Aelod-wladwriaeth (member State) | ystyr “Aelod-wladwriaeth” yw Gwladwriaeth sy’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd |
Arglwydd Ganghellor (Lord Chancellor) | ystyr “Arglwydd Ganghellor” yw Arglwydd Uchel Ganghellor Prydain Fawr |
Awdurdod Cyllid Cymru (Welsh Revenue Authority) | ystyr “Awdurdod Cyllid Cymru” yw’r awdurdod a sefydlwyd gan adran 2 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) |
Banc Lloegr (Bank of England) | ystyr “Banc Lloegr”, yn unol â gofynion y cyd-destun, yw—
(a) Llywodraethwr a Chwmni Banc Lloegr, neu
(b) banc Llywodraethwr a Chwmni Banc Lloegr
|
blwyddyn ariannol (financial year) | ystyr “blwyddyn ariannol” yw blwyddyn sy’n gorffen â 31 Mawrth |
Bwrdd Iechyd Lleol (Local Health Board) | ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) |
Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (National Assembly for Wales Commission) | ystyr “Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru” yw’r Comisiwn a sefydlwyd gan adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) |
Comisiwn Elusennau (Charity Commission) | ystyr “Comisiwn Elusennau” yw Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, a barheir gan adran 13 o Ddeddf Elusennau 2011 (p. 25) |
Cwnsler Cyffredinol (Counsel General) | ystyr “Cwnsler Cyffredinol” yw Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, a benodir o dan adran 49 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) |
Cyfoeth Naturiol Cymru (Natural Resources Wales) | ystyr “Cyfoeth Naturiol Cymru” yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru, a sefydlwyd gan erthygl 3 o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (O.S. 2012/1903 (Cy. 230)) |
cyfraith UE a ddargedwir (retained EU law) | mae i “cyfraith UE a ddargedwir” yr ystyr a roddir i “retained EU law” gan adran 6(7) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) |
y Cyfrin Gyngor (the Privy Council) | ystyr “y Cyfrin Gyngor” yw’r Arglwyddi ac eraill o Dra Anrhydeddus Gyfrin Gyngor Ei Mawrhydi |
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (Her Majesty’s Revenue and Customs) | mae i “Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ” yr ystyr a roddir gan adran 4 o Ddeddf y Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005 (p. 11) (a gweler adrannau 3(5) ac 11(4) o Ddeddf Ffiniau, Dinasyddiaeth a Mewnfudo 2009 (p. 11), sy’n darparu i gyfeiriadau at Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi gynnwys swyddogion penodol sydd wedi eu dynodi o dan y Ddeddf honno) |
Cymru (Wales) | ystyr ”Cymru” yw—
(b) y môr sy’n gyfagos i Gymru o fewn terfynau atfor y môr tiriogaethol,
ac mae’r cwestiwn ynghylch pa rannau o’r môr sy’n gyfagos i Gymru i’w benderfynu yn unol ag erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672)
|
Cynulliad Cenedlaethol Cymru (National Assembly for Wales) | ystyr “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” yw’r Cynulliad ar gyfer Cymru a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) |
cytundeb yr AEE (EEA agreement) | ystyr “cytundeb yr AEE” yw’r cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992, ynghyd â’r Protocol sy’n amrywio’r Cytundeb hwnnw a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993, fel y’i haddesir neu yr ychwanegir ato o bryd i’w gilydd; ond mewn perthynas ag amser ar neu ar ôl y diwrnod ymadael nid yw’n cynnwys unrhyw deddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir |
y Cytuniadau (the Treaties) neu Cytuniadau’r UE (the EU Treaties) | mae i “y Cytuniadau” neu “Cytuniadau’r UE”—
(a) mewn perthynas ag amser cyn y diwrnod ymadael, yr ystyr a roddir i “the Treaties” neu “the EU Treaties” gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) (gweler adran 1(2) i (4) o’r Ddeddf honno a Rhan 1 o Atodlen 1 iddi);
(b) mewn perthynas ag amser ar neu ar ôl y diwrnod ymadael, yr ystyr a roddir i “the Treaties” neu “the EU Treaties” gan y Ddeddf honno fel yr oedd ganddi effaith yn union cyn ei diddymu gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), ac mae’n cyfeirio at y Cytuniadau neu Gytuniadau’r UE fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod ymadael
|
datganiad statudol (statutory declaration) | ystyr “datganiad statudol” yw datganiad a wneir yn rhinwedd Deddf Datganiadau Statudol 1835 (p. 62) |
