Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

PENNOD 2CANLLAWIAU YNGLŶN Â CHYDWEITHIO

69Canllawiau ynglŷn â chydweithio

(1)Rhaid i brif gyngor roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer ei swyddogaethau drwy gydweithio â phrif gyngor arall.

(2)At ddibenion yr adran hon mae prif gyngor yn arfer swyddogaeth drwy gydweithio â phrif gyngor arall os yw—

(a)yn arfer swyddogaeth prif gyngor arall o dan drefniant a wneir o dan—

(i)adran 101(1)(b) o Ddeddf 1972 (cyflawni swyddogaethau gan awdurdod lleol arall);

(ii)rheoliadau a wneir o dan adran 19(1) o Ddeddf 2000 (cyflawni swyddogaethau gweithrediaeth gan awdurdod lleol arall);

(iii)rheoliadau a wneir o dan adran 19(2) o Ddeddf 2000 (cyflawni swyddogaethau nad ydynt yn swyddogaethau gweithrediaeth gan weithrediaeth awdurdod lleol arall);

(b)yn arfer y swyddogaeth ar y cyd â phrif gyngor arall o dan drefniant a wneir o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 (gan gynnwys yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adran 20(1) o Ddeddf 2000 (arfer swyddogaethau ar y cyd));

(c)yn awdurdodi prif gyngor arall i arfer y swyddogaeth o dan orchymyn a wneir o dan adran 70 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p. 70);

(d)y swyddogaeth yn cael ei harfer mewn perthynas â’i brif ardal a phrif ardal prif gyngor arall gan gyd-bwyllgor corfforedig;

(e)yn arfer y swyddogaeth drwy gydweithio â phrif gyngor arall o dan unrhyw ddeddfiad arall.