn cael ei wneud ar y sail bod camau rhesymol wedi cael eu cymryd i ddiogelu’r adeilad rhestredig yn briodol, ac mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i’r llys ynadon wneud y gorchymyn y gwnaed cais amdano os yw wedi ei fodloni bod camau o’r fath wedi cael eu cymryd. Gellir gwneud apêl i Lys y Goron yn erbyn penderfyniad y llys ynadon (is-adran (5)).

Adran 140 — Cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol pan ganiatawyd i adeilad fynd i gyflwr gwael yn fwriadolAdran 141 — Cais i ddileu cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol

531.Os yw awdurdod caffael yn ystyried y caniatawyd i adeilad rhestredig fynd i gyflwr gwael yn fwriadol at ddiben cyfiawnhau ei ddymchwel a datblygu’r safle neu unrhyw safle cydffiniol, o dan adran 140 caiff gorchymyn prynu gorfodol mewn perthynas â’r adeilad gynnwys cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol. Effaith y cyfarwyddyd yw y caiff y digollediad sy’n daladwy ar gyfer difrod neu golled a achosir gan y caffaeliad ei asesu ar y sail na fyddai caniatâd cynllunio na chydsyniad adeilad rhestredig yn cael ei roi ac eithrio ar gyfer y gwaith sy’n angenrheidiol ar gyfer cadwraeth yr adeilad a’i gynnal a’i gadw mewn cyflwr priodol, ac nid ar gyfer unrhyw waith i ddatblygu’r safle. Byddai hyn yn atal unrhyw werth datblygu sy’n perthyn i’r adeilad /y tir rhag cael ei ystyried fel rhan o’r asesiad digolledu.

532.Yn unol ag adran 210, y diffiniad o “datblygiad” sy’n gymwys i’r Ddeddf hon yw’r diffiniad yn adran 55 o Ddeddf Cynllunio 1990. Mae wedi ei eirio yn eang ac mae’n cynnwys unrhyw weithrediadau adeiladu neu weithrediadau eraill (gan gynnwys dymchwel ac ailadeiladu) ac unrhyw newid sylweddol yn y defnydd o dir.

533.Mae adran 141 yn caniatáu i unrhyw berson a chanddo fuddiant mewn adeilad rhestredig y mae cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol wedi ei wneud mewn perthynas ag ef wneud cais i lys ynadon am orchymyn i ddileu’r cyfarwyddyd. Byddai’r cais yn cael ei wneud ar y sail na chaniatawyd i’r adeilad fynd i gyflwr gwael yn fwriadol at ddiben cyfiawnhau ei ddymchwel a datblygu’r safle. Rhaid gwneud y gorchymyn o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y cafodd yr hysbysiad caffael yn orfodol ei gyflwyno. Gellir gwneud apêl i Lys y Goron yn erbyn penderfyniad y llys ynadon.

Adran 142 — Dod â hawliau dros dir a gaffaelwyd yn orfodol i ben

534.Mae adran 142(1) yn darparu bod yr holl hawliau tramwy preifat dros y tir a’r holl hawliau i gadw cyfarpar sydd wedi ei osod ar y tir yn dod i ben wrth i gaffaeliad gorfodol ar dir o dan adran 137 gael ei gwblhau. At hynny, mae’r awdurdod caffael yn cael hawlogaeth i unrhyw gyfarpar ar y tir, odano neu drosto.

535.Mae is-adran (2), fodd bynnag, yn gwneud eithriadau pwysig yn yr achosion hynny pan fo’r hawl neu’r cyfarpar:

a.

yn perthyn i ymgymerwr statudol,

b.

wedi ei roi neu ei osod at ddibenion rhwydwaith cod cyfathrebu electronig, neu

c.

wedi ei bennu mewn cyfarwyddyd a roddir gan yr awdurdod caffael.

536.Mae is-adran (3) yn darparu bod is-adran (1) hefyd yn ddarostyngedig i unrhyw gytundeb rhwng y partïon.

537.Mae is-adrannau (4) a (5) yn darparu bod gan berson sy’n dioddef colled drwy ddileu hawl neu drosglwyddo cyfarpar hawlogaeth i ddigollediad gan yr awdurdod caffael, a bennir yn unol â Deddf 1961.

Adran 143 — Rheoli, defnyddio a gwaredu adeilad a gaffaelir o dan y Bennod hon

538.Mae adran 143 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rheoli, defnyddio a gwaredu adeiladau a gaffaelir o dan y Bennod hon. Mae is-adran (1) yn gwneud darpariaeth ynghylch adeilad neu dir arall a gaffaelir gan awdurdod cynllunio o dan y Bennod hon — pa un ai drwy gytundeb neu drwy ei gaffael yn orfodol. Caiff yr awdurdod wneud unrhyw drefniadau ar gyfer rheoli, defnyddio neu waredu’r adeilad neu’r tir y mae’n ystyried eu bod yn briodol at ddiben diogelu’r adeilad neu’r tir. Mae is-adran (3) yn gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas ag adeilad neu dir a gaffaelir yn orfodol gan Weinidogion Cymru, ond mae’n caniatáu iddynt wneud “unrhyw drefniadau y maent yn ystyried eu bod yn briodol ar gyfer rheoli’r adeilad neu’r tir, gwarchodaeth ohono neu’r defnydd ohono” neu waredu neu ymdrin â’r adeilad neu’r tir mewn unrhyw ffordd arall.

539.Mae nifer o opsiynau ar gael i awdurdod sy’n caffael adeilad o dan y Bennod hon. O dan y trefniant symlaf, byddai’r awdurdod yn prynu’r adeilad, yn cyflawni’r atgyweiriadau gofynnol a naill ai yn defnyddio’r adeilad at ei ddibenion ei hun neu yn ei werthu i berchennog newydd. Fel arall, gallai’r awdurdod ei werthu heb ei atgyweirio, ar yr amod y byddai’n cael ei atgyweirio. Ar gyfer adeiladau mwy neu adeiladau mwy cymhleth, gallai’r awdurdod caffael sefydlu cytundeb cefn wrth gefn (“back-to-back”), gyda pherchnogaeth yr adeilad yn trosglwyddo o bosibl i ymddiriedolaeth diogelu adeilad neu gorff elusennol arall a sefydlir â’r nod penodol o sicrhau cadwraeth yr adeilad a gaffaelwyd.

Adran 144 — Gwaith brys i ddiogelu adeilad rhestredig

540.Mae is-adran 144(1) i (4) yn galluogi awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru i gyflawni gwaith y maent yn ystyried ei fod yn angenrheidiol ar frys ar gyfer diogelu adeiladau rhestredig. Gall hyn gynnwys gwaith i adeilad sy’n cael ei ddefnyddio at ddiben preswyl, ar yr amod nad yw’n ymyrryd yn afresymol â’r defnydd hwnnw. Gallai gwaith brys o’r fath gynnwys:

a.

gwaith cymharol fân i atal adeilad rhag dirywio a dileu’r angen am waith ar raddfa fwy yn nes ymlaen

b.

gwaith i gysgodi neu ategu adeilad dros dro i’w ddiogelu rhag y tywydd neu rhag cwympo

c.

gweithredoedd i atal fandaliaeth neu ddwyn.

541.Gwaith tymor byr yw gwaith brys yn aml, â’r nod o ganiatáu amser i ddatblygu cynlluniau cadwraeth hirdymor ar gyfer adeilad a chytuno arnynt.

542.Mae is-adrannau (5) a (6) yn darparu bod rhaid rhoi o leiaf 7 niwrnod o rybudd ysgrifenedig i bob perchennog ar yr adeilad rhestredig ac i bob meddiannydd (os yw unrhyw ran o’r adeilad yn cael ei ddefnyddio at ddiben preswyl) cyn i unrhyw waith brys gael ei gyflawni. Rhaid i’r rhybudd hwn gynnwys disgrifiad o’r gwaith y cynigir ei gyflawni.

543.Mae is-adran (7) yn pennu na chaiff y pwerau yn yr adran hon eu defnyddio i gyflawni gwaith brys ar: adeilad sydd hefyd yn heneb gofrestredig, yn adeilad crefyddol esempt (fel y’i diffinnir yn adran 156) neu’n adeilad rhestredig ar dir y Goron (fel y’i diffinnir yn adran 207).

Adran 145 — Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i berchennog dalu costau gwaith diogelu

544.Os aiff awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru i gostau wrth gyflawni gwaith brys i adeilad rhestredig, mae adran 145 yn caniatáu iddynt gyflwyno hysbysiad i unrhyw berchennog ar yr adeilad rhestredig sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog dalu costau’r gwaith.

545.Mae is-adran (2) yn gwneud darpariaeth benodol ar gyfer adennill costau ar gyfer gwariant parhaus mewn perthynas â gwaith sy’n mynd rhagddo i ategu neu gysgodi adeilad. Gallai fod angen gwariant o’r fath, er enghraifft, i dalu am logi sgaffaldiau a chodi dalennau i ddiogelu adeilad rhag y tywydd wrth i gynlluniau hirdymor gael eu cadarnhau.

546.O dan is-adran (3), caiff perchennog, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y mae hysbysiad costau yn cael ei gyflwyno, gwyno yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru:

a.

bod rhywfaint neu’r cyfan o’r gwaith yn ddiangen ar gyfer diogelu’r adeilad rhestredig;

Byddai’n rhaid i’r perchennog allu dangos bod y gwaith a gyflawnwyd y tu hwnt i’r hyn yr oedd ei angen ar gyfer ategu neu gysgodi’r adeilad rhestredig dros dro neu ar gyfer ei ddiogelu ar unwaith, er enghraifft ei fod yn cynnwys gwaith rhagofalol neu ataliol nad oedd wir ei angen.

b.

bod trefniadau i ategu neu gysgodi dros dro wedi parhau am gyfnod afresymol o amser;

Er enghraifft, efallai y byddai perchennog yn cwyno am wariant parhaus ar gyfer sgaffaldiau a deunyddiau eraill ar gyfer gwaith ategu a chysgodi dros dro pe na bai ateb mwy parhaol ar gyfer adeilad rhestredig yn dilyn gwaith brys.

c.

bod y swm a bennwyd i’w adennill yn afresymol; neu

d.

y byddai adennill y swm yn achosi caledi i’r perchennog.

547.Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod sail dda i’r gŵyn, caniateir iddynt, o dan is-adran (5), leihau’r swm y caniateir ei adennill, neu hyd yn oed benderfynu na chaniateir adennill unrhyw swm o gwbl, os oedd yr holl waith yn ddiangen.

548.O dan is-adran (6), caniateir i berchennog neu awdurdod lleol y cyflwynir hysbysiad o benderfyniad Gweinidogion Cymru iddo wneud apêl i lys sirol o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y mae’r hysbysiad yn cael ei gyflwyno.

Adran 146 — Darpariaeth bellach ynghylch adennill costau gwaith diogelu

549.Mae adran 146 yn gwneud darpariaeth ychwanegol ynghylch adennill costau, yr eir iddynt wrth gyflawni gwaith brys, gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Yn ymarferol, gall y broses o adennill costau ddigwydd dros gyfnod estynedig, felly mae is-adran (1) yn darparu bod unrhyw symiau adenilladwy yn dwyn llog ar gyfradd a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. Caiff llog ei gymhwyso o’r amser y mae’r hysbysiad sy’n ei wneud yn ofynnol i’r perchennog dalu costau’r gwaith brys o dan adran 145(1) yn dod yn weithredol (is-adran (7)) hyd nes y caiff yr holl symiau sy’n ddyledus eu hadennill gan yr awdurdod perthnasol.

550.O dan is-adran (2), mae’r costau ac unrhyw log yn adenilladwy fel dyled. Felly gallai awdurdod lleol neu, yn ôl y digwydd, Weinidogion Cymru, ddefnyddio pob dull sydd ar gael ar gyfer adennill dyled, gan gynnwys gwneud hawliad yn y llys sirol.

551.At hynny, o’r amser y mae’r hysbysiad o dan adran 145(1) yn dod yn weithredol, mae’r costau ac unrhyw log a gronnwyd yn dod yn bridiant ar y tir y mae’r adeilad rhestredig arno. Mae hwn yn bridiant cyfreithiol — dyled sydd wedi’i sicrhau gan yr eiddo — ac yn bridiant tir lleol a bydd yn parhau yn ei le hyd nes y caiff y costau a’r llog eu hadennill yn gyfan gwbl (is-adrannau (3) a (4)).

552.At ddibenion gorfodi’r pridiant, mae is-adran (5) yn rhoi i’r awdurdod sy’n adennill yr un pwerau a rhwymedïau â morgeisai drwy weithred o dan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (p. 20) (“Deddf 1925”). Caiff yr awdurdod benodi derbynnydd os oes un mis neu ragor wedi mynd heibio ers i’r pridiant gymryd effaith. Mae gan yr awdurdod sy’n adennill bwerau hefyd i lesio neu werthu tir er mwyn adennill symiau, ond prin y mae mesurau o’r fath yn debygol o gael eu defnyddio.

Adran 147 — Camau ar gyfer diogelu adeiladau rhestredig sydd mewn cyflwr gwael

553.Mae adran 147 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i roi pwerau i awdurdodau lleol neu Weinidogion Cymru i gymryd camau ar gyfer diogelu’n briodol adeiladau rhestredig sydd wedi mynd i gyflwr gwael. Mae is-adran (2) yn caniatáu i reoliadau wneud darpariaeth benodol ar gyfer “hysbysiadau diogelu” sy’n ei gwneud yn ofynnol i berchnogion ymgymryd â gwaith penodedig i sicrhau bod adeiladau o’r fath yn cael eu diogelu’n briodol. Caiff y rheoliadau hefyd wneud darpariaeth ar gyfer apelau yn erbyn hysbysiadau diogelu ac ar gyfer troseddau am fethu â chydymffurfio â’r hysbysiadau.

554.Mae paragraff 186 o Atodlen 13 (mân ddiwygiadau, diwygiadau canlyniadol a diddymiadau) yn diwygio Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (p. 13) (“Deddf Gorfodi Rheoleiddiol 2008”) fel y gellir gosod sancsiynau sifil mewn perthynas â throseddau mewn rheoliadau a wneir o dan yr adran hon. Y math o sancsiynau sifil y caniateir eu gosod yw’r rheini a welir yn Rhan 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol 2008, er enghraifft, cosbau ariannol penodedig neu hysbysiadau sy’n gosod gofynion i gymryd camau penodedig.

Adran 148 — Grant neu fenthyciad gan awdurdod lleol ar gyfer atgyweirio neu gynnal a chadw adeiladAdran 149 — Adennill grant a roddir gan awdurdod lleol

555.Mae adran 148 yn galluogi cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, awdurdod Parc Cenedlaethol neu fwrdd cydgynllunio (y cyfeirir atynt ar y cyd yn yr adran hon fel awdurdodau lleol perthnasol) i gynnig cymorth ariannol at wariant yr aed iddo neu a gynllunnir wrth atgyweirio neu gynnal a chadw adeiladau hanesyddol a gerddi cysylltiedig. O dan y diffiniad yn adran 210, caiff adeilad at ddibenion adran 148 gynnwys cyfarpar neu beiriannau sy’n ffurfio rhan o’r strwythur.

