Cyflwyniad

1.Mae’r nodiadau esboniadol hyn ar gyfer Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) a basiwyd gan Senedd Cymru ar 6 Mehefin 2022 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 24 Mai 2023.

2.Fe’u lluniwyd gan Gyfarwyddiaeth Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Nid ydynt yn rhan o’r Ddeddf ac nid ydynt wedi eu cymeradwyo gan y Senedd. Dylid darllen y nodiadau ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.

3.Ni fwriedir i’r nodiadau fod yn ddisgrifiad cynhwysfawr o’r Ddeddf. Pan fo adran neu ran o adran yn hunanesboniadol ac nad ymddengys bod angen rhoi esboniad neu wneud sylw pellach arni, nis rhoddir.

Trosolwg Cyffredinol O’R Ddeddf

4.Mae’r Ddeddf yn darparu ar gyfer fframwaith i hybu llesiant pobl Cymru drwy wella datblygu cynaliadwy (gan gynnwys drwy wella gwasanaethau cyhoeddus) drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, hyrwyddo gwaith teg a chaffael cymdeithasol gyfrifol.

Rhan 1 .Y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol

Adran 1 – Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cymru

5.Mae adran 1 yn sefydlu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cymru (“CPG”) ac yn disgrifio ei swyddogaeth graidd ynghyd â’r dibenion y caiff arfer y swyddogaeth honno ar eu cyfer.

6.Swyddogaeth graidd yr CPG yw darparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru mewn perthynas â materion penodol. Mae’r swyddogaeth hon yn ehangach na chynghori Gweinidogion Cymru yn unig a gallai gynnwys creu neu ddarparu, ymhlith pethau eraill, ystadegau, crynodebau ffeithiol, copïau o ddogfennau (boed y rheini ar gael i’r cyhoedd ai peidio) ac yn y blaen. Nid oes unrhyw gyfyngiad penodol ar y math o wybodaeth neu gyngor y gall yr CPG ei darparu neu ei ddarparu.

7.Caiff yr CPG ddarparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru at ddibenion gwella’r pedwar math o lesiant (economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol) y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”) yn eu hyrwyddo. Un elfen allweddol o hyn yw mabwysiadu egwyddorion partneriaeth gymdeithasol i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r dibenion hyn yn fwriadol eang er mwyn adlewyrchu’r ystod eang o bynciau y bydd yr CPG yn eu trafod.

8.Yn ei hanfod, caiff yr CPG ddarparu gwybodaeth a chyngor ar y materion hynny y mae’r Ddeddf yn ymdrin â hwy:

(a)

y dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol o dan Ran 2 o’r Ddeddf;

(b)

ymgyrraedd at gyflawni nod llesiant “Cymru lewyrchus” gan gyrff cyhoeddus wrth gyflawni datblygu cynaliadwy o dan Ddeddf 2015;

(c)

y swyddogaethau a roddir i awdurdodau contractio a Gweinidogion Cymru o dan Ran 3 (caffael cymdeithasol gyfrifol).

Mewn perthynas â (b), mae cylch gwaith yr CPG yn cynnwys “ymgyrraedd at” nod “Cymru lewyrchus” gan bob corff y mae’n ofynnol iddo gyflawni datblygu cynaliadwy o dan adran 3 o Ddeddf 2015. Er enghraifft, gallai’r CPG ddarparu gwybodaeth neu gyngor i Weinidogion Cymru ynghylch gweithgarwch ganddynt i wella llesiant economaidd Cymru pe bai’r gweithgarwch hwnnw’n gysylltiedig â nod “Cymru lewyrchus”.

9.Mae’r Ddeddf yn darparu hyblygrwydd o ran yr hyn sy’n sbarduno cyngor neu wybodaeth a ddarperir gan yr CPG (gall yr CPG ddarparu cyngor neu wybodaeth ohono’i hun, neu ar gais Gweinidogion Cymru). Caiff yr CPG felly weithredu ar ei liwt ei hun os yw’n dod yn ymwybodol o bwnc y mae’n penderfynu y dylai ddarparu gwybodaeth neu gyngor yn ei gylch. Pan fo Gweinidogion Cymru yn ceisio gwybodaeth neu gyngor gan yr CPG, rhaid ei darparu neu ei ddarparu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Adran 2 – Aelodaeth Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cymru

10.Mae adran 2 yn darparu mai Prif Weinidog Cymru fydd yn cadeirio’r CPG fel arfer, ac y bydd yn cynnwys tri math o aelod – aelodau o Lywodraeth Cymru (a allai fod yn unrhyw un neu ragor o Weinidogion Cymru neu Ddirprwy Weinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol neu unrhyw aelod o staff Llywodraeth Cymru), naw cynrychiolydd cyflogwyr yng Nghymru a naw cynrychiolydd gweithwyr yng Nghymru.

11.Nid oes unrhyw derfyn ar nifer yr aelodau Llywodraeth Cymru o’r CPG, a bydd hynny’n golygu y gall unigolion gwahanol fynychu’r CPG ar adegau gwahanol. Y Prif Weinidog fydd yn penderfynu pa unigolion sy’n gweithredu fel aelodau Llywodraeth Cymru yn ystod cyfarfod penodol o’r CPG.

12.Y Prif Weinidog fydd yn penodi’r cynrychiolwyr cyflogwyr a’r cynrychiolwyr gweithwyr. Mae’r ffaith y bydd nifer cyfartal o gynrychiolwyr cyflogwyr a chynrychiolwyr gweithwyr yn adlewyrchu natur gydweithredol partneriaeth gymdeithasol a chydraddoldeb cynrychiolwyr sy’n gyflogwyr ac yn weithwyr yn y broses o gynghori Gweinidogion Cymru.

13.Mae adran 2(4) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Prif Weinidog gymryd pob cam rhesymol i benodi naw cynrychiolydd cyflogwyr a naw cynrychiolydd gweithwyr o fewn chwe mis i’r dyddiad y daw adran 2(4) ei hun i rym.

14.Mae adran 2(5) yn darparu bod yr CPG yn grŵp ar y cyd na all ond gweithredu ar y cyd wrth arfer ei swyddogaethau. Felly ni all aelodau arfer swyddogaethau’r CPG yn unigol; rhaid gwneud hyn ar y cyd â phob aelod arall. Mae’r dull hwn yn adlewyrchu natur gydweithredol partneriaeth gymdeithasol.

