Cyfyngiadau ar roi hysbysiad mewn cysylltiad â diwedd contractau safonol cyfnod penodol
4(1)Ar ôl adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol), mewnosoder—
“186ACyfyngiadau ar adran 186: torri’r gofynion rhoi gwybodaeth
(1)Os nad yw’r landlord yn cydymffurfio ag adran 31(1) neu (2) (dyletswydd i ddarparu datganiad ysgrifenedig o’r contract), ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 186 cyn diwedd y cyfnod cyfyngedig.
(2)Y cyfnod cyfyngedig yw chwe mis sy’n cychwyn â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract.
(3)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 186 ar unrhyw adeg pan na fo’r landlord wedi darparu hysbysiad sy’n ofynnol o dan adran 39 (dyletswydd i ddarparu gwybodaeth).
(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori adran 186(1) fel un o delerau’r contract.
186BCyfyngiadau ar adran 186: torri gofynion sicrwydd a blaendal
(1)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 186 ar adeg pan na fo sicrwydd y gofynnodd y landlord amdano ar ffurf nad yw adran 43 yn ei chaniatáu wedi ei ddychwelyd i’r person a’i rhoddodd.
(2)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 186 ar adeg pan fo unrhyw un neu ragor o is-adrannau (3) i (5) yn gymwys oni bai—
(a)bod blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract wedi ei ddychwelyd i ddeiliad y contract (neu i unrhyw berson a dalodd y blaendal ar ei ran) naill ai’n llawn neu ar ôl tynnu unrhyw symiau a gytunwyd, neu
(b)bod cais i ’r l lys sirol wedi ei wneud o dan baragraff 2 o Atodlen 5 a bod y llys sirol wedi dyfarnu arno, ei fod wedi ei dynnu’n ôl, neu ei fod wedi ei setlo drwy gytundeb rhwng y partïon.
(3)Mae blaendal wedi ei dalu mewn cysylltiad â’r contract ond ni chydymffurfiwyd â gofynion cychwynnol cynllun blaendal awdurdodedig.
(4)Mae blaendal wedi ei dalu mewn cysylltiad â’r contract ond nid yw’r landlord wedi darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol yn ôl adran 45(2)(b).
(5)Nid yw blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract yn cael ei ddal yn unol â chynllun blaendal awdurdodedig.
(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori adran 186(1) fel un o delerau’r contract; ac mae adran 20 yn darparu—
(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.
186CCyfyngiadau ar adran 186: taliadau gwaharddedig a blaendaliadau cadw
(1)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 186 ar adeg pan fo—
(a)y landlord wedi ei gwneud yn ofynnol i daliad gwaharddedig (o fewn yr ystyr a roddir gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) gael ei wneud, fel a ddisgrifir yn adran 2 neu 3 o’r Ddeddf honno,
(b)o ganlyniad i’r gofyniad, taliad gwaharddedig wedi ei wneud i’r landlord neu i unrhyw berson arall, ac
(c)y taliad gwaharddedig heb ei ad-dalu.
(2)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 186 ar adeg pan fo—
(a)blaendal cadw (o fewn yr ystyr a roddir gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) a dalwyd mewn perthynas â’r contract heb ei ad-dalu, a
(b)yr amgylchiadau yn golygu bod methiant i ad-dalu’r blaendal yn gyfystyr â thorri gofynion Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.
(3)Wrth benderfynu at ddibenion yr adran hon a yw taliad gwaharddedig neu flaendal cadw wedi ei ad-dalu, mae’r taliad neu’r blaendal i’w drin fel pe bai wedi ei ad-dalu i’r graddau (os o gwbl) y mae wedi ei gymhwyso tuag at y naill neu’r llall o’r canlynol, neu’r ddau ohonynt—
(a)taliad rhent o dan y contract;
(b)taliad sy’n ofynnol fel sicrwydd mewn cysylltiad â’r contract.
(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori adran 186(1) fel un o delerau’r contract.”
(2)Yn adran 20 (ymgorffori ac addasu darpariaethau sylfaenol), yn is-adran (3), ar ôl paragraff (m), mewnosoder—
“(ma)adran 186B (torri gofynion blaendal: cyfyngiad ar roi hysbysiad mewn cysylltiad â diwedd contractau safonol cyfnod penodol),”.
(3)Yn adran 135 (cyfyngiad ar amrywio), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (i), mewnosoder—
“(ia)adran 186B (torri gofynion blaendal: cyfyngiad ar roi hysbysiad mewn cysylltiad â diwedd contractau safonol cyfnod penodol),”.
(4)Yn lle adran 183(2) (perthnasedd digwyddiadau o dan gontract safonol cyfnod penodol), rhodder—
“(2)Mae adrannau 179 a 180 yn gymwys i hysbysiad a roddir o dan adran 186(1), ac i hawliad meddiant a wneir ar y sail yn adran 186(5) gan ddibynnu ar hysbysiad o’r fath, fel y maent yn gymwys i hysbysiad a roddir o dan adran 173, ac i hawliad meddiant a wneir ar y sail yn adran 178 gan ddibynnu ar hysbysiad a roddir o dan adran 173.”