556.O dan is-adran (1), caiff awdurdod lleol perthnasol gyfrannu tuag at unrhyw wariant ar gyfer atgyweirio neu gynnal a chadw adeilad rhestredig yn ardal ei awdurdod neu’n agos ati neu ar gyfer atgyweirio neu gynnal a chadw adeilad yn ardal ei awdurdod nad yw’n rhestredig ond y mae’r awdurdod yn ystyried ei fod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae is-adran (2) yn caniatáu ymhellach i awdurdod estyn unrhyw gyllid i gynnwys cyfraniad at gynnal a chadw gardd sy’n gysylltiedig ag adeilad hanesyddol.

557.Mae is-adran (3) yn caniatáu i gyfraniad o dan yr adran hon gael ei wneud drwy grant neu fenthyciad. Mae is-adrannau (4) a (6) yn darparu y caiff awdurdod lleol perthnasol roi benthyciadau a grantiau yn ddarostyngedig i amodau. Er enghraifft, gallai’r awdurdod osod amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r derbynnydd ddarparu rhyw fath o fynediad i’r cyhoedd i’r adeilad a/neu ardd gysylltiedig.

558.Mae adran 149 yn darparu y caiff awdurdod lleol perthnasol adennill swm y grant, neu unrhyw ran ohono (is-adran (2)), os na chydymffurfir ag amod grant a roddwyd gan yr awdurdod o dan adran 148.

559.Mae is-adrannau (3) i (5) yn darparu y caiff awdurdod lleol perthnasol adennill y grant cyfan neu ran ohono, os bydd derbynnydd y grant yn gwaredu’r cyfan neu ran o’r buddiant sydd ganddo yn yr eiddo o fewn 3 blynedd i’r diwrnod y rhoddwyd y grant.

560.Gellid defnyddio’r pwerau adennill hyn, er enghraifft, pe bai gwerth adeilad yn cynyddu o ganlyniad i waith a gyllidir gan y grant, a bod derbynnydd y grant wedyn yn gwerthu’r adeilad er mwyn elwa ar hynny.

Adran 150 — Grant gan Weinidogion Cymru ar gyfer atgyweirio neu gynnal a chadw adeilad, gardd etc.

561.Mae adran 150(1) yn galluogi Gweinidogion Cymru i roi grantiau tuag at wariant yr aed iddo, neu yr eir iddo, wrth:

a.

atgyweirio neu gynnal a chadw adeilad y maent yn ystyried ei fod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig;

Er y caniateir i’r adeilad gael ei restru, nid yw’n ofynnol. Nid oes ond angen i Weinidogion Cymru gael eu bodloni bod yr adeilad o “diddordeb pensaernïol neu hanesyddol”.

b.

cynnal a chadw unrhyw dir sy’n gysylltiedig â’r adeilad;

Bydd hyn yn caniatáu i grantiau helpu i gynnal a chadw tir sy’n gysylltiedig ag adeilad at ddibenion megis mynediad neu ddarparu amwynderau.

c.

atgyweirio neu gynnal a chadw gwrthrychau a gedwir fel arfer mewn adeilad o’r fath; neu

Byddai hyn yn caniatáu ariannu cadwraeth y gwrthrychau a ganfyddir mewn adeilad hanesyddol. Gallai’r rhain amrywio o ffitiadau a dodrefn i addurniadau a darnau o waith celf.

d.

cynnal a chadw gardd neu dir arall y maent yn ystyried ei bod neu ei fod o ddiddordeb hanesyddol arbennig.

O’i gyferbynnu â pharagraff (b), mae’r gwariant yn y paragraff hwn yn gyfyngedig i gynnal a chadw gardd neu dir arall yr ystyrir ei bod neu ei fod o ddiddordeb hanesyddol arbennig. Gallai hyn gynnwys tir parc, math arall o dirwedd wedi ei ddylunio neu, efallai, dirwedd ddiwydiannol greiriol sy’n darparu’r lleoliad ar gyfer adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

562.Mae’r darpariaethau sy’n weddill yn yr adran yn gymwys pan fo’r grant o dan is-adran (1) yn cael ei roi ar delerau sy’n darparu y gellir ei adennill. Er mwyn gallu ei adennill rhaid i Weinidogion Cymru, naill ai cyn neu wrth roi’r grant, roi hysbysiad ysgrifenedig i dderbynnydd y grant. Rhaid iddynt hefyd bennu “cyfnod adennill” heb fod yn fwy na deng mlynedd ar ôl y diwrnod y rhoddir y grant, y gellir adennill y grant ynddo o dan is-adrannau (4) i (6) (is-adran (2)).

563.Mae is-adran (3) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru adennill y grant cyfan, neu unrhyw ran ohono os yw’r derbynnydd yn methu â chydymffurfio ag unrhyw amod a osodir ar y grant.

564.Mae is-adrannau (4) i (6) yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru i adennill grant cyfan neu ran ohono pe bai’r cyfan neu ran o’r buddiant yr oedd derbynnydd y grant yn ei ddal yn yr adeilad, y tir neu’r gwrthrychau y mae’r grant yn ymwneud ag ef neu hwy ar y diwrnod y rhoddwyd y grant yn cael ei waredu yn ystod y cyfnod adennill. Caniateir gwneud y gwarediad drwy werthu, drwy gyfnewid neu drwy les am gyfnod o 21 o flynyddoedd o leiaf.

565.Gellid defnyddio’r pwerau adennill hyn pe bai gwerth adeilad, er enghraifft, yn cynyddu o ganlyniad i waith a wnaed drwy gymorth y grant, a bod derbynnydd y grant yn gwerthu’r adeilad wedi hynny er mwyn elwa ar hynny. Mae’r pwerau hyn yn cyfateb i’r rheini a ddarperir ar gyfer awdurdodau lleol yn adran 149(3)–(5)

Adran 151 — Gweinidogion Cymru yn derbyn gwaddol ar gyfer cynnal adeilad

566.Mae adran 151 yn gwneud darpariaeth ynghylch Gweinidogion Cymru yn derbyn rhodd eiddo ar ymddiriedolaeth waddol er mwyn defnyddio’r incwm a ddaw o’r eiddo ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw adeilad y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol arbennig. Rhaid i’r adeilad fod yn adeilad y mae buddiant gan Weinidogion Cymru ynddo, neu y bydd buddiant ganddynt ynddo, neu sydd o dan eu rheolaeth neu’n cael ei reoli ganddynt neu a fydd o dan eu rheolaeth neu’n cael ei reoli ganddynt yn fuan. Yn benodol, mae’r adran yn gwneud darpariaeth ynghylch dilysrwydd y rhodd a’r ymddiriedolaeth, pwerau Gweinidogion Cymru, a’r canlyniadau os yw Gweinidogion Cymru yn peidio â bod â buddiant yn yr adeilad y mae’r ymddiriedolaeth yn ymwneud ag ef, neu os nad yw’r adeilad o dan eu rheolaeth neu’n cael ei reoli ganddynt.

Pennod 6 — Cyffredinol

567.Mae Pennod 6 yn darparu pwerau i bersonau sydd wedi eu hawdurdodi gan awdurdodau lleol a chan Weinidogion Cymru i fynd ar dir. Mae adrannau 152 i 155 yn nodi’r pwerau cyffredinol i fynd ar dir, pryd y gellir arfer pŵer mynediad heb warant ac o dan ba amgylchiadau y byddai’n ofynnol cael gwarant.

568.Mae’r Bennod hefyd yn cynnwys darpariaeth sy’n ymwneud ag adeiladau crefyddol esempt (adran 156). Mae hyn yn adlewyrchu anghenion penodol adeiladau rhestredig sy’n cael eu defnyddio at ddibenion crefyddol ar hyn o bryd yng Nghymru.

569.Yn olaf, mae’r Bennod yn dehongli termau penodol a ddefnyddir yn Rhan 3 (adran 157).

Adran 152 — Pwerau i fynd ar dir

570.Mae adran 152 yn nodi’r gwahanol amgylchiadau pan gaiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru neu gan awdurdod cynllunio neu awdurdod lleol arall fynd ar dir mewn cysylltiad â Rhan 3 (adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig) a Rhan 4 (ardaloedd cadwraeth) o’r Ddeddf.

571.Mae enghreifftiau o bersonau a awdurdodir gan Weinidogion Cymru yn cynnwys swyddogion Cadw sy’n ymweld ag adeiladau i’w hasesu ar gyfer dynodi neu fonitro eu cyflwr. Er enghraifft, gallai awdurdodau cynllunio awdurdodi swyddogion cynllunio, cadwraeth neu orfodi i fynd ar dir mewn cysylltiad â’u dyletswyddau.

572.Mae adran 152(7) yn caniatáu i swyddog o Swyddfa Brisio Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi neu berson sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru i fynd ar dir i gynnal arolwg ohono neu i amcangyfrif gwerth y tir mewn perthynas â hawliad am ddigollediad.

Adran 153 — Arfer pŵer i fynd ar dir heb warant

573.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch arfer y pŵer i fynd ar dir o dan adran 152 heb warant. Mae is-adran (1) yn darparu y caniateir i’r pŵer gael ei arfer ar unrhyw adeg resymol.

574.Mae is-adran (2) yn darparu na chaiff person fynd ar dir sydd wedi ei feddiannu wrth arfer y pŵer o dan adran 152 oni bai bod o leiaf 24 awr o rybudd wedi ei roi i bob meddiannydd ar y tir. Mae is-adran (3) yn gwneud eithriad pan fo’r pŵer i fynd ar dir at ddiben penderfynu pa un a ddylid cyflwyno hysbysiad stop dros dro ai peidio, arddangos hysbysiad stop dros dro neu benderfynu pa un a gydymffurfir â hysbysiad stop dros dro ai peidio (o dan adran 152(4)). Dim ond pan fydd awdurdod cynllunio yn ystyried y dylid rhoi terfyn ar waith anawdurdodedig ar adeilad rhestredig ar unwaith y cyflwynir hysbysiad stop dros dro, ac mae dileu’r gofyniad am 24 awr o rybudd yn sicrhau y gellir ymdrin â phob agwedd ar hysbysiad stop dros dro gyda chyn lleied o oedi â phosibl er mwyn cyfyngu ar unrhyw niwed i gymeriad ac arwyddocâd yr adeilad.

575.Mae is-adran (6) yn darparu y byddai angen i’r person awdurdodedig gael caniatâd y Gweinidog priodol cyn cyflawni unrhyw waith, os bwriedir arfer y pŵer mynediad er mwyn mynd ar dir sy’n perthyn i ymgymerwr statudol (fel y’i diffinnir yn adran 210) a bod yr ymgymerwr statudol yn gwrthwynebugwaith y cynigir ei gyflawni am y bydd yn rhwystro ei allu i gyflawni ei ymgymeriadau. Diffinnir “Gweinidog priodol” drwy gyfeirio at y diffiniad o “appropriate Minister” yn adran 265 o Ddeddf Cynllunio 1990 a gall fod yn Weinidogion Cymru neu Ysgrifennydd Gwladol penodol, yn dibynnu ar yr ymgymerwr.

576.Mae is-adran (7) yn darparu na chaiff person awdurdodedig fynd ar dir y Goron wrth arfer y pŵer mynediad o dan yr adran hon heb ganiatâd awdurdod priodol y Goron, neu berson sydd â hawlogaeth i roi caniatâd. Diffinnir “tir y Goron” yn adran 207(2) a diffinnir “awdurdod priodol y Goron” yn adran 207(6).

Adran 154 — Gwarant i fynd ar dir

577.Mae adran 154 yn nodi’r amgylchiadau pan gaiff ynad heddwch ddyroddi gwarant sy’n rhoi pŵer i fynd ar dir i berson awdurdodedig at ddiben a grybwyllir yn adran 152. Ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, rhaid i’r ynad heddwch fod wedi ei fodloni bod sail resymol dros fynd ar dir ac:

a.

y gwrthodwyd mynediad i’r tir,

b.

y disgwylir yn rhesymol i’r mynediad gael ei wrthod, neu

c.

bod yr angen i fynd ar dir yn un brys.

Er enghraifft, gallai fod angen i awdurdod cynllunio gyflawni gwaith i ddiogelu adeilad sydd mewn perygl o gwympo.

578.Gall y warant roi pwerau mynediad i unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru neu awdurdod cynllunio o dan adran 152 i fynd ar dir at ddiben penodol, ond am un tro yn unig, ac os nad yw’n fater o frys, dim ond ar amser rhesymol. Dim ond am un mis o ddyddiad ei dyroddi y bydd gwarant o dan yr adran hon yn cael effaith.

Adran 156 — Adeiladau crefyddol esempt

579.Mae adran 156 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ddynodi adeilad crefyddol a ddefnyddir at ddibenion crefyddol yn “adeilad crefyddol esempt”. Effaith dynodi adeilad yn “adeilad crefyddol esempt” yw nad yw darpariaethau canlynol o Ran 3 o’r Ddeddf hon yn gymwys mewn perthynas â’r adeilad:

a.

adrannau 83 ac 84, sy’n galluogi adeilad i gael ei restru dros dro

b.

adran 88, sy’n ei gwneud yn ofynnol i waith sy’n effeithio ar adeilad rhestredig gael ei awdurdodi

c.

adran 118, sy’n ei gwneud yn drosedd difrodi adeilad rhestredig yn fwriadol

d.

adran 137, sy’n galluogi awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru i gaffael yn orfodol adeilad rhestredig y mae angen ei atgyweirio

e.

adran 144, sy’n galluogi’r awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru i gyflawni gwaith brys sy’n angenrheidiol ar gyfer diogelu adeilad rhestredig.

580.Ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn, mae tua 2,000 o adeiladau crefyddol wedi cael eu rhestru yng Nghymru o dan y darpariaethau a nodir yn adran 76, er nad yw’r esemptiad yn berthnasol i bob un ohonynt. Fodd bynnag, pan fo’r esemptiad yn berthnasol, mae’r darpariaethau sy’n ymwneud ag esemptiad crefyddol yn adlewyrchu anghenion penodol adeiladau rhestredig sy’n cael eu defnyddio fel mannau addoli, ond maent hefyd yn cydnabod yr angen i gynnal lefel briodol o ddiogelu sydd o leiaf yn gyfartal â’r hyn a roddir i adeiladau anghrefyddol.

581.Mae is-adran (3)(a) yn darparu y caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddynodi adeiladau penodol neu adeiladau o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau (a chaniateir pennu disgrifiad o adeiladau drwy gyfeirio at ffydd grefyddol neu enwad crefyddol, defnydd a wneir o’r adeiladau, neu unrhyw amgylchiad arall).

582.Pan fo enwadau crefyddol a grwpiau ffydd yng Nghymru yn gallu dangos eu bod wedi sefydlu, neu y byddant yn sefydlu, prosesau cadwraeth digon cadarn a thryloyw ar gyfer rheoli newidiadau sy’n effeithio ar adeiladau crefyddol rhestredig, gall fod yn bosibl dynodi adeiladau penodol a ddefnyddir gan yr enwadau a’r grwpiau ffydd hynny at ddibenion crefyddol yn adeiladau esempt. Caiff unrhyw enwad neu grŵp ffydd gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru os yw am gael ei ystyried ar gyfer esemptiad o’r fath.

583.Ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn, mae’r enwadau a’r grwpiau ffydd a ganlyn wedi gallu dangos hyn er boddhad Gweinidogion Cymru:

a.

Undeb Bedyddwyr Cymru ac Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr

b.

yr Eglwys yng Nghymru

c.

Eglwys Loegr

d.

yr Eglwys Fethodistaidd

e.

yr Eglwys Gatholig.

584.Mae is-adran (3)(b) yn darparu y caiff y rheoliadau ddynodi adeilad crefyddol cyfan neu ran ohono yn esempt (felly caiff y esemptiad fod yn gymwys i rai rhannau o’r adeilad ond ddim i rannau eraill ohono).