Adrannau 3 a 4 – Cynrychiolwyr cyflogwyr a chynrychiolwyr gweithwyr

15.Mae’r adrannau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch pwy y gall y Prif Weinidog ei benodi’n gynrychiolydd cyflogwyr neu’n gynrychiolydd gweithwyr. Rhaid i gynrychiolwyr cyflogwyr fod yn unigolion y mae’r Prif Weinidog o’r farn eu bod yn cynrychioli categorïau penodol o gyflogwyr yng Nghymru fel y’u pennir yn adran 3. Rhaid i gynrychiolwyr gweithwyr fod yn unigolion y mae’r Prif Weinidog o’r farn eu bod yn cynrychioli staff sy’n gweithio i gyflogwyr ym mhob un o’r categorïau hynny yng Nghymru.

16.Mae gan y Prif Weinidog ddisgresiwn eang o ran penodi unigolion gan mai’r unig ofyniad ar gyfer penodi yw bod y Prif Weinidog wedi dod i farn bod unigolyn penodol yn cynrychioli sefydliadau neu staff perthnasol (fel y bo’n briodol). Ond mewn gwirionedd, mae’r broses enwebu sydd wedi ei chynnwys yn adran 5 yn cyfyngu ar y disgresiwn hwn yn sylweddol.

17.Mae cynrychiolwyr cyflogwyr a chynrychiolwyr gweithwyr yn cyflawni eu rôl fel unigolion, ni waeth beth fo’u cysylltiad ag unrhyw sefydliad y tu allan i’r CPG (e.e. corff cyhoeddus neu undeb llafur).

18.Y nod yw y bydd cynrychiolwyr cyflogwyr a chynrychiolwyr gweithwyr yn gallu cynrychioli amrywiaeth eang o garfanau a safbwyntiau.

Adran 5 – Enwebu aelodau penodedig

19.Mae adran 5(1) yn darparu bod rhaid i’r Prif Weinidog, cyn penodi cynrychiolwyr cyflogwyr, geisio enwebiadau gan sefydliadau y mae’r Prif Weinidog o’r farn eu bod yn cynrychioli safbwyntiau pob categori o gyflogwr sydd i’w gynrychioli gan gynrychiolwyr cyflogwyr. Fodd bynnag, nid oes gorfodaeth ar y Prif Weinidog i dderbyn enwebiadau ar gyfer cynrychiolwyr cyflogwyr a chaniateir iddo benodi un neu ragor o unigolion nad ydynt wedi eu henwebu yn y modd hwnnw.

20.Rhaid i’r Prif Weinidog roi sylw i unrhyw enwebiadau a wnaed wrth benodi cynrychiolwyr cyflogwyr. Bydd hyn yn sicrhau y gall ystod eang o sefydliadau’r sector preifat a’r sector cyhoeddus ddylanwadu ar benodi cynrychiolwyr cyflogwyr i’r CPG.

21.Mae adran 5(2) yn darparu bod rhaid i’r Prif Weinidog geisio enwebiadau gan TUC Cymru cyn penodi cynrychiolwyr gweithwyr.

22.Ni chaiff y Prif Weinidog ond penodi cynrychiolwyr gweithwyr a enwebwyd gan TUC Cymru. Bydd hyn yn sicrhau bod cynrychiolwyr gweithwyr yn wirioneddol gynrychiadol o brofiad cyfunol y gweithlu.

23.Fodd bynnag, nid oes gorfodaeth ar y Prif Weinidog i benodi pob un o’r unigolion a enwebwyd gan TUC Cymru, nac unrhyw unigolyn o’u plith, i fod yn gynrychiolydd gweithwyr. Felly gallai’r Prif Weinidog benderfynu peidio â phenodi un neu ragor o enwebeion TUC Cymru a gofyn am enwebiadau eraill.

24.Y nod yw creu grŵp amrywiol drwy ddarparu ar gyfer sicrhau bod ystod eang o gyflogwyr a gweithwyr yn cael eu cynrychioli ar yr CPG.

Adran 6 – Cyfnod penodiadau

25.Mae’r adran hon yn darparu y penodir cynrychiolwyr cyflogwyr neu gynrychiolwyr gweithwyr am dair blynedd oni bai bod y Prif Weinidog yn terfynu eu penodiad neu eu bod yn ymddiswyddo drwy hysbysu’r Prif Weinidog.

26.Nid yw’r ddeddfwriaeth yn atal y Prif Weinidog rhag ailbenodi unigolyn i’r CPG nac yn atal cynrychiolwyr rhag gwasanaethu am gyfnodau olynol.

27.Mae’r adran yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i’r Prif Weinidog lenwi unrhyw swydd wag ar gyfer cynrychiolydd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. Bydd y ddarpariaeth hon yn sicrhau yr amherir cyn lleied ag y bo modd ar waith yr CPG ac yn sicrhau, cyn belled ag y bo’n bosibl, y cynhelir nifer cyfartal o gynrychiolwyr cyflogwyr a chynrychiolwyr gweithwyr.

Adran 7 – Cyfarfodydd, gweithdrefnau a chymorth gweinyddol

28.Mae’r adran hon yn ymdrin â gweithrediad yr CPG. Mae’n pennu gweithdrefnau penodol – pa mor aml y mae rhaid cynnal cyfarfodydd, mai’r Prif Weinidog fydd yn cadeirio’r CPG pan fo hynny’n bosibl, a threfniadau pan na fo hyn yn bosibl. Mewn amgylchiadau pan na fydd y Prif Weinidog yn cadeirio’r CPG, un arall o Weinidogion neu Ddirprwy Weinidogion Cymru a enwebwyd gan y Prif Weinidog fydd yn cadeirio’r CPG.

29.Mae’n ei gwneud yn ofynnol hefyd i Weinidogion Cymru bennu a chyhoeddi pob gweithdrefn arall y mae’r CPG i’w dilyn, ynghyd â’r cworwm ar gyfer cyfarfodydd yr CPG, o fewn chwe mis i’r dyddiad y daw adran 7(4) i rym. Bydd cyhoeddi gweithdrefnau’r CPG yn sicrhau cymaint o dryloywder â phosibl. Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â’r CPG, ddiwygio unrhyw un neu ragor o’r gweithdrefnau y maent wedi eu pennu a rhaid cyhoeddi unrhyw ddiwygiadau.

30.Mae’r adran hefyd yn pennu materion y mae rhaid i’r gweithdrefnau sydd i’w cyhoeddi gan Weinidogion Cymru ymdrin â hwy ac yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu cymorth gweinyddol i’r CPG.

31.Y nod yw darparu ar gyfer fframwaith sylfaenol o weithdrefnau heb fod yn rhagnodol i’r graddau bod hynny’n cyfyngu ar hyblygrwydd gwaith yr CPG.

