xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adran 136)

ATODLEN 11PWYLLGORAU PONTIO CYNGHORAU SY’N UNO A CHYNGHORAU SY’N CAEL EU HAILSTRWYTHURO

RHAN 1CYNGHORAU SY’N UNO

Pwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n uno

1(1)Rhaid i gynghorau sy’n uno sefydlu pwyllgor pontio yn union ar ôl gwneud cais i uno.

(2)Mae’r cyfeiriadau at bwyllgor pontio yn y Rhan hon o’r Atodlen hon yn gyfeiriadau at bwyllgor pontio a sefydlir o dan is-baragraff (1).

Aelodaeth pwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n uno

2(1)Rhaid i bwyllgor pontio gynnwys nifer cyfartal o aelodau, heb fod yn llai na 5, o bob un o’r cynghorau sy’n uno.

(2)Rhaid i aelodau cyngor sy’n uno sydd i fod yn aelodau o’r pwyllgor pontio gael eu penodi gan y cyngor sy’n uno.

(3)Nifer aelodau’r pwyllgor sydd i’w penodi gan bob un o’r cynghorau sy’n uno yw’r nifer y cytunir arno gan y cynghorau sy’n uno neu, os na cheir cytundeb, y nifer y penderfyna Gweinidogion Cymru arno.

(4)Rhaid i brif aelod gweithrediaeth y cyngor sy’n uno fod yn un o aelodau’r pwyllgor a benodir gan y cyngor sy’n uno.

(5)Os nad yw eisoes wedi ei benodi o dan is-baragraff (4), rhaid i’r aelod gweithrediaeth yn y cyngor sy’n uno sy’n gyfrifol am gyllid gael ei benodi’n aelod o’r pwyllgor yn ogystal.

(6)Caiff pwyllgor pontio gyfethol personau ychwanegol i wasanaethu fel aelodau o’r pwyllgor ond ni chaiff y rhain bleidleisio.

(7)Mae pwyllgor pontio i’w drin at ddibenion paragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) (cydbwysedd gwleidyddol ar bwyllgorau awdurdodau lleol) fel corff sy’n dod o fewn paragraff 2 o’r Atodlen honno.

(8)Yn y paragraff hwn ystyr “prif aelod gweithrediaeth”—

(a)yn achos cyngor sy’n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet, yw’r arweinydd gweithrediaeth;

(b)yn achos cyngor sy’n gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet, yw’r maer etholedig.

Swyddogaethau pwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n uno

3(1)Rhaid i bwyllgor pontio ddarparu cyngor ac argymhellion i’r cynghorau sy’n uno, ac i’r cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd, ynglŷn ag—

(a)hwyluso trosglwyddo swyddogaethau, staff a hawliau ac atebolrwyddau eiddo mewn modd darbodus, effeithiol ac effeithlon o’r cynghorau sy’n uno i’r prif gyngor newydd,

(b)sicrhau bod y prif gyngor newydd a’i staff mewn sefyllfa i gyflawni swyddogaethau’r prif gyngor newydd yn effeithiol o’r adeg pan fydd yn eu hysgwyddo, ac

(c)unrhyw ddibenion eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn cyfarwyddyd i’r pwyllgor pontio.

(2)Rhaid i bwyllgor pontio hefyd roi cyngor ag argymhellion i Weinidogion Cymru ar unrhyw fater a bennir gan Weinidogion Cymru mewn cyfarwyddyd i’r pwyllgor.

RHAN 2CYNGHORAU SY’N CAEL EU HAILSTRWYTHURO

Pwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro

4(1)Ar ôl rhoi hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6), caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo dau gyngor neu ragor sy’n cael eu hailstrwythuro i sefydlu pwyllgor pontio.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru bennu mewn cyfarwyddyd o dan is-baragraff (1) swyddogaethau ac aelodaeth pwyllgor pontio a sefydlir yn unol â’r cyfarwyddyd.

RHAN 3PWYLLGORAU PONTIO CYNGHORAU SY’N UNO A CHYNGHORAU SY’N CAEL EU HAILSTRWYTHURO

Is-bwyllgorau i bwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n uno neu gynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro

5(1)Caiff pwyllgor pontio sefydlu un is-bwyllgor neu ragor.

(2)Swyddogaeth is-bwyllgor i bwyllgor pontio yw cynghori’r pwyllgor pontio ar faterion a atgyfeirir i’r is-bwyllgor gan y pwyllgor pontio.

(3)Mae aelodaeth is-bwyllgor i bwyllgor pontio i’w bennu gan y pwyllgor pontio.

(4)Os yw pwyllgor pontio yn penodi person nad yw’n aelod o un o’r cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro i fod yn aelod o is-bwyllgor, ni chaiff y person hwnnw bleidleisio.

Darparu cyllid, cyfleusterau a gwybodaeth etc. i bwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n uno neu gynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro

6(1)Rhaid i’r cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro dalu costau pwyllgor pontio yn ôl y cyfrannau y cytunant arnynt neu, os na cheir cytundeb, y cyfrannau a ddyfernir gan Weinidogion Cymru.

(2)Rhaid i’r cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro ddarparu i bwyllgor pontio y cyfleusterau a’r adnoddau (gan gynnwys staff), y wybodaeth a’r dogfennau y gwna’r pwyllgor pontio (neu unrhyw is-bwyllgor i’r pwyllgor pontio) gais rhesymol amdanynt er mwyn ei alluogi i arfer ei swyddogaethau.

Pwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n uno neu gynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro: darpariaeth bellach

7(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo pwyllgor pontio i arfer ei swyddogaethau yn unol â’r cyfarwyddyd.

(2)Ni chaiff pwyllgor llywodraethu ac archwilio na phwyllgor trosolwg a chraffu cyngor sy’n uno neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro arfer unrhyw un o’i swyddogaethau mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir gan bwyllgor pontio; ac at y diben hwn—

(3)Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon—

(a)ystyr “pwyllgor pontio” yw pwyllgor pontio a sefydlir yn unol â pharagraff 1 neu yn rhinwedd paragraff 4;

(b)mae cyfeiriad at gyngor sy’n uno mewn perthynas â phwyllgor pontio yn gyfeiriad at gyngor sy’n uno sy’n sefydlu’r pwyllgor pontio;

(c)mae cyfeiriad at gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro mewn perthynas â phwyllgor pontio yn gyfeiriad at gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro sy’n sefydlu’r pwyllgor pontio.

(4)Hyd nes y bo adran 115 yn dod i rym, mae’r cyfeiriadau yn is-baragraff (2) at bwyllgor llywodraethu ac archwilio i’w darllen fel cyfeiriadau at bwyllgor archwilio.