Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022

13Datganiad o flaenoriaethau strategolLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad sy’n nodi eu blaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ac arloesi, ac mewn cysylltiad â hwy.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, ddiwygio’r datganiad a gyhoeddir o dan is-adran (1) (gan gynnwys drwy ei ddisodli’n gyfan gwbl).

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ddiwygiadau y maent yn eu gwneud i’r datganiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2A. 13 mewn grym ar 4.9.2023 gan O.S. 2023/919, ergl. 2(a)