Adran 8 – Is-grwpiau

32.Mae adran 8 yn darparu pŵer i’r CPG i greu is-grwpiau er mwyn cyflawni ei swyddogaethau neu er mwyn ei gynorthwyo i wneud hynny. Rhaid i aelod o’r CPG gadeirio pob is-grŵp ond caiff is-grwpiau gynnwys aelodau o’r CPG ac unigolion eraill fel aelodau. Ni chaiff is-grŵp ond arfer swyddogaethau neu agweddau ar swyddogaethau a ddirprwywyd iddo gan yr CPG. Nid oes terfyn ar nifer yr is-grwpiau y caiff yr CPG eu creu.

33.Bydd y posibilrwydd o gynnwys cynrychiolwyr nad ydynt yn aelodau o’r CPG fel aelodau o is-grwpiau yn galluogi is-grwpiau i ddefnyddio’r ystod fwyaf bosibl o arbenigedd a gwybodaeth. Ymhlith pethau eraill, gallai’r CPG ddefnyddio is-grwpiau i sicrhau bod ei swyddogaethau’n cael eu cyflawni mewn modd mwy effeithlon, i ddarparu cyngor i Weinidogion Cymru ar fater penodol neu i sicrhau y gellir cyflawni ei swyddogaethau yn ystod y cyfnodau rhwng cyfarfodydd yr CPG llawn.

34.Er na chaiff is-grŵp ond arfer y swyddogaethau hynny a ddirprwywyd iddo gan yr CPG, nid oes unrhyw gyfyngiad ar ba rai o swyddogaethau’r CPG y gellir eu dirprwyo. O ganlyniad, caiff is-grŵp o’r CPG lunio gwybodaeth neu gyngor i Weinidogion Cymru yn yr un modd ag y mae’r CPG ei hun yn gwneud hynny (cyn belled ag y bo’r swyddogaethau perthnasol wedi eu dirprwyo’n briodol).

Adran 9 – Is-grŵp caffael cyhoeddus

35.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r CPG gymryd pob cam rhesymol i sefydlu is-grŵp penodol sy’n ymwneud â chaffael cyhoeddus, o fewn chwe mis i’r dyddiad y daw adran 9(1) i rym. Yn ogystal â hynny, mae’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru bennu a chyhoeddi’r cworwm ar gyfer cyfarfodydd yr is-grŵp caffael cyhoeddus, llunio canllawiau y mae rhaid i’r CPG roi sylw iddynt wrth benodi aelodau gan gynnwys canllawiau at ddiben sicrhau aelodaeth sydd â chynrychiolaeth briodol a’r gweithdrefnau i’w dilyn yn ystod cyfarfodydd.

36.Mae’r adran hefyd yn nodi materion penodol y mae rhaid i’r gweithdrefnau sydd i’w cyhoeddi gan Weinidogion Cymru ymdrin â hwy. Mae’r rhain yr un fath â’r rheini a gwmpesir yn y gweithdrefnau sydd wedi eu pennu a’u cyhoeddi mewn perthynas â’r CPG llawn. Gellir diwygio’r gweithdrefnau ar gyfer yr is-grŵp yn yr un modd â gweithdrefnau’r CPG. Yn yr un modd â’r CPG, y nod yw cydbwyso cysondeb â hyblygrwydd.

37.Yn yr un modd ag is-grwpiau eraill, caiff yr is-grŵp caffael cyhoeddus gynnwys aelodau o’r CPG ac unigolion eraill, ond rhaid i aelod o’r CPG ei gadeirio.

Adran 10 – Darparu gwybodaeth a chyngor i’r CPG gan yr is-grŵp caffael cyhoeddus

38.Mae’r adran hon yn nodi swyddogaethau’r is-grŵp caffael cyhoeddus, sef darparu gwybodaeth neu gyngor i’r CPG ynghylch y swyddogaethau a roddir i awdurdodau contractio a Gweinidogion Cymru o dan y dyletswyddau caffael cymdeithasol gyfrifol a nodir yn Rhan 3 o’r Ddeddf. Os yw’r CPG yn cael cais am wybodaeth neu gyngor gan Weinidogion Cymru ynghylch materion o’r fath, rhaid i’r CPG geisio’r wybodaeth neu’r cyngor oddi wrth yr is-grŵp caffael cyhoeddus a’i darparu neu ei ddarparu i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

39.Yn ogystal, mae’r adran hon yn darparu y caiff yr CPG ddiwygio’r wybodaeth a‘r cyngor cyn ei hanfon neu ei anfon at Weinidogion Cymru.

40.Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymgynghori ag is-grŵp yr CPG o dan adrannau 30 neu 36 o’r Ddeddf, rhaid i’r is-grŵp caffael cyhoeddus ddarparu gwybodaeth a chyngor y mae’n barnu eu bod yn briodol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

41.Caiff Gweinidogion Cymru ymgynghori’n uniongyrchol â’r is-grŵp caffael cyhoeddus o dan adrannau 30(2)(d) neu 36(2)(d) (hynny yw, mewn perthynas â hysbysiadau a ddarperir gan awdurdodau contractio mewn cysylltiad â chymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol sydd wedi dod i law o dan adran 29 neu â chymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol sydd wedi dod i law o dan adran 35), ac yn yr achos hwnnw, rhaid i’r is-grŵp caffael cyhoeddus ddarparu’r wybodaeth neu’r cyngor cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Adrannau 11 ac 12 – Cyfarfod o bell a threuliau

42.Mae adran 11 yn caniatáu i’r CPG neu is-grŵp o’r CPG gynnal cyfarfodydd o bell, er enghraifft drwy’r rhyngrwyd neu dros y ffôn. Bydd y darpariaethau hyn yn cynyddu hyblygrwydd yr CPG ac yn ei alluogi i gyflawni ei swyddogaethau yn effeithiol.

43.Mae adran 12 yn galluogi Gweinidogion Cymru i dalu treuliau cynrychiolwyr cyflogwyr a chynrychiolwyr gweithwyr yr CPG yn ogystal â threuliau aelodau o is-grwpiau. Byddai taliadau o’r fath yn ddarostyngedig i unrhyw bolisïau neu weithdrefnau perthnasol a roddwyd yn eu lle gan Weinidogion Cymru.

Adran 13 – Pwerau atodol

44.Mae’r adran hon yn darparu pwerau atodol i’r CPG. Mae’r rhain yn arferadwy mewn perthynas â’i swyddogaethau ei hun neu â swyddogaethau is-grŵp, fel ei gilydd.

Rhan 2 – Partneriaeth Gymdeithasol a Datblygu Cynaliadwy.Cyflwyniad

45.Mae adran 2 o Ddeddf 2015 yn diffinio “datblygu cynaliadwy” fel y broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gan anelu at gyrraedd y nodau llesiant a nodir yn adran 4 o’r Ddeddf honno. Mae adran 3 o Ddeddf 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ymgymryd â datblygu cynaliadwy. Wrth iddynt gyflawni’r ddyletswydd hon, rhaid iddynt osod a chyhoeddi amcanion llesiant. Amcanion yw’r rhain sydd wedi eu cynllunio i sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl gan gorff at gyflawni pob un o’r nodau llesiant. Rhaid i gyrff cyhoeddus gymryd pob cam rhesymol, wrth arfer eu swyddogaethau, i gyflawni eu hamcanion.

