| Cynhyrchion ar gyfer bwyta bwyd ac yfed diod |
|---|
| Caeadau ar gyfer cwpanau neu gynhwysyddion cludfwyd | Caead nad yw wedi ei wneud o bolystyren. |
| Cwpanau | Cwpan nad yw wedi ei wneud o bolystyren ehangedig neu bolystyren allwthiedig ewynnog. |
| Cynhwysyddion cludfwyd | Cynhwysydd cludfwyd nad yw wedi ei wneud o bolystyren ehangedig neu bolystyren allwthiedig ewynnog. |
| Cytleri | |
| Gwellt | Esemptiad 1
Mewn cysylltiad â gwerthu gwelltyn gan berson (“P”) sy’n cynnal yn gyfreithlon fusnes fferyllfa fanwerthu—
(a) pan—
(i) fo P yn unig fasnachwr a’r trafodiad yn cael ei gynnal gan P ei hun, neu’n cael ei gynnal ar ran P gan fferyllydd neu unigolyn sy’n gweithredu o dan oruchwyliaeth fferyllydd (gan gynnwys P), neu
(ii) na fo P yn unig fasnachwr a’r trafodiad yn cael ei gynnal ar ran P gan fferyllydd neu unigolyn sy’n gweithredu o dan oruchwyliaeth fferyllydd, a
(b) pan fo’r defnyddiwr y mae P yn cyflenwi’r gwelltyn iddo yn datgan ei fod ef angen y gwelltyn, neu fod person y byddant yn rhoi’r gwelltyn iddo angen y gwelltyn, am resymau iechyd neu anabledd.
Esemptiad 2
Mewn cysylltiad â darparu gwelltyn am ddim gan berson (“P”), pan fo’r defnyddiwr y mae P yn cyflenwi’r gwelltyn iddo (“A”)—
(b) pan fo P, neu unigolyn sy’n darparu gofal i A ar ran P, yn credu yn rhesymol fod angen y gwelltyn ar A am resymau iechyd neu anabledd.
Esemptiad 3
Mewn cysylltiad â darparu gwelltyn am ddim gan berson (“P”), pan fo’r defnyddiwr y mae P yn cyflenwi’r gwelltyn iddo yn datgan ei fod angen y gwelltyn, neu fod unigolyn y bydd y person yn rhoi’r gwelltyn iddo angen y gwelltyn, am resymau iechyd neu anabledd.
Esemptiad 4
Gwelltyn a gyflenwir am bwrpas sy’n gysylltiedig â darparu gofal meddygol neu driniaeth feddygol.
|
| Platiau | |
| Tröydd diod | |
| Cynhyrchion eraill |
|---|
| Bagiau siopa | Esemptiad 1
Bag siopa—
(a) sydd ag uchafswm dimensiynau o 125mm (uchder) x 125mm (lled),
(b) nad oes ganddo gwysed, ac
(c) nad oes ganddo handlenni.
Esemptiad 2
Bag siopa, o faint sy’n gymesur â maint neu natur yr eitemau sydd i’w cludo, a gyflenwir at ddiben cludo eitemau o’r disgrifiad a ganlyn—
(a) pysgod amrwd, cig amrwd neu ddofednod amrwd (gan gynnwys cynhyrchion pysgod amrwd, cynhyrchion cig amrwd neu gynhyrchion dofednod amrwd) i’w bwyta gan bobl neu anifeiliaid (pa un a yw’r eitem wedi ei becynnu ai peidio);
(b) unrhyw fwyd arall i’w fwyta gan bobl neu anifeiliaid sydd heb ei becynnu;
(c) bwyd i’w fwyta gan bobl neu anifeiliaid (i’r graddau nad yw’r eitem yn dod o fewn paragraff (a) neu (b)) a ddarperir am ddim;
(d) hadau, bylbiau, cormau neu risomau heb eu pecynnu;
(e) nwyddau heb eu pecynnu a halogwyd gan bridd;
(f) llafnau neu eitemau â llafnau heb eu pecynnu;
(g) eitemau heb eu pecynnu a wnaed o bapur;
(h) cynhyrchion hylendid personol a ddarperir am ddim;
(i) creaduriaid dyfrol byw mewn dŵr.
Esemptiad 3
Bag siopa a gyflenwir at ddiben cludo alcohol neu dybaco mewn ardal a ddynodwyd yn ardal o dan gyfyngiad diogelwch o dan adran 11A o Ddeddf Diogelwch wrth Hedfan 1982 (p. 36).
|
| Ffyn balwnau | |
| Ffyn cotwm | |
| Cynhyrchion a wnaed o blastig ocso-ddiraddiadwy |
|---|
Unrhyw gynnyrch a wnaed o gynnyrch plastig ocso-ddiraddiadwy—
(a) pa un a yw’r cynnyrch hwnnw yn ymddangos yn rhywle arall yn y tabl hwn ai peidio, a
(b) pa un a fyddai’r math penodol o gynnyrch, neu’r diben y cyflenwir y cynnyrch hwnnw (neu fath penodol o gynnyrch) ar ei gyfer, fel arall wedi ei esemptio oherwydd cofnod yng ngholofn 2 ai peidio.
| |