Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

66Hawl awdurdod lleol i gael mynediad i fangreoedd ysgolion a sefydliadau eraillLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn cynnal cynllun datblygu unigol o dan y Rhan hon ar gyfer plentyn neu berson ifanc.

(2)Mae hawl gan berson sydd wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod lleol i gael mynediad ar unrhyw adeg resymol i unrhyw fan lle y darperir addysg neu hyfforddiant ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc ym mangre sefydliad a restrir yn is-adran (3) os yw mynediad i’r man hwnnw’n angenrheidiol at ddiben arfer swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan y Rhan hon.

(3)Y sefydliadau yw—

(a)ysgol annibynnol yng Nghymru neu yn Lloegr;

(b)ysgol a gynhelir yn ardal awdurdod lleol arall yng Nghymru neu yn Lloegr;

(c)sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;

(d)Academi;

(e)ysgol arbennig nas cynhelir;

(f)sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr o dan adran 56.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 66 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I3A. 66 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))