Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

9Cyflwyniad a dehongli
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Maeʼr Bennod hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cynllunio a mabwysiadu cwricwlwm i unrhyw un o’r canlynol—

(a)disgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;

(b)disgyblion cofrestredig mewn ysgol feithrin a gynhelir;

(c)plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at ysgol yn gyfeiriadau—

(a)at ysgol a gynhelir, neu

(b)at ysgol feithrin a gynhelir.

(3)Yn y Bennod hon—

(a)mae cyfeiriadau at ddisgyblion, mewn perthynas ag ysgol, yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;

(b)mae cyfeiriadau at blant, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at blant y darperir yr addysg honno ar eu cyfer;

(c)mae cyfeiriadau at y cwricwlwm mabwysiedig, mewn perthynas ag ysgol, yn gyfeiriadau at y cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 11 gan bennaeth a chorff llywodraethuʼr ysgol (ac os caiff y cwricwlwm hwnnw ei ddiwygio o dan adran 12, at y cwricwlwm fel yʼi diwygir);

(d)mae cyfeiriadau at y cwricwlwm mabwysiedig, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at y cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 15 gan ddarparwr yr addysg (ac os caiff y cwricwlwm hwnnw ei ddiwygio o dan adran 16, at y cwricwlwm fel yʼi diwygir).