xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Adroddiad a darpariaeth fachludLL+C

21Adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf honLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod 5 mlynedd, osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf hon yn ystod y cyfnod hwnnw.

(2)Wrth lunio’r adroddiad rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru ac unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r adroddiad cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddo gael ei osod gerbron y Cynulliad.

(4)Yn is-adran (1), mae i “y cyfnod 5 mlynedd” yr ystyr a roddir yn adran 22(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I2A. 21 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)