xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ysgol sefydledig, neu ysgol wirfoddol a reolir, sydd â chymeriad crefyddol.
(2)Rhaid bod y ddarpariaeth wedi ei chynllunio gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig.
(3)Mae is-baragraff (4) yn gymwys yn yr achosion hynny pan na fo’r ddarpariaeth honno yn cyd-fynd—
(a)ag unrhyw ddarpariaethau yng ngweithred ymddiriedolaeth yr ysgol sy’n ymwneud ag addysgu a dysgu mewn cysylltiad ag elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, neu
(b)os nad oes unrhyw ddarpariaethau o’r fath, â daliadau’r grefydd neu’r enwad crefyddol a bennir mewn perthynas â’r ysgol mewn gorchymyn o dan adran 68A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31).
(4)Yn yr achosion hynny, rhaid i’r cwricwlwm hefyd wneud darpariaeth ychwanegol ar gyfer addysgu a dysgu sy’n cwmpasu elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg sydd yn cyd-fynd â’r darpariaethau hynny neu (yn ôl y digwydd) y daliadau hynny.