Deddf Cynulliad (Assembly Act) | ystyr “Deddf Cynulliad” yw Deddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a ddeddfir o dan Ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) |
deddfiad (enactment) | ystyr “deddfiad” yw unrhyw un o’r canlynol neu ddarpariaeth mewn unrhyw un o’r canlynol—
(c) Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig,
(d) unrhyw ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir, neu
(e) unrhyw is-ddeddfwriaeth
|
deddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir (retained direct EU legislation) | mae i “deddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir” yr ystyr a roddir i “retained direct EU legislation” gan adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) |
y Deyrnas Unedig (United Kingdom) | ystyr “y Deyrnas Unedig” yw Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon |
diwrnod gwaith (working day) | ystyr “diwrnod gwaith” yw unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith nac yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 (p. 80) |
diwrnod ymadael (exit day) | mae “diwrnod ymadael” ac ymadroddion perthynol i’w dehongli yn unol ag “exit day” yn adran 20(1) i (5) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) |
Goruchaf Lys (Supreme Court) | ystyr “Goruchaf Lys”yw Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig a sefydlwyd gan adran 23 o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 (p. 4) |
graddfa safonol (standard scale) | mae i “graddfa safonol”, mewn perthynas â dirwy neu gosb am drosedd ddiannod, yr ystyr a roddir i “standard scale” gan adran 37 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48) |
Gweinidog y Goron (Minister of the Crown) | ystyr “Gweinidog y Goron” yw deiliad swydd yn Llywodraeth Ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n cynnwys y Trysorlys |
Gweinidogion Cymru (the Welsh Ministers) | mae “Gweinidogion Cymru” i’w ddehongli yn unol ag adran 45(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (sy’n darparu bod cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn gyfeiriadau at y Prif Weinidog a Gweinidogion Cymru a benodir o dan adran 48 o’r Ddeddf honno) |
gwladwriaeth AEE (EEA state) | ystyr “gwladwriaeth AEE”, mewn perthynas ag unrhyw bryd, yw—
(a) gwladwriaeth sydd ar y pryd yn Aelod-wladwriaeth, neu
(b) unrhyw wladwriaeth arall sydd ar y pryd yn barti i gytundeb yr AEE
|
is-ddeddfwriaeth (subordinate legislation) | ystyr “is-ddeddfwriaeth” yw rheoliadau, gorchmynion, rheolau, Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor, cynlluniau, gwarantau, isddeddfau ac offerynnau eraill a wneir o dan—
(c) Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig, neu
(d) deddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir
|
Lloegr (England) | mae i “Lloegr” yr ystyr a roddir i “England” gan Atodlen 1 i Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) |
llw (oath), affidafid (affidavit), a tyngu llw (swear) | mae “llw” ac “affidafid” yn cynnwys cadarnhad a datganiad; ac mae “tyngu llw” yn cynnwys cadarnhau a datgan |
Llys Apêl (Court of Appeal) | ystyr “Llys Apêl” yw Llys Apêl Ei Mawrhydi yng Nghymru a Lloegr |
Llys Ewropeaidd (European Court) | ystyr “Llys Ewropeaidd” yw Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd |
Llys y Goron (Crown Court) | ystyr “Llys y Goron” yw Llys y Goron yng Nghymru a Lloegr a sefydlwyd yn wreiddiol gan adran 4 o Ddeddf y Llysoedd 1971 (p. 23) (a ddiddymwyd gan Ddeddf Uwchlysoedd 1981 (p. 54)) |
Llys Gwarchod (Court of Protection) | ystyr “Llys Gwarchod” yw’r Llys Gwarchod a sefydlwyd gan adran 45 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p. 9) |
llys sirol (county court) | ystyr “llys sirol” yw’r llys sirol yng Nghymru a Lloegr, a sefydlwyd gan adran A1 o Ddeddf Llysoedd Sirol 1984 (p. 28) |
llys teulu (family court) | ystyr “llys teulu” yw’r llys teulu yng Nghymru a Lloegr, a sefydlwyd gan adran 31A o Ddeddf Achosion Priodasol a Theuluol 1984 (p. 42) |
llys ynadon (magistrates’ court) | ystyr “llys ynadon” yw llys ynadon, o fewn yr ystyr a roddir i “magistrates’ court” gan adran 148 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43), yng Nghymru a Lloegr |
Llywodraeth Cymru (Welsh Government) | mae “Llywodraeth Cymru” i’w ddehongli yn unol ag adran 45(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) |