585.Mae is-adran (3)(c) yn darparu y caiff y rheoliadau bennu mai dim ond mathau penodol o waith sy’n esempt rhag y gofyniad i gael cydsyniad adeilad rhestredig. Caiff y rheoliadau bennu natur y gwaith ei hun neu bennu gwaith drwy gyfeirio at y person sy’n cyflawni’r gwaith. Er enghraifft, gallai’r rheoliadau bennu na fydd unrhyw waith a gyflawnir gan drydydd partïon yn gymwys ar gyfer yr esemptiad. Yn y ffordd hon, gallai fod angen i ddarparwr gwasanaethau sy’n codi mast telathrebu ar dŵr eglwys gael awdurdodiad gan yr awdurdod cynllunio perthnasol drwy gydsyniad adeilad rhestredig. Byddai angen i unrhyw newidiadau y tu allan i gwmpas yr esemptiad gael eu hawdurdodi drwy’r system cydsyniad adeilad rhestredig arferol (adran 89).

586.Mae adran 156(2) yn ei gwneud yn glir, at ddibenion yr esemptiad rhag gwneud cydsyniad adeilad rhestredig yn ofynnol, nad yw’r ffaith nad yw adeilad yn cael ei ddefnyddio tra bo gwaith yn cael ei gyflawni (e.e. yn ystod gwaith cadwraeth mawr) yn atal yr adeilad rhag cael ei ystyried yn adeilad “a ddefnyddir at ddibenion crefyddol” cyn belled ag y byddai’n cael ei ddefnyddio at y dibenion hynny oni bai am y gwaith hwnnw.

587.Mae is-adran (4)(a) yn darparu bod cyfeiriadau yn yr adran hon at adeilad crefyddol yn cynnwys unrhyw wrthrych neu strwythur artiffisial sy’n sownd wrth yr adeilad, neu sydd o fewn cwrtil yr adeilad. Mae hyn yn golygu y gallai rhai strwythurau nad ydynt wedi eu rhestru yn eu rhinwedd eu hunain ddod o fewn cwmpas yr esemptiad crefyddol ar yr amod eu bod o fewn cwrtil yr adeilad rhestredig. Gallai’r rhain gynnwys pyrth mynwentydd, waliau terfyn, cofebion, festrïoedd ac ysgoldai. Fodd bynnag, os oes heneb gofrestredig o fewn cwrtil adeilad crefyddol esempt, bydd yn ofynnol cael cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer unrhyw waith ar yr heneb honno.

588.O dan is-adran (4)(b), nid ystyrir bod adeiladau sy’n cael eu defnyddio yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel preswylfeydd gan weinidogion crefydd, yn adeiladau crefyddol at ddibenion yr adran hon. Felly nid yw’r esemptiad yn berthnasol i waith i’r adeiladau hyn. Pan fo adeilad preswyl yn gysylltiedig â man addoli rhestredig (er enghraifft, tŷ offeiriad sy’n gysylltiedig ag eglwys Gatholig, neu dŷ gweinidog sy’n gysylltiedig â chapel), bydd angen cael cydsyniad adeilad rhestredig gan yr awdurdod cynllunio lleol ar gyfer gwaith i’r adeilad preswyl.

589.Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi canllawiau arferion gorau anstatudol sy’n cael eu hadolygu’n gyson, er mwyn cefnogi’r gwaith o reoli adeiladau crefyddol rhestredig. Mae’r canllawiau ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn, Rheoli Newid i Fannau Addoli Rhestredig yng Nghymru: Esemptiad Eglwysig (2018), yn nodi’r egwyddorion arweiniol i’w hystyried wrth gynllunio newidiadau i adeiladau crefyddol rhestredig y mae’r rheoliadau y darperir ar eu cyfer gan y Bennod hon yn eu cwmpasu. Mae hefyd yn nodi cod ymarfer ar gyfer gweithdrefnau cydsyniad enwadol, sy’n egluro’r ffordd y dylid cynnwys yr egwyddorion hynny mewn prosesau rheolaethu a gwneud penderfyniadau.

Rhan 4 — Ardaloedd cadwraeth

590.Ardal gadwraeth yw ardal o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig y mae’n ddymunol diogelu neu wella ei chymeriad neu ei golwg. Mae dynodi ardaloedd cadwraeth yn adlewyrchu’r syniad bod yr amgylchedd hanesyddol yn fwy cyffredinol yn gallu haeddu cael eu cydnabod a’u gwarchod, yn ogystal ag adeiladau neu henebion penodol.

591.Mae Rhan 4 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio benderfynu pa rannau o’u hardaloedd sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig ac i’w dynodi yn ardaloedd cadwraeth. Mae hefyd yn gosod dyletswydd gyffredinol ar awdurdodau cynllunio ac eraill i roi sylw arbennig i ddymunoldeb diogelu neu wella cymeriad neu olwg ardal gadwraeth wrth arfer swyddogaethau cynllunio. Yn ogystal, mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer awdurdodi a rheolaethu dymchwel mewn ardaloedd cadwraeth, gwaith brys i ddiogelu adeiladau penodol mewn ardaloedd cadwraeth, a rhoi grantiau sy’n ymwneud â diogelu neu wella ardaloedd cadwraeth. Nid yw’r Ddeddf yn nodi pob ffordd y mae’r ardaloedd cadwraeth yn cael eu gwarchod. Er enghraifft, mae coed mewn ardaloedd cadwraeth yn mwynhau rhywfaint o warchodaeth statudol ac ymdrinnir â hynny yn Rhan 8 o Ddeddf Cynllunio 1990.

592.Caiff ffiniau ardaloedd cadwraeth eu diweddaru’n rheolaidd ar MapDataCymru, er bod pob awdurdod cynllunio yn cynnal rhestr gyfredol o ardaloedd cadwraeth yn ei ardal. Ym mis Ebrill 2023, roedd 528 o ardaloedd cadwraeth wedi eu rhestru ar MapDataCymru.

593.Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi canllawiau arferion gorau anstatudol, sy’n cael eu hadolygu’n barhaus, er mwyn cefnogi’r gwaith o reoli ardaloedd cadwraeth. Mae’r ddogfen ganllaw ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn, Rheoli Ardaloedd Cadwraeth yng Nghymru (2017), yn nodi’r canllawiau cyffredinol ar gyfer dynodi a rheoli ardaloedd cadwraeth.

594.Mae llawer o’r darpariaethau adeiladau rhestredig yn Rhan 3 o’r Ddeddf hefyd yn gymwys i ardaloedd cadwraeth yn y Rhan hon, ond gyda rhai newidiadau.

Adran 158 — Dynodi ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yn ardaloedd cadwraeth

595.Mae is-adrannau (1) a (2) o adran 158 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio benderfynu, o bryd i’w gilydd, ba rannau o’u hardaloedd y dylid eu dynodi’n ardaloedd cadwraeth ac a ddylid diwygio ardaloedd cadwraeth presennol. Os yw awdurdod cynllunio yn ystyried bod rhan o’i ardal yn ardal o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig y mae’n ddymunol diogelu neu wella ei chymeriad neu ei golwg ai peidio. Rhaid i’r awdurdod cynllunio ddynodi’r rhan honno yn ardal gadwraeth (neu estyn dynodiad presennol i gynnwys y rhan honno). Os bydd yr awdurdod yn ystyried nad yw rhan o’i ardal sydd wedi ei dynodi’n ardal gadwraeth yn bodloni’r meini prawf mwyach, rhaid iddo ganslo’r dynodiad neu amrywio’r dynodiad i eithrio’r rhan honno.

596.Yn ymarferol, caiff ardaloedd cadwraeth eu creu, eu hamrywio neu eu canslo yn dilyn proses arfarnu fanwl, er y gellir nodi ardaloedd cadwraeth posibl wrth gynnal gweithgarwch arall megis casglu tystiolaeth ar gyfer cynllun datblygu lleol neu wrth ddatblygu strategaeth dreftadaeth ehangach.

597.Mae is-adrannau (3) i (5) o adran 158 yn pennu rhai gofynion gweithdrefnol y mae rhaid i awdurdodau cynllunio eu dilyn ar ôl gwneud, amrywio neu ganslo dynodiadau.

598.O dan is-adran (6) o adran 158, mae dynodiad ardal gadwraeth yn bridiant tir lleol. Bydd pridiant tir lleol yn rhoi gwybod i brynwr bod cyfyngiadau ar y defnydd o’r tir o ganlyniad i’r ffaith ei fod mewn ardal gadwraeth.

Adran 159 — Dyletswydd i lunio a chyhoeddi cynigion ar gyfer diogelu a gwella ardaloedd cadwraeth

599.Mae is-adran (1) o adran 159 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau cynllunio i lunio a chyhoeddi cynigion ar gyfer diogelu a gwella eu hardaloedd cadwraeth o bryd i’w gilydd. Er nad yw hyn yn sefydlu unrhyw gyfnod penodedig ar gyfer llunio a chyhoeddi’r cynigion, mae Rheoli Ardaloedd Cadwraeth yng Nghymru (2017) yn nodi yr ystyrir mai’r arfer gorau yw cynnal adolygiadau ardaloedd cadwraeth bob pum i ddeng mlynedd.

600.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus gyflwyno cynigion o’r fath i gyfarfod cyhoeddus yn yr ardal gadwraeth (neu mor agos iddi ag sy’n ymarferol resymol). Gallai awdurdod ymgynghori ac ymgysylltu yn ehangach, ar ffurf arddangosfeydd, arolygon a gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol, er mwyn cael barn y gymuned am y cynigion.

Adran 160 — Arfer swyddogaethau cynllunio: dyletswydd gyffredinol sy’n ymwneud ag ardaloedd cadwraeth

601.Mae is-adran (1) o adran 160 yn gosod dyletswydd ar unrhyw berson, wrth arfer swyddogaeth gynllunio mewn perthynas ag adeilad neu dir arall mewn ardal gadwraeth, i roi sylw arbennig i ddymunoldeb diogelu neu wella cymeriad neu olwg yr ardal gadwraeth. Dyletswydd eang ei chwmpas yw hon am fod nifer o swyddogaethau cynllunio (gweler paragraffau 604–07 isod), a bod y ddyletswydd yn gymwys i unrhyw un sy’n eu harfer (cyhyd ag y bo’r person yn gwneud hynny mewn perthynas ag adeilad neu dir arall mewn ardal gadwraeth).

602.Yng nghyfraith achos (South Lakeland District Council v Secretary of State for the Environment and another [1992] 1 ALL ER 573), deallwyd “diogelu” fel peidio â gwneud niwed i gymeriad neu olwg presennol ardal gadwraeth. Bydd gwella yn golygu diwygio cymeriad neu olwg er gwell, er enghraifft trwy symud ymaith adeilad adfeiliedig sy’n ddolur i’r llygad ac sy’n niweidio cymeriad yr ardal gadwraeth.

603.Mae’r ddyletswydd o dan adran 160 yn gymwys i unrhyw berson, felly mae’n gymwys, er enghraifft, i Weinidogion Cymru ac arolygwyr cynllunio yn ogystal ag awdurdodau cynllunio.

604.Mae’r ddyletswydd yn gymwys pan fydd person yn arfer “swyddogaeth gynllunio”, a ddiffinnir gan is-adran (2) fel unrhyw swyddogaeth a roddir neu a osodir o dan neu yn rhinwedd y canlynol:

a.

Rhan 3, Rhan 4, Rhan 5 neu Ran 7 o’r Ddeddf hon fel y mae’n gymwys at ddibenion unrhyw un o’r Rhannau hynny;

b.

Deddf Cynllunio 1990; neu

c.

adran 70 neu 73 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) (sy’n ymwneud â chynlluniau, a elwir yn gynlluniau rheoli ystad, sy’n galluogi perchnogion ystadau i fynd i’r afael â phroblemau posibl â golwg ystad pan fyddant wedi colli eu pwerau fel landlordiaid ar ôl i denantiaid fynnu eu hawliau i gaffael rhydd-ddaliad eu heiddo).

605.Ymhlith y swyddogaethau cynllunio sy’n arbennig o berthnasol o dan y Ddeddf mae (nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr):

a.

rheolaethu gwaith sy’n effeithio ar adeiladau rhestredig (gweler Rhan 3, Pennod 2)

b.

gorfodi’r rheolaethau hynny (gweler Rhan 3, Pennod 4)

c.

caffael a diogelu adeiladau hanesyddol (gweler Rhan 3, Pennod 5)

d.

llunio cynigion ar gyfer diogelu a gwella ardaloedd cadwraeth (gweler adran 159)

e.

rheolaethu gwaith dymchwel mewn ardaloedd cadwraeth (gweler adran 162)

f.

cyflawni gwaith brys i ddiogelu adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth (gweler adran 164).

606.Ymhlith y swyddogaethau cynllunio sy’n arbennig o berthnasol o dan Ddeddf Cynllunio 1990 mae (nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr):

a.

llunio cynlluniau datblygu (gweler Rhan 2 o’r Ddeddf honno)

b.

rheolaethu gwaith datblygu (gweler Rhan 3 o’r Ddeddf honno)

c.

gorfodi’r rheolaethau hynny (gweler Rhan 7 o’r Ddeddf honno)

d.

rheolaethau sy’n ymwneud â choed, hysbysebion a thir y mae angen ei gynnal a’i gadw (gweler Rhan 8 o’r Ddeddf honno)

e.

arfer pwerau priffyrdd (gweler Rhan 10 o’r Ddeddf honno).

607.Byddai’r ddyletswydd, er enghraifft, yn gymwys pan fydd awdurdod cynllunio yn penderfynu pa un a ddylid rhoi caniatâd cynllunio i gyflawni datblygiad o dan adran 58(1) o Ddeddf Cynllunio 1990 ai peidio. Yn unol â hynny, wrth benderfynu pa un a ddylid rhoi’r caniatâd cynllunio ai peidio, rhaid i’r awdurdod roi sylw arbennig i ddymunoldeb diogelu neu wella cymeriad neu olwg yr ardal gadwraeth y mae’r adeilad ynddi.

608.Mae gan “adeilad” a “tir” yr ystyron a roddir gan adran 210 o’r Ddeddf.

Adran 161 — Gofyniad i ddymchweliad gael ei awdurdodiAtodlen 11 — Effaith adran 161 yn peidio â bod yn gymwys i adeilad

609.Mae adran 161 yn darparu na chaiff person gyflawni gwaith ar gyfer dymchwel adeilad mewn ardal gadwraeth (neu beri i waith o’r fath gael ei gyflawni) oni bai ei fod wedi ei awdurdodi gan gydsyniad ardal gadwraeth a roddwyd o dan adran 162.

610.Mae adran 161(2) yn eithrio gwahanol gategorïau o adeilad o’r gofyniad i gael cydsyniad ardal gadwraeth. Y categorïau sy’n cael eu heithrio yw:

a.

adeiladau sy’n henebion cofrestredig— ond mae’n ofynnol cael cydsyniad heneb gofrestredig i ddymchwel heneb gofrestredig (adran 11)

b.

adeiladau rhestredig— ond mae’n ofynnol cael cydsyniad adeilad rhestredig i ddymchwel adeilad rhestredig (adran 88)

c.

adeiladau o ddisgrifiadau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru

d.

adeiladau o ddisgrifiadau a bennir mewn cyfarwyddyd a roddir i awdurdod cynllunio unigol gan Weinidogion Cymru.

