xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Prif ddarpariaethau

1Etholiad 2021

Yn y Ddeddf hon, ystyr “etholiad 2021” yw’r etholiad cyffredinol arferol i fod yn Aelod o’r Senedd y bwriedir i’r pôl ar ei gyfer gael ei gynnal yn 2021.

2Cymhwyso darpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru 2006

(1)Nid yw is-adrannau (2) i (4) o adran 3 o Ddeddf 2006 (diddymu Senedd Cymru cyn etholiad cyffredinol arferol a dyddiad y cyfarfod cyntaf ar ôl yr etholiad) yn gymwys i etholiad 2021.

(2)Mae adran 3(1) o Ddeddf 2006 (y diwrnod y cynhelir y pôl mewn etholiad cyffredinol arferol) yn cael effaith yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 6.

(3)Nid yw adran 4(2)(c) o Ddeddf 2006 (y cyfnod y mae rhaid i Senedd Cymru gyfarfod ynddo pan fo diwrnod y pôl wedi ei amrywio drwy broclamasiwn) yn gymwys i etholiad 2021.

(4)Mae adran 10 o Ddeddf 2006 (seddi etholaethol gwag) yn cael effaith yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 10.

3Diddymu’r Senedd gyfredol

(1)At ddiben cynnal y pôl ar gyfer etholiad 2021, diddymir Senedd Cymru ar 29 Ebrill 2021, oni bai—

(a)bod y Llywydd yn arfer y pŵer a roddir gan adran 6 (pŵer i ohirio etholiad 2021 am hyd at 6 mis), neu

(b)bod Ei Mawrhydi yn diddymu Senedd Cymru cyn y diwrnod hwnnw drwy broclamasiwn o dan adran 4(2) o Ddeddf 2006 (pŵer i amrywio dyddiad etholiad cyffredinol arferol y Senedd).

(2)Os yw’r Llywydd yn arfer y pŵer a roddir gan adran 6, diddymir Senedd Cymru ar ddechrau’r cyfnod o 7 niwrnod sy’n dod i ben yn union cyn y diwrnod a bennir ar gyfer cynnal y pôl, oni bai bod is-adran (3) yn gymwys.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r Llywydd, cyn y diwrnod y bwriedir diddymu Senedd Cymru yn unol ag is-adran (2), yn arfer y pŵer a roddir gan adran 6 eto (ac, yn unol â hynny, mae is-adran (2) yn gymwys i’r arfer hwnnw o’r pŵer yn ei dro).

4Canllawiau ar arfer swyddogaethau yn y cyfnod cyn yr etholiad

(1)Rhaid i’r Prif Weinidog gyhoeddi canllawiau ynghylch arfer swyddogaethau’r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad ar gyfer etholiad 2021.

(2)Rhaid i’r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol roi sylw i’r canllawiau.

(3)Rhaid i’r Prif Weinidog benderfynu ar y cyfnod cyn yr etholiad ar gyfer etholiad 2021 at ddiben yr adran hon.

(4)Rhaid i’r cyfnod y penderfynir arno gynnwys y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod a bennir ar gyfer cynnal y pôl ar gyfer etholiad 2021.

(5)Rhaid i’r canllawiau gael eu cyhoeddi cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

5Dyddiad y cyfarfod cyntaf ar ôl etholiad 2021

Rhaid i Senedd Cymru gyfarfod o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau yn union ar ôl y diwrnod y cynhelir y pôl ar gyfer etholiad 2021.

6Pŵer i ohirio etholiad 2021 am hyd at 6 mis

(1)Caiff Prif Weinidog Cymru (“y Prif Weinidog”) gynnig i’r Llywydd fod y pôl ar gyfer etholiad 2021 yn cael ei ohirio os yw’r Prif Weinidog, am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws, yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol gwneud hynny.

(2)Ond cyn gwneud cynnig o dan is-adran (1), rhaid i’r Prif Weinidog ymgynghori â’r aelod o staff yn Llywodraeth Cymru sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru yn Brif Swyddog Meddygol Cymru.

(3)Yn dilyn cynnig gan y Prif Weinidog, caiff y Llywydd bennu diwrnod ar gyfer cynnal y pôl ar gyfer etholiad 2021—

(a)os yw Senedd Cymru yn cymeradwyo’r diwrnod sydd i’w bennu drwy benderfyniad sy’n cael ei basio drwy bleidlais nad yw nifer Aelodau’r Senedd sy’n pleidleisio o’i blaid yn llai na dwy ran o dair o gyfanswm nifer seddi’r Senedd, a

(b)os nad yw Senedd Cymru wedi ei diddymu.

