1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 28 Ionawr 2020 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 20 Mawrth 2020. Fe’u lluniwyd gan Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf.
2.Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni. Ni fwriedir iddynt fod yn ddisgrifiad cynhwysfawr o’r Ddeddf ac os ymddengys nad oes angen rhoi unrhyw esboniad neu sylw ar adran unigol, nis rhoddir.
3.Mae’r Ddeddf yn diddymu amddiffyniad cosb resymol mewn perthynas â rhoi cosb gorfforol i blentyn sy’n digwydd yng Nghymru; ac yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â diddymu’r amddiffyniad.
4.Yn y gyfraith trosedd, ffurfiau ar droseddau corfforol yw ymosod a churo. Yn y gyfraith sifil, mae ymosod a churo yn gyfystyr â chamwedd, neu gamwri sifil: camwedd tresmasu yn erbyn y person.
5.Mae’r ymadrodd “ymosod” yn cael ei ddefnyddio yn gyffredin i ddisgrifio gweithredoedd sy’n ymwneud â defnyddio grym yn erbyn person. Ond mae gan y cysyniadau o “ymosod” a “curo” ystyron penodol a gwahanol yng nghyfraith Cymru a Lloegr.
6.At y dibenion hyn, ystyr “curo” yw defnyddio grym anghyfreithlon yn fwriadol neu’n ddi-hid yn erbyn corff person arall. Byddai hyn yn cynnwys oedolyn yn dyrnu oedolyn arall, er enghraifft. Ond gall hefyd gynnwys yr hyn a allai gael ei ystyried yn fân achosion o gyswllt corfforol, megis taro rhywun yn ysgafn ar yr ysgwydd. Byddai pa un a fyddai hyn yn gyfystyr â churo yn dibynnu ar amgylchiadau’r achos.
7.Mae “ymosod” yn digwydd pan fo un person yn achosi i berson arall ofni bod grym anghyfreithlon yn mynd i gael ei ddefnyddio ar unwaith (bygythiad wyneb yn wyneb gan oedolyn i ddyrnu oedolyn arall yn ystod anghytundeb, er enghraifft).
8.Mae amddiffyniad cosb resymol yn golygu y gallai gweithredoedd penodol sy’n gyfystyr â churo plentyn neu ymosod ar blentyn fod yn amddiffynadwy mewn achosion cyfreithiol ar y sail bod y gweithredoedd yn rhesymol – ac felly yn gyfreithlon.
9.Mae adran 1(1) o’r Ddeddf yn diddymu amddiffyniad cosb resymol mewn perthynas â rhoi cosb gorfforol i blentyn sy’n digwydd yng Nghymru.
10.Bydd diddymu’r amddiffyniad yn unol ag adran 1(1) yn golygu na all unrhyw weithred o guro sy’n gyfystyr â rhoi cosb gorfforol i blentyn sy’n digwydd yng Nghymru gael ei chyfiawnhau ar y sail ei bod yn gosb resymol. Bydd hyn yn wir mewn cysylltiad ag unrhyw achos sifil neu droseddol yn awdurdodaeth Cymru a Lloegr.
11.Mae diddymu’r amddiffyniad hefyd yn golygu na ellir cyfiawnhau unrhyw weithred o ymosod, pan fo plentyn yng Nghymru yn ofni bod cosb gorfforol yn mynd i gael ei defnyddio ar unwaith, drwy gyfeirio at yr amddiffyniad. (Gallai bygythiad i smacio plentyn fod yn un enghraifft). Mae hyn oherwydd bod cyfreithlondeb unrhyw ymosodiad sy’n cynnwys cosb gorfforol yn dibynnu ar argaeledd amddiffyniad cosb resymol.
12.Ystyr “cosb gorfforol” at ddibenion yr adran hon yw unrhyw guro a wneir fel cosb (mae’r diffiniad o’r ymadrodd yn ymddangos yn is-adran (4)).
13.Yn ymarferol, gallai hyn olygu smac a roddir fel cerydd i blentyn (pa un a yw ar ben ôl y plentyn, ar ei goesau neu ar ran arall o’r corff). Ond nid yw’r diffiniad wedi ei gyfyngu i smacio. Bydd achos pan fo rhiant yn ysgwyd plentyn, neu’n procio plentyn yn y frest neu’n tynnu ei wallt, fel cosb am gamymddygiad ymddangosiadol, er enghraifft, hefyd yn cael ei ddal.
14.(Efallai y bydd sefyllfaoedd mwy amwys eraill pan allai ymyriad corfforol penodol fod yn gyfystyr â churo a wneir fel cosb. Efallai fod y math hwn o achos yn cael ei egluro orau drwy ystyried y gwahaniaethau rhwng defnyddio grym sy’n wirioneddol angenrheidiol er mwyn brwsio dannedd plentyn anfodlon at ddibenion cynnal hylendid deintyddol da a brwsio dannedd mewn ffordd ymosodol y bwriedir iddo achosi poen i’r plentyn fel cosb am fethu â chydweithredu.)
15.Gallai diddymu amddiffyniad cosb resymol, heb fanylion pellach, agor y posibilrwydd i berson geisio amddiffyn defnyddio cosb gorfforol ar y sail ei bod yn dderbyniol yn gyffredinol yn ystod bywyd arferol. Er enghraifft, gallai person geisio dadlau ei bod yn dderbyniol smacio plentyn yn ystod bywyd bob dydd, yn union fel y mae’n dderbyniol brwsio dannedd plentyn. Mae’r geiriad yn is-adran (3) wedi ei gynnwys er mwyn osgoi’r posibilrwydd hwn.