611.Gallai’r adeiladau a ddisgrifir gan Weinidogion Cymru yn is-adran (2)(c), er enghraifft, fod ar raddfa fach, megis mân adeiladau allanol neu siediau, felly byddai eu dymchwel yn annhebygol o gael effaith sylweddol ar gymeriad yr ardal gadwraeth. Fel arall, gallai Gweinidogion Cymru nodi ystod o adeiladau y mae eu dymchwel eisoes wedi ei awdurdodi neu’n ofynnol o dan ddeddfiadau neu weithdrefnau eraill. Enghreifftiau yn unig yw’r rhain a gallai adeiladau eraill gael eu disgrifio gan Weinidogion Cymru.

612.Mae is-adran (3) yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod cynllunio bod angen cydsyniad ardal gadwraeth ar gyfer adeilad yn ei ardal er bod yr adeilad yn dod o fewn disgrifiad o adeiladau a gafodd eu heithrio rhag bod angen cydsyniad ardal gadwraeth gan reoliadau a wneir o dan is-adran (2)(c). Gellid defnyddio cyfarwyddyd o’r fath pe bai ardal gadwraeth yn cynnwys nifer o adeiladau a oedd yn gwneud cyfraniad pwysig at ei chymeriad a fyddai fel arall yn cael eu heithrio rhag cydsyniad ardal gadwraeth gan reoliadau — er enghraifft, bynceri glo bach o haearn rhychog mewn cymuned ddiwydiannol.

613.Mae is-adran (4) yn eithrio gwaith brys penodol a wneir gan neu ar ran y Goron o’r gofyniad i gael cydsyniad ardal gadwraeth. Y gwaith sy’n cael ei eithrio yw gwaith a gyflawnir gan neu ar ran y Goron o dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraffau (a) i (d) o adran 117(4).

614.Mae adran 161(5) yn cyflwyno Atodlen 11 sy’n ymwneud â’r hyn sy’n digwydd os arferai cydsyniad cadwraeth fod yn ofynnol i ddymchwel adeilad, ond nad oes ei angen mwyach. Gallai hynny ddigwydd, er enghraifft, pe bai’r adeilad yn cael ei eithrio o gwmpas cydsyniad ardal gadwraeth gan reoliadau a wneir o dan is-adran (2)(c) neu gan gyfarwyddyd a wneir o dan is-adran (2)(d). Yn ei ffurf a’i effaith, mae Atodlen 11 yn adlewyrchu’n agos Atodlen 7 (diwedd gwarchodaeth interim neu restru dros dro ar gyfer adeiladau).

Adran 162 — Awdurdodi dymchweliad drwy gydsyniad ardal gadwraeth

615.O dan adran 162(1), mae gwaith ar gyfer dymchwel adeilad y mae adran 161 yn gymwys iddo wedi ei awdurdodi:

a.

yn gyntaf, os yw’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru yn rhoi cydsyniad ardal gadwraeth yn ysgrifenedig; a

b.

yn ail, os yw’r gwaith dymchwel yn cael ei gyflawni yn unol â thelerau’r cydsyniad (gan gynnwys unrhyw amodau sydd ynghlwm wrtho).

616.Yn gyffredinol, rhaid i geisiadau am gydsyniad ardal gadwraeth gael eu gwneud i awdurdodau cynllunio (o dan adran 90). Ond o dan adran 105, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i geisiadau gan awdurdodau cynllunio neu’r Goron am gydsyniad ardal gadwraeth gael eu gwneud i Weinidogion Cymru. Ac o dan adran 106 caiff awdurdod priodol y Goron (a ddiffinnir yn adran 207), o dan amgylchiadau penodol, wneud cais i Weinidogion Cymru (yn lle gwneud cais i awdurdod cynllunio) am gydsyniad. Mae adrannau 90, 105 a 106 yn Rhan 3 o’r Ddeddf sy’n ymwneud ag adeiladau rhestredig. Ond maent hefyd yn gymwys mewn perthynas â chydsyniad ardal gadwraeth, o ganlyniad i adran 163.

617.Disgwylir y ceir cydsyniad ardal gadwraeth cyn i unrhyw waith ddechrau. Fodd bynnag, o dan is-adran (2) caiff awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru roi cydsyniad ardal gadwraeth ar gyfer gwaith anawdurdodedig a gyflawnwyd eisoes. Mewn achos o’r fath, dim ond o adeg rhoi’r cydsyniad y mae’r gwaith wedi ei awdurdodi. Mae unrhyw atebolrwydd am drosedd sy’n deillio o’r gwaith anawdurdodedig o dan adran 117 (fel y’i cymhwysir gan adran 163) yn parhau a gallai fod yn sail ar gyfer achosion dilynol.

Adran 163 — Cymhwyso Rhan 3 i ardaloedd cadwraeth

618.Mae adran 163 yn cymhwyso, gydag addasiadau angenrheidiol, ddarpariaethau o Ran 3 sy’n ymwneud â rheolaethu gwaith, gorfodi a materion cysylltiedig ar gyfer adeiladau rhestredig i adeiladau y mae’n ofynnol cael cydsyniad ardal gadwraeth er mwyn eu dymchwel o dan adran 161.

619.Mae’r darpariaethau adeiladau rhestredig y mae adran 163 yn eu cymhwyso i ardaloedd cadwraeth yn dod o’r Penodau a ganlyn yn Rhan 3: Pennod 2 (rheolaethu gwaith), Pennod 4 (gorfodi) a Phennod 6 (cyffredinol — yn benodol, rhai o ddarpariaethau’r Bennod honno ynghylch pwerau mynediad).

620.Mae adran 163(1) yn nodi pa rai o ddarpariaethau’r Penodau hynny a gymhwysir, a pha rai na chymhwysir. Mae adran 163(2) yn nodi sut y mae’r darpariaethau a gymhwysir i’w darllen yng nghyd-destun yr ardaloedd cadwraeth. Mae’r addasiadau yn adran 163(2)(a) yn gyffredinol ac mae’r addasiadau yn adran 163(2)(b), (c) a (d) yn ymwneud â darpariaethau penodol.

621.Dyma ddwy enghraifft o’r addasiadau cyffredinol:

a.

mae cyfeiriadau at gydsyniad adeilad rhestredig i’w darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at gydsyniad ardal gadwraeth

b.

mae cyfeiriadau at gymeriad adeilad rhestredig i’w darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at gymeriad neu olwg yr ardal gadwraeth y mae’r adeilad ynddi.

622.Mae’r enghraifft a ganlyn yn dangos sut y mae un adran o Ran 3 (adran 117) i’w darllen yng nghyd-destun ardaloedd cadwraeth o ganlyniad i adran 163(1) a (2).

Adran 117 Y drosedd o gyflawni gwaith anawdurdodedig neu dorri amod mewn cydsyniad

(1)

Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person yn cyflawni gwaith, neu’n peri i waith gael ei gyflawni, mewn perthynas ag adeilad rhestredig adeilad y mae adran 161 yn gymwys iddo yn groes i adran 88 161.

(2)

Mae person hefyd yn cyflawni trosedd os yw’r person—

(a)

yn cyflawni gwaith, neu’n peri i waith gael ei gyflawni, mewn perthynas ag adeilad rhestredig adeilad y mae adran 161 yn gymwys iddo, a

(b)

yn methu â chydymffurfio ag amod y rhoddwyd cydsyniad adeilad rhestredig cydsyniad ardal gadwraeth yn ddarostyngedig iddo ar gyfer y gwaith.

(3)

Nid yw is-adran (2) yn cyfyngu ar yr hyn a all fod yn drosedd o dan is-adran (1).

(4)

Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon, mae’n amddiffyniad i’r person brofi—

(a)

bod gwaith yn angenrheidiol ar frys er lles diogelwch neu iechyd neu ar gyfer diogelu’r adeilad,

(b)

nad oedd yn ymarferol sicrhau diogelwch neu iechyd neu sicrhau bod yr adeilad yn cael ei ddiogelu drwy gyflawni gwaith atgyweirio neu waith i ategu neu gysgodi’r adeilad dros dro,

(c)

bod y gwaith a gyflawnwyd wedi ei gyfyngu i isafswm y mesurau a oedd yn angenrheidiol ar unwaith, a

(d)

i hysbysiad ysgrifenedig a oedd yn cyfiawnhau’n fanwl gyflawni’r gwaith gael ei roi i’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal, neu yr oedd yr adeilad yn ei ardal, cyn gynted ag yr oedd yn rhesymol ymarferol.

(5)

Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon mewn perthynas ag adeilad y rhoddir gwarchodaeth interim iddo—

(a)

mae’n amddiffyniad i’r person brofi nad oedd y person yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, bod y warchodaeth interim wedi ei rhoi, a

(b)

pan fo’r amddiffyniad yn cael ei godi gan berson y dylai hysbysiad fod wedi cael ei gyflwyno iddo o dan adran 78(1), yr erlyniad sydd i brofi i’r hysbysiad gael ei gyflwyno i’r person.

(6)

Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored—

(a)

ar euogfarn ddiannod, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cymwys o dan adran 224(1A)(b) o’r Cod Dedfrydu, neu’r ddau;

(b)

ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n yn hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.

(7)

Wrth benderfynu swm unrhyw ddirwy sydd i’w gosod ar berson a euogfarnwyd o drosedd o dan yr adran hon, rhaid i’r llys roi sylw yn benodol i unrhyw fudd ariannol sydd wedi cronni, neu yr ymddengys ei fod yn debygol o gronni, i’r person o ganlyniad i’r drosedd.

Enghraifft: Adran 117 fel y’i haddasir gan adran 163

Adran 164 — Gwaith brys i ddiogelu adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth

623.Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod diogelu adeilad anrhestredig yn bwysig er mwyn cynnal cymeriad neu olwg ardal gadwraeth, cânt wneud cyfarwyddyd i gymhwyso adran 144 (o Ran 3 o’r Ddeddf) i’r adeilad hwnnw (adran 164 (1 a 2)). Mae adran 144 yn galluogi awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru i gyflawni gwaith brys i ddiogelu adeiladau rhestredig.

624.Os yw Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd i gymhwyso adran 144 i adeilad anrhestredig mewn ardal gadwraeth, mae adran 164(3) yn darparu bod y darpariaethau cysylltiedig o ran sicrhau bod perchnogion adeiladau yn talu costau gwaith diogelu brys hefyd yn gymwys. Nodir y darpariaethau hynny (sy’n cynnwys galluogi perchnogion i herio adennill costau) yn adrannau 145 (pŵer i’w gwneud yn ofynnol i berchennog dalu costau gwaith diogelu) a 146 (darpariaeth bellach ynghylch adennill costau gwaith diogelu).

Adran 165 — Grant gan Weinidogion Cymru ar gyfer diogelu neu wella ardaloedd cadwraeth

625.O dan adran 165 caiff Gweinidogion Cymru roi grantiau i dalu gwariant y maent yn ystyried ei fod wedi gwneud, neu y bydd yn gwneud, cyfraniad sylweddol at ddiogelu neu wella cymeriad neu olwg ardal gadwraeth.

626.Mae is-adrannau (5) i (7) yn nodi pwerau Gweinidogion Cymru i adennill cyfanswm grant o’r fath, neu ran ohono, os rhoddwyd y grant mewn perthynas ag adeilad neu dir arall ond wedyn — yn ystod cyfnod adennill penodol — os gwaredir y buddiant cyfan neu ran o’r buddiant yr oedd derbynnydd y grant yn ei ddal neu yn ei dal yn yr adeilad neu’r tir ar y diwrnod y rhoddwyd y grant. Ystyr gwaredu yn y cyd-destun hwn yw gwerthu, cyfnewid neu roi ar les am gyfnod o 21 o flynyddoedd o leiaf. Mae’r cyfnod adennill yn dechrau ar y diwrnod y rhoddir y grant a rhaid iddo ddod i ben heb fod yn hwy na 10 mlynedd ar ôl y diwrnod hwnnw.

627.Gellid defnyddio’r pwerau adennill hyn, er enghraifft, pe bai derbynnydd y grant yn gwerthu eiddo er mwyn manteisio ar y gwerth uwch y byddai’n ei ennill o ganlyniad i waith a wnaed drwy gymorth y grant.

628.O dan is-adran (3), ni chaiff Gweinidogion Cymru adennill grantiau gan ddefnyddio’r pwerau a nodir uchod oni bai:

a.

bod telerau’r grant yn nodi y gellir ei adennill o dan adran 165, a

b.

bod y Gweinidogion, cyn neu wrth roi’r grant, yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i dderbynnydd y grant sy’n crynhoi effaith adran 165 ac yn pennu’r cyfnod adennill.

629.Fel y nodwyd yn is-adran (4), caiff Gweinidogion Cymru hefyd adennill grantiau os na chydymffurfir ag amodau a osodir wrth roi grantiau.

Adran 166 — Cytundebau ardaloedd cadwraeth

630.Caiff Gweinidogion Cymru a’r awdurdodau cynllunio ddefnyddio cytundebau ardaloedd cadwraeth i gydweithio wrth ddyrannu arian grant ar gyfer atgyweirio adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth. Mae adran 166(1) a (2) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru ac un neu ragor o awdurdodau cynllunio gytuno i roi swm o arian o’r neilltu am gyfnod penodedig o flynyddoedd at ddiben rhoi grantiau ar gyfer atgyweirio adeiladau sydd mewn ardal gadwraeth ac sy’n cael eu cynnwys mewn rhestr neu eu dangos ar fap a luniwyd at y diben hwn.

631.Yn ymarferol, bydd trafod cytundeb ardal gadwraeth fel arfer yn dechrau gydag awdurdod cynllunio yn llunio “cynllun cyflawni” sy’n pennu nodau, amcanion a thargedau’r cynllun. Os bydd Gweinidogion Cymru yn fodlon â’r cynllun cyflawni, bydd yn sail y cytundeb ardal gadwraeth. Os cytunir (fel sy’n digwydd fel arfer) mai’r awdurdod cynllunio fydd yn goruchwylio’r cytundeb, yr awdurdod cynllunio fydd yn gyfrifol am roi’r grantiau, gan gynnwys y rhan o’r grantiau a gyfrennir gan unrhyw sefydliadau partner eraill.

632.Caiff y corff a roddodd grant mewn perthynas â chytundeb ardal gadwraeth adennill y grant o dan amgylchiadau penodol. Os Gweinidogion Cymru yw’r corff hwnnw, bydd y pwerau a nodir yn adran 165 yn gymwys, ond gyda chyfnod adennill o 3 blynedd (gweler adran 66(5)). Os bydd awdurdod cynllunio wedi rhoi grant o dan adran 148 (yn Rhan 3), bydd y pwerau adennill a nodir yn adran 149 (hefyd yn Rhan 3) yn gymwys.

Rhan 5 — Darpariaeth atodol ynghylch adeiladau o ddiddordeb arbennig ac ardaloedd cadwraeth

633.Mae Rhan 5 yn cynnwys darpariaeth atodol sy’n ymwneud â Rhan 3 (adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig) a Rhan 4 (ardaloedd cadwraeth). Mae Pennod 1 yn cynnwys darpariaethau amrywiol sy’n ymwneud ag arfer swyddogaethau gan awdurdodau cynllunio ac awdurdodau lleol eraill. Mae Pennod 2 yn ymwneud ag achosion gerbron Gweinidogion Cymru. Mae adrannau 172 i 175 yn gwneud darpariaethau gweithdrefnol sy’n gymwys i apelau ac achosion eraill gerbron Gweinidogion Cymru, mae adrannau 176 i 179 yn ymwneud ag ymchwiliadau lleol ac mae adrannau 180 ac 181 yn ymwneud â chostau achosion. Mae’r adrannau ym Mhennod 3 yn ymdrin â dilysrwydd penderfyniadau a gorchmynion sy’n ymwneud ag adeiladau rhestredig ac ardaloedd cadwraeth (adran 182), yn darparu ar gyfer adolygiadau statudol gan yr Uchel Lys o orchmynion a phenderfyniadau (adrannau 183 a 184) ac yn caniatáu cywiro penderfyniadau Gweinidogion Cymru o dan amgylchiadau penodol (adrannau 185 i 187). Mae Pennod 4 yn dwyn ynghyd nifer o ddarpariaethau sy’n ymwneud â’r Goron ac yn darparu diffiniad o “awdurdod lleol” ar gyfer y Rhan hon.