(4)Wrth bennu diwrnod ar gyfer cynnal y pôl—

(a)rhaid i’r Llywydd bennu diwrnod sef y diwrnod cynharaf y mae’r Llywydd yn ystyried ei fod yn rhesymol ymarferol;

(b)ni chaiff y Llywydd bennu diwrnod sydd ar ôl 5 Tachwedd 2021.

(5)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl pennu diwrnod ar gyfer cynnal y pôl, rhaid i’r Llywydd osod gerbron Senedd Cymru ddatganiad—

(a)o’r diwrnod a bennwyd ar gyfer cynnal y pôl, a

(b)o’r rheswm dros arfer y pŵer i bennu diwrnod.

(6)Rhaid i’r Comisiwn Etholiadol ddarparu cyngor mewn perthynas â gohirio pôl os yw’r Llywydd neu’r Prif Weinidog yn gofyn iddo wneud hynny.

(7)Caniateir i’r pwerau yn is-adrannau (1) a (3) gael eu harfer fwy nag unwaith.

(8)Rhaid i’r Prif Weinidog osod datganiad gerbron Senedd Cymru ar neu cyn 24 Mawrth 2021 sy’n nodi pa un a yw’r Prif Weinidog yn bwriadu arfer y pŵer yn is-adran (1) ai peidio.

(9)Os nad yw’r Prif Weinidog yn bwriadu arfer y pŵer, rhaid i’r datganiad nodi—

(a)y rhesymau dros beidio ag arfer y pŵer, a

(b)a ellir cynnal ymgyrch etholiadol lawn a theg, ym marn y Prif Weinidog, gan bob person sy’n ceisio cael ei ethol yn etholiad 2021 nad yw’n rhoi unrhyw berson sy’n gymwys i bleidleisio yn yr etholiad hwnnw o dan anfantais.

(10)Nid yw unrhyw fwriad a fynegir yn y datganiad o dan is-adran (8) yn effeithio ar arfer y pŵer yn is-adran (1).

(11)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n cyfyngu ar y pŵer yn adran 4 o Ddeddf 2006 i amrywio dyddiad etholiad cyffredinol arferol i fod yn Aelod o’r Senedd.

(12)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r meini prawf sydd i’w defnyddio gan y Prif Weinidog ar gyfer penderfynu a yw’n angenrheidiol neu’n briodol gohirio’r pôl ar gyfer etholiad 2021 am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws o dan is-adran (1).

(13)Rhaid i’r meini prawf gael eu cyhoeddi cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

7Pŵer i ddarparu ar gyfer diwrnodau pleidleisio ychwanegol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os pennir y diwrnod ar gyfer cynnal pôl etholiad 2021 o dan adran 6.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau a wneir drwy offeryn statudol, ddarparu y caiff y pleidleisio na fyddai fel arall yn ofynnol iddo ddigwydd ond ar y dyddiad a bennir o dan adran 6 ddigwydd ar un neu ragor o ddiwrnodau ychwanegol a bennir yn y rheoliadau.

(3)O ran rheoliadau o dan is-adran (2)—

(a)ni chânt bennu diwrnod ond os yw’n dod o fewn y cyfnod o 7 niwrnod yn union cyn y diwrnod a bennir ar gyfer cynnal y pôl;

(b)cânt ei gwneud yn ofynnol i bleidleisio ar ddiwrnodau ychwanegol ddigwydd mewn lleoliadau penodol neu ddisgrifiadau neu gategorïau o leoliadau a bennir yn y rheoliadau;

(c)cânt addasu ystyr cyfeiriad perthnasol i’r graddau y mae’n ymwneud â darpariaeth a wneir yn y rheoliadau.

(4)Yn is-adran (3), ystyr “cyfeiriad perthnasol” yw cyfeiriad (sut bynnag y’i mynegir) mewn unrhyw ddeddfiad neu ddogfen at ddiwrnod neu ddyddiad y pôl yn etholiad 2021.

(5)Rhaid i’r Comisiwn Etholiadol ddarparu cyngor mewn perthynas ag arfer y pŵer yn is-adran (2) os gofynnir iddo wneud hynny gan Weinidogion Cymru.

(6)Wrth osod rheoliadau drafft o dan is-adran (7) gerbron Senedd Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru ar yr un pryd osod gerbron Senedd Cymru ddatganiad o’r rhesymau dros y rheoliadau.

(7)Rhaid i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (2) gael ei osod gerbron Senedd Cymru ac mae’n peidio â chael effaith pan fo 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y’i gwneir yn dod i ben, oni bai bod Senedd Cymru yn ei gymeradwyo drwy benderfyniad cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.

(8)Ond—

(a)os yw Senedd Cymru yn pleidleisio ar gynnig ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo offeryn statudol a osodir o dan is-adran (7) cyn i’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-adran honno ddod i ben, a

(b)os na chaiff y cynnig ei basio,

mae’r offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd diwrnod y mae’r bleidlais yn digwydd.