46.Mae Rhan 2 yn cyflwyno dyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar gyrff cyhoeddus a dyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar wahân ond debyg ar Weinidogion Cymru. Mae’r dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol yn gymwys pan fo corff cyhoeddus yn ymgymryd â datblygu cynaliadwy yn unol â Deddf 2015, a bydd yn sicrhau, pan fo cyrff cyhoeddus yn gwneud penderfyniadau strategol allweddol wrth ymgyrraedd at wella llesiant yng Nghymru o dan Ddeddf 2015, eu bod yn gwneud hynny gan roi ystyriaeth lawn a phriodol i brofiad a gwybodaeth eu staff ac, yn achos Gweinidogion Cymru, i safbwyntiau partneriaid cymdeithasol yng Nghymru fel y’u cynrychiolir gan yr CPG.

47.Mae cyrff cyhoeddus yn ddarostyngedig i ofyniad i lunio adroddiad yn flynyddol a gofyniad i gyflwyno’r adroddiadau i’r CPG.

48.Mae Rhan 2 hefyd yn diwygio’r nodau llesiant drwy roi “gwaith teg” yn lle’r cyfeiriad at “gwaith addas” yn y disgrifiad o’r nod “Cymru lewyrchus”.

Adran 15 – Trosolwg o’r Rhan a dehongli

49.Mae adran 15 yn darparu trosolwg o Ran 2 o’r Ddeddf.

50.Mae is-adrannau (2) a (3) yn diffinio “datblygu cynaliadwy” a “corff cyhoeddus” at ddibenion Rhan 2 drwy gyfeirio at y diffiniadau a nodir yn Neddf 2015. Y cyrff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol yn adran 16 yw’r rheini a restrir yn adran 6 o Ddeddf 2015, ac eithrio Gweinidogion Cymru sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol yn adran 17.

Adran 16 – Dyletswydd partneriaeth gymdeithasol

51.Mae adran 16(1) yn gosod y ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar bob corff cyhoeddus penodedig. Y ddyletswydd honno yw, i’r graddau y bo’n rhesymol, i ‘geisio consensws neu gyfaddawd’ gyda’i undebau llafur cydnabyddedig (neu pan nad oes undebau llafur cydnabyddedig o’r fath, gyda chynrychiolwyr eraill ei staff) wrth gymryd camau penodedig.

52.Mae’r ddyletswydd yn berthnasol pan fo corff cyhoeddus yn pennu ei amcanion llesiant o dan adran 3(2)(a) o Ddeddf 2015, a phan fo’n gwneud penderfyniadau o natur strategol ynghylch y camau rhesymol y mae angen iddo eu cymryd i gyflawni’r amcanion hynny yn unol ag adran 3(2)(b) o Ddeddf 2015. Nid yw’n gymwys i’r penderfyniadau y mae corff cyhoeddus yn eu gwneud o ddydd i ddydd.

53.Mae adran 16(2) yn nodi nifer o ofynion gweithdrefnol penodol sy’n ymwneud â’r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol, y mae rhaid i gorff cyhoeddus gydymffurfio â hwy wrth ‘geisio consensws neu gyfaddawd’. Bwriedir i’r gofynion gweithdrefnol a nodir sicrhau bod undebau llafur neu gynrychiolwyr eraill i’r staff mewn cyrff cyhoeddus yn cael eu cynnwys yn llawn ac yn briodol yn y gwaith o osod amcanion neu wrth wneud penderfyniadau strategol eraill mewn perthynas â datblygu cynaliadwy. Y ddyletswydd i rannu gwybodaeth ddigonol ac ymgynghori ar sail hynny yng nghyfnod ffurfiannol y broses, ac i ganiatáu digon o amser fel y gall undebau llafur neu gynrychiolwyr staff eraill ystyried cynigion, yw’r lleiaf a ddisgwylir gan broses ymgysylltu wirioneddol. Bydd y gofynion hyn yn hyrwyddo dull mwy cyson a chydweithredol o wneud penderfyniadau strategol gan gyrff cyhoeddus a fydd, yn ei dro, yn sicrhau bod amcanion a osodir gan gyrff cyhoeddus, a phenderfyniadau allweddol a wneir ganddynt, yn rhoi sylw priodol i safbwyntiau, gwybodaeth a phrofiadau’r gweithlu.

Adran 17 – Dyletswydd partneriaeth gymdeithasol: Gweinidogion Cymru

54.Mae adran 17(1) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r CPG pan fônt yn gwneud penderfyniadau o natur strategol ynghylch y camau rhesymol y maent yn eu cymryd i gyflawni eu hamcanion llesiant yn unol ag adran 3(2)(b) o Ddeddf 2015. Nid yw’n gymwys i’r penderfyniadau y mae Gweinidogion Cymru yn eu gwneud o ddydd i ddydd.

Adran 18 – Adroddiadau partneriaeth gymdeithasol

55.Mae adran 18 yn darparu bod rhaid i gorff cyhoeddus lunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol a’i gyflwyno i’r CPG. Rhaid cytuno ar yr adroddiad gydag undebau llafur cydnabyddedig y corff cyhoeddus neu (pan nad oes undeb llafur cydnabyddedig) gynrychiolwyr eraill ei staff; neu gynnwys datganiad ynddo yn esbonio pam na chytunwyd arno.

Adran 19 – Adroddiadau partneriaeth gymdeithasol: Gweinidogion Cymru

56.Mae adran 19 yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol. Rhaid ei gyflwyno i’r CPG a’i osod gerbron y Senedd. Rhaid cytuno ar yr adroddiad gyda’r CPG neu gynnwys datganiad ynddo yn esbonio pam na chytunwyd arno.

Adran 20 - Gwaith Teg

57.Mae adran 20 yn diwygio’r disgrifiad o nod llesiant “Cymru lewyrchus” yn adran 4 o Ddeddf 2015 drwy roi “waith teg” yn lle “waith addas”. Bydd y diwygiad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried gwaith teg wrth osod amcanion sydd wedi eu cynllunio i sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl ganddynt tuag at gyflawni nod llesiant “Cymru lewyrchus”, ac wrth gymryd camau i gyflawni’r amcanion hynny.

Rhan 3 – Caffael Cyhoeddus Cymdeithasol Gyfrifol

Pennod 1

58.Mae Pennod 1 yn rhoi diffiniadau o “contract cyhoeddus”, “awdurdod contractio” a “caffael cyhoeddus”. Mae hefyd yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddiwygio ystyr awdurdod contractio.