Pennod 1 —Arfer swyddogaethau gan awdurdodau cynllunio ac awdurdodau lleol eraill
Adran 167 — Ffioedd a thaliadau am arfer swyddogaethau

634.Mae adran 167 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol i ffi gael ei thalu neu i dâl gael ei dalu i awdurdod cynllunio am gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, neu unrhyw beth sy’n gysylltiedig â’r swyddogaethau hynny, o dan Rannau 3, 4, 5 neu 7 o’r Ddeddf. Mae is-adran (2) yn cynnwys rhestr nad yw’n gynhwysfawr o’r materion y caniateir eu cynnwys mewn unrhyw reoliadau, er enghraifft, sut y mae’r swm y caniateir ei godi i’w gyfrifo, pwy sy’n atebol i dalu ffi a phryd y mae’r ffi yn daladwy.

635.Mae is-adran (3) yn darparu, pan fo’r rheoliadau yn caniatáu i awdurdod cynllunio gyfrifo swm y ffioedd neu’r taliadau, na chaiff yr incwm y mae’r awdurdod cynllunio yn ei gasglu o’r taliadau hynny fod yn uwch na chost cyflawni’r swyddogaethau.

Adran 168 — Trefniadau ar gyfer arfer swyddogaethau mewn perthynas â cheisiadau

636.Mae adran 168(1) yn cymhwyso adrannau 319ZA i 319ZD o Ddeddf Cynllunio 1990 i arfer swyddogaethau awdurdod cynllunio mewn perthynas â cheisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth, i gydsyniad gael ei amrywio neu i fanylion gael eu cymeradwyo fel sy’n ofynnol fel rhan o amod mewn cydsyniad. Mae adrannau 319ZA i 319ZD yn gwneud darpariaeth i swyddogaethau awdurdodau cynllunio gael eu cyflawni gan bwyllgorau, is-bwyllgorau neu swyddogion, ac yn pennu’r gofynion ar gyfer maint a chyfansoddiad y pwyllgorau.

637.Mae is-adran (2) yn atal heriau i benderfyniadau ar y sail y dylent fod wedi eu gwneud gan awdurdod cynllunio arall.

Adran 169 — Trefniadau ar gyfer cael cyngor arbenigol

638.Mae adran 169 yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo awdurdod cynllunio i gyflwyno, i’w cymeradwyo ganddynt, y trefniadau sydd gan yr awdurdod ar waith ar gyfer cael cyngor arbenigol mewn cysylltiad â rhai o’i swyddogaethau o dan y Ddeddf. Nodir y swyddogaethau perthnasol yn is-adran (6) a hwy yw’r rhai pan fo dealltwriaeth o arwyddocâd a diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig adeilad yn ofynnol er mwyn i’r awdurdod cynllunio gyflawni ei swyddogaethau yn effeithiol.

639.Er enghraifft, wrth ystyried cais am gydsyniad adeilad rhestredig, mae gan awdurdod cynllunio ddyletswydd i roi sylw arbennig i ddymunoldeb diogelu’r adeilad rhestredig, ei safle ac unrhyw nodweddion o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig sydd gan yr adeilad (adran 96(2)). Oherwydd natur arbenigol gwaith ar adeilad rhestredig, mae’n hanfodol bod cyngor arbenigol ar gael wrth benderfynu ceisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig.

640.Mae adran 169(3) yn darparu y gall Gweinidogion Cymru, os nad ydynt wedi eu bodloni â’r trefniadau y mae un awdurdod cynllunio (awdurdod A) yn cynnig eu gwneud ar gyfer cael cyngor arbenigol, gyfarwyddo awdurdod cynllunio arall (awdurdod B) i arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau perthnasol awdurdod A, neu i sicrhau bod swyddog o awdurdod B ar gael i roi cyngor arbenigol i awdurdod A.

Adran 171 — Cyfraniadau tuag at wariant gan awdurdodau lleol

641.Mae adran 171 yn darparu y caiff unrhyw awdurdod lleol neu unrhyw ymgymerwr statudol gyfrannu at wariant yr eir iddo gan awdurdod cynllunio neu awdurdod lleol arall wrth arfer, neu mewn cysylltiad ag arfer, swyddogaethau penodol o dan Ran 3 (gan gynnwys swyddogaethau pan gymhwysir y Rhan honno i ardal gadwraeth gan adran 163). Mae pŵer o’r fath yn debygol o gael ei arfer pan fydd awdurdod cynllunio yn arfer swyddogaeth mewn ffordd sydd o fudd i awdurdod arall neu ymgymerwr statudol arall, a allai gyfrannu at y costau yr eir iddynt i gydnabod y ffaith honno.

642.Mae is-adran (3) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud cyfraniad, neu ei gwneud yn ofynnol i gyfraniad gael ei wneud, at gost digollediad sy’n daladwy gan awdurdod cynllunio neu awdurdod lleol arall, o ganlyniad i unrhyw beth a wneir o dan Benodau 1 i 4 o Ran 3 — gan gynnwys unrhyw beth a wneir o dan Benodau 2 a 4 fel y’u cymhwysir i ardaloedd cadwraeth gan adran 163.

643.Yn y lle cyntaf, caiff Gweinidogion Cymru gyfrannu at gost digollediad os bydd y digollediad yn codi o ganlyniad i rywbeth a wneir yn gyfan gwbl neu’n rhannol er budd gwasanaeth a ddarperir gan Weinidogion Cymru. Caiff Gweinidogion Cymru hefyd ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol arall wneud cyfraniad rhesymol tuag at dalu digollediad os yw’r awdurdod hwnnw wedi elwa ar y camau a arweiniodd at y digollediad.

644.Mae is-adrannau (4) i (6) yn darparu ar gyfer digollediad pan ddaw cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig, neu ddarpariaeth mewn cytundeb o’r fath, i ben. Er y caiff mwy nag un awdurdod cynllunio fod yn barti i gytundeb, telir unrhyw ddigollediad gan yr awdurdod sy’n gwneud y gorchymyn terfynu o dan adran 115. Fodd bynnag, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo unrhyw un o’r awdurdodau eraill sy’n barti i gytundeb o’r fath i ad-dalu’r awdurdod a dalodd y digollediad, yn gyfan gwbl neu’n rhannol. Dim ond ar ôl ymgynghori â’r holl awdurdodau cynllunio sy’n bartïon i’r cytundeb, neu a oedd yn bartïon i’r cytundeb, y caiff Gweinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd o’r fath.

Pennod 2 — Achosion gerbron Gweinidogion Cymru
Adran 173 — Penderfynu apêl gan berson a benodirAtodlen 12 — Penderfynu apelau gan bersonau a benodir neu Weinidogion Cymru

645.Mae adran 173 yn darparu bod apelau o fath a bennir yn is-adran (2) i’w penderfynu gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru, yn hytrach na chan Weinidogion Cymru eu hunain. Fel arfer, bydd y person a benodir yn un o arolygwyr Penderfyniadau Cynllunio a’r Amgylchedd Cymru.

646.Caniateir i reoliadau gael eu gwneud o dan adran 173(3)(a) a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru benderfynu categorïau penodol o apelau yn lle person a benodir, er enghraifft rhai ar gyfer adeiladau rhestredig Gradd I. Gellir gwneud cyfarwyddydau sy’n benodol i achos hefyd o dan adran 173(3)(b) gan adfer apêl benodol i’w phenderfynu gan Weinidogion Cymru. Anaml y defnyddir pwerau cymaradwy a ddarperir gan Ddeddf Adeiladau Rhestredig 1990, ac fel arfer dim ond os yw’r apêl o ddiddordeb cenedlaethol pan allai’r canlyniad arwain at newid o sylwedd mewn polisi.

647.Mae Atodlen 12 yn gwneud darpariaethau ychwanegol ynghylch pwerau a dyletswyddau’r person a benodir a gweinyddu cyfarwyddydau o dan adran 173(3)(b).

648.Mae paragraff 2 o’r Atodlen yn darparu bod gan berson a benodir yr un pwerau a dyletswyddau mewn perthynas ag apêl o dan adran 100 (apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod cynllunio neu fethiant awdurdod cynllunio i wneud penderfyniad) neu 127 (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi) ag sydd gan Weinidogion Cymru pan fyddant yn penderfynu apelau o’r fath eu hunain.

649.Mae paragraff 3 yn ymwneud â’r trefniadau y caiff person a benodir eu gwneud i gynnal apêl. Mae is-baragraff (1) yn caniatáu i’r person a benodir gynnal ymchwiliad lleol neu wrandawiad mewn cysylltiad ag apêl pan fo achos o’r fath yn cael eu caniatáu gan benderfyniad o dan adran 174. O dan is-baragraff (2) caiff person a benodir benodi asesydd i gynghori ar faterion sy’n codi mewn ymchwiliad lleol neu wrandawiad neu mewn sylwadau ysgrifenedig sy’n gysylltiedig ag apêl. Gan fod adran 100 ac adran 127 yn caniatáu apêl ar y sail nad yw’r adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, gallai person a benodir, er enghraifft, ei chael yn ddefnyddiol galw ar asesydd â gwybodaeth benodol o ddosbarth o adeiladau neu hanes yr ardal am gyngor arbenigol ar faterion sy’n codi mewn cysylltiad â’r apêl.

650.Mae paragraff 4 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru ddirymu penodiad person a benodir ar unrhyw adeg cyn penderfynu apêl, a phenodi person arall i gynnal yr apêl. O dan yr amgylchiadau hyn, rhaid dechrau’r apêl o’r newydd, ond nid oes angen i Weinidogion Cymru roi cyfle i berson i gyflwyno sylwadau newydd, neu i addasu sylwadau neu tynnu’n ôl.

651.Mae paragraff 5 yn darparu’r weithdrefn sydd i’w dilyn pe bai Gweinidogion Cymru yn dyroddi cyfarwyddyd sy’n benodol i achos o dan 173(3)(b) fod apêl i’w phenderfynu ganddynt hwy yn hytrach na chan berson a benodir. Mae paragraff 6 yn darparu ymhellach y caiff Gweinidogion Cymru ddirymu cyfarwyddyd o’r fath ar unrhyw adeg cyn penderfynu apêl a phenodi person i benderfynu’r apêl.

652.Mae paragraff 7 yn cynnwys darpariaethau atodol. Mae paragraff 7(1) yn cadarnhau nad yw’n sail i gais i’r Uchel Lys o dan adran 183, nac i apêl i’r Uchel Lys o dan adran 184, y dylai apêl fod wedi cael ei phenderfynu gan Weinidogion Cymru yn hytrach na pherson a benodir, oni bai bod yr apelydd neu’r awdurdod cynllunio yn herio pŵer y person a benodir i benderfynu’r apêl cyn i’r penderfyniad ar yr apêl gael ei roi.

653.Mae paragraff 7(2) yn darparu, pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi aelod o staff Llywodraeth Cymru i gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas ag apêl, y dylid trin y swyddogaethau hynny fel swyddogaethau Llywodraeth Cymru at ddibenion Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3). Bydd hyn yn galluogi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ymchwilio i unrhyw honiadau o gamweinyddu a wneir mewn perthynas â chyflawni’r swyddogaethau hynny gan y person a benodir.

Adran 174 — Dewis o ymchwiliad, gwrandawiad neu weithdrefn ysgrifenedig

654.Mae adran 174 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru benderfynu, ym mhob achos, y weithdrefn i’w dilyn wrth ystyried yr achosion a nodir yn is-adran (7). Gall y weithdrefn fod yn ymchwiliad lleol, gwrandawiad, sylwadau ysgrifenedig, neu unrhyw gyfuniad o’r tri hynny. Bydd y dewis o weithdrefn yn cael ei phenderfynu’n bennaf gan y graddau y mae angen profi tystiolaeth drwy archwiliad llafar. Mae sylwadau ysgrifenedig yn addas pan ellir deall yn glir y materion sy’n codi o’r dogfennau a gyflwynir a thrwy archwiliad safle. Bydd gwrandawiad yn cael ei drefnu pan fo angen profi tystiolaeth drwy gwestiynu ond nid oes angen croesholi na rhoi tystiolaeth ar lw. Mae ymchwiliad yn debygol o fod yn angenrheidiol pan fo’r materion yn gymhleth a phan fo angen archwiliad fforensig ar y dystiolaeth drwy groesholi. Mae’n bosibl y bydd rhai materion mewn achosion yn cael eu hystyried ar sail cyflwyniadau ysgrifenedig, ond y bydd eraill yn cael eu harchwilio mewn gwrandawiad neu ymchwiliad.

655.Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu’r weithdrefn o fewn cyfnod a ragnodir mewn rheoliadau, ond cânt amrywio’r penderfyniad hwnnw gyda phenderfyniad pellach ar unrhyw adeg cyn i’r achosion ddod i ben. Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r apelydd neu’r ceisydd (fel y bo’n briodol, yn dibynnu ar natur yr achos) a’r awdurdod cynllunio am y weithdrefn a ddewiswyd a chyhoeddi’r meini prawf sydd i’w cymhwyso wrth benderfynu’r weithdrefn sydd i’w dilyn.

Adran 175 — Gofynion gweithdrefnol

656.Mae adran 175 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau yn nodi’r gweithdrefnau sydd i’w dilyn mewn cysylltiad ag unrhyw apêl, unrhyw gais neu unrhyw atgyfeiriad sydd i’w hystyried neu ei ystyried gan Weinidogion Cymru o dan Ran 3 a Rhan 4 o’r Ddeddf (pa un ai drwy ymchwiliad lleol, gwrandawiad neu sylwadau ysgrifenedig). Caiff y rheoliadau hefyd wneud darpariaeth i’r weithdrefn gael ei dilyn ar gyfer unrhyw ymchwiliad lleol neu unrhyw wrandawiad arall a gynhelir gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan o dan Rannau 3 neu 4 neu’r Rhan hon o’r Ddeddf. Er enghraifft, caiff y rheoliadau, felly, bennu gweithdrefnau ar gyfer gwrandawiadau neu ymchwiliadau a gynhelir gerbron Gweinidogion Cymru i gadarnhau gorchymyn sy’n addasu neu’n dirymu cydsyniad adeilad rhestredig (gweler Atodlen 8). Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Canllaw gweithdrefnol – Cymru (2017), ar gyfer apelau yn cynnwys apelau cydsyniad adeilad rhestredig ac ardal gadwraeth, apelau hysbysiad gorfodi adeilad rhestredig ac ardal gadwraeth, ac apelau ym maes cydsyniad adeilad rhestredig neu ardal gadwraeth a alwyd i mewn. Mae ar gael ar y dudalen “Arweiniad ar apeliadau a cheisiadau” ar wefan Llywodraeth Cymru.