16.(Mae’r gyfraith gyfredol sy’n gwahardd defnyddio cosb gorfforol mewn perthynas â disgyblion sy’n cael addysg wedi ei nodi yn adran 548 o Ddeddf Addysg 1996. Nid yw’r Ddeddf yn newid y sefyllfa hon.)
17.Ni fwriedir i ddiddymu’r amddiffyniad effeithio ar y gyfraith bresennol o ran curo ac ymosod mewn perthynas â defnyddio grym ac eithrio fel cosb.
18.Mae’r gyfraith gyffredin yn cydnabod ei bod yn angenrheidiol i oedolion ymgymryd ag ymyriadau corfforol penodol mewn perthynas â phlant, wrth arfer awdurdod rhiant. Mae hyn yn caniatáu defnyddio grym o dan amgylchiadau sy’n cynnwys rhyngweithiadau corfforol yr ystyrir yn gyffredinol eu bod yn dderbyniol, ac yn annadleuol, yn ystod bywyd arferol bob dydd.
19.Mae hyn yn golygu y caniateir ymyriadau corfforol penodol gan riant mewn perthynas â phlentyn hyd yn oed pan na chaniateid yr ymyriadau hynny, o angenrheidrwydd, yng nghyd-destun dau oedolyn. Nid yw cyfreithlondeb yr ymyriadau hyn yn deillio o fodolaeth amddiffyniad cosb resymol, gan na fwriedir iddynt fod yn gyfystyr â chosb gorfforol.
20.Mae diddymu amddiffyniad cosb resymol yn unol ag is-adran (1) yn golygu na fydd adran 58 o Ddeddf Plant 2004 yn berthnasol mwyach i guro plentyn neu ymosod ar blentyn sy’n digwydd yng Nghymru.
21.(Mae adran 58 yn cyfyngu ar argaeledd amddiffyniad cosb resymol. Yn rhinwedd adran 58, ni all yr amddiffyniad gael ei ddefnyddio i gyfiawnhau gweithred o guro pan fo’r niwed a achosir i blentyn yn gyfystyr â gwir niwed corfforol neu’n fwy na hynny (sef niwed y bernir ei fod yn fwy na niwed darfodol neu bitw: niwed sy’n mynd y tu hwnt i gochi croen plentyn dros dro), neu pan fo’r curo yn drosedd creulondeb wrth blentyn, o dan adran 1 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933.)
22.O ganlyniad, mae is-adran (5) yn gwneud mân ddiwygiadau i adran 58 er mwyn ei gwneud yn glir y bydd yn gymwys mewn perthynas â phethau a wneir yn Lloegr yn unig.
23.Mae adran 2 o’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gymryd camau er mwyn hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o ddiddymu amddiffyniad cosb resymol. Bydd y ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol cymryd camau yn ystod cyfnod o ddwy flynedd, sy’n ddechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol. Unwaith y bydd adran 1 – sy’n diddymu’r amddiffyniad – mewn grym, mae’r ddyletswydd yn yr adran hon yn peidio â bod yn gymwys.
24.Gweinidogion Cymru fydd yn penderfynu pa gamau i’w cymryd at ddibenion yr adran hon; ac efallai y bydd yn ofynnol cymryd camau gwahanol mewn perthynas â grwpiau gwahanol o bobl, er mwyn sicrhau cyfathrebu effeithiol â rhieni, plant a’r cyhoedd ehangach.
25.Mae’n debygol y bydd y camau a gymerir i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn cynnwys llawer o fathau gwahanol o weithgarwch; gan gynnwys hysbysebu (er enghraifft ar y teledu, ar y radio, ar y rhyngrwyd a thrwy gyfryngau digidol eraill); a chyfathrebu â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda rhieni a phlant er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod am y newid i’r gyfraith.
26.Mae adran 3 o’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio dau adroddiad ar effaith diddymu’r amddiffyniad, eu cyhoeddi a’u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd yr adroddiadau yn edrych ar gyfnod o dair blynedd yn y lle cyntaf, ac wedyn cyfnod o bum mlynedd, sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r amddiffyniad yn cael ei ddiddymu (fel y’i nodir yn adran 5).
27.Mae pob adroddiad yn debygol o ystyried, ymhlith pethau eraill, unrhyw effaith ar wasanaethau cyhoeddus; lefelau ymwybyddiaeth o ran y newid i’r gyfraith a wneir gan adran 1; ac unrhyw newidiadau yn agweddau’r cyhoedd tuag at gosbi plant yn gorfforol.
28.Mae’r adroddiadau yn debygol o wneud defnydd o weithgareddau monitro a gwerthuso y mae Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd â hwy; er enghraifft, arolygon a gynhelir er mwyn asesu agweddau tuag at y ddeddfwriaeth, a lefelau ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o ran y ddeddfwriaeth.
29.Mae’r adran hon yn ymdrin â phryd y daw adrannau’r Ddeddf hon i rym. Ac eithrio adran 1, daw darpariaethau’r Ddeddf, gan gynnwys yr adran hon, i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.
30.Daw adran 1, sy’n darparu ar gyfer diddymu’r amddiffyniad, i rym pan ddaw’r cyfnod o ddwy flynedd, sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, i ben.
31.Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar: http://senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=24674
Cyfnod | Dyddiad |
---|---|
Cyflwynwyd | 25 Mawrth 2019 |
Cyfnod 1 – Dadl | 17 Medi 2019 |
Cyfnod 2 Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau | 24 Hydref 2019 |
Cyfnod 3 Cyfarfod Llawn – ystyried y gwelliannau | 21 Ionawr 2020 |
Cyfnod 4 Cymeradwywyd gan y Cynulliad | 28 Ionawr 2020 |
Y Cydsyniad Brenhinol | 20 Mawrth 2020 |