(9)Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o 28 o ddiwrnodau at ddibenion is-adran (7), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan fo Senedd Cymru—

(a)wedi ei diddymu, neu

(b)ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

(10)Nid yw is-adrannau (7) ac (8)—

(a)yn effeithio ar unrhyw beth a wneir drwy ddibynnu ar y rheoliadau cyn iddynt beidio â chael effaith, neu

(b)yn atal gwneud rheoliadau newydd.

(11)Nid yw rheoliadau o dan is-adran (2) yn cael unrhyw effaith pan fo’r pôl yn etholiad 2021 a’r pôl yn etholiad arferol comisiynwyr heddlu a throseddu ar gyfer ardaloedd heddlu yng Nghymru i’w cynnal gyda’i gilydd o dan erthygl 16A o Orchymyn 2007.

(12)Yn is-adran (11), mae i “etholiad arferol comisiynwyr heddlu a throseddu ar gyfer ardaloedd heddlu” yr ystyr a roddir i “ordinary election of police and crime commissioners for police areas” yn adran 50 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (p. 13).

8Pŵer pellach i amrywio dyddiad etholiad 2021

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os pennir y diwrnod ar gyfer cynnal pôl etholiad 2021 o dan adran 6.

(2)Caiff y Llywydd gynnig, ar gyfer cynnal y pôl, ddiwrnod nad yw’n fwy nag un mis yn gynharach, nac yn fwy nag un mis yn ddiweddarach, na’r diwrnod a bennir o dan adran 6.

(3)Ni chaniateir i’r pŵer o dan is-adran (2) gael ei arfer er mwyn cynnig dyddiad ar ôl 5 Tachwedd 2021.

(4)Os yw’r Llywydd yn cynnig diwrnod o dan is-adran (2), caiff Ei Mawrhydi drwy broclamasiwn o dan y Sêl Gymreig—

(a)diddymu Senedd Cymru;

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r pôl yn yr etholiad gael ei gynnal ar y diwrnod a gynigiwyd.

(5)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i broclamasiwn gael ei wneud o dan is-adran (4), rhaid i’r Llywydd gyhoeddi datganiad—

(a)o’r diwrnod y mae’r pôl i’w gynnal, a

(b)o’r rheswm dros arfer pŵer y Llywydd o dan is-adran (2).

9Canllawiau ar ymgyrchu etholiadol

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i bersonau sy’n ymgymryd â gweithgareddau ymgyrchu etholiadol at ddiben etholiad a bennir yn is-adran (2) ynghylch sut y cânt ymgymryd â’r gweithgareddau hynny yn unol â deddfiadau sy’n gosod cyfyngiadau sy’n ymwneud â rheoli’r coronafeirws.

(2)Yr etholiadau yw—

(a)etholiad 2021;

(b)etholiad sydd i’w gynnal cyn 6 Tachwedd 2021 o dan adran 10 o Ddeddf 2006 i lenwi sedd wag aelod etholaethol;

(c)etholiad sydd i’w gynnal cyn 6 Tachwedd 2021 i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru.

(3)Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys ond os yw cyfyngiadau a osodir gan ddeddfiad yn effeithio ar weithgareddau ymgyrchu etholiadol at ddiben etholiad a bennir yn is-adran (2) ac ond i’r graddau y mae’r cyfyngiadau hynny yn effeithio ar y gweithgareddau hynny.

10Pŵer i ohirio is-etholiadau’r Senedd

(1)Mae’r adran hon yn gymwys ar ôl 6 Mai 2021 pan fo etholiad i’w gynnal o dan adran 10 o Ddeddf 2006 i lenwi sedd wag aelod etholaethol (“is-etholiad i’r Senedd”).

(2)Caiff y Llywydd bennu dyddiad ar gyfer cynnal y pôl ar gyfer is-etholiad i’r Senedd sydd y tu allan i’r cyfnod sy’n ofynnol o dan adran 10(5) neu (6) o Ddeddf 2006.

(3)Wrth bennu diwrnod o dan is-adran (2), rhaid i’r Llywydd bennu diwrnod sef y diwrnod cynharaf y mae’r Llywydd yn ystyried ei fod yn rhesymol ymarferol.

(4)O ran y pŵer o dan is-adran (2)—

(a)caniateir iddo gael ei arfer fwy nag unwaith, a

(b)ni chaniateir iddo gael ei arfer er mwyn pennu dyddiad ar ôl 5 Tachwedd 2021.