Adran 176 — Pŵer Gweinidogion Cymru i gynnal ymchwiliad lleolAdran 177 — Pŵer person sy’n cynnal ymchwiliad i wneud tystiolaeth yn ofynnol

657.Mae adran 176 yn caniatáu i Weinidogion Cymru beri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal at ddibenion arfer unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau yn Rhannau 3 a 4 o’r Ddeddf, neu o dan y Rhan hon. Mae adran 177 yn caniatáu i’r person sy’n cynnal ymchwiliad wysio unrhyw berson i fod yn bresennol mewn ymchwiliad i roi tystiolaeth neu i gyflwyno unrhyw ddogfennau sy’n ymwneud â’r ymchwiliad.

658.Mae adran 177(5) i (7) yn sefydlu troseddau sy’n ymwneud â methu â chydymffurfio â gwŷs i ymchwiliad.

659.Mae person sy’n euog o drosedd ar euogfarn ddiannod yn agored i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r uchafswm cyfnod am droseddau diannod, neu i’r ddau (is-adran (6)).

Adran 178 — Mynediad at dystiolaeth mewn ymchwiliadAdran 179 — Talu cynrychiolydd a benodir pan fo mynediad i dystiolaeth wedi ei gyfyngu

660.Mewn ymchwiliad lleol a gynhelir o dan y Rhan hon, mae adran 178 yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl dystiolaeth lafar gael ei chlywed yn gyhoeddus, ac i’r holl dystiolaeth ddogfennol fod ar gael i’r cyhoedd edrych arni. Fodd bynnag, pan fo Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol o’r farn y byddai datgelu cyhoeddus yn debygol o ddatguddio gwybodaeth am ddiogelwch cenedlaethol neu ddiogelwch unrhyw fangre neu unrhyw eiddo ac y byddai yn erbyn y buddiant cenedlaethol, mae is-adran (2) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo nad yw tystiolaeth lafar i’w chlywed ac mai dim ond pobl benodol sydd i edrych ar ddogfennau.

661.Os yw cyfarwyddyd o’r fath yn cael ei ystyried, caiff y Cwnsler Cyffredinol, swyddog cyfraith a phrif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru, benodi person (“cynrychiolydd a benodir”) i gynrychioli buddiannau’r bobl hynny a fyddai’n cael eu hatal rhag clywed neu edrych ar y dystiolaeth.

662.Mae adran 179 yn darparu ar gyfer talu’r cynrychiolydd a benodir pa un a yw ymchwiliad yn digwydd ai peidio. Caiff Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo “person cyfrifol” sydd â diddordeb mewn diogelwch cenedlaethol neu ddiddordeb arall yn yr ymchwiliad i dalu treuliau’r cynrychiolydd a benodir. Er enghraifft, pe cynhelid ymchwiliad lleol mewn cysylltiad ag apêl sy’n ymwneud ag adeilad rhestredig mewn canolfan filwrol yng Nghymru, mae’n bosibl iawn y byddai rhesymau dros gyfyngu mynediad at wybodaeth er budd diogelwch cenedlaethol. Mewn achos o’r fath, gallai Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo’r Weinyddiaeth Amddiffyn, sef y person cyfrifol, i dalu costau’r cynrychiolydd a benodir.

Adran 180 — Talu costau Gweinidogion Cymru

663.Mae adran 180 yn caniatáu i Weinidogion Cymru adennill y costau y maent yn mynd iddynt mewn achos ar unrhyw gais, unrhyw apêl neu unrhyw atgyfeiriad a wneir i neu at Weinidogion Cymru o dan Ran 3 neu Ran 4 pa un a yw materion yn mynd rhagddynt drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiad neu ymchwiliad. Caniateir iddynt hefyd adennill y costau y maent yn mynd iddynt pan gynhelir ymchwiliad lleol neu wrandawiad at ddibenion gwneud unrhyw fath arall o benderfyniad o dan Rannau 3 a 4 neu’r Rhan hon, er enghraifft cyn cadarnhau hysbysiad prynu neu wneud gorchymyn sy’n addasu neu’n dirymu cydsyniad adeilad rhestredig.

664.Mae adran 180 yn caniatáu i Weinidogion Cymru adennill yr holl gostau gweinyddol y maent yn mynd iddynt, gan gynnwys costau staff cyffredinol a gorbenion. Mae hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n rhagnodi swm dyddiol safonol ar gyfer achos penodedig.

Adran 181 — Gorchmynion sy’n ymwneud â chostau partïon

665.Mae adran 181 yn caniatáu i Weinidogion Cymru orchymyn un parti i dalu costau parti arall, a all gynnwys costau mewn cysylltiad ag ymchwiliad neu wrandawiad nad yw’n digwydd.

666.Dim ond pan fydd parti wedi ymddwyn yn afresymol a bod yr ymddygiad afresymol wedi achosi i barti arall fynd i wariant diangen neu wariant a wastraffwyd y dyfernir costau.

667.Mae canllawiau ar ddyfarnu costau wedi eu cynnwys yn Llawlyfr Rheoli Datblygu, Adran 12 Atodiad: Dyfarnu Costau (2016) Llywodraeth Cymru.

Pennod 3 — Dilysrwydd penderfyniadau a’u cywiro
Adran 182 — Dilysrwydd penderfyniadau a gorchmynion penodol sy’n ymwneud ag adeiladauAdran 183 — Cais i’r Uchel Lys am adolygiad statudol o benderfyniad neu orchymyn

668.Mae adran 182 yn darparu mai dim ond drwy adolygiad statudol o dan y weithdrefn a nodir yn adran 183 y caniateir herio penderfyniadau a gorchmynion penodol, ac na chaniateir eu herio drwy unrhyw achos cyfreithiol arall. Nodir y penderfyniadau o dan sylw yn is-adran (2) a’r gorchmynion yn is-adran (3).

669.Mae adran 183 yn darparu y caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad neu orchymyn a restrir yn adran 182(2) neu (3) wneud cais i’r Uchel Lys ar gyfer yr adolygiad statudol o’r penderfyniad neu’r gorchymyn. Yn ddibynnol ar amgylchiadau’r achos unigol, caiff personau a dramgwyddir gynnwys y perchennog neu’r meddiannydd, y ceisydd neu’r apelydd, neu unrhyw parti arall sydd wedi cyflwyno gwrthwynebiadau neu sylwadau yn rhan o’r weithdrefn a ragflaenodd y penderfyniad neu’r gorchymyn sy’n cael ei herio. Caiff yr awdurdod sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r penderfyniad neu’r gorchymyn, fel y’i diffinnir yn is-adran (7), hefyd wneud cais am adolygiad statudol.

670.Ni chaniateir gwneud cais am adolygiad statudol ond gyda chaniatâd yr Uchel Lys. Caniateir herio penderfyniad neu orchymyn perthnasol ar y sail:

a.

nad yw o fewn y pwerau priodol; neu

b.

y methwyd â chydymffurfio â gofyniad gweithdrefnol a bod y methiant hwnnw wedi cael effaith andwyol sylweddol ar y ceisydd wedi hynny.

671.Gellir canfod bod penderfyniad y tu allan i’r pwerau priodol nid yn unig drwy gyfeirio at y pwerau a’r gofynion a nodir yn y Ddeddf, ond hefyd, er enghraifft, oherwydd bod y penderfynwr wedi ymddwyn yn afresymegol, neu wedi ystyried ystyriaethau amherthnasol, neu wedi methu ag ystyried ystyriaethau perthnasol.

672.Nid yw her o’r fath yn gyfle i adolygu rhinweddau’r penderfyniad neu’r gorchymyn sy’n cael ei herio.

Adran 184 — Apelio i’r Uchel Lys yn erbyn penderfyniad sy’n ymwneud â hysbysiad gorfodi

673.Mae adran 184 yn ei gwneud yn ofynnol i reolau llys ddarparu mecanwaith i bersonau sydd â buddiant (gweler is-adran (2)(b)) herio penderfyniadau a wneir gan Weinidogion Cymru ar apelau sy’n ymwneud â hysbysiadau gorfodi. Rhaid i’r rheolau benderfynu a gaiff personau sydd â buddiant apelio i’r Uchel Lys (yn ymarferol, byddai’r Llys Cynllunio, llys arbenigol o fewn yr Uchel Lys yn ymdrin â’r apelau, ac mae’r rheolau wedi eu cynnwys yn Rhan 54 o’r Rheolau Trefniadaeth Sifil a Chyfarwyddyd Ymarfer 54D, a wneir gan y Pwyllgor Rheolau Trefniadaeth Sifil), neu a allai fod yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddatgan a llofnodi achos i gael barn yr Uchel Lys (a fyddai, yn ymarferol, yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ofyn i’r Llys Cynllunio am ei ddyfarniad ynghylch a wnaethant benderfynu’r apêl yn briodol. Mae’r rheolau wedi eu cynnwys yng Nghyfarwyddyd Ymarfer 52E).

674.Nid yw adran 184 yn gymwys i herio penderfyniadau apêl gorfodi o dan adran 128(3)(a) neu (b) (rhoi cydsyniad neu ddileu amodau mewn cydsyniadau). Dim ond o dan adran 183 (adolygiad statudol) y caniateir herio’r penderfyniadau hyn.

675.Mae is-adran (8) yn darparu na chaniateir dwyn apêl i’r Uchel Lys o dan yr adran hon ond gyda chaniatâd yr Uchel Lys. Os nad yw’r Llys o’r farn bod achos cryf, gall wrthod caniatâd (a dim ond ar bwyntiau cyfreithiol y caniateir gwneud ceisiadau am apêl o dan yr adran hon, ac nid dim ond am fod person yn anghytuno â phenderfyniad). Ar hyn o bryd, mae Cyfarwyddyd Ymarfer 54D yn darparu bod rhaid gwneud cais am ganiatâd o fewn 28 diwrnod i herio’r penderfyniad, er y gall yr Uchel Lys ymestyn y cyfnod hwn os yw o’r farn bod rheswm da dros wneud hynny.

676.Mae Cyfarwyddyd Ymarfer 54D hefyd yn darparu na all y Llys, pan fo’n penderfynu bod y penderfyniad gwreiddiol yn anghywir ar bwynt cyfreithiol, roi’r penderfyniad o’r neilltu ac na all ond ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru neu berson a benodir ailystyried yr achos.

Adran 185 — Ystyr “dogfen penderfyniad” a “gwall cywiradwy”Adran 186 — Pŵer i gywiro gwallau cywiradwy mewn dogfennau penderfyniadAdran 187 — Effaith a dilysrwydd hysbysiad cywiro

677.Mae adrannau 185 i 187 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru gywiro gwallau penodol a gynhwysir mewn dogfennau penderfyniad penodol. Mae’r tair adran hyn yn diffinio termau allweddol, yn nodi’r pŵer i gywiro gwallau, ac yn esbonio effaith penderfyniad i gywiro gwall ai peidio.

678.Mae adran 185 yn darparu bod y pŵer cywiro yn arferadwy mewn perthynas â “dogfennau penderfyniad” sy’n cofnodi:

a.

penderfyniadau o fath a restrir yn adran 182(2);

b.

penderfyniadau ar apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi o dan adran 127; ac

c.

unrhyw fathau eraill o benderfyniadau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

679.Mae’r adran hefyd yn nodi mai dim ond mewn perthynas â gwallau, sy’n cynnwys hepgoriadau, nad ydynt yn rhan o unrhyw resymau a roddir dros y penderfyniad y caniateir arfer y pŵer cywiro.

680.Mae adran 186 yn nodi’r weithdrefn y mae rhaid i Weinidogion Cymru ei dilyn i gywiro gwallau mewn dogfen penderfyniad berthnasol.

681.Mae is-adran (2) yn nodi bod y weithdrefn yn dechrau pan fo Gweinidogion Cymru, cyn diwedd y “cyfnod adolygu”, yn cael cais ysgrifenedig i gywiro gwall neu, ar eu liwt eu hunain, yn ysgrifennu at y ceisydd i egluro bod y ddogfen penderfyniad yn cynnwys camgymeriad y ma Gweinidogion Cymru yn ystyried ei gywiro. Diffinnir y “cyfnod adolygu” yn is-adran (4); drwy gyfeirio at y cyfnod ar gyfer dwyn achosion o dan adran 183 neu 184 (a nodir yn y Rheolau Trefniadaeth Sifil a’r cyfarwyddiadau ymarfer). Mae’n 6 wythnos mewn perthynas â dogfennau penderfyniad sy’n cofnodi penderfyniadau o fath a restrir yn adran 182(2) a 4 wythnos mewn perthynas â dogfennau penderfyniad sy’n cofnodi penderfyniadau am apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi o dan adran 127 (ac eithrio penderfyniadau y mae adran 182 yn gymwys iddynt). Rhaid hysbysu’r awdurdod cynllunio hefyd fod cais i wneud cywiriad wedi dod i law, neu fod Gweinidogion Cymru yn ystyried gwneud cywiriad.

682.Mae is-adrannau (5) a (6) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cywiro gwall neu benderfynu peidio â chywiro gwall, ddyroddi hysbysiad cywiro a fydd naill ai’n pennu’r cywiriad a wnaed neu’n rhoi hysbysiad nad ydynt yn cywiro’r gwall. Mae is-adran (7) yn pennu i bwy y mae’n rhaid cyflwyno’r hysbysiad cywiro. Mae is-adran (8) yn darparu y caniateir i’r swyddogaethau o dan yr adran hon gael eu harfer gan berson a benodir os gwnaed y penderfyniad gwreiddiol gan berson a benodir.

683.Mae adran 187 yn nodi statws penderfyniadau cywiredig ac anghywiredig.

684.Bydd penderfyniad cywiredig yn cael ei drin fel pe bai wedi ei wneud ar y dyddiad y gwneir y cywiriad perthnasol a bydd y cyfnod statudol ar gyfer herio’r penderfyniad cywiredig yn dechrau o’r dyddiad hwnnw. Felly, nid yw’r amser a gymerir i gywiro’r penderfyniad yn effeithio ar unrhyw berson sy’n dymuno herio’r penderfyniad. Os nad yw Gweinidogion Cymru yn cywiro penderfyniad, bydd y penderfyniad gwreiddiol yn sefyll ac ni fydd hyn yn effeithio ar y cyfnod statudol ar gyfer herio.

Rhan 6 — Asedau treftadaeth eraill a chofnodion

685.Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ynghylch parciau a gerddi hanesyddol (adran 192), enwau lleoedd hanesyddol (adran 193) a chofnodion amgylchedd hanesyddol yng Nghymru (adrannau 194 i 196).

Adran 192 — Dyletswydd i gynnal a chyhoeddi cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol

686.Mae adran 192 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gynnal cofrestr o barciau a gerddi yng Nghymru y maent yn ystyried eu bod o ddiddordeb hanesyddol arbennig. Mae is-adran (1) hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r gofrestr gyfredol. Caiff y gofrestr o barciau a gerddi hanesyddol ei chyhoeddi ar Cof Cymru.

687.Ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn, mae tua 400 o barciau a gerddi hanesyddol cofrestredig yng Nghymru. Mae pob un o’r parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig yn safle o ddiddordeb hanesyddol arbennig. Cânt eu graddio gan ddefnyddio system sy’n debyg i’r hyn a ddefnyddir ar gyfer adeiladau rhestredig (I, II* a II). Mae is-adran (6) yn egluro bod unrhyw gyfeiriadau yn yr adran hon at barciau a gerddi yn cynnwys mannau hamdden a thiroedd eraill sydd wedi eu dylunio, gan gynnwys tirweddau addurnol sydd wedi eu dylunio. Gall parciau a gerddi hanesyddol gynnwys amrywiaeth eang o fannau — parciau o amgylch plastai gwledig, parciau ceirw, gerddi trefi, tir ysbytai, mynwentydd a pharciau cyhoeddus, er enghraifft. Maent yn dyddio o’r cyfnod canoloesol hyd at y gorffennol diweddar iawn. Er na fydd unrhyw weithdrefnau cydsyniad penodol yn deillio o fod yn rhan o’r gofrestr, caniateir gwarchod parciau a gerddi hanesyddol, a’u lleoliadau, drwy’r system gynllunio.