59.Ceir rhestr o awdurdodau contractio yn Atodlen 1.

60.At ddibenion y Rhan hon, mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod contractio ym mhob sefyllfa ond dwy, pan fyddai’n anymarferol ystyried eu bod yn awdurdod contractio. O dan adrannau 29 a 35, rhaid i awdurdod contractio hysbysu Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â chynnwys cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn contractau adeiladu mawr a chymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol wrth allanoli contractau. Yn eu tro, o dan adrannau 30 ac 36 mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu unrhyw hysbysiadau a ddarparwyd gan awdurdodau contractio ac yna gyhoeddi canlyniad yr adolygiad o’r hysbysiad. Yn ogystal, o dan adran 41, mae gan Weinidogion Cymru bŵer i ymchwilio i sut y mae awdurdod contractio yn cynnal caffael cyhoeddus.

Pennod 2
Adran 24 – Dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol

61.Mae’r adran hon yn nodi dyletswydd gyffredinol ar awdurdodau contractio, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt geisio gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd drwy gynnal caffael cyhoeddus mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol.

62.Mae is-adran (2) yn darparu bod hyn yn golygu bod rhaid iddynt weithredu, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gan anelu at gyrraedd y nodau llesiant yn Neddf 2015.

63.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio bennu a chyhoeddi amcanion (“amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol”) mewn perthynas â’u gweithgareddau caffael cyhoeddus sydd wedi eu cynllunio i sicrhau bod yr awdurdodau yn cyfrannu i’r eithaf at gyrraedd y nodau llesiant.

64.Yn ogystal, mae’r adran hon yn cyflwyno categori o gaffael cyhoeddus mewn cysylltiad â “contractau rhagnodedig”. Gellir rhannu’r rhain yn dri chategori fel a ganlyn. Y categori cyntaf yw contractau adeiladu mawr, a ddiffinnir yn adran 25. Yr ail gategori yw contractau allanoli gwasanaethau, a ddiffinnir yn adran 26. Y trydydd categori yw unrhyw gontract cyhoeddus arall a ddisgrifir mewn rheoliadau gan Weinidogion Cymru. Pan fo awdurdodau contractio yn cynnal caffaeliadau cyhoeddus mewn cysylltiad â chontractau rhagnodedig, mae is-adran (5) yn darparu bod rhaid iddynt gymryd pob cam rhesymol i gyflawni eu hamcanion caffael cymdeithasol gyfrifol.

65.Gosodir dau gyfyngiad gan is-adran (6) ar y ddyletswydd hon i “gymryd pob cam rhesymol” i gyflawni amcanion. Y cyntaf yw bod rhaid i unrhyw ddarpariaethau sydd wedi eu cynnwys mewn contract mewn perthynas â’r amcanion hyn fod yn gymesur o ran gwerth y contract. Yr ail yw bod rhaid sicrhau nad oes gwrthdaro rhwng y darpariaethau ac unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol arall sy’n ymwneud â chaffael.

Adran 25 – Dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol: contractau adeiladu mawr

66.Mae’r adran hon yn cyflwyno camau penodol sy’n ofynnol mewn cysylltiad â “contract adeiladu mawr”.

67.Diffinnir contractau adeiladu mawr fel contractau gweithiau cyhoeddus neu gontractau gweithiau neu gontractau consesiwn gweithiau, sydd â chyfanswm gwerth amcangyfrifedig o dros £2 filiwn (yn cynnwys TAW). Mae hyn yn cynnwys cytundebau fframwaith a chontractau yr ymrwymir iddynt o ganlyniad i gytundeb fframwaith lle y mae’r gwerth amcangyfrifedig yn fwy na £2 filiwn. Mae contractau gweithiau cyhoeddus, contractau gweithiau a chontractau consesiwn gweithiau i gyd wedi eu diffinio yn adran 45(1).

68.Y prif gam gweithredu yw dyletswydd ar awdurdodau contractio i ystyried a ddylid cynnwys “cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol” (fel y’u cyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 27) mewn unrhyw gontract adeiladu mawr y maent yn bwriadu ei ddyfarnu, ac i gymryd camau rhesymol i sicrhau y gellir eu gweithredu. Bwriedir i’r cymalau sicrhau gwelliannau i lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol, a restrir o dan gategorïau a nodir yn adran 27.

69.Os penderfynir cynnwys y cymalau, rhaid i’r awdurdod contractio, wrth reoli’r contract wedi hynny, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y rhwymedigaethau yn y cymalau yn cael eu gweithredu.

Adran 26 – Dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol: contractau allanoli gwasanaethau

70.Diffinnir contractau allanoli gwasanaethau yn is-adran (2) fel naill ai contract y mae gwasanaeth cyhoeddus sy’n cael ei ddarparu gan, neu a ddarparwyd yn flaenorol gan, awdurdod contractio yn cael ei drosglwyddo i sefydliad arall odano, neu y mae sefydliad arall yn cytuno i gyflawni unrhyw swyddogaeth arall sy’n cael ei gyflawni gan, neu a gyflawnwyd yn flaenorol gan, awdurdod contractio odano.

71.Mae’r adran hon yn nodi’r camau penodol y mae rhaid eu cymryd mewn perthynas â chontract allanoli gwasanaethau (mae’r rhain yn debyg i’r camau sy’n ofynnol mewn cysylltiad â chontractau adeiladu mawr).

72.Rhaid i’r awdurdod contractio ystyried cynnwys “cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol” mewn unrhyw gontract allanoli gwasanaethau perthnasol y mae’n bwriadu ei ddyfarnu. Mae adran 33 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol.

73.Os cânt eu cynnwys, rhaid i’r awdurdod contractio, wrth reoli’r contract wedi hynny, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y rhwymedigaethau yn y cymalau yn cael eu gweithredu.

Adran 27 – Cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn contractau adeiladu mawr

74.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cymalau enghreifftiol ar gyfer contractau adeiladu mawr (“cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol”) sydd wedi eu cynllunio i sicrhau gwelliannau i lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol, a restrir o dan y categorïau a nodir yn y Tabl yn adran 27. I grynhoi, mae’r gwelliannau hyn yn cwmpasu: talu cyflenwyr yn brydlon; darparu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc a phobl o dan anfantais; sicrhau cydymffurfedd â deddfwriaeth mewn perthynas â hawliau cyflogaeth; darparu hyfforddiant priodol i weithwyr; darparu cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig wrth is-gontractio; a materion amgylcheddol penodol. Gellir diwygio’r tabl yn y dyfodol drwy reoliadau.