mân ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir (retained direct minor EU legislation) a | mae i “mân ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir” yr ystyr a roddir i “retained direct minor EU legislation”ac mae i “prif ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir” yr ystyr a roddir i “retained direct principal EU legislation” gan adran 7(6) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) |
prif ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir (retained direct principal EU legislation |
Mesur Cynulliad (Assembly Measure) | ystyr “Mesur Cynulliad” yw Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a ddeddfwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (a beidiodd â chael effaith yn rhinwedd adran 106 o’r Ddeddf honno, yn ddarostyngedig i’r arbediad a barheir gan baragraff 5 o Atodlen 7 i Ddeddf Cymru 2017 (p. 4)) |
mis (month) | ystyr “mis” yw mis calendr |
offeryn UE (EU instrument) | ystyr “offeryn UE” yw unrhyw offeryn a ddyroddir gan sefydliad UE, ond mewn perthynas ag amser ar neu ar ôl y diwrnod ymadael nid yw’n cynnwys unrhyw ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir |
person (person) | mae “person” yn cynnwys corff o bersonau corfforedig neu anghorfforedig |
Prif Weinidog (First Minister) | ystyr “Prif Weinidog” yw Prif Weinidog Cymru a benodir o dan adran 46(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (a gweler adran 45(2) o’r Ddeddf honno, sy’n darparu bod cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn cynnwys y Prif Weinidog) |
rheolau llys (rules of court) | ystyr “rheolau llys”, mewn perthynas ag unrhyw lys, yw rheolau a wneir gan yr awdurdod a chanddo’r pŵer i wneud rheolau neu orchmynion sy’n rheoleiddio arferion a threfniadaeth y llys hwnnw |
rhwymedigaeth UE a ddargedwir (retained EU obligation) | ystyr “rhwymedigaeth UE a ddargedwir” yw rhwymedigaeth—
(a) a grëwyd neu a gododd gan neu o dan Gytuniadau UE cyn y diwrnod ymadael, a
(b) sy’n ffurfio rhan o gyfraith UE a ddargedwir,
fel y’i haddesir o bryd i’w gilydd
|
sefydliad UE (EU institution) | ystyr “sefydliad UE” yw unrhyw un o sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd |
tir (land) | mae “tir” yn cynnwys adeiladau a strwythurau eraill, tir a orchuddir â dŵr, ac unrhyw ystad, buddiant, hawddfraint, gwasanaethfraint, hawl mewn tir neu hawl dros dir |
tribiwnlys Cymreig (Welsh tribunal) | mae i “tribiwnlys Cymreig” yr ystyr a roddir i “Welsh tribunal” gan adran 59(1) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) |
trosedd ddiannod (summary offence) | ystyr “trosedd ddiannod” yw trosedd, os y’i cyflawnir gan oedolyn, na ellir ei rhoi ar brawf ond yn ddiannod—
|
trosedd dditiadwy (indictable offence) | ystyr “trosedd dditiadwy” yw—
(a) trosedd, os y’i cyflawnir gan oedolyn, y gellir ei rhoi ar brawf ar dditiad yn unig, neu
|
trosedd neillffordd (offence triable either way) | ystyr “trosedd neillffordd” yw trosedd, os y’i cyflawnir gan oedolyn, y gellir ei rhoi ar brawf naill ai ar dditiad neu’n ddiannod—
(b) gan anwybyddu adran 22 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43) (sy’n ei gwneud yn ofynnol bod troseddau neillffordd penodol i’w rhoi ar brawf yn ddiannod os yw’r gwerth sydd ynghlwm yn fach)
|
y Trysorlys (the Treasury) | ystyr “y Trysorlys” yw Comisiynwyr Trysorlys Ei Mawrhydi |
Uchel Lys (High Court) | ystyr “Uchel Lys”yw Uchel Lys Barn Ei Mawrhydi yng Nghymru a Lloegr |
yr UE (the EU) neu yr Undeb Ewropeaidd (the European Union) | ystyr “yr UE” neu “yr Undeb Ewropeaidd” yw’r Undeb a sefydlwyd gan y Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd a lofnodwyd yn Maastricht ar 7 Chwefror 1992, fel y’i diwygiwyd gan unrhyw Gytuniad diweddarach; ac mae’n cynnwys, i’r graddau y mae’r cyd-destun yn ei chaniatáu neu’n ei gwneud yn ofynnol, Cymuned Ynni Atomig Ewrop |
Uwchlysoedd (Senior Courts) | ystyr “Uwchlysoedd” yw Uwchlysoedd Cymru a Lloegr (gweler adran 1 o Ddeddf Uwchlysoedd 1981 (p. 54)) |
ysgrifennu (writing) | mae “ysgrifennu” yn cynnwys teipio, argraffu, lithograffi, ffotograffiaeth a dulliau eraill o gynrychioli neu atgynhyrchu geiriau ar ffurf weladwy |
Ysgrifennydd Gwladol (Secretary of State) | ystyr “Ysgrifennydd Gwladol”yw un o Brif Ysgrifenyddion Gwladol Ei Mawrhydi |