688.Wrth nodi parciau a gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig, mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru benderfynu pa un a ddylid cynnwys tir sy’n cydffinio â’r tir sy’n cael ei gofrestru neu sy’n gyfagos iddo, neu unrhyw adeilad neu ddŵr sydd ar y tir hwnnw, sy’n cydffinio ag nef neu sy’n gyfagos iddo ai peidio. Bydd hyn yn caniatáu ar gyfer arfer barn broffesiynol wrth benderfynu’r llinell derfyn fwyaf rhesymegol. Er enghraifft, gellid cynnwys mynedfa eang grand i dramwyfa, sydd y tu allan i waliau ystad ond sy’n amlwg yn rhan o’r dyluniad, mewn cofnod yn y gofrestr. Fel arall, gellid hepgor tŷ gwydr neu stablau modern o gofnod.

689.Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i gefnogi’r gwaith o reoli parciau a gerddi cofrestredig, a chaiff y canllawiau eu hadolygu’n gyson. Ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn, mae’r canllawiau Rheoli Newid i Barciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig yng Nghymru (2017), yn nodi’r egwyddorion cyffredinol i’w dilyn wrth ystyried unrhyw newidiadau a all gael effaith ar barciau a gerddi hanesyddol cofrestredig. Maent at ddefnydd perchnogion a’u hasiantiaid yn bennaf, a’u nod yw eu helpu i ddeall y goblygiadau sydd ynghlwm wrth berchen ar barc cofrestredig neu ardd gofrestredig a sut i reoli newidiadau sy’n effeithio arno neu arni.

Adran 193 — Dyletswydd i gynnal a chyhoeddi rhestr o enwau lleoedd hanesyddol

690.Mae adran 193 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gynnal rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru. Mae enwau lleoedd hanesyddol yn darparu tystiolaeth werthfawr am y newidiadau ieithyddol, cymdeithasol a hanesyddol sydd wedi llunio Cymru. Maent yn elfennau pwysig o’r tirwedd trefol a gwledig ac yn cyfrannu at hunaniaeth leol a rhanbarthol. Caiff y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru ei rheoli ar ran Gweinidogion Cymru gan Gomisiwn Brenhinol. Mae ar gael drwy wefan y Comisiwn Brenhinol a thrwy gofnodion amgylchedd hanesyddol Cymru. Ym mis Ebrill 2023, roedd y Rhestr yn cynnwys bron i 700,000 o enwau hanesyddol o ffynonellau a gynhyrchwyd cyn 1914, gan gynnwys gwahanol enwau a sillafiadau ar gyfer yr un strwythur neu’r un lle ar wahanol adegau. Bydd yn parhau i dyfu wrth i ragor o enwau lleoedd gael eu casglu o amrywiaeth o ffynonellau hanesyddol.

691.Mae’r canllawiau statudol ar gyfer cofnodion amgylchedd hanesyddol Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru: Llunio a Defnyddio (2017), a gyhoeddwyd yn unol ag adran 196 a adolygir yn gyson, yn cynnwys atodiad sy’n darparu canllawiau i awdurdodau lleol ar ddefnyddio’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol sydd ar gael drwy’r cofnodion amgylchedd hanesyddol.

Adran 194 — Dyletswydd i gynnal cofnodion amgylchedd hanesyddol

692.Mae adran 194 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal cofnod amgylchedd hanesyddol ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Mae ymddiriedolaethau archaeolegol Cymru yn curadu’r cofnodion amgylchedd hanesyddol ar ran Gweinidogion Cymru.

693.Crëwyd y cofnodion amgylchedd hanesyddol yn sgil degawdau o waith ymchwil, ac maent yn cynnwys gwybodaeth fanwl am amgylchedd hanesyddol ardaloedd penodol. Mae cofnodion amgylchedd hanesyddol yn ffynonellau gwybodaeth hanfodol i’r bobl hynny sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch rheoli’r amgylchedd hanesyddol mewn modd cynaliadwy. Mae’r wybodaeth honno’n bwysig ar gyfer prosesau rheoli, cadwraeth, gwaith maes ac ymchwil, yn ogystal ag ymgysylltu â’r cyhoedd a gwaith allgymorth sy’n ymwneud â’r amgylchedd hanesyddol. Mae’n sail i’r cyngor archaeolegol a’r cyngor arall ar reoli treftadaeth a roddir i awdurdodau cynllunio lleol. Heb wybodaeth o’r fath, gellid taflu amheuon ar yr wybodaeth hanfodol a ddefnyddir, er enghraifft, wrth asesu effaith cynigion datblygu ar yr amgylchedd hanesyddol.

694.Mae is-adran (2) yn nodi’r amrywiaeth eang o wybodaeth y mae rhaid i gofnod amgylchedd hanesyddol ei darparu, gyda pharagraffau (a) i (g) yn manylu ar yr asedau neu safleoedd hanesyddol amrywiol sydd wedi eu dynodi neu eu cydnabod yn ffurfiol ac y mae rhaid eu cynnwys. Mae paragraff (h) yn ei gwneud yn ofynnol i gynnwys manylion pob ardal arall neu safle arall y mae’r awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru yn ystyried ei bod neu ei fod o ddiddordeb hanesyddol, archaeolegol neu bensaernïol lleol. Gallai cofnodion o dan baragraff (h) ymwneud â safleoedd archaeolegol anghofrestredig, adeiladau neu strwythurau hanesyddol anrhestredig, parciau a gerddi hanesyddol, meysydd brwydrau neu dirweddau nad ydynt i’w gweld ar y cofrestrau na’r rhestrau perthnasol, neu leoliadau sydd â thystiolaeth baleo-amgylcheddol bwysig. Gallai’r cofnodion hynny hefyd gynnwys lleoliadau nad ydynt yn cynnwys unrhyw dystiolaeth ffisegol weledol, ond a allai fod yn gysylltiedig â chyfeiriad hanesyddol, cartograffig neu ddogfennol, neu â darganfod arteffact archaeolegol.

695.Mae paragraff (i) yn ei gwneud yn ofynnol i gynnwys mewn cofnod amgylcheddol hanesyddol wybodaeth am y ffordd y mae datblygiad hanesyddol, archaeolegol neu bensaernïol ardal wedi cyfrannu at ei chymeriad presennol. Gellir cael yr wybodaeth hon o raglenni cymeriadu trefol a gwledig sy’n mynd rhagddynt yn ogystal â phrosesau megis arfarniadau o ardaloedd cadwraeth. Mae’r astudiaethau seiliedig ar ardal hyn yn egluro’r ffordd y mae’r amgylchedd hanesyddol yn cyfrannu at gymeriad lleol/rhanbarthol nodweddiadol ardal a’r ffordd y gellir diogelu’r cymeriad hwn at y dyfodol.

696.Mae is-adran (8) yn cadarnhau y bydd ardal awdurdod lleol, os yw ardal yr awdurdod yn cynnwys rhan o arfordir, yn cynnwys unrhyw ran o’r môr sy’n gorwedd tua’r môr o’r rhan honno o’r lan ac sy’n ffurfio rhan o Gymru. O dan y diffiniad yn Neddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4), mae Cymru yn cynnwys y môr sy’n gyfagos i Gymru o fewn terfyn atfor y môr tiriogaethol, hynny yw 12 o filltiroedd morol (o dan Ddeddf Môr Tiriogaethol 1987 (p. 49)). Os yw cofnod perthnasol o’r amgylchedd hanesyddol morol o fewn 12 o filltiroedd morol yn cael ei ddal gan un o’r categorïau yn is-adran (2), dylid ei gynnwys yn y cofnod amgylchedd hanesyddol. Er enghraifft, mae nifer o longddrylliadau hanesyddol yn nyfroedd Cymru y gellid eu cynnwys.

Adran 195 — Mynediad at gofnodion amgylchedd hanesyddol

697.Mae adran 195 yn ei gwneud yn ofynnol i gofnod amgylchedd hanesyddol fod yn adnodd sydd ar gael i’r cyhoedd. Mae pob cofnod amgylchedd hanesyddol ar gael yn rhad ac am ddim ar-lein drwy Archwilio ac yn cael ei ategu gan ddeunydd cyfeirio cysylltiedig, a all fod ar ffurf ddigidol neu bapur, ac mae ar gael i’r cyhoedd yn swyddfeydd ymddiriedolaethau archaeolegol Cymru. Gall y deunydd hwn gynnwys ffotograffau o’r awyr, copïau o fapiau cynnar ac adroddiadau hynafiaethol, astudiaethau cymeriadu ac adroddiadau nas cyhoeddwyd (“llenyddiaeth lwyd”) yn ogystal â ffynonellau cyhoeddedig a dogfennol eraill. Adnodd dynamig sy’n datblygu o hyd yw cofnodion amgylchedd hanesyddol, ac mae angen eu cynnal a’u gwella’n barhaus wrth i wybodaeth newydd am yr amgylchedd hanesyddol ddod i’r amlwg. Rhaid cynnig cyngor a chymorth proffesiynol hefyd er mwyn helpu defnyddwyr i ddod o hyd i wybodaeth a geir mewn cofnod amgylchedd hanesyddol, neu y ceir mynediad ati drwy gofnod amgylchedd hanesyddol, ac i ddehongli’r wybodaeth honno.

698.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi copi o ran o gofnod amgylchedd hanesyddol i berson sy’n gofyn amdano, os bernir bod y cais yn rhesymol. Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio dogfen sy’n cynnwys yr wybodaeth y gofynnwyd amdani ac a adalwyd o’r cofnod amgylchedd hanesyddol. Mae’n bosibl y bydd angen dehongli’r data yn y cofnod, neu wneud rhyw fath o waith dadansoddi neu ymchwil ychwanegol er mwyn llunio’r ddogfen hon.

699.Mae is-adran (5) yn rhoi i Weinidogion Cymru y pŵer i godi ffioedd er mwyn adennill costau darparu gwasanaethau penodol sy’n gysylltiedig â chofnodion amgylchedd hanesyddol, er enghraifft, llunio adroddiadau ar sail dadansoddiad o gynnwys cofnod amgylchedd hanesyddol. Ni fydd elw o’r ffioedd hyn, ac fe’u cyfyngir i dalu costau darparu’r gwasanaeth yn unig.

Adran 196 — Canllawiau i gyrff cyhoeddus penodol ynghylch cofnodion amgylchedd hanesyddol

700.Mae adran 196 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdodau lleol, awdurdodau Parciau Cenedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru ar y ffordd y gallant gyfrannu at y gwaith o lunio a chynnal cofnodion amgylchedd hanesyddol, ac ar ddefnyddio cofnodion amgylchedd hanesyddol wrth arfer eu swyddogaethau. Ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn, mae’r canllawiau, Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru: Llunio a Defnyddio (2017), ar gael ar wefan Cadw.

701.Rhaid i awdurdodau lleol, awdurdodau Parciau Cenedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru roi sylw i’r canllawiau hyn. Mae gan y cyrff cyhoeddus hyn rôl bwysig i’w chwarae yn y gwaith o reoli a diogelu’r amgylchedd hanesyddol, ac yn y ffordd y caiff ei hyrwyddo, ei ddefnyddio a’i werthfawrogi gan y cyhoedd. Mae eu llwyddiant yn dibynnu ar y gallu i ddefnyddio gwybodaeth awdurdodol, o ansawdd uchel am yr amgylchedd hanesyddol, megis yr wybodaeth a ddarperir gan y cofnodion amgylchedd hanesyddol.

Rhan 7 — Cyffredinol

Adran 197 — Pŵer i wneud gwybodaeth yn ofynnol drwy hysbysiadAdran 198 — Troseddau mewn cysylltiad ag adran 197

702.Mae adran 197 yn galluogi “awdurdod perthnasol” (a ddiffinnir yn is-adran (4) fel Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol) i gyflwyno hysbysiad gwybodaeth i feddiannydd unrhyw dir neu i unrhyw un sy’n cael rhent mewn cysylltiad ag unrhyw dir. Mae’r hysbysiad gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i’r derbynnydd ddarparu gwybodaeth am natur buddiant y person yn y tir ac enw a chyfeiriad unrhyw berson arall y gwyddys bod ganddo fuddiant yn y tir. Mae is-adran (2) yn darparu mai dim ond os yw’r wybodaeth yn ofynnol er mwyn galluogi’r awdurdod perthnasol i arfer swyddogaethau penodol o dan y Ddeddf y caniateir cyflwyno hysbysiad gwybodaeth. Er enghraifft, wrth ymchwilio i waith anawdurdodedig honedig i heneb gofrestredig neu adeilad rhestredig, caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol ddefnyddio hysbysiad gwybodaeth fel cam cyntaf er mwyn canfod pwy yw’r meddianwyr a’r perchnogion cyn cysylltu â hwy. At ddibenion yr adran hon, mae i awdurdod lleol yr ystyr a roddir yn adran 157.

703.Mae adran 198 yn darparu bod person yn cyflawni trosedd os yw’r person, heb esgus rhesymol, yn methu â darparu gwybodaeth, neu’n darparu gwybodaeth y mae’n gwybod ei bod yn anwir neu’n gamarweiniol, mewn ymateb i hysbysiad gwybodaeth a gyflwynir o dan adran 197.

704.Mae person sy’n euog o’r drosedd o fethu, heb esgus rhesymol, â darparu’r wybodaeth ofynnol yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol. Mae person sy’n euog o’r drosedd o ddarparu gwybodaeth y mae’n gwybod ei bod yn anwir neu’n gamarweiniol mewn modd perthnasol yn agored ar euogfarn ddiannod neu ar euogfarn ar dditiad i ddirwy ddiderfyn.

Adran 199 — Gwybodaeth am fuddiannau yn nhir y Goron

705.Mae adran 199 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud ceisiadau mewn achosion penodol i awdurdod priodol y Goron am wybodaeth am natur ei fuddiant yn nhir y Goron ac enw a chyfeiriad unrhyw berson arall y gall fod ganddo fuddiant yn y tir. Ni chaiff y cais am wybodaeth ymwneud â buddiant preifat yn nhir y Goron, ac os felly bydd adran 197 yn gymwys. Dim ond am fuddiannau yn nhiroedd y Goron y caiff Gweinidogion Cymru ofyn am wybodaeth at ddibenion penodol mewn cysylltiad â galluogi Gweinidogion Cymru, neu awdurdod lleol (fel y’i diffinnir yn adran 157) i arfer y swyddogaethau penodol o dan y Ddeddf a nodir yn adran 197(2). Diffinnir “awdurdod priodol y Goron” a “buddiant preifat” yn adran 207.

706.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod priodol y Goron gydymffurfio â chais o’r fath oni bai nad yw’n gwybod yr wybodaeth neu y byddai’n datgelu gwybodaeth am ddiogelwch cenedlaethol neu fesurau ar gyfer diogelwch tir neu eiddo arall.

Adran 201 — Sancsiynau sifil

707.Mae adran 201 yn darparu ar gyfer cymhwyso sancsiynau sifil i droseddau a gyflawnir o dan y ddeddfwriaeth hon.

