xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 9DIWYGIADAU SY’N GYSYLLTIEDIG Â CHYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG

RHAN 2DIDDYMU’R PŴER I SEFYDLU CYD-AWDURDODAU TRAFNIDIAETH

Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 (p. 5)

49Yn Neddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006—

(a)hepgorer adran 5 (pŵer i sefydlu cyd-awdurdodau trafnidiaeth);

(b)yn adran 6 (cymorth ariannol: swyddogaethau trafnidiaeth lleol), yn is-adran (1) hepgorer paragraff (a), a’r “and” sy’n ei ddilyn.

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)

50Yn nhabl 1 ym mharagraff 35(3) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (darpariaethau trosiannol), hepgorer y cofnod ar gyfer adran 5(1) o Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006.