75.Mae “cynnwys” cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn contractau adeiladu mawr yn golygu cynnwys pob un o’r cymalau enghreifftiol, gan ymgorffori geiriad a fydd yn cael yr un effaith neu’r un effaith yn sylweddol â’r cymal contract enghreifftiol cyhoeddedig.

Adran 28 – Cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn is-gontractau

76.Yn ogystal â chymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu mewn contractau (gweler adran 25), mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y rhwymedigaethau’n cael eu gweithredu pan fo contractiwr yn ymrwymo i is-gontract.

77.Mae’r adran hon yn cynnig nifer o enghreifftiau o’r hyn y mae “camau rhesymol” yn ei olygu hefyd. I grynhoi, mae’r rhain yn cynnwys: sicrhau bod cymalau sy’n cael yr un effaith neu’r un effaith yn sylweddol yn cael eu cynnwys mewn is-gontractau, ac ym mhob contract dilynol yn y gadwyn gyflenwi; sicrhau y gellir gorfodi’r rhwymedigaethau sydd yn y cymalau; ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr gael cydsyniad yr awdurdod contractio cyn penodi is-gontractwyr fel y gall yr awdurdod sicrhau bod y cymalau wedi eu cynnwys; ei gwneud yn ofynnol i’r contractiwr hysbysu’r awdurdod os nad yw’n cynnwys y cymalau mewn is-gontractau; a’i gwneud yn ofynnol i gontractwyr fonitro gweithredu’r cymalau.

Adran 29 – Cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol: hysbysu Gweinidogion Cymru

78.Mae’n bosibl y bydd rhesymau dilys pam nad yw awdurdod contractio yn bwriadu cynnwys cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn contractau adeiladu mawr. Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod contractio hysbysu Gweinidogion Cymru os, mewn perthynas â chontract adeiladu mawr—

a.

nad yw’n bwriadu cynnwys y cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol, neu

b.

er ei fod wedi cymryd camau rhesymol i wneud hynny, nad ydynt wedi eu cynnwys mewn contract.

79.Rhaid i awdurdod contractio hefyd hysbysu Gweinidogion Cymru os yw wedi methu â throsglwyddo’r rhwymedigaeth ofynnol drwy gadwyni cyflenwi drwy gyfrwng is-gontractau, neu os nad yw wedi rhoi proses ar waith i reoli eu gweithrediad.

80.Rhaid gwneud hysbysiad cyn gynted ag y bo’n bosibl gan roi rhesymau’r awdurdod.

Adrannau 30 a 31 – Cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol: ymateb Gweinidogion Cymru a chontractau Gweinidogion Cymru

81.Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad gan awdurdod contractio o dan adran 29, mae’r adran hon yn nodi’r camau y mae’n ofynnol i’r Gweinidogion eu cymryd.

82.Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad, mae’n ofynnol iddynt gyhoeddi crynodeb ohono o dan is-adran (1) a rhaid iddynt ystyried a ydynt yn fodlon ar y rhesymau a roddwyd yn yr hysbysiad. Wrth wneud hynny, cânt ymgynghori â’r awdurdod o dan is-adran (2) a chânt, drwy hysbysiad, ei gwneud yn ofynnol i awdurdod contractio ddarparu dogfennau neu wybodaeth arall (a rhaid iddynt wneud y ddau beth hyn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol (gweler is-adran (7)), ac os digwydd hynny, rhaid iddo hefyd eu darparu neu ei darparu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. Caiff Gweinidogion Cymru hefyd ymgynghori â’r is-grŵp caffael cyhoeddus.

83.Os yw Gweinidogion Cymru yn fodlon ar resymau’r awdurdod a nodir yn yr hysbysiad, rhaid iddynt gyhoeddi crynodeb o’r rhesymau pam eu bod yn fodlon. Os nad ydynt yn fodlon, cânt roi cyfarwyddyd i’r awdurdod contractio i gymryd pob cam rhesymol i gynnwys cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn y contract adeiladu mawr neu mewn is-gontractau, ac i roi prosesau ar waith i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu. Rhaid iddynt gyhoeddi unrhyw gyfarwyddydau hefyd.

84.Mae is-adran (6) yn darparu os nad ydynt yn fodlon ond nad ydynt yn rhoi cyfarwyddydau, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r CPG a rhaid iddynt gyhoeddi’r rhesymau pam nad ydynt yn fodlon a pham nad ydynt yn rhoi cyfarwyddyd.

85.Mae is-adran (9) yn darparu nad yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw wybodaeth a fyddai’n esempt rhag cael ei datgelu o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

86.Mae adran 31 yn gwneud darpariaeth ar gyfer contractau a osodir gan Weinidogion Cymru. Rhaid iddynt gyhoeddi datganiad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol os nad ydynt yn bwriadu cynnwys cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn contract adeiladu mawr, gan gynnwys y ffaith eu bod wedi cymryd camau rhesymol i wneud hynny, os nad ydynt wedi eu cynnwys mewn contract, neu os nad oes proses yn ei lle i reoli eu gweithrediad, gan roi rhesymau.

Adran 32 – Y cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu

87.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cod ymarfer (“y cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu”) ynghylch materion cyflogaeth a phensiynau sy’n gysylltiedig â chontractau allanoli gwasanaethau. Mae hyn at ddiben gwella ansawdd gwasanaethau cyhoeddus neu swyddogaethau eraill a allanolir gan awdurdodau contractio. Mae’r “cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol”(gweler adran 33) yn cael eu cynnwys fel rhan o’r cod hwn.

88.Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ddiwygiad dilynol i’r cod hwn hefyd, a’i osod gerbron y Senedd. Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â rhanddeiliaid perthnasol wrth ddatblygu’r cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu, neu wrth ei ddiwygio wedi hynny.

Adrannau 33 a 34 – Cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol mewn contractau allanoli gwasanaethau ac mewn is-gontractau

89.Rhaid i’r cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu a gyhoeddir o dan adran 32 gynnwys cymalau contract enghreifftiol (“cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol”), sydd wedi eu cynllunio i sicrhau y gall aelodau o staff a gyflogir i ddarparu gwasanaeth, os ydynt yn dymuno, drosglwyddo i’r cyflogwr newydd a fydd wedi ei gontractio i ddarparu’r gwasanaeth. Bydd y cymalau hyn yn sicrhau bod telerau ac amodau eu cyflogaeth a’u trefniadau pensiwn wedi eu diogelu hefyd.

90.Mae’r cymalau wedi eu cynllunio i sicrhau hefyd, os bydd y cyflogwr newydd yn recriwtio rhagor o aelodau o staff i ddarparu’r un gwasanaeth, fod yr aelodau newydd o staff gael eu cyflogi gyda thelerau ac amodau nad ydynt yn llai ffafriol, a threfniadau pensiwn sy’n rhesymol.

91.Mae adran 34 yn gymwys pan fo awdurdod contractio yn bwriadu cynnwys cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol mewn is-gontract allanoli gwasanaethau. Mae adran 34(2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y rhwymedigaethau yn y cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu mewn unrhyw is-gontract y mae’r contractiwr yn ymrwymo iddo gydag unrhyw weithredwr economaidd arall. Mae is-adran (3) yn nodi enghreifftiau o gamau rhesymol y gellir eu cymryd. Yn eu plith mae sicrhau bod cymalau sy’n cael yr un effaith neu’r un effaith yn sylweddol yn cael eu cynnwys mewn is-gontractau, ac ym mhob contract dilynol yn y gadwyn gyflenwi; sicrhau y gellir eu gorfodi; ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr gael cydsyniad yr awdurdod contractio cyn penodi is-gontractwyr fel y gall yr awdurdod sicrhau bod y cymalau wedi eu cynnwys; ei gwneud yn ofynnol i’r contractiwr hysbysu’r awdurdod os nad yw’n cynnwys y cymalau mewn is-gontractau; a’i gwneud yn ofynnol i gontractwyr fonitro gweithredu’r cymalau.

Adran 35– Cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol: hysbysu Gweinidogion Cymru

92.Mae adran 35(1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod contractio hysbysu Gweinidogion Cymru os nad yw wedi cynnwys, neu os nad yw’n bwriadu cynnwys, cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn y contract, gan gynnwys pan fo’r awdurdod wedi cymryd camau rhesymol i’w cynnwys, neu os nad oes proses ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pa un ai mewn contract neu mewn is-gontract.

93.O dan is-adran (2), rhaid darparu hysbysiad yr awdurdod contractio a’i resymau dros beidio â chynnwys cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn y contract cyn gynted ag y bo’n bosibl.

Adrannau 36 a 37 – Cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol: ymateb Gweinidogion Cymru a chontractau Gweinidogion Cymru

94.Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad, mae’n ofynnol iddynt gyhoeddi crynodeb ohono o dan is-adran (1) a rhaid iddynt ystyried a ydynt yn fodlon ar y rhesymau a roddwyd yn yr hysbysiad. Wrth wneud hynny, cânt ymgynghori â’r awdurdod o dan is-adran (2) a chânt, drwy hysbysiad, ei gwneud yn ofynnol i awdurdod contractio ddarparu dogfennau neu wybodaeth arall (a rhaid iddynt wneud y ddau beth hyn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol (gweler is-adran (7)), ac os digwydd hynny, rhaid iddo hefyd eu darparu neu ei darparu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. Caiff Gweinidogion Cymru hefyd ymgynghori â’r is-grŵp caffael cyhoeddus.

95.Os yw Gweinidogion Cymru yn fodlon ar resymau’r awdurdod a nodir yn yr hysbysiad, rhaid iddynt gyhoeddi crynodeb o’r rhesymau pam eu bod yn fodlon. Os nad ydynt yn fodlon, cânt roi cyfarwyddyd i’r awdurdod contractio i gymryd pob cam rhesymol i gynnwys cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn y contract allanoli gwasanaethau neu mewn is-gontractau, ac i roi prosesau ar waith i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu. Rhaid iddynt gyhoeddi unrhyw gyfarwyddydau hefyd.

96.Mae is-adran (6) yn darparu os nad ydynt yn fodlon ond nad ydynt yn rhoi cyfarwyddydau, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r CPG a rhaid iddynt gyhoeddi’r rhesymau pam nad ydynt yn fodlon a pham nad ydynt yn rhoi cyfarwyddyd.

97.Mae is-adran (9) yn darparu nad yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw wybodaeth a fyddai’n esempt rhag cael ei datgelu o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

98.Mae adran 37 yn gwneud darpariaeth ar gyfer contractau a osodir gan Weinidogion Cymru. Rhaid iddynt gyhoeddi datganiad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol os nad ydynt yn bwriadu cynnwys cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol mewn contract allanoli, gan gynnwys y ffaith eu bod wedi cymryd camau rhesymol i wneud hynny, os nad ydynt wedi eu cynnwys mewn contract, neu os nad oes proses yn ei lle i reoli eu gweithrediad, gan roi rhesymau.

99.Yn achos contractau a osodir gan Weinidogion Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol os nad ydynt yn bwriadu cynnwys cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol mewn contract allanoli gwasanaethau, er eu bod wedi cymryd camau rhesymol i wneud hynny, os nad ydynt wedi eu cynnwys mewn contract, neu os nad oes proses yn ei lle i reoli eu gweithrediad, gan roi rhesymau.

Adran 38 – Strategaeth gaffael

100.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio lunio a chyhoeddi “strategaeth gaffael” sy’n nodi sut y mae’r awdurdod yn bwriadu cynnal caffael cyhoeddus mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol, sut y mae’n bwriadu cymryd camau rhesymol i gyflawni’r amcanion y mae wedi eu gosod (gweler adran 24) a sut y mae’n bwriadu gwneud taliadau yn brydlon. Caniateir nodi materion eraill sydd i’w cynnwys mewn strategaethau caffael mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion o bryd i’w gilydd.

101.O dan is-adran (4), rhaid adolygu’r strategaethau hyn bob blwyddyn a rhaid cyhoeddi unrhyw ddiwygiadau dilynol. Caniateir i ddau awdurdod neu ragor gyhoeddi strategaethau ar y cyd.

Pennod 3 – Adrodd Ac Atebolrwydd
Adran 39 – Adroddiadau caffael cymdeithasol gyfrifol blynyddol

102.Mae adran 39(1) yn nodi ei bod yn ofynnol i awdurdodau contractio gyhoeddi adroddiad caffael cymdeithasol gyfrifol blynyddol cyn gynted ag y bo’n bosibl ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol.

103.Mae is-adran (2) yn darparu bod rhaid i’r adroddiadau hyn gynnwys crynodeb o’r caffaeliadau rhagnodedig a arweiniodd at ddyfarnu unrhyw gontract yn ystod y flwyddyn ariannol honno, adolygiad o’r camau y mae’r awdurdod wedi eu cymryd i gyflawni ei amcanion, pa gamau pellach (os oes rhai) a allai gael eu cymryd mewn caffaeliadau yn y dyfodol i gyflawni’r amcanion hynny a chrynodeb o gaffaeliadau arfaethedig ar gyfer y ddwy flynedd ganlynol, ynghyd ag unrhyw wybodaeth arall a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

104.Mae is-adran (2)(e) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru nodi mewn rheoliadau, wybodaeth y dylai awdurdodau contractio ei chynnwys yn eu hadroddiadau blynyddol. Mae is-adran (3) yn pennu bod rhaid i hynny gynnwys gwybodaeth ynghylch i ba raddau y mae eu gweithgarwch caffael cyhoeddus yn cyflawni eu hamcanion caffael cymdeithasol gyfrifol drwy, er enghraifft, gyfrannu at yr economi leol ac ystyried materion amgylcheddol a materion cymdeithasol eraill, megis hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg.

