Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

Newidiadau dros amser i: Adran 143

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Adran 143. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

143Adroddiadau gan y [F1Comisiwn] mewn perthynas â chynghorau cysgodol a phrif gynghorau newyddLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo [F2Rhan 5A o Ddeddf 2013] yn gymwys yn achos cyngor yn rhinwedd cyfarwyddyd o dan adran 142.

(2)Mewn perthynas â’r adroddiad cyntaf o dan [F3Ran 5A o Ddeddf 2013] sy’n ymwneud (yn llwyr neu’n rhannol) â’r cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd (“yr adroddiad cyntaf”)—

(a)rhaid iddo gael ei gyhoeddi yn ddim hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd o dan adran 142 at y diben hwnnw, a

(b)caiff fod yn adroddiad blynyddol neu’n adroddiad atodol, yn ddarostyngedig i’r gofyniad a osodir yn rhinwedd paragraff (a) a’r gofynion o dan [F4adrannau 69E(3) a 69I(1) a (2)(a) o Ddeddf 2013].

(3)Nid yw adran [F5adran 69I(2)(b) o Ddeddf 2013] (terfyn amser ar gyfer cyhoeddi) yn gymwys mewn perthynas â’r adroddiad cyntaf os yw’n adroddiad atodol.

(4)Pan fo unrhyw adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol yn ymwneud (yn llwyr neu’n rhannol) ag—

(a)y cyngor cysgodol, neu

(b)y prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd ac na fydd y cyngor hwnnw wedi ei sefydlu ar adeg cyhoeddi’r adroddiad,

rhaid i’r [F6Comisiwn] gymryd y cam a nodir yn is-adran (5).

(5)Cyn cyhoeddi’r adroddiad o dan [F7adran 69E o Ddeddf 2013] , rhaid i’r [F8Comisiwn] anfon drafft o’r adroddiad at y canlynol (os nad yw eisoes yn ofynnol i’r [F8Comisiwn] wneud hynny o dan [F9adran 69G(1)(a) o Ddeddf 2013])—

(a)y cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro y bydd eu hardaloedd yn cael eu huno i greu’r brif ardal newydd;

(b)y cyngor cysgodol (os caiff ei sefydlu);

(c)y personau (os oes rhai) a bennir at y diben hwnnw yn y cyfarwyddyd o dan adran 142.

(6)Caiff adroddiad atodol osod y gofynion a ganlyn ar y cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro y bydd eu hardaloedd yn cael eu huno i greu’r brif ardal newydd, neu ar y cyngor cysgodol—

(a)gofynion o fath a bennir yn [F10adran 69J(1) o Ddeddf 2013];

(b)gofynion o fath a bennir yn [F11adran 69K(1) o Ddeddf 2013].

(7)Pan fo adroddiad atodol yn ymwneud (yn llwyr neu’n rhannol) â’r cyngor cysgodol, mae [F12adran 69J(2) o Ddeddf 2013] yn gymwys mewn perthynas â’r adroddiad hwnnw (i’r graddau y bo’n ei gwneud yn ofynnol i daliad gael ei wneud i’r cyngor cysgodol neu ganddo) fel y mae’n gymwys mewn perthynas ag adroddiad blynyddol.

(8)Mae’r cyfeiriadau yn [F13adrannau 69L, 69N a 69P o Ddeddf 2013] at ofynion a osodir gan adroddiad blynyddol yn cynnwys cyfeiriad at ofynion a osodir gan adroddiad atodol yn rhinwedd yr adran hon.

(9)Rhaid i adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol bennu mewn perthynas â’r cyngor ar gyfer y brif ardal newydd (pa un a yw’n gyngor cysgodol neu’n brif gyngor ar adeg cyhoeddi’r adroddiad) yr wybodaeth a grybwyllir yn [F14adran 69E(4) o Ddeddf 2013].

(10)Rhaid i’r materion y mae’n ofynnol yn rhinwedd yr adran hon ac adran 142 eu cynnwys mewn adroddiad gan y [F15Comisiwn] mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol y mae’r dyddiad trosglwyddo yn digwydd ynddi gael eu cynnwys yn yr adroddiad blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol honno.

(11)Ond, os yw’r [F16Comisiwn] yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, caiff, ar unrhyw adeg cyn y dyddiad trosglwyddo, gyhoeddi adroddiad atodol mewn perthynas â pha ran bynnag o’r flwyddyn ariannol gyntaf honno sy’n digwydd ar y dyddiad hwnnw neu ar ei ôl.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 143(1)-(4)(7)-(11) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)

I2A. 143(5)(6) mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(b)(ii)

I3A. 143(5)(a)(6) mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan

Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bwnc y Ddeddf i esbonio beth mae’r Ddeddf yn ceisio ei wneud ac i wneud y Ddeddf yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Ddeddfau Senedd Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill