Crynodeb O’R Ddeddf
3.Mae’r Ddeddf yn diwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”) a Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (“Deddf 2019”).
4.Mae’n cynyddu’r hyn y mae’r Ddeddf yn cyfeirio ato fel sicrwydd meddiannaeth (a elwir hefyd yn “sicrwydd deiliadaeth”) deiliad contract o dan gontract meddiannaeth safonol drwy ddiwygio Deddf 2016 (gweler isod am grynodeb o ddarpariaethau perthnasol Deddf 2016 a’r derminoleg a ddefnyddir ynddi).
5.Yn benodol, caiff y cyfnod hysbysu byrraf y mae rhaid i landlord ei ganiatáu er mwyn terfynu contract meddiannaeth safonol o dan yr hyn a elwir yn broses “troi allan heb fai” ei gynyddu o 2 fis i 6 mis, a gwneir darpariaeth i gyfyngu ar ddefnyddio hysbysiadau penodol i ddisgrifiadau penodol o gontractau meddiannaeth safonol. Gwneir diwygiadau hefyd i ddarpariaethau yn Neddf 2016 sy’n ymdrin â phryd y caniateir rhoi hysbysiadau penodol ac i osod cyfyngiadau ar roi hysbysiadau penodol pan fo gofynion statudol penodol wedi eu torri.
6.Gwneir darpariaeth i gyfyngu’r amgylchiadau pan gaiff y landlord amrywio contract safonol cyfnodol, ac i dorri’r cysylltiad rhwng rhoi hysbysiad i amrywio’r contract a rhoi hysbysiad yn ceisio meddiant.
7.O dan y Ddeddf, bydd gan bobl sy’n byw mewn cartref rhent yng Nghymru o dan gontract meddiannaeth safonol yn gyffredinol sicrwydd meddiannaeth am o leiaf 12 mis.
8.Mae’r Ddeddf hefyd yn diwygio Deddf 2019 fel bod talu tâl gwasanaeth, a thalu am gopi arall o ddatganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth, mewn amgylchiadau penodol, yn daliadau a ganiateir at ddibenion Deddf 2019. Gwneir diwygiadau hefyd i Ddeddf 2019 hyd nes y gweithredir Deddf 2016.
