Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

Cymhwyso’r Rhan a’i heffaithLL+C

3Deddfwriaeth y mae’r Rhan hon yn gymwys iddiLL+C

(1)Mae’r Rhan hon yn gymwys i—

(a)y Ddeddf hon;

(b)Deddfau’r Cynulliad sy’n cael y Cydsyniad Brenhinol ar y diwrnod y daw’r Rhan hon i rym yn llawn neu ar ôl y diwrnod y daw’r Rhan hon i rym yn llawn;

(c)is-offerynnau Cymreig a wneir ar y diwrnod hwnnw neu ar ôl y diwrnod hwnnw.

(2)Ystyr “is-offeryn Cymreig” yw offeryn (pa un a yw’r offeryn hwnnw yn offeryn statudol ai peidio) nad yw ond yn cynnwys un neu ddau o’r canlynol—

(a)is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf Cynulliad neu Fesur Cynulliad, pa un ai gan Weinidogion Cymru neu gan unrhyw berson arall;

(b)is-ddeddfwriaeth—

(i)a wneir o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir,

(ii)nas gwneir ond gan Weinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig arall (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)), a

(iii)nad yw ond yn gymwys o ran Cymru.

(3)Mae cyfeiriadau yng ngweddill y Rhan hon at Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig (oni ddarperir fel arall) yn gyfeiriadau at Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig y mae’r Rhan hon yn gymwys iddi neu iddo yn rhinwedd is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 3 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

4Effaith darpariaethau’r Rhan honLL+C

(1)Pan fo’r Rhan hon yn gymwys i Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig, mae’r darpariaethau yn y Rhan hon yn cael effaith mewn perthynas â’r Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw, ac eithrio i’r graddau—

(a)y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu

(b)y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall.

(2)Nid yw’r eithriad yn is-adran (1) yn gymwys i adran 5 (statws cyfartal testunau deddfwriaeth ddwyieithog).

(3)Nid yw paragraff (b) o’r eithriad hwnnw yn gymwys i—

(a)adran 10 (cyfeiriadau at amser o’r dydd);

(b)adran 28 (cymhwyso deddfwriaeth Cymru i’r Goron);

(c)adran 33 (nid yw diddymiadau na dirymiadau yn adfer cyfraith a ddiddymwyd, a ddirymwyd neu a ddilëwyd eisoes).

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 4 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)