(5)Cyn arfer y pŵer o dan is-adran (2), rhaid i’r Llywydd ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

11Pŵer i ohirio is-etholiadau awdurdodau lleol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau a wneir drwy offeryn statudol, ddarparu—

(a)bod y pôl ar gyfer is-etholiad awdurdod lleol i’w gynnal ar ddyddiad, neu o fewn cyfnod, a bennir yn y rheoliadau;

(b)bod y pôl ar gyfer is-etholiad awdurdod lleol y byddai’n ofynnol ei gynnal fel arall ar ddyddiad sy’n dod o fewn cyfnod a bennir yn y rheoliadau i’w gynnal yn lle hynny ar ddyddiad diweddarach, neu o fewn cyfnod arall, a bennir yn y rheoliadau.

(2)Yn yr adran hon, ystyr “is-etholiad awdurdod lleol” yw etholiad—

(a)pan fo dyddiad y pôl ar gyfer yr etholiad yn dod o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 6 Mai 2021 ac sy’n dod i ben â 5 Tachwedd 2021, a

(b)pan fo’n etholiad i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru.

(3)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) bennu—

(a)dyddiad ar ôl 5 Tachwedd 2021, neu

(b)cyfnod sy’n dod i ben ar ôl 5 Tachwedd 2021.

(4)Caniateir i’r pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (1) gael ei arfer fwy nag unwaith mewn cysylltiad ag unrhyw is-etholiad awdurdod lleol.

(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth drwy gyfeirio at is-etholiadau awdurdodau lleol o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau (er enghraifft, drwy gyfeirio at natur, dyddiad neu leoliad yr etholiadau).

(6)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (1) yn cynnwys y pŵer i ddiwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.

(7)Mae is-adran (8) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (1) sy’n diwygio, yn addasu neu’n diddymu darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol.

(8)Rhaid i offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo gael ei osod gerbron Senedd Cymru ac mae’n peidio â chael effaith pan fo 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y’i gwneir yn dod i ben, oni bai bod Senedd Cymru yn ei gymeradwyo drwy benderfyniad cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.

(9)Ond—

(a)os yw Senedd Cymru yn pleidleisio ar gynnig ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo offeryn statudol a osodir o dan is-adran (8) cyn i’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-adran honno ddod i ben, a

(b)os na chaiff y cynnig ei basio,

mae’r offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y diwrnod y mae’r bleidlais yn digwydd.

(10)Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o 28 o ddiwrnodau at ddibenion is-adran (8), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan fo Senedd Cymru—

(a)wedi ei diddymu, neu

(b)ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

(11)Nid yw is-adrannau (8) ac (9)—

(a)yn effeithio ar unrhyw beth a wneir drwy ddibynnu ar y rheoliadau cyn iddynt beidio â chael effaith, neu

(b)yn atal gwneud rheoliadau newydd.

(12)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (1) ac nad yw is-adran (8) yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

12Gorchmynion a rheolau ynglŷn â chynnal etholiadau yn 2021

(1)Mae is-adran (3) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn o dan adran 13(1)(a) o Ddeddf 2006 (pŵer i wneud gorchymyn o ran cynnal etholiadau’r Senedd) sy’n cynnwys darpariaeth—

(a)nad yw ond yn gymwys i etholiad 2021, neu

(b)nad yw ond yn gymwys i etholiad o dan adran 10 o Ddeddf 2006 i lenwi sedd wag aelod etholaethol y mae’r pôl ar ei gyfer i’w gynnal cyn 6 Tachwedd 2021.

(2)Mae is-adran (3) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheolau o dan adran 36A o Citation id="c00201" Class="UnitedKingdomPublicGeneralAct" Year="1983" Number="0002">Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2) (pŵer i wneud rheolau mewn perthynas â chynnal etholiadau cynghorwyr ar gyfer ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru) nad ydynt ond yn gymwys i etholiad i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru y mae’r pôl ar ei gyfer i’w gynnal cyn 6 Tachwedd 2021.

(3)Rhaid i offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo gael ei osod gerbron Senedd Cymru ac mae’n peidio â chael effaith pan fo 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y’i gwneir yn dod i ben, oni bai bod Senedd Cymru yn ei gymeradwyo drwy benderfyniad cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.

(4)Ond—

(a)os yw Senedd Cymru yn pleidleisio ar gynnig ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo offeryn statudol a osodir o dan is-adran (3) cyn i’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-adran honno ddod i ben, a

(b)os na chaiff y cynnig ei basio,

mae’r offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y diwrnod y mae’r bleidlais yn digwydd.

(5)Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o 28 o ddiwrnodau at ddibenion is-adran (4), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan fo Senedd Cymru—

(a)wedi ei diddymu, neu

(b)ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

(6)Nid yw is-adrannau (3) a (4)—

(a)yn effeithio ar unrhyw beth a wneir drwy ddibynnu ar y rheolau neu’r gorchymyn cyn iddynt neu cyn iddo beidio â chael effaith, nac

(b)yn atal gwneud rheolau newydd neu orchymyn newydd.