708.Mae is-adran (1) yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau er mwyn gwneud unrhyw ddarpariaeth ar gyfer sancsiwn sifil mewn perthynas â throsedd o dan y Ddeddf hon y gallent ei gwneud o dan Ran 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol 2008 pe byddent hwy, neu pe byddai unrhyw awdurdod arall gyda swyddogaeth orfodi, yn rheoleiddiwr mewn perthynas â throsedd berthnasol. Gall sancsiynau sifil gynnwys cosbau ariannol penodedig a gofynion amrywiol yn ôl disgresiwn i’w pennu gan yr awdurdod gorfodi perthnasol. Caiff y gofynion yn ôl disgresiwn gynnwys dirwyon ariannol i’w gosod gan reoleiddiwr; camau i’w cymryd i sicrhau na fydd y drosedd yn digwydd eto; neu gamau i’w cymryd i adfer y safle cyn comisiynu’r drosedd.

709.Mae is-adrannau (2) i (4) yn cymhwyso darpariaethau perthnasol o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol 2008 i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau o dan is-adran (1).

Adran 202 — Gwneud hawliadau am ddigollediadAdran 203 — Penderfynu hawliadau digollediad gan yr Uwch DribiwnlysAdran 204 — Digollediad am ddibrisiant yng ngwerth tir

710.Mae adrannau 202 i 204 yn gwneud darpariaethau amrywiol ynghylch digolledu.

711.Mae adran 202 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau am y ffordd y mae rhaid gwneud hawliadau am ddigollediad o dan y Ddeddf. Caiff y rheoliadau hefyd ddiwygio unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf sy’n pennu’r cyfnod y mae rhaid gwneud hawliad am ddigollediad ynddo.

712.Mae is-adran (2) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn ystyried bod rhesymau da dros wneud hynny, estyn y cyfnod ar gyfer gwneud hawliad am ddigollediad o dan y Ddeddf mewn achos penodol.

713.Mae adran 203 yn darparu bod rhaid i unrhyw anghydfod ynghylch digollediad sy’n daladwy o dan y Ddeddf gael ei atgyfeirio at yr Uwch Dribiwnlys a’i benderfynu ganddo. Mae is-adran (2) yn darparu ymhellach fod adran 4 o Ddeddf 1961 yn gymwys i unrhyw achos yn yr Uwch Dribiwnlys sy’n ymwneud â digollediad y mae anghydfod yn ei gylch o dan y Ddeddf. Mae adran 4 yn galluogi’r Uwch Dribiwnlys i’w gwneud yn ofynnol i un parti mewn unrhyw achos ger ei fron sy’n ymwneud â digollediad y mae anghydfod yn ei gylch i dalu’r costau y mae parti arall yn yr achos yn mynd iddynt.

714.Mae adran 204 yn darparu bod adran 5 o Ddeddf 1961, sy’n nodi rheolau sylfaenol ar gyfer asesu digollediad ar gaffael tir yn orfodol, yn gymwys wrth gyfrifo digollediad am ddibrisiant yng ngwerth y tir. Gallai hyn fod yn gymwys, er enghraifft, pan fydd gwerth y tir wedi lleihau o ganlyniad i wrthod cydsyniad heneb gofrestredig (adran 21) neu ddirymu cydsyniad adeilad rhestredig (adran 108). Mae hefyd yn nodi’r rheolau ynghylch pwy gaiff hawlio a derbyn digollediad, ac ynghylch y sail y mae’r digollediad yn daladwy arni os bydd buddiant mewn tir yn ddarostyngedig i forgais.

Adran 205 — Cyflwyno hysbysiadau a dogfennau eraill: cyffredinolAdran 206 — Darpariaeth ychwanegol ynghylch cyflwyno i bersonau sydd â buddiant mewn tir neu sy’n meddiannu tir

715.Mae adrannau 205 a 206 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyflwyno hysbysiadau neu ddogfennau eraill i bersonau, gan gynnwys cyrff corfforedig, o dan y Ddeddf. At y dibenion hyn, mae “cyflwyno” yn cynnwys cyfeiriadau yn y Ddeddf at “cyflwyno”, “rhoi” (ac unrhyw dermau tebyg).

716.Mae adran 205(2)(a) i (d) yn nodi’r gwahanol ffyrdd o gyflwyno y caniateir eu defnyddio o dan y Ddeddf, gan gynnwys cyfathrebiadau electronig. Ni chaniateir defnyddio cyfathrebiadau electronig oni bai bod y person y cyflwynir iddo wedi darparu cyfeiriad ar gyfer cyflwyno’n electronig, ac wrth ddefnyddio’r dull hwn — e-bost, er enghraifft — rhaid bodloni amodau penodol er mwyn sicrhau bod y derbynnydd yn gallu darllen a defnyddio’r ddogfen (adran 205(3)). Ni chaniateir cyflwyno hysbysiad i gorff corfforedig drwy ei anfon drwy’r post mewn amlen ragdaledig neu drwy ei roi â llaw i’r ysgrifennydd neu’r clerc yn y brif swyddfa neu’r swyddfa gofrestredig, neu drwy ddefnyddio cyfathrebiad electronig.

717.Mae adran 206 yn gwneud darpariaeth bellach ar gyfer cyflwyno hysbysiad neu ddogfen i berson sydd â buddiant mewn adeilad, heneb neu dir y gallai ei enw a/neu ei gyfeiriad fod yn anhysbys. Mae’r adran hefyd yn darparu ar gyfer cyflwyno hysbysiad neu ddogfen i feddiannydd adeilad, heneb neu dir.

718.Os bydd enw person sydd â buddiant mewn adeilad, heneb neu dir yn anhysbys, ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, megis cysylltu â’r Gofrestrfa Tir, caniateir cyfeirio’r ddogfen at y person fel “y perchennog” (is-adran (2)). Caniateir cyfeirio dogfen sydd i’w chyflwyno i feddiannydd adeilad, heneb neu dir, at y person wrth ei enw neu fel “y meddiannydd”.

719.Mae is-adrannau (4) a (5) yn nodi’r opsiynau ar gyfer cyflwyno dogfen yn briodol i berson sydd â buddiant mewn adeilad, heneb neu dir heb unrhyw gyfeiriad cyfredol i’w anfon neu i feddiannydd adeilad, heneb neu dir.

Adran 208 — Tir Eglwys Loegr

720.Mae adran 208 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cymhwyso’r Ddeddf i dir sy’n perthyn i Eglwys Loegr. Mae Eglwys Loegr yn berchen ar nifer bach o eglwysi yng Nghymru. Ymhlith pethau eraill, pan fo hysbysiad neu ddogfen yn cael ei gyflwyno neu ei chyflwyno o dan y Ddeddf ar Eglwys Loegr fel perchennog tir, mae’r adran yn darparu bod rhaid cyflwyno hysbysiad cyfatebol neu ddogfen gyfatebol i’r Bwrdd Cyllid Esgobaethol ar gyfer yr ardal dan sylw. Mae is-adran (3) yn darparu bod rhaid i unrhyw ddigollediad sy’n daladwy i Eglwys Loegr o dan y Ddeddf gael ei dalu i’r Bwrdd Cyllid priodol.

Adran 209 — Rheoliadau o dan y Ddeddf hon

721.Mae adran 209 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol ynghylch rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon. Mae’r pŵer i wneud rheoliadau yn arferadwy drwy offeryn statudol, ac mae is-adrannau (2) a (3) yn nodi’r darpariaethau y caniateir eu gwneud drwy reoliadau o’r fath.

722.Mae is-adran (5) yn nodi’r rheoliadau y mae rhaid eu gosod gerbron Senedd Cymru a’u cymeradwyo ganddi drwy benderfyniad cyn iddynt gael eu gwneud; yr enw ar hyn yw’r weithdrefn gadarnhaol. Mae paragraff (h) yn cymhwyso’r gofyniad hwn i unrhyw reoliadau sy’n diwygio neu’n diddymu deddfiadau mewn deddfwriaeth sylfaenol.

723.O dan is-adran (6) mae pob rheoliad arall yn ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol, pan gaiff offeryn statudol ei osod gerbron Senedd Cymru a’i wneud yn gyfraith oni bai y caiff ei ddiddymu o fewn cyfnod o 40 o ddiwrnodau.

Adran 211 — Darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol etc.Atodlen 13 — Mân ddiwygiadau, diwygiadau canlyniadol a diddymiadauAtodlen 14 — Darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed

724.Mae adran 211 yn cyflwyno Atodlenni 13 a 14 sydd, gyda’i gilydd, yn gwneud diwygiadau a darpariaethau trosiannol a fydd yn cymhwyso’r newidiadau i’r gyfraith sy’n deillio o ddeddfu’r Ddeddf.

725.Mae is-adrannau (3) a (4) yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rhagor o ddarpariaethau deilliadol, darpariaethau canlyniadol, darpariaethau trosiannol, darpariaethau darfodol neu ddarpariaethau arbed drwy reoliadau.

726.Mae Atodlen 13 yn cynnwys gwahanol ddiwygiadau sy’n angenrheidiol o ganlyniad i gydgrynhoi deddfwriaeth yn yDdeddf. Mae rhai newidiadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer enwi’r Ddeddf yn briodol mewn deddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli, ac mae nifer mawr o’r newidiadau eraill yn angenrheidiol er mwyn dileu Cymru o’r ddeddfwriaeth amgylchedd hanesyddol a fydd yn parhau mewn grym yn Lloegr a’r Alban, yn arbennig Deddf 1979 a Deddf Adeiladau Rhestredig 1990.

727.Mae paragraffau 35 i 37 o Atodlen 13 yn gwneud y newidiadau sy’n angenrheidiol i ddirymu Rhan II (ardaloedd archaeolegol) o Ddeddf 1979 yng Nghymru. Nid yw Rhan II erioed wedi ei defnyddio yng Nghymru, oherwydd bod polisïau cynllunio, yn ymarferol, yn gwarchod y dreftadaeth archaeolegol yn well. Mae hyn yn rhoi effaith i argymhelliad 13.11 o adroddiad Comisiwn y Gyfraith, Cyfraith Cynllunio yng Nghymru (Comisiwn y Gyfraith Rhif 383, 2018).

728.Mae paragraff 65 o Atodlen 13 yn mewnosod adran newydd 79A yn Neddf Adeiladu 1984 (p. 55) (“Deddf 1984”). Mae’r adran hon yn deillio o adran 56 o Ddeddf Adeiladau Rhestredig 1990, ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol yng Nghymru ystyried cymryd camau penodol mewn perthynas ag adeiladau rhestredig ac adeiladau penodol eraill o dan y Ddeddf cyn cael gorchymyn o dan adran 77(1)(a) o Ddeddf 1984 (gwneud gorchymyn adeilad peryglus) neu gyflwyno hysbysiad o dan adran 79(1) o’r Ddeddf honno (cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag adeilad adfeiliedig sy’n niweidiol i amwynder).

729.Os yw’r adeilad yn un rhestredig ac os yr awdurdod lleol yw’r awdurdod cynllunio ar gyfer yr ardal y mae’r adeilad ynddi, dylai’r awdurdod ystyried pa un a ddylai arfer ei bwerau o dan adrannau 137 a 138 o’r Ddeddf i gyflwyno hysbysiad atgyweirio a chychwyn y broses ar gyfer caffael yn orfodol ai peidio.

730.Mae adran 79A(1)(b) yn darparu ymhellach, mewn unrhyw achos sy’n ymwneud ag adeilad rhestredig, y dylai awdurdod lleol ystyried cyflawni gwaith diogelu brys o dan adran 144 o’r Ddeddf.

731.Mae adran 79A(2) yn darparu ymhellach y dylai’r awdurdod lleol, os yw adeilad yn ddarostyngedig i warchodaeth interim neu restru dros dro o dan y Ddeddf, neu os yw Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd mewn perthynas ag adeilad mewn ardal gadwraeth ar y sail ei fod yn bwysig ar gyfer cynnal cymeriad neu olwg yr ardal honno, ystyried cyflawni gwaith brys er mwyn diogelu’r adeilad o dan adran 144 o’r Ddeddf.

732.Mae paragraff 90 yn mewnosod adran newydd 314A yn Neddf Cynllunio 1990. Mae’r adran hon yn deillio o adran 66 o Ddeddf Adeiladau Rhestredig 1990, ac mae’n darparu bod rhaid i awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru, os ydynt yn ystyried pa un a ddylid rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sy’n effeithio ar adeilad rhestredig neu ei leoliad ai peidio, roi sylw arbennig i ddymunoldeb diogelu’r adeilad rhestredig, ei leoliad ac unrhyw nodweddion o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

733.Mae adran 314A(4) o Ddeddf Cynllunio 1990 yn pennu bod “adeilad rhestredig” yn yr adran hon yn cyfeirio at adeiladau yng Nghymru a Lloegr. O ganlyniad, yn rhanbarthau Cymru ar hyd y ffin â Lloegr, gallai fod angen i awdurdod cynllunio yng Nghymru neu Weinidogion Cymru roi sylw arbennig i ddymunoldeb diogelu adeiladau rhestredig a’u lleoliadau ar y ddwy ochr o’r ffin wrth ystyried pa un a ddylid rhoi caniatâd cynllunio ai peidio. Gwneir diwygiad ategol i Ddeddf Adeiladau Rhestredig 1990 gan baragraff 136. Bydd hwn yn gosod dyletswydd gyfatebol ar awdurdodau cynllunio yn Lloegr a’r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas ag adeiladau rhestredig yng Nghymru.

734.Mae paragraff 127 yn diwygio adran 49 o Ddeddf Adeiladau Rhestredig 1990 fel bod ei darpariaethau ar gyfer digollediad ar gaffael adeiladau rhestredig yn orfodol yn parhau i fod yn gymwys i Gymru a Lloegr. Mae darpariaethau eraill Deddf Adeiladau Rhestredig 1990 yn peidio â bod yn gymwys i Gymru yn rhinwedd paragraff 93 i 160.

735.Mae paragraff 192 yn diddymu Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn llwyr. Mae’r rhan fwyaf o’r darpariaethau wedi cael eu hailddatgan yn y Ddeddf ar wahân i’r rheini ar gyfer y Panel Cynghori ar Amgylchedd Hanesyddol Cymru, na roddwyd effaith iddynt erioed.

736.Mae Atodlen 14 yn cynnwys gwahanol ddarpariaethau sy’n angenrheidiol ar gyfer pontio o ddeddfiadau cynharach i’r Ddeddf mewn modd didrafferth a di-dor. Mae Rhan 1 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol, tra bo Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer materion sy’n ymwneud â henebion sydd o dan warcheidiaeth, ac mae Rhan 3 yn ymdrin â nifer o achosion penodol y mae’r Ddeddf yn gwneud newidiadau i’r gyfraith flaenorol ynddynt.

Adran 213 — Enw byr

737.Mae'r adran hon yn darparu mai enw byr y Ddeddf, y gall dogfennau eraill ei ddefnyddio i gyfeirio ati, yw Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.

Cofnod Y Trafodion Yn Senedd Cymru

738.Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy’r Senedd. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan y Senedd ar:

Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (senedd.cymru)

CyfnodDyddiad
Cyflwynwyd4 Gorffennaf 2022
Ystyriaeth Gychwynnol – Dadl17 Ionawr 2023
Ystyriaeth Fanwl gan y Pwyllgor13 Chwefror 2023
Cyfnod Terfynol28 Mawrth 2023
Y Cydsyniad Brenhinol14 Mehefin 2023