xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
7(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi rhestr o un neu ragor o gyrff (pa un a ydynt yn gorfforedig neu’n anghorfforedig) y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau dysgwyr sy’n ymgymryd ag addysg drydyddol yng Nghymru at ddiben penodi aelod cyswllt y dysgwyr.
(2)Cyn cyhoeddi rhestr (gan gynnwys rhestr sy’n disodli rhestr arall) o dan is-baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori—
(a)â’r Comisiwn, a
(b)ag unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
(3)Mae is-baragraff (4) yn gymwys os nad oes neb yn dal swydd aelod cyswllt y dysgwyr.
(4)Rhaid i Weinidogion Cymru wahodd pob un o’r cyrff ar y rhestr a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan is-baragraff (1) i enwebu ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt y dysgwyr.
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r cyfnod y mae enwebiad o dan is-baragraff (4) i’w wneud ynddo.
(6)Rhaid i Weinidogion Cymru benodi person, o blith yr ymgeiswyr cymwys a enwebir yn ystod y cyfnod a bennir o dan is-baragraff (5), yn aelod cyswllt y dysgwyr.
(7)Nid yw person yn ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt y dysgwyr ond os yw’r person—
(a)wedi bod yn ddysgwr a oedd yn ymgymryd ag addysg drydyddol ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dod i ben ar ddiwrnod y penodiad, a
(b)yn dal swydd neu unrhyw fath o aelodaeth o gorff ar y rhestr a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan is-baragraff (1).