xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CYMCHWILIADAU

Pŵer i ymchwilioLL+C

3Pŵer i ymchwilio i gwynionLL+C

(1)Caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i gŵyn o dan y Rhan hon mewn perthynas â mater os yw’r gŵyn—

(a)wedi’i gwneud yn briodol i’r Ombwdsmon, neu

(b)wedi’i hatgyfeirio’n briodol at yr Ombwdsmon, ac

os yw’r mater yn un y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo o dan adrannau 11 i 16.

(2)Mae cwyn wedi’i “gwneud yn briodol” i’r Ombwdsmon os (ond dim ond os)—

(a)caiff ei gwneud gan berson sydd â hawl o dan adran 7 i wneud y gŵyn i’r Ombwdsmon, a

(b)caiff gofynion adran 8(1) eu bodloni mewn perthynas â hi.

(3)Mae cwyn wedi’i “hatgyfeirio’n briodol” at yr Ombwdsmon os (ond dim ond os)—

(a)caiff ei chyfeirio at yr Ombwdsmon gan awdurdod rhestredig, a

(b)caiff gofynion adran 9(1) eu bodloni mewn perthynas â hi.

(4)Caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i gŵyn o dan y Rhan hon mewn perthynas â mater hyd yn oed os nad yw gofynion adran 8(1) neu (yn ôl y digwydd) adran 9(1)(b), (c) neu (d) wedi eu bodloni o ran y gŵyn—

(a)os yw’r mater yn un y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo o dan adrannau 11 i 16, a

(b)os yw’r Ombwdsmon o’r farn ei bod yn rhesymol gwneud hynny.

(5)Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad, i barhau ag ymchwiliad ai i roi’r gorau i ymchwiliad (ond gweler adran 8(5)(a) am gyfyngiad ar y pŵer i gychwyn ymchwiliad o dan is-adran (1)(a)).

(6)Caiff yr Ombwdsmon gymryd unrhyw gamau gweithredu a all, ym marn yr Ombwdsmon, helpu i wneud penderfyniad o dan is-adran (5).

(7)Caiff yr Ombwdsmon gychwyn ymchwiliad i gŵyn neu barhau ag ymchwiliad i gŵyn hyd yn oed os yw’r gŵyn wedi’i thynnu’n ôl, neu hyd yn oed os yw’r atgyfeiriad sy’n ymwneud â’r gŵyn wedi’i dynnu’n ôl (ond gweler adran 8(5)(a) am gyfyngiad ar y pŵer i gychwyn ymchwiliad o dan is-adran (1)(a)).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I2A. 3 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

4Pŵer i ymchwilio ar ei liwt ei hunLL+C

(1)Caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i fater o dan y Rhan hon, y mae ganddo hawl i ymchwilio iddo o dan adrannau 11 i 16, pa un a oes cwyn wedi’i gwneud yn briodol neu wedi’i hatgyfeirio’n briodol at yr Ombwdsmon ai peidio.

(2)Cyn i’r Ombwdsmon gychwyn ymchwiliad o dan yr adran hon, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi sylw i fudd y cyhoedd wrth gychwyn ymchwiliad,

(b)amau’n rhesymol—

(i)bod camweinyddu systemig, neu

(ii)mewn achos pan fo’r mater yn un y caniateir ymchwilio iddo yn rhinwedd adran 15(2), fod anghyfiawnder systemig wedi ei ddioddef o ganlyniad i arfer barn broffesiynol,

(c)ymgynghori â’r cyfryw bersonau y mae’r Ombwdsmon o’r farn ei bod yn briodol ymgynghori â hwy (ond gweler adran 66 am ddyletswyddau pellach o ran ymgynghori), a

(d)rhoi sylw i’r meini prawf ar gyfer ymchwiliadau ar ei liwt ei hun a gyhoeddir o dan adran 5.

(3)Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yr adran hon—

(a)mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad, i barhau ag ymchwiliad neu i roi’r gorau i ymchwiliad o dan yr adran hon;

(b)caiff yr Ombwdsmon gymryd unrhyw gamau gweithredu a all, ym marn yr Ombwdsmon, helpu i wneud penderfyniad o dan is-adran (3)(a).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I4A. 4 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

5Meini prawf ar gyfer ymchwilio ar ei liwt ei hunLL+C

(1)Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi meini prawf i’w defnyddio i benderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad o dan adran 4.

(2)Rhaid i’r Ombwdsmon osod drafft o’r meini prawf cyntaf gerbron y Cynulliad.

(3)Os yw’r Cynulliad yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r meini prawf drafft cyn diwedd y cyfnod o 40 diwrnod, ni chaiff yr Ombwdsmon gyhoeddi’r meini prawf ar eu ffurf drafft.

(4)Os na wneir y cyfryw benderfyniad cyn diwedd y cyfnod hwnnw, rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r meini prawf ar eu ffurf drafft.

(5)O ran y cyfnod o 40 diwrnod—

(a)mae’n dechrau ar y diwrnod pryd y gosodir y drafft gerbron y Cynulliad, a

(b)nid yw’n cynnwys unrhyw amser pryd y bydd y Cynulliad wedi ei ddiddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod.

(6)Nid yw is-adran (3) yn atal meini prawf drafft newydd rhag cael eu gosod gerbron y Cynulliad.

(7)Cyn gosod y meini prawf drafft gerbron y Cynulliad, rhaid i’r Ombwdsmon ymgynghori â’r canlynol—

(a)Gweinidogion Cymru,

(b)yr awdurdodau rhestredig yn Atodlen 3, ac

(c)y cyfryw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

(8)Rhaid i’r Ombwdsmon, wrth baratoi’r meini prawf drafft i’w gosod gerbron y Cynulliad, roi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad a grybwyllir yn is-adran (7).

(9)Daw’r meini prawf i rym pan gânt eu cyhoeddi gan yr Ombwdsmon.

(10)O dro i dro, caiff yr Ombwdsmon adolygu ac ailgyhoeddi’r meini prawf.

(11)Os, ym marn yr Ombwdsmon, yw adolygiadau a wneir o dan is-adran (10) yn effeithio ar unrhyw newid perthnasol i’r meini prawf, rhaid i’r Ombwdsmon osod drafft o’r adolygiadau hynny gerbron y Cynulliad.

(12)Mae is-adrannau (3) i (9) yn gymwys i adolygiadau drafft a osodir gerbron y Cynulliad o dan is-adran (11) fel y maent yn gymwys i’r meini prawf cyntaf.

(13)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r meini prawf a gyhoeddir gan yr Ombwdsmon o dan yr adran hon drwy ychwanegu meini prawf, dileu meini prawf neu newid y meini prawf.

(14)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau o dan is-adran (13), rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r meini prawf, fel y’u diwygiwyd gan y rheoliadau, ar y diwrnod y daw’r rheoliadau i rym.

(15)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (13), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)yr Ombwdsmon,

(b)yr awdurdodau rhestredig yn Atodlen 3, ac

(c)y cyfryw bersonau eraill sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(16)Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan is-adran (13) oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron y Cynulliad, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I6A. 5 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

6Dulliau amgen o ddatrys materionLL+C

(1)Caiff yr Ombwdsmon gymryd unrhyw gamau gweithredu sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol er mwyn datrys mater y mae gan yr Ombwdsmon bŵer i ymchwilio iddo o dan y Rhan hon.

(2)Caiff yr Ombwdsmon gymryd camau gweithredu o dan yr adran hon yn ychwanegol at gynnal ymchwiliad neu yn lle hynny.

(3)Rhaid cymryd unrhyw gamau gweithredu o dan yr adran hon yn breifat.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I8A. 6 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2