xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5LL+CAMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Cyfansoddiad ymddiriedolaethau’r GIGLL+C

24Is-gadeiryddion byrddau cyfarwyddwyr ymddiriedolaethau’r GIGLL+C

(1)Mae Rhan 1 o Atodlen 3 i Ddeddf 2006 (cyfansoddiad, sefydlu etc. ymddiriedolaethau’r GIG) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mharagraff 3 (bwrdd cyfarwyddwyr)—

(a)ar ôl is-baragraff (1)(a) mewnosoder—

(aa)if the Welsh Ministers consider it appropriate, a vice-chair appointed by them, and, a

(b)hepgorer “and” ar ddiwedd is-baragraff (1)(a).

(3)Ym mharagraff 4 (rheoliadau sy’n ymwneud â phenodi etc. y bwrdd cyfarwyddwyr), yn is-baragraff (1)(a), ar ôl “chairman” mewnosoder “, the vice-chair”.

(4)Ym mharagraff 11 (tâl a lwfansau’r cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol)—

(a)yn is-baragraff (1)(a), ar ôl “chairman” mewnosoder “, the vice-chair (if any)”, a

(b)yn is-baragraff (1)(b), ar ôl “chairman” mewnosoder “, the vice-chair (if any)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I2A. 24 mewn grym ar 8.3.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 2(a)

CyffredinolLL+C

25RheoliadauLL+C

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i’w arfer drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

(3)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 28 sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

(4)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)Yn is-adran (3), ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—

(a)Deddf neu Fesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(b)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I4A. 25 mewn grym ar 7.3.2023 gan O.S. 2023/259, ergl. 2(2)(a)

26DehongliLL+C

Yn y Ddeddf hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I6A. 26 mewn grym ar 8.3.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 2(b)

27Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadolLL+C

Mae Atodlen 3 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I8A. 27 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(r)

28Pŵer i wneud darpariaeth drosiannol etc.LL+C

(1)Caiff rheoliadau, os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion y Ddeddf hon, wneud—

(a)darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol;

(b)darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.

(3)Ystyr “deddfiad” yw darpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn unrhyw un o’r canlynol, pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir—

(a)Deddf neu Fesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(b)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig;

(c)is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei gwneud o dan Ddeddf neu Fesur y cyfeirir ati neu ato ym mharagraff (a) neu (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I10A. 28 mewn grym ar 7.3.2023 gan O.S. 2023/259, ergl. 2(2)(b)

29Dod i rymLL+C

(1)Daw’r adran hon ac adran 30 i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a benodir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 29 mewn grym ar 2.6.2020, gweler a. 29(1)

30Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 30 mewn grym ar 2.6.2020, gweler a. 29(1)