Adran 40 – Cofrestr gontractau

105.Mae adran 40(1) yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod contractio gynnal a chyhoeddi cofrestr gontractau. Mae is-adran (2) yn darparu bod cofrestr yn cynnwys gwybodaeth am ‘gontractau cofrestradwy’ sydd o ddisgrifiad a ragnodwyd gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau. Mae is-adran (3) yn nodi’r wybodaeth y mae’n ofynnol ei chofnodi mewn cysylltiad â phob contract cofrestradwy: ei enw, dyddiad dyfarnu’r contract, y gwerth amcangyfrifedig, cyfeiriad prif fan busnes y contractiwr, y pwnc, y dyddiad cychwyn, y dyddiad terfynu ac unrhyw gyfnod y gellir estyn y contract, yn ogystal ag unrhyw wybodaeth arall a nodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

106.Mae is-adran (4) yn darparu nad yw’n ofynnol i awdurdodau contractio gofrestru unrhyw wybodaeth y maent o’r farn y byddai’n rhwystro gorfodi’r gyfraith neu na fyddai er budd y cyhoedd, y byddai’n rhagfarnu buddiannau masnachol person neu yn rhagfarnu cystadleuaeth rhwng gweithredwyr economaidd. O dan is-adran (5), ni cheir ond dileu’r wybodaeth am unrhyw gontract o’r contract ar ôl i’r contract gael ei derfynu neu ar ôl iddo ddod i ben.

Adran 41 – Ymchwiliadau caffael

107.Mae’r adran hon yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru i ymchwilio i sut y mae awdurdod contractio yn cynnal caffael cyhoeddus. Gallai hyn fod mewn perthynas â gwaith caffael penodol neu weithgarwch caffael yn fwy cyffredinol.

108.O dan is-adran (4), gall fod yn ofynnol gan Weinidogion Cymru i awdurdodau contractio ddarparu dogfennau neu wybodaeth arall at ddibenion ymchwiliad. Mae is-adran (5) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, ar ddiwedd unrhyw ymchwiliad, wneud argymhellion i’r awdurdod contractio, cyhoeddi adroddiad a/neu osod copi o unrhyw adroddiad gerbron y Senedd.

Adran 42 – Adroddiad blynyddol Gweinidogion Cymru ar gaffael cyhoeddus

109.Mae adran 42 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru, a hynny cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn ariannol. Mae is-adran (2) yn darparu bod rhaid i’r adroddiad roi crynodeb o unrhyw ymchwiliadau a gynhelir o dan adran 41, a gwybodaeth a ddaw o adroddiadau blynyddol awdurdodau contractio. Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r adroddiadau hyn a’u gosod gerbron y Senedd.

110.Mae Rhan 4 yn cynnwys darpariaethau ar weithdrefnau is-ddeddfwriaeth; yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru i wneud darpariaethau trosiannol, canlyniadol etc.; ac yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chychwyn, dehongli, dod i rym etc.

Adran 43 – Canllawiau

111.Mae’r adran hon yn nodi manylion y canllawiau y caiff Gweinidogion Cymru eu dyroddi ynghylch Rhan 3 o’r Ddeddf ac y mae rhaid i awdurdodau contractio roi sylw i’r canllawiau hynny wrth gynnal caffael cymdeithasol gyfrifol. Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r CPG ac unrhyw randdeiliaid eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol cyn dyroddi unrhyw ganllawiau o dan yr adran hon.

Adran 44 – Rheoliadau

112.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae rheoliadau o dan Ran 3 o’r Ddeddf i’w gwneud. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth ynghylch gweithdrefnau’r Senedd sy’n gymwys mewn perthynas â’r rheoliadau, a’r ddarpariaeth ategol (hynny yw, darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed) y caniateir ei gwneud yn y rheoliadau hyn.

Adran 45 – Dehongli Rhan 3

113.Mae’r adran hon yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn Rhan 3 o’r Ddeddf ac mae’n hunanesboniadol.

Adran 46 – Dehongli cyffredinol

114.Mae’r adran hon yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn y Ddeddf hon ac mae’n hunanesboniadol.

Adran 47 – Mân ddiwygiad i DLlCD 2015

115.Mae’r adran hon yn gwneud mân ddiwygiad i adran 9 o DLlCD 2015.

Adran 48 – Dod i rym

116.Mae is-adran (1) yn dwyn adran 48 o’r Ddeddf i rym drannoeth diwrnod y Cydsyniad Brenhinol.

117.Daw holl ddarpariaethau eraill y Ddeddf i rym drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru (is-adran (1)). Mae is-adran (2) yn caniatáu i orchmynion sy’n dwyn darpariaethau i rym bennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol ac mae is-adran (3) yn galluogi gorchmynion i wneud darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol a darpariaeth arbed mewn cysylltiad â dwyn darpariaethau i rym.

Adran 49 – Enw byr

118.Mae’r adran hon yn darparu mai enw byr y Ddeddf yw Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.

Atodlen 1

119.Mae Atodlen 1 yn rhestru’r sefydliadau, y cyrff a’r deiliaid swydd sy’n awdurdodau contractio ac felly yn ddarostyngedig i’r dyletswyddau caffael cymdeithasol gyfrifol yn Rhan 3 o’r Ddeddf.

Atodlen 2

120.Mae Atodlen 2 yn darparu bod pob awdurdod contractio i adolygu amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol os yw’r nodau llesiant yn cael eu diwygio, y mae rhaid i awdurdodau contractio roi sylw iddynt wrth gyflawni eu dyletswyddau o dan Ran 3 o’r Ddeddf. Mae hefyd yn galluogi awdurdodau contractio i adolygu eu hamcanion ar unrhyw adeg. Os yw awdurdod contractio yn diwygio’i amcanion, rhaid iddynt gael eu cyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Cofnod Y Trafodion Yn Senedd Cymru

121.Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy’r Senedd. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan y Senedd ar:

CyfnodDyddiad
Cyflwynwyd7 Mehefin 2022
Cyfnod 1 – Dadl29 Tachwedd 2022
Cyfnod 2 Pwyllgor Craffu – ystyried gwelliannau23 Ionawr 2023
Cyfnod 3  Cyfarfod llawn – ystyried gwelliannau07 Mawrth 2023
Cyfnod 4 Cymeradwyaeth gan Senedd Cymru14 Mawrth 2023
Y Cydsyniad Brenhinol24 Mai 2023